Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
t@J !jJj.1tQ.;-I COLWYN BAY.
t@J !jJj.1 Q. COLWYN BAY. I Yn yr adroddiad am farwolaeth Mr Robert Jones, Lerpwl, gynt o'r lie hwn, gwnaeth y gosodwyr y eamgymeriad cRnlYDol Gynt o Meirion Vaults" meddant; "gynt o Meirion Villa" ddylasai fodg Dio!cbaf os cywirwch hyn. GOH.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Dymuna Mrs Browne, Brynteg, a'r teulu, ac hefyd Mr a Mrs Richard Browne, Maestalaran, ddiolch yn gyn- nes i'r iiiaws cyfeillion, o bell ag agos, a'r eglwysi fu mor garedig yn anfon eu llytharau o gydymdeimlad yn yr am- gylchiad pruddaidd a'u goddiweddodd mor annisgwyliadwy. Mae y cydym- deimlad wedi bod yn gynorthwy mawr o dan y groes drom.
LLANFYLLIN.
LLANFYLLIN. Cbwith gennym gofnodi marwolaetb Mr E. Hawke Daw, B.A., B.Sc., Prif Atbro Ysgol y Sir, Llanfyllin. Ni bu yn wael ond ychydig ddyddiau, a bu farw Iocawr 17eg. Cymerwyd ei wedd- iilion marwol i'w gartret yng Nghernyw gyda'r tren cyntaf bore Llun dilynol. Darllenwyd ychydig adnodau wrth y ty gan y Parch L W. Davies, Rheithor Llanfyllin, a gweddiodd y Parch T. N. Roberts, a dilynwyd ei,elor gan dyrfa anferth o'r fry i ossaly rheilffordd. Nos Iau cynhalis^JI gwasanaetb goffa iddo yngj nghapel y Wesleaid, Llanfyllin, dan*>arweinrad y Pareh <GwilymtElvRoberts1j'asdycpwyd tystiol- aethau uchpl i'wj^meriad a'i all. gan Mr Robert Jones.^Londdiin^Hoase, Mr Davies, Goruchwyliwr London City and Midland Bank, a'r Parch 0. T. Davies, Llaofyllin. Mae ein colled yn fawr ar ei el. Roedd yn Weslead se10g a chyfrgnai yn hael tuag at: bob mudiad ynglyn a'r achos- Mwy na hynny 'roedd yn eycoer- iad pur ac yn Gristion gloyw. Nawdd yr Arglwydd a fyddo dros ei wpadw yn y dydd blin.
TREGARON.I
TREGARON. Ar y dydd gyntaf o Chwefror syrth- iodd un o famau goreu Israel ym mher- son Mrs Thomas Mae ei phriod (Mr Jonathan Thomas), yn un o leygwyr blaenaf ein Talaith, ac yn bregethwr cynorthwyol eymeradwy. Mae ei mhab (Parch E. D. Thomas) yn un o anwog- ion ein pwlpud. Pwy bynnag hefyd ddaeth i adnabyddiaeth a'n chwaer ymadewig nid anghofiai byth. Yr oedd yn perthyn i'r dosbarth a deitlau Wil Bryan'' yn "true to nature." Ni bu byw neb erioed a llai o weniaeth o'i chwmpas. Nid oedd ganddi ond un wyneb i bawb. Os mai ar yr opposi tion y byddai nid oedd neb yn fwy pendant. Ac fel ffrynd nidtoedd neb yn fwy ffyddlon ac ymlyngar. Nid oedd gwahaniaeth ganddi frathu gelyn ond rhoddai olew Uawenydd heb fesui a'r y cyfaill. Tu ol i lymder ei geiriau yr oedd meddwl gonest a chalon llawn carqdigrwydd. Yn wir yr oedd yn garedig hyd at aberth, yn enwedig i weision y Brenin Mawr. Yr oedd ei pharch a'i haeliem at weision Crist yo codi o'i pharch at Grist ei hun. Dolchwch iddo ef" oedd ei gair pan ddiolehid iddi am ei charedigrwyetd. Gair Duw oedd ei llyfr mawr, acymhyf- rydai son am dano. Yn wir nid oedd gwerth mewn unrhyw lyfr iddi os na ddaliai gysylltiad a'r Gair hwn. Yr oedd ganddigof gafaelgar, ond troiai y cwfelo gwmpas LIyfr y llylrau, Un o i gofidiau mwyaf yn y blynyddoedd diweddaf y bu byw oedd bod y eof weii pallu. Dengys y gofid ei kod yn darllen nid er mwyn darllen, ond er mwyn cofio a gwneud defnydd wedyn o'r hyn a ddarllenai. Dywedwyd mai ei hoff lyfr oedd y Beibl, ei hoff fan oedd y cysegr, yn enwedig capel y Wesleaid yn y dref. Yr oedd cadw allwedd y ty wedi dod yn fath o anrhydedd ac eiddigedd yn ei golwg, Pe digwydd i anghof ei chadw rhywle arallgwelid yn fuan ei heisiau- Yr oedd cadw drws yn Nhy Dduw yn well ganddi hithau na thrigo ym njhalas annuwioldeb. Ei hoff rhan yn y .cysegr oedd y canu. Ac yr oedd ym medra canu. Yr oedd ganddi lais per- aidd a thrwythid ei chanu gan ysbryd mawl. Byddwn yn ei chofio am ei haelioni diball, ond bydd pleth ylcof yn drymach o gwmpas ei chanu swynol na dim arall. Ymgollai gymaint *yn y canu weithiau nes ei ail ganu drosodd a throsodd. Clywsom hefyd y byddai yn effeithiol iawn ar ei gliniau yn nhy yr Arglwydd. Wedi drachtio cymaint yn nyfroedd Duw, nid rhyfedd iddi farw mor dawel a thangnefeddus. Yn nydd y datod danghosodd y meddwl pur, gonest, a'r galon dduwiolfrydig ei hun yn y geiriau—" Nid oes arnaf ofn marw," Byw i mi yw Crist a marw sydd elw." Bydd arnom hiraeth ar ei hol, ond gorfoddelwn wrth ystyried Nid oes i angau golyn mwy All roddi i dduwioldeb glwy." Nodded Duwei phriod unig, a'i phlant hiraethlawn, a'i ffrindiau galarus hyd ddydd y codi, pryd cawn gwrdd heb ymadael mwy. Claddwyd ei gweddillion lmrwol dydd Mercber canlynol yng nghladdfa yr Methodistiaii Calfinaidd, Er mor arw yr hin daeth tyrfa liosog ynghyd. Cymerwyd rhan gan y Parchu D. James (A.), Llanybyther; D. L. Jones, Aber- aeron; Thomas Morris, Pontrhyd- ygroes Dan Jones (M.C), Tregaron; a J. Wesley Morgan. Nos Sul caulynol pregethwyd pregeth angladdol gan y. Parch J. Wesley Morgan ar y geiriau-" Canys hi a weithiodd weitbred dda arnaf. Daeth cynulleidfa anrhydeddms ynghyd. Ar- weiniwyd y canu gan Mr D. Thomas, a chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Mary Thomas- >, t J. M. W.
f CWM PENMACHNO. -1
f CWM PENMACHNO. -1 Gyda dwystery cofnodir am farwol- aeth a chladdedigaeth y diweddar Mrs Mary Edwards, aianwyl briod Mr Rd. Vaughan Edwards, Blaenycwm, Pen machno. Bu hi farw ar ddydd yr Arglwydd, Ianawr 27ain, 1918, yn El oalwydd oed, a cWaddwyd ei gweddill- ion ar y ddydd Mawrth dilynol, ym mynwent Bglwys Ponmachno, gan dyrfar liosog, a galarus- Gwasanaethwyd, mewn medd effeithiol, yn ei hangladd gan Mr Humphrey Robertsf Cwm Machno, a'r Parch 0. G. Pritchard, Capel Garmon. Yr oedd Mrs M. Edwards yn enedigol o Colwyn. Cafodd ddygiad i fyuy rhagorol. Cyn priodi yr oedd yn Ysgolfeistres yn Ysgol Colwyn, ac yn aeled selog gyda'r Bedyddwyr., Ar ol priodi ymuoodd gyda'r Wes'eiid yn Shiloh, Cwm Machno, lie yr oedd ei phriod yn arweiqydd y gan. Yn ystod ymdaith y blynyddoedd bu yn ehwaer rhagorol, gyda boneddigeidd- rwydd, lledpeisrwydd-, a charedigrwydd yn amlwg, yn nodweddiadol o honni. Yr oedd yn gymydoges hynod o ddymunol; ac yn wraig, ac yn fam ddelfrydol (ideal) Yn ei dyddiau olaf adroddai, yn fynycb, y geiriau, Nid eich meddyliau chwi yw fy meddyliau i; ac nid eich ff yrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd." Gadawodd ar ei hoi briod hiraethus, a pbump o blant galarus. Erys Nathaniel Vaughan, y mab hynaf, yn Senghenydd. yn y De; yr oedd Kate BlIen, y ferch hynaf, yn aros gyda'r .Parch a Mrs Daniel Wil- liams, yn Aberffraw, Sir Fon; y mae Gwilym Andrew, yn y rhyfel yn Ffrainc; Olwen yn Llandadno a Bleddyn Lloyd yn yr Ysgol, ac adref. Danghoswyd cydymdeimlad dwfn, a chyffredinol gyda Mr Edwards, a'r teulu oil yn eu profed- igaeth; ac ar y nos Sul canlynol i angladd Mrs Edwards, dywedwyd geiriau caredig am: dani yn y Seiat yn eglwys Shiloh a chododd y gynulleidfa ar ei thraed i ddankos ei chydymdeim- lad gyda'r teulu ao anfonodd Eglwys y Wesleaid, Aberffraw, i hysbysu ei bod yn o-ydymdeîmlo gyda Miss K. E. Edwards a'r teulu. Hefyd derbyniodd Mr Edwards a'r teulu amryw o lythyrau cysurlawn. Claddwyd gweddillion Mrs Edwards yn Erw Duw," ae erys ei choffadwriaeth yn berarogl Gwarch- oded angel hedd ei llwch, a chaued yr Arglwydd yr adwy ar ei hoi. G. M.
CARNO. J
CARNO. J Tarawyd peatref Carao a syndod pan t glywyd am farwolaeth sydyn Mr John j Lewis, "Glanrhyd." Llai na deng I naunud cyn hynny yr oedd yn darllen ei lythyrau, ond dywedodd wrth ei ferch fod ei anadl yn fyr. Dyna'r cwbl, ac ehedodd ei ysbryd. Yr oedd yn ei wely er's wythnos yn dioddef oddiwrth blood poison," ond credai ei fod yn gwella, ac hyderai godi yn fuan. Ond dydd Mercher diweddaf, Chwef. 13eg, cyn naw o'r gloch y bore, gadawodd y fuchedd hon. Colled fawr i bentref Carno, i'r Eglwys Wesleaidd yno, ac yn arbennig i'r teulu yng Nglanrhyd yw symudiad Mr Lewis. Yr oedd yn adnabyddus i gylch mawr iawn trwy Gymru, ac yn boblogaidd. Wrth ddilyn ei alwedigaeth fel porthmon teithiau filltiroedd lawer bob wythnos i'r gwahanol ffeiriau. Meddai ar natur dynai pawb i'w hoffi yn fuan. Yr oedd bob amser yn siiioi, ac yr oedd ei garedigrwydd yn ddiarhebol. Llu mawr o weinidogien a phregethwyr cynorthwyol sydd wedi cael croesaw calon yng Nglanrhyd ar hyd y blynydd- au. Parchai weicidogion fel gweision y Gpruchaf, ac yr oedd yn wir gyfaill i weinidog. Yr oedd ei sel dros yr aehos yng Ngharno yn fawr, a throai bob carreg i gyrraedd ei amcan os credai fod hynny er lies yr achos. Gweithiodd yn- egniol, rhoddodd ei oreu er mwyn ackos Crist yng Ngbarno. Yr oedd ei ddylanwad yn fawr ar y plant. Uncle John byddai plant yr ardal yn ei alw, ac ystyrlent ef yn gyfaill cywir iddynt Mawr iawn oedd ei ddyddordeb yn yr Ysgol Sul a chyfarfodydd plant. Bydd ei le yn wag ryfeddol yn y ty, ac yn yr ardal ac yn yr eglwys. Dydd Sadwrn, Chwef. 16eg, daeth tyrfa fawr o bobl ynghyd i dalu pareh i'w goffadwriaeth yn yr angladd. Ni welwyd y fath dyrfa yng Ngharno u's blynyddau lawer. Dangossn hyn fod Mr Lewis nill yn unig yn adnabyddus ond yn barehus yn y gymdogaeth a chymdogaethau cyfagos. Cymerwyd rhao ya y ty gan y Parchn. W. T. Ellis (Llanidloes), a H. R. Owen (Trefeglwys). Yna awd i'r oapel. Arweiniwyd y gwasanaeth yno gan Weinidog Caersws, a siaradwyd gas y Parehn. B. W. Jones, MaohyvXeth Bedford Roberts, Ystunafcuen; J. Wil- liams, B.A, Carno (M.C.); a Mr Wil- liam Lewis, Machynlleth. Ar Ian y bedd cymerwyd rhan gab. y Parehn. Rt. Lewis, ac A C. Pearce, a J Hopkin Morgan. Bygwyd tystiolaeth uchei gan bawb o'r brodyr uched i weithgarwch ae i garedigrwydd ac i gymeriad da ein cyfaill annwyl John Lewis. Mae ein cydymdeimlad yn fawr a'r teulw yn eu galar. Gadawodd briod a phump o blant i alaru eu colled ar ol priod tyner a thad caredig a gof alus. Mae un o'r meibion yn Canada, ac un wedi gorfod ymuno a'r fyddin ychydig amser yn ol. Nawdd y Gor uchaf fyddo drostynt oil yn eu dydd blin. Nos Sul, Chwef. 17eg, daeth tyirfa ynghyd i'r wasanaeth goffadwriaethol yng Ngharno, pryd y pregethwyd gan ysgrifennydd y nodiadau dyn. Chwareu- wyd y Dead March in Saul gan Miss Frances Manuel, tra y safai y gynull- eidfa fawr ar ei traed. Cafwyd wasan- aeth ddwys. J. H. M. I
EBENEZER, BAGILLT. I
EBENEZER, BAGILLT. I Nos Sadwn, Chwefror gled, hunodd Mr Thomas Williams, New Brighton, Bagillt, wedi cystudd maith a ehaled. Tua thair blynedd yn ol^yfarfu a dam- wain a faluriodd ei droed; ni welwyd byth y dyn heinyf a kardd hwn yr un fath byth er hynny. Er gwaethaf ymdrech meddyg, a cheraint dioddefai yn fawr, a chiliai ei nerth, nes diffodd o'r fflam yn y dyffryn. Claddwyd ym mynwent gyhoeddus Bagillt, y dydd Iau dilynol. Gweinyddwyd wrth y ty ac yn y fynwent gan y Parch D. Meurig Jones, yng ngwydd dorf oedd mewn hiraeth am gar a chymydog boff a mawr ei barch. Dyddanwch yr Efengyl a gynnal y weddw a'r teulu yn eu galar. GlOB. I
CEFN MAWR. I
CEFN MAWR. I Teilwng iawn yw cofnodi marwolaeth brawd a chwaer ffyddlon iawn,—Mr William Jones, gynt Trevor Mill, yr olaf, mi gredaf, o golofnau fu yn oynnal yr achog yu Eglwys Jubilee. Bu ef a'i ddiweddar chwaer Mrs Bennett yn eithriadol yn eu ffyddlondeb- Ameuth- un fuasai adrodd hanes yr rhai hyn, ond gwell ymatal. Cafodd ein brawd angladd barchus. Rhoddwyd ei wedd- illion marwol i orwedd ym mynwent Froncysyllte; a'i enaid anfarwol sydd heb amheuaeth wedi cael helaeth fyn- ediad i mewn i'r baradwys. Y chwaer Mary Owens.—Bu hithau farw yn dra sydyn. Wedi ymuno ag egl wys Gorffwysfa, nid oedd pall ar ffyddloudeb y chwaer. Distaw ac encil- iol ydoedd yn ei nodwedd, ond beunydd yn barod i estyn ei chymorth hael i'r achos. Bydd colled fawr ar ol y chwaer. Cynhaliwyd cyfarfod coffa i'r ddau Gristion gonest, a phregethwyd gan y Parch J. Smith. Chwareuwyd y Dead March ar y diwedd. I GOH.
I LLANSILIN.
I LLANSILIN. Gofidiwn yn fawr orfod hysbysu am farwolaeth Leonard, annwyl blentyn Mr a Mrs Morris, Tynewydd, Llansilin. Byr, ond nid ysgafn, gystudd fu ei eiddo ef. Dioddefodd yn galed am wythnos oddiwrth y pueumonia ac er pob gofal meddygol syrthiodd i'r angau am bedwar o'r gloek fore Llun, Chwef. 4ydd, 1918, cyn cyrraedd ei chweched fiwyddyn. Blodeuyn y teulu oedd Leonard-y plentyn ieuengaf-yn gwasgar sirioldeb, prydferthweb, a pherarogl i fywyd pawb o'i gwapu. Yr oedd yn eilum pawb a'i hadwaenai. Y mae ei le yn wag iawn ar yr aelwyd, a'r hiraotla yn angherddol ar ei ol. Gorachwyliaeth lem oedd ei ddiwreiddio o fynwes y teulu. Fe erys y briw tra y byddont ar y llawr; ond y mae ef wedi ei drawsblannu i Fynwes Duw ei Hun, lie y ea ei burdeb a'i ddiniweidrwydd plentynaidd .bob mantais i ymagor a datblygu i ddelw'r Nei ei hun. Dodwyd ei gorff bach yn y bedd ddydd Iau, Chwefror tfed, gydag arwyddion o alar mawr. Gwas- anaethwyd wrth y by, ae yn y capel, ao ar laia y bedd, gas y Parehn E. Tegla Davies, Evan Roberts, Richard Owen, a Llewelyn KeadrUk. Dpeth tyrfa fawr i'r capel, ae at y bedd, i ddatgan eu eydymdeimlad a'r teulu yn eu profedig- aeth. Derbyaiwyd pymtheg o flodau- dorcbau, a llawer o lythyrau, gan berth- ynasau a chyfeillion. Derbynied yr oil ddioIchgarwch diffuant y teulu am eu caredigrwydd a'u eydymdeimlad. Bydded i Ddaw fod yn gysgod ac yn gysur iddynt yn eu galar a' u hiraeth.
ii CYLCHDAITH TREORCI.
ii CYLCHDAITH TREORCI. Cynhaliwyd Cyfarfod Undebol YagoI. ion, Chwef. 10, yn Treorci. Llywydd, Mr J. Edwards, Treorci. Dechreuwyd cyfarfod y bore gan Mr Evan Davies,. Ton Pentre; adroddwyd Salm gan Eleanor Jones. Holwyd o'r bedwaredd adnod ymlaen o'r Epistol at Philemon gan Mr J. Morgan, Treorci, cyfarfod bywiog. Prydnawn, cyfarfod y plant: Decbreuwyd gan Mr Lloyd Parry, Graig, adroddwyd Salm gan Jenny Williams -y wedi hynuy awd ymlaen a'r rhaglen:- Adroddiadau gan Winnie J. Richards, Annie M. Evans, Olwen Jones, Morgan O. Howells, Lilian Thomas,. Maggie J. Howells, Megan Jenkins, a- Maglona Edwards- Canwyd gan Mai Williams a Nancy Davies, Ieuan Davies, Lilian Chapman, Alwyn Edwards, Rd. J. Howells, Leslie Edwards, Leonard Edwards, Johnny Lewis, Gwennie Jenkins, Olwen Davies a Griffith J. Rowlands. Dwy don gan y plant, a thon gan dosbarth Miss M. Jones. Holwyd y plant yn yr Hyfforddydd a Safon IV. gan Mr Davies, a chan Mr M. Howells, Safon III., V., a'r Allwedd. Cawsom anereh- iad pwrpasol gan Mr R. Jones, Clydac-h, Vale, i'r plant. Yn yr hwyr cyfarfod areithio, Dech- reuwyd gan Mr R. Jones, Clydach Yale, ac adroddwyd rhan o bennod gap Maggie Howells. Areithiwyd gan Mri J. T. Evans, Treherbert, Evan Davies,. Ton Pentre, ac anerchiad gan Mr Lloyd Parry, Graig. Adroddiadau gan Mri D. W. Beynon a Lewis Edwards. Canwyd gan Misses L A. Parry, M. R Jones a Mri Lewis Edwards a D. W. Beynon. Cawsom gyfarfod da. YSG.