Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

APELIO AT Y

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

APELIO AT Y CLEDD. Dengys yr adroddiad swyddogol fod y Cyngor Rhyfel a gyfarfu yn Versailles ,wedi rhoddi ystyriaeth i fynegiadau rhyfel Germanaidd yn ddiweddar, ac yn canfod nad ydynt yn nesu at y telerau heddwch a oscdwyd i lawr gan y Cyng- rheiriaid. Yn wyneb hyn, penderfynwyd cario'r rhyfel ymlaen gyda'r egni mwyaf a'r cydweitbrediad mwyaf effeithiol, hyd nes y gwelir cyfnewidiad yn nhymeredd Llywodraethau y gelyn. Dywedir y deuwyd i gytundeb llwyr ac unol ar bob cwestiwn ynglyn a pholisi milwrol, a'r modd i weithredu, a bod cyleh gweithrediad y CyDgor i gael ei eangu. Yo flaenorol i byn, wrth ateb cwest- iwn yn Nhy y Cyffredin, dywedodd Mr Bonar Law, nad oedd y Cyngor yn eistedd o gwbl i ystyried y priodoldeb o gyhoeddi eyi-ddatganiad ynglyn a/u hameanion yn y Rhyfel. Teinalwa yn Biomedig ynglyn a'r ddau beth. Tybed na ddylid cael ryw gyd- ddatganiad gan y Cycgrheiriaid yng nghyleh eu hameanion, a hynny ar linellau areithiau Mr Lloyd George a'r Llywydd Wilson ? Y mae mwy na blwyddyn bellach er pan wnaed unrhyw fynegiad felly, ae ynghorff y deuddeg mis y mae agwedd a chysylltiadau patbau wedi newid vn arswydus. Y mae ben 'oligarchy' lygredig Rwsia wedi ei luchio i'r llwch, a'r cytundebauj cudd, ymherodrel, a wnaed cydrhyngddi a'r Cynghreiririd wedi ea cyhoeddi, a'u gwneud, tybed, yn ddiwerth. Er hynny befyd y mae yr America, nad oedd a Haw o gwbl ya y cytundebau cudd, ymherodrol, rhwng JTfrainc, Rusia, Prydain ac Itali, wedi dod i mewn. Nid oes odid ddim heddyw fel yr oedd yn Ionawr 1917; a ebredwn ei fod cyn eglured a haul y dylid eael datganiad croyw o feddwl y Cynghreiriaid yng nghyleh em bwriadau yn wyneb y sefyllfa newydd a gwahanol. Beth am Alsaee Lorraime ? Beth am Trieste a Treotino? A ellir bwrw y materion hyn i farn eyflafareddwvr, ac i farn y bobl eu hunain, neu a raid colli gwaed Prydeinig ac Americanaidd i roi y Daill i'Ffraino a'r Hall i'r Eidal ? Sibrydir mai yr achos na cheir dat- ganiad unol gan y Cynghreiriaid ydyw y ffaith syml nad oes undeb yn eu plith. Gwyddis fod y cynrychiolwyr gwleid- yddol o Ffrainc a'r Eidal, ar y Cynghor, a'u barnu wrth eu datganiadau eyhoedd- us, yn bobl sy'n berwi o uchelgais tirol ac ymheredrol-.M. Pichon, M. Clcmen- ceau, dros Ffrainc, Signor Orlando a'r Barwn Sonnino tros Itali. Dywedir, y cyhoeddir o Ffrainc, ac ar awdurdod dda, fod M. Clemenceau, serch iddo anfon pellebyr croesawol, wedi eondemnio yn chwerw araitb Mr Lloyd George (blaid Lafur) ar y Man-Power Bill." Hefyd ar yr 28ain o'r mis diyveddaf rhoddodd Prif Weinidog Itali i lawr amcanion'' y wlad honno, a hynny mewn modd pur wahanol i Mr L!oyd George a'r Llywydd Wilson. Nid oedd y Gynghor, meddir, yn canfod osgo at Heddwch yn areithiau y Countiaid Hertling a Czernin. We! hwyrach fod mwy o osgo at. Heddwch yn y naill a'r Hall nag y myn rhai i ni gradu. Beth bynnag, rhaid cofio nad yw y Cynghreiriaid eto wedi diarddel yr hen gytundebau ymherodrol ac anheilwng a wnaed gyda Rusia, ac hyd nes y diarddalir hwy fod gan y Gallu oedd Canolog, serch areithiau mwy rhagorol unigolion fel Mr Lloyd George a'r Llywydd Wilson,, hawl i edrych arnynt fel yr unig fynegiad swyddogol, safadwy, o amcanion a phwrpas y Cynghreiriaid. Y mae datganiad y Gynhadledd yn Versailles, am y presennol, yn mynd a ni yn ol at y Knock Out Blow, ac i'r I tir diobaitb yr oeddem ynddo bymtbeg I mis yn ol. Ond y mae gennym ffydd yn y bobl-y mae yr argoelion yn glir, ymbob gwlad, y cyfyd y bobl, gan ysgubo yr ymherodwyr o'r neilltu, a threfnu heddwch eu hunain ar liuellau parhaol a gwir ddemocrataidd. Y mae arwyddion o hyn yn Germani hyd yn oed peth mawr a gogoneddus oedd y streic a fu yno y dyddiau di- weddaf. Gall y Junkeriaid ei rhoi i lawr, efallai, am dro; a bydd datganiad cynbadledd Versailles yn achles, a cbymortb mawr iddynt, gyda'u mesurau llethol a darostyngol. Pan dorrodd gwerin Germani allan yn erbyn y Junkeriaid, sy'n eu gyrru fel defaid i'r lladdfa; dewisodd Junkeriaid y Cynghreiriaid yr awr honno i amlygu > eu bwriad i roi teriyn ar y siarad am beddwch, ac i apelio, beb seibiant, at y cledd. Yr eglurhad syml ar bynyna ydyw nad oes gas yr ymherodwyr gydym- deimlad a democratiaeth, gan nad lie y bo-ai yn Rwsia, Germani, neu rywle arall- Ond, wedi ycbydig ddioddef eto. by3d petbau gwell, ceir Stockholm yn lie Versailles—y mae i wsrin a'i hwyneb at y goleu.

Safle Gweinidogion - Wesleaidd…

IY GWRTHWYNEBYDD CYD-I i WYBODOL.…

"Y DYDDIADUR All BENSIL."