Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
LLITH Y CAPLAN A. til.II DAVIES.
LLITH Y CAPLAN A. til. I DAVIES. .L JERUSALEM ETO. 1 Ionawr lOfed, 1918. Annwyl Gwynfryn,— Tawel yw hi yn aw* ,a,m rhyw hyd, dim ond ambel ergyd 'nawr ag eilwaith yma ac acw, i anes- mwytho a rhwystro y gelyn yn ei ymdrech i godi e: amddiffynfeydd. Mae'r hin yn erwin oer ar brydiau, a chawsom beth eira, yr hyn nas gwelir ond yn eithriadol iawn yn y cwr yma o Ganaan, ond toddai cyn prin disgyn ar y ddaear. Mae y tywydd yn rhyfedd yma fel popeth arall; a barnu yn fras, hi wlawia am ddeuddydd, ac yna tridiau o hindda, ac yn gyffredin heulwen Pan yn Solum, ar lan mor Affrica, codai awel gref, deuai tua pedwar o'r gloch yn gyson bob prydnawn, gan beri cymylau o dywod. Yna mewn cyrrion o anialwch Sinai, caffem stormydd poethion, gwynt- og, o dywod, a elwid Khamseens, y rhai a barhant dridiau fel rheol, fel y gwelir mai rhywbeth ar ei ben ei hun yw tywydd y wlad. Un peth a'm tery a syndod yw, nad yw y trigolion, fel rheol, yn parotoi i'r tywydd garw gallai dyn feddwl mae peth eithriadol yw yr oerni, y gwynt, a'r gwlaw, canys ant allan mewn diwyg ysgafn gyfaddas i'r gwres mawr yn unig- hosannau gwynion, a Iloprynnau teneu am eu traed edrychant yn ddigrif dros ben, a rhai a gwlaw lenni ysgafn, fel y rhai a ddefnyddia y merched i gadw y gwres oddiar y pen yn yr haf. Gallai dyn dybied wrth edrych ar y llu ar yrheol yn eu diwyg yn y gaeaf, fod y gaeaf wedi disgyn fel taranfollt yn y trofannau lie nas gwelwyd erioed aeaf o'r blaen. Drachefn, cymer wch y mynyddoedd yma ar y gwlaw, mewn un cwr Ile 'roeddym, rkwng Bethphage a Bethania, creigiog a charregog ydoedd, gwenithfaen a llawer ohono wedi ei fritho a'r garreg dan, neu adfeil ion hen wely o I lava' o grombil rhyw losgfynyddau. Symudasom oddiyno i gannol cldwen o fyn yddoedd eraill: ar ol y gwlaw, calchog, cleuog ydoedd, glynai yn "bwysi wrth esgidiau dy n; ond teirawr o heulwen o sychder 'roedd y ddaear yn ddymunol i'w cherdd ed, a'r mynyddoedd yn hawdd i'w dringo. Oddiyma symudasom drachefn tua naw i ddeng milltir o'r Ddinas, yma creigiau metwrion o bob ffurf, a rhyngddvnt lecynnau o bridd coch, na sugnai y dwfr o gwbl, lie difrifol ar y gwlaw,. a phabelli bach o len deneu, fel ynys bach yn y dwfr, gorfod cloddio ffosydd, ond gan nad oedd rhedfa i'r dwfr, 'roedd y ffosydd beunydd yn llawn dwfr. Mae'iii dillad wedi eu lliwio gan laid y pridd coch, fel pe buaswn yn gweithio mewn mwn haearn. Gellwch gasglu fod rhai o'r mynyddoedd yma yn uchel ac anhygyrch: aethum i ymweled ag un cwmni ar ben mynydd arall gerllaw, ymddanghosent i fod yn agos iawn atom, ond fe.gymerodd i mi bedair awr o lafur caled i w cyrraedd, a dringo enbyd ar bryd- iau. Y mae olion stormydd hen oesau pell yn ol yma, dyddiau gwewyr yr hen ddaear i ddod i'w ffurf bresennol: uwchben hen geu- nant llydan erchyll ddofn fel glyn annwn, y mae astell o graig gerth, ac ar ben y graig ar ei ymyl y mae colofn fawr o graig, tua pedair llath, wedi sefyll ar ei ben, ac ar ben y golofn, wedi cydbwyso ei hun yn rhyfedd, mae darn. o graig fawr tair onglog, yn edrych yn hollol fel yr hen het dair onglog wisgid yng ngwleddoedd y brenin* a chan rhai o'r swyddogion yng ngwledd Maer dinas fawr Llun- dain; yno y mae vn syllu, fel petai, ar y wlad, ac yn dyst bychan i hen branciau rhyfedd naturyn yr oesau gynt • Yn yr unigrwydd yma trigai lwytha Fedwyn: buont llafurus a. diwyd i lunio rhwng ceseiliau vi creigiau erddi gwiuwydd, a pfoer- llannau ffigys, ac edrychant yn hardd rhyfeddol rhwng esgyrn moelion creigiau y mynyddoedd. 0 ben y mynyddoedd yma y mae golwg teg, gwelir llain hir, llydan, o'r Mor Marw gloyw glan, a llain o'r Iorddonen falch ei hymchwydd a ymgladda ym mynwes y mor rhyfedd yma, ac yn gweu rhwng y mynyddoedd yr hen ffordd droell- iog llwydwyn o Jerusalem i Jer- icho, a rhwng copa dau fynydd, i gyfeiriad y Mor Marw, gwelir cor- on crwn Mosque y Moslem; tu draw i'r llain o'r mor a'r Iorddonen gwelir gadwen hir, foel, serth, mynyddoedd tir Moab, a'u hafnau, a'u ceunentydd, a'u disgynfeydd erch-llwyd-melynion ydynt o dan wres tanbaid haul y dydd, ond yng ngwyll y bore a'r hwyr glas-loyw hardd ydynt. Hefyd, oddiyma gwelir cynifei a phump ar hugain o bentrefi amrywiol eu maint, fel vn gorwedd yn dawel a diogel ar ben y bryniau a'r mynyddoedd, a'r cyfan yn atgoffa i ddyn eiriau yr lesu Dinas a osodir ar fryn nis gellir ei chuddio." Gwelir Ram- oth, Gilead, Bethel, Bethphage, pentref Mynydd yr Olewydd, ac eraill-y fath atgofion dyddorol a ddugrhain i feddwl dyn, a bar i ddyn droi yn ol i fyw yn y gorffen- nol; o ran hynny dyna ddylanwad yr holl wlad ar feddwl dyn, ei droi yn ol i oesy Testament Newydd, a thros y clawdd i hen oesau yr Hen Destament,-mae popeth mor ddu, popeth mor ddigyfnewid, bywyd bron yma yn ei arddull cynteflg, heb ei gyffwrdd gan chwildroadau mawr yr oesau diweddaf. Y gorff- ennpl deimlir, welir, ac a glywir yn llefaru ymhob man. A lie mae'r oes newydd wedi ceisio ym- wthio i mewn, y mae fel pe allan o'i le, y mae fel pe allan o gyng- hanedd ac anianawd popeth yma. Y peth digrifa o bopeth yw gweld rhai o'r brodorion yn ceisio pigo i fyny y ffasiwn mewn dillad mae y got a'r wasgod a'r llodrau fel pe yn cyfarth ar eu gilydd, ac fel pe wedi eu hieuo yn hollol anghyd- maru. A rhai o'r brodorion wedi troi i wisgo esgidiau trwm, a cherddent mor afrosgo a phetai par o gychod wedi eti tragi wrtheu traed. ond alu gwrthban amryliw ar eu pen, a'u diwyg o lenni am- ryliw am y corff, a'u lloprynnau ysgafn esmwyth, symudant mor hoyw a llednais a'r ewig ary creigiau. I mi rhai o'r adeiladau mwyaf hardd amawreddog eu dylanwad ar y meddwl yw eiddo > Moslem, megis Mosque Omar, ac Aksa. Y mae y rhai hyn a'u coronau en fawr llurtiaidd hardd, a'u colofnau godidog, «'u haddurnwaith, eto syml oddimewn yw ffurf yr addol- iad tra mae tetnlau- y Cristionog- ion yn llawn o'r cywreinrwydd mwyaf plentynaidd ar un llaw, yn gymysg a gwaith cvwrain a chel- fydd. Cymerwn ddwy engraifft y deml fach godwyd ar y fan lie yr honnir y claddwyd Mair, mam yr Jesu. Awn i lawr lu o risiau, cyr- haeddwn y gwaelod, yno mae nifer o allorau wedi eu llunio o fafmor amryliw, a rhesi ar resi o gan- wyllau lliwiog, a channoedd o lusernau bach celfydd, cywrain, drud, a phethau eraill rhad, di- addurn, fel pe wedi eu prynu mewn ffair yn y wlad; y, lie yn fudr, a'r arogidarth y peth mwyaf anymunol i ffroenau dyn mor an. hebyg, meddwn, i symylrwydd dwyfol ddynol popeth bywyd yr Iesu. I mi byddai ceisio addoli ynofel ceisio addoli yng nghanol rhwysg rhad ffansiol ambell i arddanghosfa bwystfilod acw. Cymerwn eto yr Eglw) s godwyd ar y fan lie yr honnir y croeshoel- iwyd ac y claddwyd yr Iesu. Y mae yma lu o ystafelloedd neu gysegrfeydd, ag allor ymhob un i gynrychioli gwahanol Iwythau Cristionogaeth yr Armeniaid, Syriaid. Coptiaid, Armeniaid, Groegiaid, Abysiniaid a'r Lladin, i iaid-pob un ei le ei hun. Y fath gweryl a chydymgais fu am y fan lie yr honnir y croeshoeliwyd yr Iesu ac y claddwyd Ef. Yn wir, i mi mae cymaint o rodres a rhwysg rhad o gylch bopeth gwelir llestri gwydr a blodau ffug o'u mewn ar yr allorau, pethau rhad fel y gwerthir gan ambell i Cheap Jack ac mae eisiau pres i weld popeth. I mi y llecyn creigiog tuallan i byrth y Ddinas, rhywle gyferbyn a phorth Damascus, yw y fan a'm terry fel y man y croeshoeliwyd Ef. Gosodir cymaint o bwys ar allan- olion crefydd ymhob man fel y teimlais droion y gellid dyweyd eto, Pan welodd Efe y ddinas Efe a wylodd drosti." Lie godidog yw hwn i'r gwr defodol a seremoniol, caiff lond ei gol o hono. Er hyany, mae rhyw swyn yn y Ddinas, a phopeth y Ddinas mae yma lu o wyr y rhwysg a'r rhodres, addolir o fore hyd hwyr; ond teimlwn pan mae addoliad yn tlodi y byd o ddefnyddioldeb dyn a'i wasaaneth, ei bod yn colli yn ei diben, ac yn hollol anymarferol. Ond am Jerusalem y mae swyn rhyfedd ynddi, Dymunwch hedd- wch Jerusalem, llwydded y rhai a'th hoffant' Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd." Lie byn- nag yr awn, i ba ba le bynnag yr edrychwn, gwelwn y Ddinas; ar doriad gwawr y bore, gwelwn hi yn ei llwydni mawreddog, yn y dydd disgleiria o dan dywyniad tanbaid yr haul, yn y gwyll, alr haul yn cilio i'w orwel ar ol taith y dydd, gwelir ei thyrrau a'i phin- aclau yn disgleirio'n arianaidd o bob cyfeiriad. Mae Jerusalem ar Jerusalem yn y ddinas—Jerusalem newydd droion wedi ei dodi ar yr hen.. Y fath ffydd fedd rhai ynddi hyd heddyw, fel y deuant o bob cwr, drwy lafur a lludded, a thrwy gal edi iawer iddi, gan y tybiant fod by wyd tragwyddol yn hyn. Adroddir un hanesyn digrif am hyn. Dywedir fod rhyw deulu yn yr Amebic yn credu fod diwedd y byd ynymyl, tacmaetr unig fan diogel i'r farn y dydd hwnnw oedd y Ddinas Sanctaidd, croesodd y teulu y moroedd ar frys mewn pryder rhag eu goddiweddyd gan y diwedd cyn cyrraedd Jerusalem. Cyrhaeddasant, a thawel oeddynt eu meddwl wedyn. Disgwyliasent am y diwedd, ond dim arwydd o hono, a'r arian yn darfod, fel y tloisant i fasnachu; ac nid yw y diwedd eto. Modd bynnag, mae y Jerusalem nefol i ddod i galon y byd drwy dangnefedd y Gwr fu farw ac a gyfodwyd er ei mwyn. 0 Seion y daeth y fendith, ond nid erys yno lie bynnag mae dau neu dri wedi ymgasglu ynghyd, yno yr ydwyf yn y canol." Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F.
! NEWMNON WESLEAm H.u II J..Ii..I.'…
NEWMNON WESLEAm H.u II J..Ii..I.' U1.40 I1. In.}. | I ABERDYFI. Nos Wener, Ionawr 25ain, cafwyd I aDerchiad gan Mr R. Ffestin Williams,, Ysgolfeistr Ysgol y Gyngor, ar Athryl- ith." Daeth tyrfa fawr ynghyd, a gwyddai pawb y gellid disgwyl pebhau Ida. Gellid galw yr anerchiad yn dclar- lith, gan mor odidog ydoedd nid yn unig dyddori ei wrandawyr, ond yn wledd o radd uchel i'r meddwl. Rhodd. odd ddeffiniad galluog a chlir o athryiith, ac adroddai yn ddifyr am ddynion o athrylith, ac er dwyn i mewn amryw o bob gwlad, ni fu yn fyr o nodi Cymry fu, ag sydd, yn disgleirio ym myd athryiith. Teimlai pawb mai da iawn oedd bod yno." Siaradwyd ar y terfyn gan ein gweinidog lywyddai, a Mri E. L. Rowlands, TJ.H., Hugh Griffith, ac F. Jonas. Talwyd y diolch gwresocaf i Mr Williams am ein hanrydeddu a'i wasanaeth werthfa wrogir yn fawr gan bob enwad yn y lie. Cynhaliwyd yr wythnos bregethu eleni o nos Lun Ionawr 28ain hyd nos Wener, Chwef- laf. Gwasanaethwyd ni fel y canlyn:—nos Lun, Parch W. P. Rtberts, Aberdyfi; nos Fawrth, Parch T. Gwilym Roberts, Towyn a'r gweddill o'r nosweithiau gan y Parch Philip Price, Coedpoeth. Yr oedd disgwyliad am bethau mawr, ac ni cbawsom ain siomi. Yr oedd Mr Roberts, Towyn, yn pregethu yma y Sul blaenor- 101, a theimlai pawb fod yma rhyw don o ysbrydiaeth na theimlwyd mohono er y Diwygiad wedi dyfod dros, yr eglwys, oedd fel blaenbrawf o'r hyn allem ddisgwyl yn yr odfaon dilynol, ac felly y bu. Cafwyd odfaon grymus bob nos, ac yr oedd arddeliad Duw arnynt. Gan mai Mr Philip Price ydoedd y pregeth- wr-.neilituol," fe ganiata gweinidogion y gylchdaith i ni wneud cyfeiriadau ato ef yn bennaf heb mewn un modd eu bych- anu hwy. Yr oeddym yn edrych ymladn yn arw at ymweliad Mr Price, btt yn weinidog cymeradwy iawn yma tua ehwarter eanrif yn ol, ac yr oedd amryw atgoflon melus am yr adeg dda gafwyd dan ei weinidogaeth gref. At hyn naedda gyfeillion mynwesol yma, a gwyddom oil ei fod yn un o bregeth- wyr pennaf y pulpud Wesleaidd yng Nghymru. Yr oadd arddeliad ar ei bregethu grymus, ac mae yn amlwg ei fod yn wr yt; Haw Duw. Pregetha gyda nerth, yn amserol, ac yn alluog, ae yn ddiameu gellir edrych yn ol ar'yr wythnos fel wythnos nodedig. Er nad ymddanghosai Mr Price mor gryfedao y carem ei weled, mae yn dda gennym na fu i'w wendid luddiais ei nerth yn y pwlpud. Cafwyd tair o'r pregethau goreu ellid eu disgwyl ganddo, ae nid buan yr anghofia ei wrandawyr yr ysbryd ymba un y terfynodd ei gyfres, a bydd i'w anogaeth i ni fyw crefydd ac nid teimlo'n grefyddol," beri fod ein cyfrifoldeb am ein buchedd yn fwy ar ol ei ymweliad a ni. GOH.
Y RHAI A HUNASANT. I .. -…
Y RHAI A HUNASANT. I I k J CARNO. Gyda gofid mawr y clywsom am far- wolaeth sydyn y cyfaill, y brawd, a'r Cristion ymroddgar, Mr John Lewis, Glanrhyd," Carno. Claddwyd dydd Sadwrn diweddaf. Ceir manylion eto. Y GOL.
[No title]
No further action is proposed," ebai y Parch. Gwilym Davies, B:A., Abergaf- enni, fel diweddglo i hanes y gynhad- ledd" i gyfarfod yr Eglwysfwyr. Dywed mai i eo yr anfonodd gylch- lythyr, ac mai ei awdurdod dros ianfon oedd y Testament Newydd v f l1 Y mae Bedyddwyr Dwyrain Morgan- wg wedi derbyn Miss Gwyneth Richards fel ymgeiaydd am y weinidogaeth. Agraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan L. Davies, Swyddfa'r Gwyliedydd N-ew- ydd," Blaenau Ffestiniog.
BWRDD Y GOL. I
BWRDD Y GOL. I ALLAN o DDIFFYG GOPOD.—Tregaron; Oefn Mawr Treoroi; Caernarfon Llanfyllin; Llanfairoaereinisn Am- lwch; Cylohdaifch Llangollen Caer- gybi; Spring View; Aberystwyth; Llanasa; Penmacbno; Talsarnau. YR BIN MBSAF—Diwinyddiaeth Emyn- aa Williams, Pantyeelyn.
[No title]
Mae ynadon Pontypridd yn oeisio eael aydweitbrediad y tafarnwyr gyda lleihau nifer y tafarndai. Barn y faino yw fod gormod o dafarndai yn y cyloh, a gofynir i'r- perchenogion a'r tafarnwyr awgrymu cynllun i'w lleihau. Gohir- iwyd y llys trwyddedol er' cael adrodd- iad.