Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

LLITH Y CAPLAN A. til.II DAVIES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH Y CAPLAN A. til. I DAVIES. .L JERUSALEM ETO. 1 Ionawr lOfed, 1918. Annwyl Gwynfryn,— Tawel yw hi yn aw* ,a,m rhyw hyd, dim ond ambel ergyd 'nawr ag eilwaith yma ac acw, i anes- mwytho a rhwystro y gelyn yn ei ymdrech i godi e: amddiffynfeydd. Mae'r hin yn erwin oer ar brydiau, a chawsom beth eira, yr hyn nas gwelir ond yn eithriadol iawn yn y cwr yma o Ganaan, ond toddai cyn prin disgyn ar y ddaear. Mae y tywydd yn rhyfedd yma fel popeth arall; a barnu yn fras, hi wlawia am ddeuddydd, ac yna tridiau o hindda, ac yn gyffredin heulwen Pan yn Solum, ar lan mor Affrica, codai awel gref, deuai tua pedwar o'r gloch yn gyson bob prydnawn, gan beri cymylau o dywod. Yna mewn cyrrion o anialwch Sinai, caffem stormydd poethion, gwynt- og, o dywod, a elwid Khamseens, y rhai a barhant dridiau fel rheol, fel y gwelir mai rhywbeth ar ei ben ei hun yw tywydd y wlad. Un peth a'm tery a syndod yw, nad yw y trigolion, fel rheol, yn parotoi i'r tywydd garw gallai dyn feddwl mae peth eithriadol yw yr oerni, y gwynt, a'r gwlaw, canys ant allan mewn diwyg ysgafn gyfaddas i'r gwres mawr yn unig- hosannau gwynion, a Iloprynnau teneu am eu traed edrychant yn ddigrif dros ben, a rhai a gwlaw lenni ysgafn, fel y rhai a ddefnyddia y merched i gadw y gwres oddiar y pen yn yr haf. Gallai dyn dybied wrth edrych ar y llu ar yrheol yn eu diwyg yn y gaeaf, fod y gaeaf wedi disgyn fel taranfollt yn y trofannau lie nas gwelwyd erioed aeaf o'r blaen. Drachefn, cymer wch y mynyddoedd yma ar y gwlaw, mewn un cwr Ile 'roeddym, rkwng Bethphage a Bethania, creigiog a charregog ydoedd, gwenithfaen a llawer ohono wedi ei fritho a'r garreg dan, neu adfeil ion hen wely o I lava' o grombil rhyw losgfynyddau. Symudasom oddiyno i gannol cldwen o fyn yddoedd eraill: ar ol y gwlaw, calchog, cleuog ydoedd, glynai yn "bwysi wrth esgidiau dy n; ond teirawr o heulwen o sychder 'roedd y ddaear yn ddymunol i'w cherdd ed, a'r mynyddoedd yn hawdd i'w dringo. Oddiyma symudasom drachefn tua naw i ddeng milltir o'r Ddinas, yma creigiau metwrion o bob ffurf, a rhyngddvnt lecynnau o bridd coch, na sugnai y dwfr o gwbl, lie difrifol ar y gwlaw,. a phabelli bach o len deneu, fel ynys bach yn y dwfr, gorfod cloddio ffosydd, ond gan nad oedd rhedfa i'r dwfr, 'roedd y ffosydd beunydd yn llawn dwfr. Mae'iii dillad wedi eu lliwio gan laid y pridd coch, fel pe buaswn yn gweithio mewn mwn haearn. Gellwch gasglu fod rhai o'r mynyddoedd yma yn uchel ac anhygyrch: aethum i ymweled ag un cwmni ar ben mynydd arall gerllaw, ymddanghosent i fod yn agos iawn atom, ond fe.gymerodd i mi bedair awr o lafur caled i w cyrraedd, a dringo enbyd ar bryd- iau. Y mae olion stormydd hen oesau pell yn ol yma, dyddiau gwewyr yr hen ddaear i ddod i'w ffurf bresennol: uwchben hen geu- nant llydan erchyll ddofn fel glyn annwn, y mae astell o graig gerth, ac ar ben y graig ar ei ymyl y mae colofn fawr o graig, tua pedair llath, wedi sefyll ar ei ben, ac ar ben y golofn, wedi cydbwyso ei hun yn rhyfedd, mae darn. o graig fawr tair onglog, yn edrych yn hollol fel yr hen het dair onglog wisgid yng ngwleddoedd y brenin* a chan rhai o'r swyddogion yng ngwledd Maer dinas fawr Llun- dain; yno y mae vn syllu, fel petai, ar y wlad, ac yn dyst bychan i hen branciau rhyfedd naturyn yr oesau gynt • Yn yr unigrwydd yma trigai lwytha Fedwyn: buont llafurus a. diwyd i lunio rhwng ceseiliau vi creigiau erddi gwiuwydd, a pfoer- llannau ffigys, ac edrychant yn hardd rhyfeddol rhwng esgyrn moelion creigiau y mynyddoedd. 0 ben y mynyddoedd yma y mae golwg teg, gwelir llain hir, llydan, o'r Mor Marw gloyw glan, a llain o'r Iorddonen falch ei hymchwydd a ymgladda ym mynwes y mor rhyfedd yma, ac yn gweu rhwng y mynyddoedd yr hen ffordd droell- iog llwydwyn o Jerusalem i Jer- icho, a rhwng copa dau fynydd, i gyfeiriad y Mor Marw, gwelir cor- on crwn Mosque y Moslem; tu draw i'r llain o'r mor a'r Iorddonen gwelir gadwen hir, foel, serth, mynyddoedd tir Moab, a'u hafnau, a'u ceunentydd, a'u disgynfeydd erch-llwyd-melynion ydynt o dan wres tanbaid haul y dydd, ond yng ngwyll y bore a'r hwyr glas-loyw hardd ydynt. Hefyd, oddiyma gwelir cynifei a phump ar hugain o bentrefi amrywiol eu maint, fel vn gorwedd yn dawel a diogel ar ben y bryniau a'r mynyddoedd, a'r cyfan yn atgoffa i ddyn eiriau yr lesu Dinas a osodir ar fryn nis gellir ei chuddio." Gwelir Ram- oth, Gilead, Bethel, Bethphage, pentref Mynydd yr Olewydd, ac eraill-y fath atgofion dyddorol a ddugrhain i feddwl dyn, a bar i ddyn droi yn ol i fyw yn y gorffen- nol; o ran hynny dyna ddylanwad yr holl wlad ar feddwl dyn, ei droi yn ol i oesy Testament Newydd, a thros y clawdd i hen oesau yr Hen Destament,-mae popeth mor ddu, popeth mor ddigyfnewid, bywyd bron yma yn ei arddull cynteflg, heb ei gyffwrdd gan chwildroadau mawr yr oesau diweddaf. Y gorff- ennpl deimlir, welir, ac a glywir yn llefaru ymhob man. A lie mae'r oes newydd wedi ceisio ym- wthio i mewn, y mae fel pe allan o'i le, y mae fel pe allan o gyng- hanedd ac anianawd popeth yma. Y peth digrifa o bopeth yw gweld rhai o'r brodorion yn ceisio pigo i fyny y ffasiwn mewn dillad mae y got a'r wasgod a'r llodrau fel pe yn cyfarth ar eu gilydd, ac fel pe wedi eu hieuo yn hollol anghyd- maru. A rhai o'r brodorion wedi troi i wisgo esgidiau trwm, a cherddent mor afrosgo a phetai par o gychod wedi eti tragi wrtheu traed. ond alu gwrthban amryliw ar eu pen, a'u diwyg o lenni am- ryliw am y corff, a'u lloprynnau ysgafn esmwyth, symudant mor hoyw a llednais a'r ewig ary creigiau. I mi rhai o'r adeiladau mwyaf hardd amawreddog eu dylanwad ar y meddwl yw eiddo > Moslem, megis Mosque Omar, ac Aksa. Y mae y rhai hyn a'u coronau en fawr llurtiaidd hardd, a'u colofnau godidog, «'u haddurnwaith, eto syml oddimewn yw ffurf yr addol- iad tra mae tetnlau- y Cristionog- ion yn llawn o'r cywreinrwydd mwyaf plentynaidd ar un llaw, yn gymysg a gwaith cvwrain a chel- fydd. Cymerwn ddwy engraifft y deml fach godwyd ar y fan lie yr honnir y claddwyd Mair, mam yr Jesu. Awn i lawr lu o risiau, cyr- haeddwn y gwaelod, yno mae nifer o allorau wedi eu llunio o fafmor amryliw, a rhesi ar resi o gan- wyllau lliwiog, a channoedd o lusernau bach celfydd, cywrain, drud, a phethau eraill rhad, di- addurn, fel pe wedi eu prynu mewn ffair yn y wlad; y, lie yn fudr, a'r arogidarth y peth mwyaf anymunol i ffroenau dyn mor an. hebyg, meddwn, i symylrwydd dwyfol ddynol popeth bywyd yr Iesu. I mi byddai ceisio addoli ynofel ceisio addoli yng nghanol rhwysg rhad ffansiol ambell i arddanghosfa bwystfilod acw. Cymerwn eto yr Eglw) s godwyd ar y fan lie yr honnir y croeshoel- iwyd ac y claddwyd yr Iesu. Y mae yma lu o ystafelloedd neu gysegrfeydd, ag allor ymhob un i gynrychioli gwahanol Iwythau Cristionogaeth yr Armeniaid, Syriaid. Coptiaid, Armeniaid, Groegiaid, Abysiniaid a'r Lladin, i iaid-pob un ei le ei hun. Y fath gweryl a chydymgais fu am y fan lie yr honnir y croeshoeliwyd yr Iesu ac y claddwyd Ef. Yn wir, i mi mae cymaint o rodres a rhwysg rhad o gylch bopeth gwelir llestri gwydr a blodau ffug o'u mewn ar yr allorau, pethau rhad fel y gwerthir gan ambell i Cheap Jack ac mae eisiau pres i weld popeth. I mi y llecyn creigiog tuallan i byrth y Ddinas, rhywle gyferbyn a phorth Damascus, yw y fan a'm terry fel y man y croeshoeliwyd Ef. Gosodir cymaint o bwys ar allan- olion crefydd ymhob man fel y teimlais droion y gellid dyweyd eto, Pan welodd Efe y ddinas Efe a wylodd drosti." Lie godidog yw hwn i'r gwr defodol a seremoniol, caiff lond ei gol o hono. Er hyany, mae rhyw swyn yn y Ddinas, a phopeth y Ddinas mae yma lu o wyr y rhwysg a'r rhodres, addolir o fore hyd hwyr; ond teimlwn pan mae addoliad yn tlodi y byd o ddefnyddioldeb dyn a'i wasaaneth, ei bod yn colli yn ei diben, ac yn hollol anymarferol. Ond am Jerusalem y mae swyn rhyfedd ynddi, Dymunwch hedd- wch Jerusalem, llwydded y rhai a'th hoffant' Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd." Lie byn- nag yr awn, i ba ba le bynnag yr edrychwn, gwelwn y Ddinas; ar doriad gwawr y bore, gwelwn hi yn ei llwydni mawreddog, yn y dydd disgleiria o dan dywyniad tanbaid yr haul, yn y gwyll, alr haul yn cilio i'w orwel ar ol taith y dydd, gwelir ei thyrrau a'i phin- aclau yn disgleirio'n arianaidd o bob cyfeiriad. Mae Jerusalem ar Jerusalem yn y ddinas—Jerusalem newydd droion wedi ei dodi ar yr hen.. Y fath ffydd fedd rhai ynddi hyd heddyw, fel y deuant o bob cwr, drwy lafur a lludded, a thrwy gal edi iawer iddi, gan y tybiant fod by wyd tragwyddol yn hyn. Adroddir un hanesyn digrif am hyn. Dywedir fod rhyw deulu yn yr Amebic yn credu fod diwedd y byd ynymyl, tacmaetr unig fan diogel i'r farn y dydd hwnnw oedd y Ddinas Sanctaidd, croesodd y teulu y moroedd ar frys mewn pryder rhag eu goddiweddyd gan y diwedd cyn cyrraedd Jerusalem. Cyrhaeddasant, a thawel oeddynt eu meddwl wedyn. Disgwyliasent am y diwedd, ond dim arwydd o hono, a'r arian yn darfod, fel y tloisant i fasnachu; ac nid yw y diwedd eto. Modd bynnag, mae y Jerusalem nefol i ddod i galon y byd drwy dangnefedd y Gwr fu farw ac a gyfodwyd er ei mwyn. 0 Seion y daeth y fendith, ond nid erys yno lie bynnag mae dau neu dri wedi ymgasglu ynghyd, yno yr ydwyf yn y canol." Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F.

! NEWMNON WESLEAm H.u II J..Ii..I.'…

Y RHAI A HUNASANT. I .. -…

[No title]

BWRDD Y GOL. I

[No title]