Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
? _: i  iLl;,TYCERRIG.I
  iLl;, TYCERRIG. I Gwelsom yn y Gwyliedydd Newydd yr wythnos o'r blaen, yr ysgrif o Bedlinog yn hysbysu marwolaeth y brawd annwyl Tom Humphreys a'r sylwadau gwerthfawr a thra priodol am ei gymer- iad a'i waifch fel Cristion gloyw a blaenor gofalus yn yr eglwys yno. Diau fod galar yr eglwys ym Medlinog yn fawr iawn ar ol un oedd mor ainlwg a defn- yddiol Dymunwc gael ychydig ofod eto i roddihanes ei gladdedigaeth, ac i ddwyn tystiolaeth dros ardal, ac eglwys Ty- cerrig.hen eglwys ei fagwraeth. Y mae ein galar ninnau yma yn fawr oblegid colli un o'r bechgyn goreu, a mwyaf hoffus fagwyd gennym eiioed. Prydnawn Sadwrn, Ionawr 12fed, taiawyd pawb yn Cemmaes Road, ac ardal Comins Coch, a syndod mud pan gyrbaeddodd y newydd galarus, ac annisgwyliadwy, am ei farwolaeth trwy ddamwain yn y gwaith. Ymdaecodd y nowydd fel mellten drwy'r gymydogaetb, a llanwyd calonnau pawb a galar ac a cbydymdeimlad. Yr oeddym oil yn edrych ar y newydd fel breuddwyd, Mor anodd ydoedd sylweddoli ei fod yn ffaitb, canys nid oedd ond prin bythef- nos wedi mynd heibio ers pan gwelwyd ef yng nghwmni Dafydd, ei frawd, ar ymweliad gartref, yn treulio'r gwyliau gyda'u teuluoedd- fel yr arferent eu dau wieudar hyd y blyayddceil. Ac nid oedd neb yn llawenhau yn ftvy wrth eu gweled nac yn eu croesawu yn gynesach na swyddogion ac aelodau eglwys Ty ceraig. Teimlai yr eglwys yn falch obonynt fel rhai o'i mheibion goreu, yn eadw eu oymeriadau yn lan, ac yn adlewyrehu, clod arfli ar hyd y blynydd- oedd, pan oddioartref yn gystal a char tref. Ceir prawf o syniad ucbel yr eglwys yma am danynt, yn y ffaith ei bod bob amser pan fyddant yn bresennol, yn galw arnynt i gymeryd rban yn y cyfarfodydd gweddi a moddion ereill.1 Felly y bu y tro diweddaf y buoet adref Cyfarfod gweddi gynhelid yng nghapel Tycerrig nos Sul olaf y flwydd yn. Galwyd ar Mr David Humphreys i ddechreu, ac yna Tom wedyn, a chaf- wyd cyfarfod mor fenditbiol fel y bu son am dano. Dywedai uh wraig wrth ei phriod fod- Tom Humphreys wedi gweddio yn ddoeth, a gafaelgar. Dycbwelai dyn ieuafic arall adref o'r cyfarfod a dywedai wrth ei fam, oedd wedi methu a bod yn bresennol, Chwi goH soch hi heno mam, eisiau eich bod yn y tiapelyn elywed Tom Humphreys yn gweddio, yr oedd yn dda." Gyda hynny dyna'i frawd'ar&ll i'r ty, ac ebai yntau, Mam, yr oedd Tom Humph reys yn dda heno, chwi gawsoch golled eisiau i chwi fod yny cwrdd," a dyna dystiolaeth pob un a'i elywodd yn gweddio y nos Sul hwnnw. Rhyfedd! nos Sul olaf o'r flwyddyn y clywyd llais ein hannwyi frawd, yn anneich gorsedd gras am y tro diweddaf yn yr. hen gapel oedd mor annwyl a chysegredig ganddo Chwith iawn ydyw meddwl na weUr ei wyneb siriol, hawddgar, gyda ni mwy, na eblywed ei weddiau cynnes gafaelgar ynyr hen allor yng nghapel Tycer-rig. Mor ddisymwth y diangodd oddiwrthym. Yr oedd Tom Humphreys yn ddyn uwchlaw'r cyffredin mewn mwy nag un ystyr. Meddai gymeriad ddigon glan -a disglair i dynnu sylw ato, ac i ennill edmygedd a pharch gan y rhai a ddelai i gysylltiad ag ef mewn byd, ac eglwys. Yr oedd hefyd yn dalentog a gwybodus, darllenai lawer ar lyfrau da, yn Gymraeg a Saesneg, a meddai farn mor gywir ar wahanol faterion fel y gellid yn bawdd ymddiried ynddo. Yn wir, dywed Mr Isaac, ei weinidog yn Bedlinog, fod ei air fel deddf i'r rhai a'i hadwaenai. Nid dyma banes becbgyn ieuanc yn gyffredin sy wedi mynd o'r wlad i weithio yng nghymoedd Sir Forgannwg a Mynwy. Ond er fod eglwys Tycerrig yn galaru &c yn cyclymdeimlo ag eglwys Bedlinog yn ei cholled ar ol un o'i haelodau disgleiriaf, y mae galar a cholled ei J deulu a'i fc-erthynasau yn fwy mae ei weddw a Thomas John, ei fachgen bach, sydd heb fod yn rhyw gryf ei iechyd, wedi colli priod a thad tyner a gofalus tuhwnt i'r cyffredin. Yr un peth ellir, dywedyd hefyd am ei annwyl fam, yr hon sydd eto yn fwy, ac yn trigo o dan I yr un gronglwyd. Mae'r ddyrnod wedi bod yn un drom iawn iddi hi druan. Yr I oedd Tom, y bachgen ieuangaf, fel rhyw I Benjamin bach yn ei golwg, ac y mae ei theimladau yn ddrylliog iawn ar ei ol- J Y mae ei ddau frawd, Dafydd, a John (y Parch J. Humphreys, Merthyr) ynghyda'i chwaer, mewn galar dwys, a hiraeth trwm ar ei ol. Cynhalied Duw hwynt oil yn ol eu hangen hyd derfyn eu taith. Dygwyd corff ein hannwyl frawd adref i'w gladdu dydd Iau, Ionawr 17eg, a chiaddwyd ef dranoetb, yngwydd tyrfa liosog o hen gyfeillion a phsrthynasau, yn hen fynwent y Plivyf-Darowen. Cafodd ein hannwyl frawd gladdedigaeth barchus a theilwng, er na chafwyd cyfle i gyhoeddi yr amser yn unman ymlaen Haw. Gwasanaethwyd yn y ty gan weinid- og Tycerrig, yn yr eglwys gan y Parch Richards, Person y Plwyf, ac ar Ian y bedd gan Mr Richards, y Parch A. C. Pearce, a'r Parch G. B. Roberts, o Ystumtuen. Y galarwyr oeddynt y weddw, Mrs Humphreys, a'i mab, y Parch John, a Mrs Humphreys, Merth- yMr a Mrs David Humphreys, Mr a Mrs Hughes, Cemaes, o nifer o berthyn- asiu ei a l. Yr o d i hefyd yn bresennol y Parchn Robert Lewis, Llanbrynmair, R. W. Jones, Machynlleth, Williams (B.), Talwern, a'r Parch R. C. Evans (A.), CWMIlinaU. Huned yn dawelhyd foreu t codi. A. C. P. I CYDNABOD Cydymdeimlad. Dymuna'r Parch. John Humphreys. Merthyr, ar ei ran ei hun, ac ar ran pob aelod o'r teulu, ddiolch yn galonnog hwn i'r llu cyfeillion a'u cofia3ant trwy lytlayrau cydymdeimlad, yn Dydd eu galar. Bu y tystiolaethau lliosog a chryfion i gymeriad pur, a gwasanaeth flfyddlon eu pertbynas ymadawedig yn falm effeithiol i glwyfau ydynt ddyfnion ar y goreu.
I-.COMMINS COCH. --!
I COMMINS COCH. Oyffrowyd yr ardal lonydd yma rai wythaosau yn ol, gan ddigwyddiad poenus a thorcalonnus iawn, sef, trwy i David Humphreys, bitBhgen bach Mr a Mrs Elias Humphreys, yr hwn oedd yn 13eg oed, ddigwydd syrthio rhywfodd i afon y Twymyn, a chael ei gario ymaeth gan y lli a boddi. Digwyddodd hyn mor bell yn ol a'r 10fed o Dachwedd. Nid oedd Dafydd bach yn facbgen iach a cbryf, cawsai ei flino gan lewygon ar brydiau, a ber-nir I ei fod wedi cael fit pan ar lan yr afon y prydnawn hwnnw, a neb yn ei weled. Ar ol iddi dywyllu, wrth weled nad oedd Davy bach yn dyfod i'r ty dechreuoddei rieni anes mwytho yn ei gylch, ac aeth ei da3 allan i ymholi a chwilio am dano. Codwyd cri o'r diwedd trwy'r pentref, a chafodd Mr Humph; e; s gymorth parod Mr Richard Jones, a cbymdogion eraill yn ei ymchwil am dano. Ar ol cerdded yn hir am oriau, a chwilio yn fanwl daethant o hyd i'w gap ar lan yrafon, a chanfyddwydol fel pe byddai wedi bowlio trwy'r rhedyn i gyfeiriad yr afon. Yr oedd pob arwyddion yn dangos mai yr afon oedd wedi ei gael, chwiliwyd yn ddyfal ar hyd ei glannau am ddyddiau, ac hyd yn oed glannau y Dyfi i lawr o dan Machynlleth, ond y cyfan i ddim pwrpas. Ofnid ei fod wedi ei gario i'r mor, ac na ddeuid byth o hyd i'w gorff bach, ond ymhen wythnos daeth gair fod ei gorff wedi ei gael rbyw filltir o dan dref Machynlleth. Wedi cynnal Cwest arno, dygwyd ef i'w gladdu ym mynwent .Cwmllinau. Gwasanaethwyd gan y Parchn A. C. Pearce, Owens, Aberliefeni, a Evans, Cwmlliniau. Yr oedd y Parch. Robert Lewis hefyd wedi dyfod i'w cynheb- rwng, a nifer liosog ogyfeillion a chyd- nabod, er mwyn amlygu eu gydymdeim- lad a Mr a Mrs Humphreys. Yr oedd yr holl wlad yn cydymdeimlo yn ddwfn a hwy yn eu profedigaeth sydyn a chwerw, ac y mae pawb heddyw yn llawenhau gyha hwy, am ei bod wedi ei gael, i'w roddi mewn bedd, gwyddant bellach y man lie yr huna. Huned Davy bach yn dawel ym mreichiau yr I Iesu hyd nes y daw ei dad a'i fam a'i chwiorydd oil gobeithio atynt i fyw byth. Y mae Mr Elias Humphreys yn adnabyddus gan lawer o Weinidogion fu yn teithio Cylchdaith Machynlleth, a gwyr pawb am dano fel brawd o gymeriad da, ac yn alluog a ffyddlon gyda'r Ysgol Sul, ac ilgyfeiriadau eraill. Bendith Duw fyddo arno ef, ei briod a'i blant. GOH.
LLANBEDR PONT STEPHAN. I
LLANBEDR PONT STEPHAN. I Marwolaeth Cadeirydd y Dalaith'-I Llanwyd y dref a thnstwch mawr at y: newydd o farwolaeth y Parch T. J. Pritchard. Yr oedd yn ystod ei arhos- iad yma wedi suddo yn ddwfn i serch y bobl. Cofir am dano fel un hynaws ei ysbryd ac union ei ffordd. Edmyg- wyd ef hefyd fel gwr o feddwl gryf ac eangfrydig. Yn ein capel nos Sul canwyd ei emyn poblogaidd-" Dras fynyddau y perlysiau "-er coffa am dano. Gwnaed cyfeiriadau annwyl ato yn y Seiat- Pasiwyd hefyd bleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r bachgen adawyd mewn trallod. Ein gobaith yw y codir ei debyg i lenwi y Gadair Dal- eithiol adawyd yn wag. GOR.
I -MYNYDD SEION. LER PWL.…
MYNYDD SEION. LER PWL. Gofidus genny-m orfod cofnodi marwolaeth Mr Humphrey Joues, 21, Heman Street, Liverpool. Bu farw Ion. 27ain, ac fo'i claddwyd ym mynwent Smithdown Road, Liverpool, Ionawr BOain- Ganwyd yr ymadawedig yn Syrnant, Pennal, Mai 22a.in, 1834. Symudodd y teulu i fyw i Gefn Coch, Darowen, pan-yr oedd ef yn 8 mlwydd oed. Enwau ei rieni oeddynt Richard a,c Ann Jones, ac hannai o deulu y Parch Humphrey Jones (laf). Bu Mr Humphrey Jones yn flaenor yn eglwys y Wesleaid, Tycerrig, am 40 mlynedd. Cafodd ei ddycbwelyd ym I mlwyddyn y Diwygiad, 1859, a bu am fly nyddoedd-lawer yn ddefQyddiol iawn I ynglyn a'r achos mawr, ac yn ddisgybl. ffyddlon i'r Gwaredwr hyd drliwedá ei oes. Yr oedd ei gymeriad wedi ei brydferthu a llawer o rinweddau gras. 'I Gwr o ysbryd llawen a charedig iawn ydoedd, parod iawn ei gymwynas ae o dueddfryd siriol a chroesawus. Rhoddai mawr bwys ar ffyddlondeb i air, cadwai ei addewid yn ddiwyro, a'i gas beth oedd i neb fod yn Uai na'i air. Mewn llythyr anfonwyd at y teulu gan y Parch John Humphreys, Merthyr, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, dywed Yr oedd yn wir yn un o'r dynion goreu a adwaenais erioed." Pros 17 mlynedd olaf ei oes trigai yn Lerpwl, ac yn aelod o eglwys Mynydd Seion. Yr oedd ei ddydd gwaith wedi dod yma ar ben, ond profodd ei hua hyd y diwedd yn gymeriad cryf a phur. Bu farw gwedi mynd o dan driniaeth yn y Southern Hospital-; Yn ystod ei waeledd bu yn hynod o amyneddgar a thraethai emynau, ac adnodau oedd brofiad iddo yn' fynych. Gadawodd ar ei ol dystiolaeth uchel i'w Waredwr. Bu farw mewn tangnefedd. Cydym- deimlwn yn fawr a'i briod adawyd mewn gwendid mawr ar ol bywyd priodasol hapus am 50 o flynyddoedd. Hefyd a'i fab y Parch D. Creigfryn Jones, Penygraig, a'i frawd Mr Humphrey Jones. Gwasanaethwyd ddydd ei ang ladd gan y Parchn Edward Davies, ac Isfryn Hugnes. Derbyniodd y teulu lu o lythyrau cydymdeimlad, a dymunwn ddiolch dros y teulu i'r cyfryw. CYFAILL.
BEDLINOG. I
BEDLINOG. I Nos Sul, Chwefror 3ydd, cynhaliwyd I Gwasanaeth Goffa am y diweddar Tom Humphreys. Yr oedd tyrfa fawr yn bresennol a chafwyd pregeth rymus a chyfaddas i'r amgylchiad gan y Parch E. Isaac. Hefyd rhoddodd y Cor ddat- ganiad rhagorol o'r Anthem Dyddiau dye," o dan arweiniad Mr E. Pierce. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan I Mr Plenydd Edwards. Yr oedd y wasan- aeth yn hynod o urddaaql, ac yn dangos edmygedd o'r hwn a gysegrodd ei hun i Grist a'i Eglwys. "Coffadwriaeth y I cyfiawn sydd fendigedig. ISAAC DAVIES. I
Advertising
Yn Awr yn Barod. "y TRI IESU." LLYFR I BAWB. Dynoethir ynddo Gyfeliiornadau Diwinyddol Pwysig: "Important Theological Errors Exposed. a v Profiad yr Awdur gyda'r Argraffiad Cyntaf: Pan yr anturiais gyntaf I ma's, i faes y byd, Nid ymddangosai'n ffafriol Oddiallan ar y pryd: O.id Ilais o'm mewn a, ddwedai Nac edrych ar y gwynt, Gwna frys i hau yr hadau Ceir medi felly'n gynt." A'r llais a ychwanegai Abertha, bydd yn hael, Gofala brisio'r Llyfryn Fel gallo pawb ei gael Gwrandewais ar ei archiad I'r bobl hysbysiad roes Am Lyfr yn dangos ffeithiau Rhagorach am y Groes. Trwy hyn daeth im' archebion O'r Gogledd, ac o'r De, A siroedd Lloegr hefyd, O'r pentref, ac o'r dre Gwahoddwyd ef i'r 'Spyty Yn gwmni'r milwr claf, A thros y mor i'r cad faes,— Syn yw'r archebion gaf! I'w cael gan yr A wdur- W. RICHARDS (PREGETHWR), DIGBETH INSTITUTE, BIRMINGHAM. Pris 3c. Gyda'r Post, 4c. Gellir ei gael hefyd trwv y Llyfr- werthwyr. Yr Etnynydd AchEysurol, SEF Pump o Emynau Newyddion, cyf- addas iawn i'w defnyddio yn y sefyiifa ddifrifoi y mae ein gwlad a'r byd ynddi yn y cyfnod hwn. Cynwysant driarlddeg o benillion a 76 o linellau. Wele un emyn yn engraifft— Ni wisgodd Iesu gnawd Er mwyn addysgu ei hun Gwnaeth hyn, a daeth yn d'lawd, Er cynorthwyo dyn. Ffordd newydd wnaeth i gariad Du w I ymwybyddiaeth dynol ryw. Mae'r Iesu byth yr un, Er holl gyndynrwydd byd, Gweithig'n' ddi-der ei hun, I'vv gael i'r noddfa glyd. Ei aberth mawr, a'i dyner lef Sydd yn ein galw ato Ef. Gellir eu cael oddiwrth yr Awdur W. RICHARDS, Digbeth Institute, Birmingham. Pria Ceiniog. Gyda'r Post, 1|c. LLYFRA1) GWERTHFAWR AR #WERT8 Am Brisiau Gostyngol. -• s. C. 1. Hanes yr Athrawiaeth Grist- ionogol gan Dr J. Hughes 1 3 2. Diwinyddiaeth Naturiol, gan Dr. Paley, yn Gym- raeg, Rhagdraeth gan Dr. Hugh Jones (M.C.) 1 3 3. Cofiant y Parch R. Hum- phreys, Dyffryn u. 1 3 4. Cofiant y Parch Griffith. I Williams, Talsarnau 1 3 5. A Grammar to the Welsh Language, by Thomas Rowlands (4th Edition). 2 0 6. Yr Hynod Joan Jones, gan Rhuddenfab, Rhagdraeth gan Daniel Owen, Wydd- grug 0 9 7. Dafydd Evans, Ffynon- henry, gan- B. Thomas, Trydydd Argraffiad 0 9 8. Cofiant y Tri Brawd. gan y Parch O. Madoc Rob- erts o 6 10. Y Cywir Ddychwelwr gan Thomas Shepherd 0 6 Anfoner at— Rev. OWEN HUGHES, 101, Bruce Street, New Wortley, Leeds, Yorks.