Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'r pur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
Y Diweddar Barch. T. J. Pritchard…
Y Diweddar Barch. T. J. Pritchard (Glan Dyfl). (Gan y Parch. JOHN HUMPHREYS). Darllenais lith werthfawrogol Hywel Nedd o'r diweddar Barch T. J. Pritchard gyda phrudd-ddydd- ordeb, ac yr wyf, fel llawer eraill, yn dra diolchgar i Mr T. J. Howells am na chollodd amser mewn talu ei deyrnged o barch i gymeriad teilwng trwy gyfrwng y G.N." <0nd gwn na theimla Mr Howells ei fod yn hyfdra ynnof ychwanegu llinell neu ddwy at yr hynaysgnf- enodd efe; ac na thybia am eiliad fy mod yn amcanu at wneud i fyny am unrhyw ddiffygion yn ei lith ddarllenadwy a thyner. Y gwir yw, gall llawer ysgrifennu am fy niweddar frawd, a chyfaill-Mr Pritchard, a gadael lie i eraill ddilyn drachefn. Credaf y gallaf gyfrif fy un ymhlith ychydig brif gyfeillion y diweddar Mr Pritchard yn y wein- idogaeth: Wesleaidd Cymreig ac yn arbennig- felly yn y Deheudir. Gallwn, pe bai achos, ddifynnu geiriau ddiferasant dros ei wefusau yn dra diweddar, yn gosod yr achos mewn goleu llawer cryfach na hwn, ond nid oes raid hynny. Tynned y darllennydd ei gasgHad. Daliodd ein cyfeillgarwch lawer prawf; ac un o'r rhai cryfaf feallai ellid nodi yw inni ffraeo llawer mewn chwar- c. '\er canrif, a bod yn fwy o gyfeillion dair wythnos cyn ei ymadawiad a'r fuchedd hon nag y buasom erioed o'r blaen. Cyfeiriaf at fy ymweliad olaf ag ef, pryd y treul- iais wrth ei wely awr a erys ym- hlith rhai mwyaf cofiadwy a chys egredig fy mywyd. Carwn hefyd ddweyd nad oedd ein cyfeillgarwch yn seiliedig i'r mesur ileiaf ar ddallineb i ffaeledd. au amherffeithterau y naill a'r llall. Yr oedd i Mr Pritchard, fel i bawb, ei derfynau, y rhai a gyd- nabyddai; a mwy nag unwaith y cawsom hamdden i aros uwchben ein diffygion, ac i atgoffa ein gilydd os oedd raid o'r cyfryw. A phan y mae cyfeillion yn ddigon gonest i wneud hynny, mae eu cyfeillgar- wch gymaint a hynny yn sicrach a gwerthfawrocach. Cofiaf innau yn dda am y tro cyntaf i][mi glywed Mr Pritchard: yng Nghorris yr oeddwn ar y pryd; ac fel y dywedir am ei Feistr, felly y gellir dweyd am dano yntau; A murmur mawr oedd am dano ef ymhlith y bobl." O ba le y daethai nis gwri; nac i ba le yr aeth. Noson waith ydoedd. Ni welsom -ef erioed o'r blaen; ond clywsom am dano fel un gawsai fanteisio-.ri addysg uwchraddol i ddim a geid yn y dyddiau hynny ar gyfer y Weinidogaeth Wesleaidd Gymreig. Cawsai addysg elfennol dda, ac wedi hynny wrteithiad da yn y Coleg Cyfundebol. Cofiaf yn dda y disgwyliad oedd wrtho y noson honno a choflaf ei destun Byddwch chwi gan hynny yn 'berffaith, fely mae eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yn ber ffaith Cofiaf am ei ymddanghos- iad. Byr ydoedd, wrth gwrs, y pryd hynny, ac yn hyn ni chylnew- idiodd. Rhaid dweyd fod golwg ysgolheigaidd arno, ac yr oedd ei ymddanghosiad yn hardd a dillyn. Y pryd hynny yr oedd yn ddu fel y fran, ac yn llawn, a chrwn. Cof iaf ei lais—llais a'm dychrynodd bron, pan edrychwn ar y bychander corfforol o ba un y codai. Pwy na roddai ffortiwn am ei lais! Gallai lanw unrhyw ystafell gyhoeddus, pa mor eang bynnag, heb y mesur lleiaf o drafferth. Rhaid i mi I ddweydy tybl wn ar y pryd fod rhywbeth tebyg i rwysg yn ei ddull. Ond wedi ei adnabod yn well, yr wyf yn hollol argyhoeddiadol mai nid rhwysg oedd ond rhywbeth yn codi yn naturiol o'i gyfansoddiad. I Daliodd i siarad yn yr un dull ar hyd ei oes, ac nis gwn fod y dull hwn wedi rhoddi tramgwydd i neb ar ol cynhefino ag ef. Am y breg- I eth nid wyf yn cofio. dim, h.y., am gorff y bregeth. Nid oeddwn yn 'I gymwys i farnu na gwerthfawrogi, oblegid, ar y pryd, o leiaf, yr oedd- wn yn hollol ddi-ddysg. Credaf iddo ddangos Ilaweroallu. Ond j cofiaf yn dda ei hwyl tua'r diwedd -y peth yr edrychwn am dano yn jaiddgaryn y cyfnod hwnnw. Er gwasgu adref y pwysigrwydd o 10 sicrhau y perffeithrwydd, cawsom I yr ystori Exelsior," a gwnaeth ddefnydd rhagorol o honi. II Yr wyf wedi ymdroi gyda'r olwg gyntaf hon a gefais arno, gan iddo y noson honno, yn ol fy marn i, ddangos y prif nodweddion fel pregethwr a'u nodasant ar hyd ei oes. Yr oedd son am dano yng Nghorris ar ol yr odfa, ac yn wir yn y wlad, cynt a chwedi. Proffwyd- I wyd pethau mawrion ac nid fy lie i ydyw penderfynu a ddaeth yr holl broffwydoliaethau yn wir. Prin efallai. Yr wyf fi yn un o'r rhai a gredant fod y diweddar Barch. T. J. Pritchard, felllawer un arall, yn wir pawb, yn alluog o bethau mwy nag a sylweddolodd—lawer mwy. Daethum i gysylltiad agos ag ef ar ddechreu fy ngweinidogaeth, a j chedwais yn ei gyfeillgarwch a'i gyfrinach nes y galwyd ef i Sordd. I Efe oedd un o'r Arholwyr yn y I Dalaith Ddeheuol. yn ystod fy imhrawf, ac i* w ddwylaw ef yr ai rhai o'm papurau pwysicaf. Buom liaws mawr o weithiau yn cyd- I bregethu mewn cyfarfodydd neill- tuol, ac felly yn cyd-letya yma a thraw. Yn y dyddiau gynt; cyn iddo gymeryd gwraig i'w gynorth- wyo yng ngwaith ei fywyd, treul- iasom gryn lawer o amser gyda'n gilydd dan ei gronglwyd yn Nhref- eglwys. Pan, yn ystod fy nhymor yn y Porth, yr ymunodd mewn glan briodas, a'r hon sydd erbyn hyn yn weddw ^alarus, myfi oedd v gwas priodas." Ddwywafth y flwyddyn cyfarfyddem am ugain mlynedd yn y Cyfarfodydd Taleithiol, ac ni phasiai yr amgylchiad byth heb lawer cyfle i adnewyddu teimladau cyfeillgar. Penodwyd ef, wedi marwolaeth yr Eglwysbach," ar Bwyllgor Diwygiad y Llyfr Emyn. au, a threuliasom lawer o amser dan gronglwyd yr annwyl Glan- ystwyth tra gyda'r gwaith hwn Tra yn Risca, wedi i mi fynd dros odd i'r Weinidogaeth Saesneg, cef- ais yr anrhydedd a'r pleser o'i letya tra ar ymweliad a'r lIe fel Cadeir- ydd Cynghor Eglwysi Rhyddion Dwyrain Morgannwg a Mynwy. Nodaf y pethau hyn i ddangos y cyfleusterau digonol a gefais i ffurfio, a pharhau cyfeillgarwch, ddylai fy nghymhwyso i ysgrifennu gair cywir am ei goffadwriaeth. Gellid yn hawdd dweyd llawer am swm ei dalentau-disgleirdeb ddoniau-gwerth ei wasanaeth- a'i hawddgarwch mewn bywyd cyffredin. Yn sicr, nid gwr yr un dalent ydoedd na'r ddwy chwaith. Yr oedd yn dalentog iawn. Dyw edwyd yn ei angladd nad esgyn- nodd i bwlpud Cymru bregethwr mwy diwylliedig nag ef a chredaf y dywedwyd y gwir. Ond yr oedd ganddo alluoedd naturiol a phos- iblrwydd ynddynt na ddanghoswyd erioed, nac yn agos. Fel hen gyfaill iddo, rhaid i mi gydnabod yma, yr hyn a ddywedais wrtho lawer gwaith, sef na wnaeth ddeg- wm y defnydd o'i alluoedd disglair a ddylasai fod wedi wneud. Cred ais yn wastad fod dau bethíyn fagl iddo ddylasentfod wedi bodyn help amhrisiadwy, sef llais rhagorol, a dawn parod. Pe na fuasai gauddo lais oedd yn ffortiwn ynddo ei hun, d b 'd buasai raid iddo baratoi gyda mwy o ddygnwch a thrafferth. Ac wedi hynny, gailai siarad fel oraci heb funud o baratoad uniongyrchol. Ond yr oedd ganddo alluoedd gwir anghyfiredi 0, a hynny i la wer eyfeir iad. Yr oedd yn ieithwr da. Nid j n unig y Gymraeg a'r Saesoneg a siaradai gyda rhwyddineb a graen ond meddai gwybodaeth led hel aeth or Hebraeg, a'r Groeg; y Lladin, a chredaf rai ieithoedd eraill. Anodd fyddai enwi cangen o wybodaeth nad oedd ganddo gyd- nabyddiaetha hi; a mwy na hynny gyfaddasiadau naturiol i'w chyfeir iad. Gwyr pawb a wyr ddim am dano, mor gryf, a byw ei ddychym. yg. Yr oedd yn fardd rhagorol, a gallasai fod yn fardd llawer enwoc ach nag ydoedd Rhaid ei fod wedi meistroli y Cynghaneddion yn y bore bach oblegid ni welais erioed Ramadeg yn ei taw ac eto cyng- haneddau yn gywir a didrafferth. Nid hawdd fyddai euro ei Englyn- Ion diweddar i'r Kaisar. A beth am ei Emynau goreu? Gwn fod ganddo doraetii na welant byth oleuni dydd ond erys rhai o'i eiddo mor anfarwol a dim yn ein Llyfr. Pe gallasid perswadio Mr Pritchard i gyfyngu mwy, ac i fanoli ar lai o bynciau, diau y gwnaethai iddo ei hun ragorach enw hyd yn nod nag a wnaeth. Ac at dalentau lliosog a gwerth fawr yr oedd ganddo ddoniau dis- glair. Yr oedd yn siaradwr da ac yn un on prif bregeth wyr. Bu galw am dano i'n prif wyliau i bregethu a darlithio. Cafodd rai odfaon ys- gubol. Cafodd filoedd o rai dym unol; a chredaf yn ddibetrus mai dyma ei rai goreu. Wedi ei adnab. od yn dda; ac wedi siarad ag ef ar y mater; ac wedi craffu yn bur fanwl a*r nodweddion, a digwydd- iadau ei Weinidogaeth credaf yn ddiysgog mai ei odfaon cyffredin oedd ei rai goreu. Pan barotoai yn fanwl iawn parotoai ormod, a deuai'r mater yn orthrwm iddo, ac yn fagl. Tra y cadwai fy nghyf- aill o fewn terfynau cymedroldeb, heb amcanu at ddim anghyffredin, gallai fod mor felus, a swynol, ac effeithiol ag unrhyw ddawn gyh- oeddus yng Nghymru. Pwy all anghofio ei bregethseml, ireiddiol, ar "Ffyddldndêb yn caelei wobr- wyo," tra'n delio gyda'r Crist adgyf- odedig,a'i Fagdalen. A gallai ysg. rifennu mor Lyfn,°a graenus, a chryf a neb yn y wlad. At hyn gallai ch»vareu'r berdoneg, a chanu yn swynol. Gallai adrodd, a gallai efelychu nes gwneud y cwmni yn sal, a gwan gan chwerthin. Anodd, os posibl, cael gwr mor amrydd awn, a gwnaeth wasanaeth wirion eddol i'w enwad, a'i genedl. Diau fod llu mawr iawn a briodolant eu dychweliad i'w Weinidogaeth werthfawr. Bugeiliodd braidd Duw gyda thynerwch, ac yn ami gyda haelfrydedd. Cyfoethogodd ein Llenyddiaeth. Cyfeiriwyd at ei wasanaeth ar Bwyllgor y Llyfr Emynau. Gwasanaeth werthfawr oedd. Gallesid, pe angen, ddefn- yddio mwy o'i Emynau ef ei hun nag a wnaed. Yr oedd hefyd yn gyfieithydd da. Dylid nodi gorchest ei fywyd, er na fu yn llwyddiant i'r graddau y disgwyliodd, sef cyfieith- iad Holwyddorydd" Dr. Pope Gwyr ei gyfeillion mai y "Com pendium" oedd yn ei fryd ar y cyntaf. Ond yr oedd cyfleithu, ac yn enwedig werthu hwnnw allan o'r cwestiwn. Yn wir nychwyd llawer ar ei iechyd gan yr ymgym. eriad arall. Gwnaeth lawer o wasanaeth fel Eisteddfodwr, mewn beirniadu ac arwain. Llafuriodd yn bur ddygn, a gwnaeth wasan- aeth fawr i'w genedl. Yr oedd rhyw bethau nas gallai eu gwneud, ac.yn fy marn onest i, y dylasai fod modd i beidio gofyn iddo eu gwneud. Nid oedd yn ddyn am gylchiadau ond i fesur bychan. Gresyn ei boeni gyda chasgliadau na Shedules. Nid oeddynt yn ei fyd. Ni ddeallodd hwynt erioed. Poenasant ei enaid cyfiawn. Er I iddo fod yng Nghadairy Gymanfa, a Chadair ei Dalaith, a gwneud yn barchus yn y naill a'r Hail, ciedaf yn onest ei fod ar ddydd ei farwol- aeth mor bell o ddeall cyfrinion Casgliadau a Schedules ag oedd ar y cychwyn cyntaf. Ni pherthynent i'w fyd. Yr oedd yn rhy farddonol, a myfyrgar ei fryd i'w deall o gwbl. A ellir dweyd am rywun, ar wahan i'r Meistr ei Hun, iddo wneud yr oll a allai. Nid wyf yn credu y gellir. Ac ni fyriwn geisio hawlio hynny i fy niweddar gyfaill y Parch T. J. Pritchard. Llai iddo ef nag i rai adwaenais, a hynny am un rheswm mawr. Ni roddwyd iddo-o)eiaf ni ddatblyg- odd y gallu i ddal ati. Nac yn wir ar lawer adeg i ddechreu fel y dylai. Tueddai at oedi. Ac at hynny tueddai i ddechreu ac i beidio gorffen. Nid adwaenais erioed drech Idealist. Pwy dyn- nodd allan fwy o gynlluniau ? A meiddiaf ddweyd eu bod yn dra rhagorol. Nid bob amser yr oedd- ynt yn weithiadwy,a'r rhai oeddynt felly nid bob amser y cawsant siawns. Ond brychau yw y rhai hyn mewn bywyd o wasanaeth rhagorol. Cyflawnodd ei weinid- ogaeth i fesur pell a chafodd yn ddiau y Da was," &c., ar y terfyn. Carwn cyn terfynu allu dweyd gair i ddangos mor hawddgar oedd, Yr oedd ynddo rhyw bethau i radd- au hollol anghyffredin. Ni welais neb ericed a'r teimlad o barchedig- aeth yn amlycach ynddo. Dad tragwvddoldeb, plygwn ger dy fron.11 Dyna ei ysbryd ef. Addol- wr mawr ydoedd a gwnaethai yn dda mewn Eglwysi Cadeiriol a'u gwasanaeth brydferth. Bron na ddywedir ei fod ynXgoel-grefyddol, a gallwn roddi engreifftiau pe bai raid. Nid oedd ei dynerach a'i garedigach yn y byd. Rhy dyner oedd i fyd fel hwn. Nid oedd twyll na dichell ynddo. Gallai gyffroi yn aruthr, ac yr oedd eiliadau arnoyn y rhai y dywedai ac y gwnai yr hyn gostient nos- weithiau digwsg iddo. Posibl y gwnaeth ddefnydd o'r Wasg dro neu ddau a barodd ofid iddo ar ol hynny. Ond yr oedd yn naturiol garedig. Ac os ar eiliad wyllt, mewn hunan-anghof disymwth y dywedai neu y gwnai yr hyn nas dylid, efe ei hun ddioddefai fwyaf o'r herwydd. Nid oedd ganddo elyn yn y byd, h.y., o'i ochr ef o edrych ar bethau. Ni fachludodd yr haul erioed ar ei ddigofaint. Yr oedd yn wir foneddwr: yn natur- iol felly ac nid hawdd ei demtio i ymddygiad gwahanol. Weithiau tueddai at bruddglwyfedd, mewn rhan yn ddiatt oherwydd achosion corfforol. Ond ar brydiau tueddai i adael i bethau lithro, ac yna deuai dydd 'yr helbul a'r drafferth, pryd yr ymddanghosai pob peth yn anobeithiol bell o gyrraedd ei ddelfryd uchel. Diddan iawn oedd yn ei gwmni, ac nid oes aelwyd lie y danghosid mwy o groesaw na'r eiddo ef Ac yn hyn bu yn ffodus yng nghydmar ei fywyd. Gall llawer un alw i gof oriau diddan, ac nid di-elw, a dreuliwyd yn ei gwmni. Cafodd ei ran o gystuddiau bywyd a mwy nag unwaith cyn ei gystudd diw- eddaf y bu yn beryglus wael. Ond bu ddioddefgar yn ei gystudd, yn ogystal a dyfalbarhaol mewn gweddi. Gwelais ef droion yn ystod ei gystudd olaf, a chofiaf y dydd y'm sicrhaodd fod rhyw aflechyd peryg- lus yng nglyn ag ef. Hawdd oedd credu oddiwrth ei olwg ei fod yn dweyd y gwir. Ac eto hybodd am ychydig; ac ymaflodd yn ei waith drachefn. Ond i ychydig bwrbas, dim ond megis i brofi fod ei ddydd gwaith drosodd, a'r nos heb fod ymhell. Tua thair wythnos, neu yn wir lai na hynny, cyn y diwedd, aeth- um i'w weled, a theimlwn yn bur sicr mai dyma yr ymgom olaf i ni