Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

COLWYN BAY. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLWYN BAY. I Anfonwn air bach am gynhebrwng y diweddar frawd Robert Jones, Meirion Vaults gynt, ond yn ddiweddar trigai ef a'i deulu yn Mill Street Liverpool. Dioddefodd hir gystudd yn dawel, a chafodd ei ddymuniad ymhob peth, a theimlai yn reit barod, a pharatodd ei deulu ei fod yn mynd i'r nef i fyw, ehed- odd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes ar y 25ain o Ionawr. Dygwyd ei*weddill- ion yma ar y 29ain, a chynhaliwyd gwas- aeth yn ein capel y bu yn flaenor ac aelod am lawer blwyddyn: cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchedig- ion D. Angel Richards, T. C. Roberts, Moses Roberts, R. Morten Roberts, a Isaac Parry (M.C.), nai. Gwnaed syl- wadau priodol am ei ragoriaethau crefyddol: adnabyddai y Parch T. C. R. ef fel dyn duwiol, Cristion cywir, a chymeriad rhagorol. Yr oedd yn nod- edig am ei ddyddordeb yn y seiat, a'r cyfarfod gweddi. Y mae yn awr gyda Christ, a'i ddymuniad i'r rhai annwyl adawyd ar ol fyddai, "Dring i fyny yma." Pwysleisiau Mr Roberts am i'r plant ddilyn ei gamrau. Chwareuwyd y "Dead March'' gan Miss Katie Williams, Landsown, gyda dwyster, tra rhedai deigryn hiraeth tros J rudd llawer un oedd yn bresennol. Oofiwn am ei weddiau a'i brofiadau yn y seiat- Yr oeddym yn cario y syniad yn wastad fod pathau yn alright' cyd- rhwng Robert JonesVi Dduw. Cvdym deimlwn gyda'i weddw a'r plant yn nydd y brofedigaeth,-tri yn Ffrgine- a'r ferch, a'r bra.wd arall-David John Jones, sydd yn aelod yma y mae ein cydymdeimlad arbennig gydag ef yn ei afiechyd ar ol bod yn Ypres, hyderwn y caiff adferiad llwyr a buan. Gwasan aethwyd wrth y bedd ym mynwent Colwyn gan y Parch Isaac Parry, Fflint, a'r Parch Morton Roberts. GOH.

KNOWSLEY ROAD, BOOTLE. I

I - 'LEIGH. \ ¡

|GOLBORNE.

ABERMAW.