Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
,LLITH Y C \PLAN A. W. ■ DAVIES.…
LLITH Y C \PLAN A. W. DAVIES. "1 ,¡ -J r, :=- I J _I LJ.LiJii- Annwyl Gwynfryn,— Dylai hon fod yn bennod mwyaf dyddorol fy oes, gan i ni dramwy drwy, ac ymladd ein ffordd ar hyd y Ilwybrau a thrwy y lleoedd mwyaf cysegredig mewn hanes ac un peth a'm cysura yw mai ychydig iawn yw ein colledion: yr ym wedi llwyddo i wthio y gelyn o'n blaenau ar draws y man fryniau, a thrwy y pentrefi, gan arbed bywyd- au ac arbed dinistrio lleoedd sydd yn gysegredig, i'r miliynau, ac mae'r Ddinas Sanctaidd yn ddianaf a diogel yn awr. Cawsom dywydd enbyd, apheth brofiad o'r hyn yr a y bechgyn an- nwyl drwyddo yn Ffrainc: gwlaw, llaid ac oerni,profiad rhyfedd ar ol gwres a thywod, a sychter mawr, a'r cyfryw wedi ein ang hymwyso i ddal y tywydd garw; heb na tho, na chaban, na thy; croesi hen fryniau esgyrniog, yn wlyb domen am ddyddiau, a dim dillad i newid, na than i'w sychu, dim ond aros am ddiwrnod teg i'w sychu, ac fe ddaeth o drugaredd. Ymdeithiasom un diwrnod tua un milltir ar bymtheg, a dyna sy'n syn, cwynwyd llai, a svrthiodd llai allano'r rhengau ary daith hon na bron yr un arall, a'r rheswm am hynny oedd fod y wlad ^yn fwy dyddorol, a ninnau bob cam yn tynnu'n nes tua lleoedd, yn enwed- ig i- Gymro hyddysg yn ei Feibl, sydd yn ddyddorol. Wedi ymdeithio i fyny ag i lawr dros ffordd y bryniau, dyma ni yn fore iawn, yn sydyn o ben bryn, yn dod i olwgyr hen Hebron, sydd mor ddyddorol ei hanes yn oes Abraham a Dafydd. A dyma olygfa, a dyma daith odidog, dychlamai ein calon o'n mewn, anghofiodd bob un ei faich a'i daith. Mae ffurf yr Hebron sydd yn awr yn debyg i ffurf pedol fawr, a'r tai yn rhengau cylchog, neu ris- iaog uwch ben eu gilydd, a rhyng- ddynt erddi hirgul ysgwar o win- wydd, coed olewydd, a ffigys. Y tai o adeiladwaith dda, glari yx olwg, a'r wlad oddeutu yn dangos dygnwch, darbodaeth, a llafur y trigolion. Cynhwysa y trigolion yn bennaf Iddewon, a Mahometan- iaid, a'r ddau ddosbarth neu genedl yn canoli eu dyddordeb crefyddol yn Hebron, fel man gysegrwyd gan Abraham, eu patriarch hwy. Wedi mynd trwy Hebron, a chael croesaw mawr, rhyw ychydig filltiroedd, troisom i'r bryniau di- lwybr: Erbyn hyn yr oeddym mewn gafael a'r gelyn, yr hwn oedd yn dal yn dyn ei afael ym Metlalehem. Ac yno y buom yng ngolwg Bethlehem gogoneddus: saif ar fryn o'n blaenau, a-golwg glan, hardd, ami,—ei thyrau teg, a'i choedydd gleision lu, a thai gwynion dwyreinig. Clywem swn gloch yr addoldai ar fin yr hwyr yn galw i'r wasanaeth hwyrol, ond a ni yn y rhyfel. 'Roedd y bechgyn, er eu lludded a'u rhyndod, yn gywreinrwydd i gyd. 0 deimladai rhyfedd dylifai drwy galon dyn fel fflachiad y pellebr. Safwn ar fryn tu ol i glawdd cerrig, gan edrych ar Beth- lehem. Ie," mddwn," acw gan wyd yr Iesu, yr 'Iesu,' Tywysog tangnefedd." Daeth i'm meddwl y geiriau gogoneddus hynny: Gogoniant i Dduw yn y goruch- af, ar y ddaear tangnefedd i ddyn- ion, ewyllys da"; a ni mewn rhyfel erchyll, a'r ergydion yn gwibio erbyn hyn yn ol a blaen dros Bethlehem. Buom ychydig ddyddiau yn ei gwydd, a'r frwydr yn boeth. Ond dyma orchymyn i symud, a symud wnaem, ond trwy anhawsterau, canys yr oeddynt wedi codrmuriau cerrig ar draws y ffordd, ac wedi chwythu adran arall i fyny waeth pa'r un, nid oedd dim i'n rhwystro heddyw, teimlai pawb fod ei wyneb tua Bethlehena a Jerusalem. Cyrhaeddasom Bethlehem. \tVel, dyma groeso, tyrfa ar dyrfa wedi; dod ynghyd, hen bobl fusgrell! wedi eu cludo o'u tai, dagrau-yn,, dylifo i lawr eu gruddiau, ambell I i un a'i ddwylaw ymhleth a'i wyneb tua'r nef yn diolch mewn j gweddi. 0 mae'n gas gennyf rhyfel, ffoledd yw ond rhywfodd yn yr olygfa 'roedd pawb yn gyff- rous ac yn teimlo yr awr yma ei bod yn gysegredig,—awr y wared- igaeth i'r bobl ydoedd. A'r truein- iaid yn ceisio diolch mewn iaith estron, ond gellid ei darllen yn eu dagrau, ac yn nhonau gwenau eu hwyneb. Nid oedd dim oedi na amser i rQi cyfle i'r gelyn yn Jeru- I salem i ddifrodu- a lladrata fel y f gwnaeth ym Methlehem: o Beth- lehem cludodd gydag ef o'r cysegr- I faoedd yr addurniadau o arian a phres, a llestri cymun. O'r diwedd, daethom i olwg Jerusalem, a chan fod un ffordd o dan ddn y gelyn, gweithiasom ein ffordd o'r tu cefn, a thrwy gannol yr hen ddinas ben- digedig. A dyma dyrfa, o bob lliw, iaith, a chenedl, o bob math o ddillad. Y cyntaf torrais air gydag ef, dywedodd Me Japan- ese Khaid oedd mynd trwodd yn drefnus, a chan mai march gwyn, claerwyn, sydd gennyf pen- derfynais ei farchog, gan weddio y byddai yn arwydd fach o ddyfodiad Tywysog. Tangnefedd i'r orsedd. Ac O 'r glygfa! Id<jewon gwirion I eddol yn eu hen wiSgôëddJ fembell un a golwg tywysogaidd arno— gwyneb cryf, trwyn lluniaidd, gwallt du, llaes, heb ei gyffwrdd a siswrn erioed, a barf heb ei heillio erioed, dygai i feddwl dyn y geir- iau hynny, "Nazaread o'r groth." Eglwysi ymhob man, lliw crefydd I ymhob man, offeiriaid lu o bob I dosbarth neu ganghen o Eglwys,— cöptaid, Abysiidd, Groegaidd, Rhufain, Rwsiaid, Lutheraidd. Ond rhaid oedd mynd ymlaen: daethom at borth Damascus, al Golgotha, a "man Ei fedd/ y I man lie bu Efe." Yn wir, fedr dyn ddim rhoi ar bapur ei feddyliau. At hyn yr oeddym mewn gafael a'r ¡ gelyn yn ymyt Golgotha, ac o dan ei dAn deifiol. Ymwthiwyd ym- laen, a thu isa i furiau yr Hen Ddinas, ac yn ei chysgod yr oedd ein brwydr neeaf. Bu yn galed yma, yng ngolwg Gardd Gethse- mane, a Mynydd yr Olewydd: yr oeddym i gymeryd y mynydd hwn, ond nid allem ddefnyddio ein gyn- nau mawr, gan na fynnai ein Cadfridog dynnu tan y gelyn ar y Ddinas. Drannoeth, yn fore, dyma ni yn sgubo Mynydd yr Olewydd, gan glirio y gelyn o'n blaenau, ag i'r pentref ar ein pen. A thran- noeth i Bethphage, lie yr arhosem, yng ngolwg hen bentref bach Bethania atgofion rhyfedd am deulu bach Bethania, a thaith olaf yr Iesu i Jerusalem. Fisiau odfa Gymreig sydd ar y bechgyn yn Jerusalem, nis gwn sut y bydd, gan fod yn rhaid gwthio y gelyn ymhellach er diogelwch y trigolion a'r Hen Ddinas. Meddwl treulio y Nadolig ym Methlehem yr oedd y bechgyn, a chael gwas- anaeth yno, ond nid felly y bydd. Wel, un gair bach eto cyn tewi: I cefais brofiad rhyfeddaf fy oes ar dorriad gwawr, yn swn yr ergyd- ion. Mewn llecyn bach ar godiad tir, cyferbyn a chongl gogiedd- ddwyreiniol muriau y ddinas, yr ochr draw i'r ffordd o'r ddinas i Damascus, cleddais wr ieuanc syrthiodd yn y frwydr yn ymyl muriau y ddinas, a'm cefn ar fan i dybiedig croeshoeliad Crist a'i ad gyfodiad. 'Roeddym fel mintai fach a'n henaid yn llawn, a'r Iesu, I y Gwr fu farw trosom," ond sy'n fyw," yn llond ein henaid. Cledd- ais ddau. drachefn yng nghysgod coed olewydd rhwng Bethphage a Bethania. Dyma brofiad rhyfedd. Rhywfodd Iesu Grist a'i hanes sydd ar ein tafod o hyd heddyw. I Cofion'serchog, A. W. DAVIES, C.F.,
Advertising
AHGMAFFU! ARGRAFiu I* Argreffir Adroddiadau Eglwysig, Llyfrau Solfa, Balance Sheets, Posters-unrhyw faintioli, Tocynau Dariithoedd, » Cyngherddau, &c GAN ARGRAFFYDD Y "GWYLIEDYDD NEWYDD,' Y mae y Swyddfa yn cynwys y Peirianau a'r Llythyrenau diwedd r araf-a i oil, yn new/dd. Dymuna ddiolch am yr Archeb- ion y mae wedJ ei gael drwy y Post, pa rai a roddodd lwyr fodd- onrwydd yn ol y tystiolaethau a dderbyniodd. Ymofyner am Estimates a. LEWIS DAVIES, "Gwyiiedydd Kewydd" Office, Blaenau Ffestiniog, Popular Central London Hotels j Opposite the BRITISH MUSEUM. THACKERAY HOTEL Great Russell Street, London, W. C. 1. ■ I Near the BRITISH MUSEUM KINGSLEY HOTEL Hart St., Bloomsbury Sq., London W.C. 1. THESE Large and Well-appointed TEMPER- ANCE HOTELS have Passenger Lifts. Bath- rooms on every Floor, Lounges and spac- ious Dining, Drawing, Writing, Reading, Billiard and Smoking Rooms. Fireproof Floors. Perfect Sanitation, Telephones, Night Porters. Bedroom, Breakfast, and Attendance from 6/6 per night per person. Full Tariff and Testimonials on application. TELEGRAi HIC ADDRESSESy Kingbley Hotel: Bookcraft, Westcent, London, :Thackeray Hotel: Thackeray, Westcent, London." Tel., K. Museum 1232. IT. Museum 1230 Llyfrau Newyddion Cyhoeddedig gan Telynor Mawddwy, Barmouth. 1 Y Tant Aur, wedi ei ddiwygio, drwy'r post 1/1. Cainc y Delyn (Rhan I.). Deuddeg o Hen Alawon wedi eu trefnu i'r Delyn neu'r Berdoneg. Drwy'r post, 1/1. Y BudeiBaid a'r Doethion. Can- tawd gysegredig newydd i S.A.T.B. Pris,S.F.,6c.; H.N.,2/6. O! tyrd yn 01. Rhangan. S.F., lc. Seren Bethlehem (Star of Bethle- hem). Rhangan gysegredig S.A.T.B. Pris, le.; H.N., 3c. 'Rwy'n sefyll ar dymhestlog lan Anthem Gynulleidfaol. S.F., Ie. Dwy Action Song i Blant: (1) "Doli" (2) "Can y Cwch." S.F., Ie. Llwyn Onn a'r Pen Rhaw. Dwy engraifft arall o'r Tant Aur at wasanaeth .Ysgolion. S.F., Ie. Am bob fanylion pellsch anfoner at Telynoi Mawddwy. Arweinydd Cymanfaoedd, Beirniad ac Arholydd. Organydd Reh«both," Coedpoeth. Mr. TOM CARRINGTON c' -c (PENCERDD OWYNFRYA), (Cymrodor o Goleg y T.S.C., LIundain). COEDPOETH, WREXHAM. -— — Cyhoeddwr "Seren Bethlehem" (Cynogfab Concwest Calfari," S.F. 1c.; H.N. 3c. Anthemau'r Dydd Cymanfaoedd. Hugh Davies's COUGH MIXTURE. Y Feddyginiaeth Fawr Gymreig.- AT BESWCH-Cymerwch Davies's Cough Mixture.' AT ANWYD-Cymerwch Davies's Cough Mixture." AT DDIFFYG ANADL-Cymerwch Davies's Cough Mixture AT GRYGNI-Cymerwch Davies's Cough Mixture. Rhyddha y Phlegm, Ilacia'r Frest, clirio y Ilais, Anmhrisiadwy at y Pas ar Blant, Bronchitis, &c. Mewn potelau 1/lf 2/9 4/6—gan bob Druggist. Perchenog-HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. SYLWpH.—1. Y mae ei flas yn ddymunol. 2. Y mae plant yn hoff ohonno. 3. Y mae yn cynhesu y frest. 4. Gellir ei gael ymhob ardal. 5. Y mae y prif bregeth- wyr a chantorion yn ei ddefnyddio. 6. Gall fynd allan fel arfer tra yn ei gymeryd "SARZINE" BLOOD MIXTURE. GROEN IACH A GWAED PUR.—Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvey, doluriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynwch botelaid o Sarzine Blood Mixture," gan y Druggist nesaf atoch, l/l! a 2/6 y botel, neu gyda 3c at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y Perchenog, HUGH DAVIES, Chemist Machynlleth. "MOLRAT" AT LADD TYRCHOD. Ysgrifenna John Pryse, Maesymeirch: Blinid ni acw gan Dyrchod cynyddent.. bob blwyddyn, fel yr oedd y tir a golwg difnfol arno, ac yr oedd arnaf gywilydd « hono, ond clywais fod Mr Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth i'w lladd yn ddidraffe-rth iawn.—Ei enw ydyw Molrat," mewn packets 1I16 yr un. Prynais backet, a rhoddais ef yn ol y cyfarwydc y J am ben pryfaid genwair, a rhoddais y rhai hynny yn llwybr y Twrch. Ni chododa y twrch mwy."