Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

0 GAERWXS I FFRAINC. "

LLYTHYR O GANAAN.-I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR O GANAAN. I Annwyl Mr Jones, Y niae amser maith er pan ys- grifenais air atoch o'r blaen o Salonica yr amser hwnnw. Mae'n debyg eich bod yn rhyfeddu clyw- ed fymodyn y wlad hon. Bum yng ngwlad yr Aiff t am gyfnod, a chefais hamddepi vno i weled llaw- er o henafiaethau y wlad gwelais fod y cyfan bron yn hynod debyg i'r hanes yn yr Hen Lyfr. Ni freu- ddwydiais erioed y buasai yr hen emyn hwnnw yn dod yn brofiad byw i mi: 44 Gosod pabell yng ngwlad Gosen." Bum yn pabellu yn y wlad honno am beth amser byddwn yn meddwl llawer am yr hen hanes pan oeddwn yno. Yr wyf wedi gadael Ty y Caeth- iwed ers peth amser bellacb. Mae gennyf erbyn hyn brofiad o fywyd y diffaethwch: gwn beth ydyw teithio tywod poeth yr anialwch, ac am angen dwfr i'w yfed. Mae yn arferiad yn y dwyrain yma i olchi traed y teithwyr, ond teim lais lawer adeg y buaswn yn ddiolchgar o galon am ddafn o ddwfr i'w yfed heb son am olchi'm traed. Nid rhyfedd i'r hen genedl rwgnach pan yn croesi, pan yn aros mor hir mewn lie mor anial. Diolch onide na fu raid i ni aros cyhyd. Erbyn hyn yr wyf ymhell yng Ngwlad yr Addewid. Yr ydym wedi bod mewn brwydrau celyd yn y rhannau hyn o'r wlad, ac wedi gallu ymlid y gelyn o'n blaen. Yr ydych yn darllen llawer o'n hanes yn y newyddiaduron mae'n debyg. Erbyn hyn yr wyf yn teithio yr ardal a'r lleoedd y bu ein Gwared- wr mawr yn eu Ilwybro. Yr wyf yn awr yn agos i'r fan lie bu yr Iesu yn treulio ei oriau olaf yn ein byd ni. Mae'n bleser gennyf anfon ychydig flodau i chwi, sydd wedi tyfu o'r tir sangodd traed yr 16su arno. Cofiwch fi yn garedig at yr oil o'm hen gyfeillion yn yr eglwys yna. Mae gennyf atgofion melus am eu geiriau caredig, ac am eu croesaw cynnes pan oeddwn yna gyda chwi. Hyderaf eich bod chwi a'r teulu oil yn iach. Cofion lawer. Eich cywir, Cpl. HUGHIE HUGHES, 81896, R.A.M.C., 68th Brigade, R.F.A., E. E. Force (Gynt o Cricieth). Llythyr Mr Ellis Lewis, y Cwm, Penmachno, at ei frawd:— Palestine, Rhagfyr 23, 1917. Annwyl Fra vd, Dyma gyfle i anfon gair atat gan obeithio dy fod yn parhau mewn iechyd, fel yr wyf finnau mewn iechyd a hwyl yng nghanol rhyf- eddod a syndod. Nid yw y cyf* leustra i anfon gair wedi bod yn fanteisiol gan fy mod ar daith, ond ceisiais anfon gair gaitref pan oeddwn yn Hebron, ac yn awr yn Jeruaslem. Deuais drwy Bethle- hem, a gelli feddwl maint fy mwyn- had wrth wylio yn fanwl am yr hyn sydd wedi anfarwoli Bethlehem- mangre genedigaeth Gwaredwr y byd, a syrthiodd fy llygaid ar y fangre lie ganwyd Ef, gan fod ar- benigrwydd neilltuol ar y fan- adeilad, a'i harddwch yn rhyfedd- od, a Statute o Iesu Grist uwchben yr adeilad-golygfa anfarwol. Nis gallaf fynegu iti faint fy nheim- ladan wrth'fynd heibio'r lie, a hynny ddydd Gwener o flaen y Nadolig. Wel, ymlaen yr oeddym yn ym- deithio, ac wedi cerdded pedair milltir, dyma y Ddinas Sanctaidd i'r golwg, ac with fynd yn nes yr oedd fy llygaid yn perlio gan faint gogoniant anesgrifiol y Ddinas. Y peth cyntaf ganfyddais yn ymyl y Ddinas oedd 44 Y. Bryn" bychan Calfaria—Golgotha. Yma eto yr oedd arbenigrwydd gyda'r adeilad hardd, a'r Groes yn amlwg. Wel, rhaid i mi ddweyd mai teimladau trwm iawn oedd yn fy meddiannu, a cholli deigryn distaw wrth fedd- wL a chofio am y dydd Gwener bythgofiadwy hwnnw, a ninnau yn mynd heibio ddydd Gwener cyn y Nadolig. Wel, ymlaen yr oeddym yn mynd, a chael fy hunan mewn rhan o'r Ddinas, a dyma orffwys ar < y daith. Ofy mlaen yr oedd hen adeilad mawr a chadarn, a holais yn ei gylch, a beth oedd ond y fan tie r oedd Crist o flaen Pilat. Ym- laen eto drwy'r Ddinas, a gweled arnryw fasnachdai Seisnig, un yn dwyn yr enw London House. Dyma'r adeiladau harddaf a mwy- af a welodd fy llygaid, wedi eu hadeiladu a cherrig arlli w goch, a gwynion, a'r rhan fwyaf wedi eu toi a tiles cochion y tyrrau yn uchel a rhifedi mawr o honynt, y "temlau" yn ami, a phob rhyw fath o adeiladau hen a diweddar. Yr oedd y trigolion mewn liawen- ydd yn derbyn y Prydeiniaid i mewn. Y mae dros gan' mil o bobl yn y ddinas,—hawddgwybod hynny, gan ei bod yn fawr anferth. Wel dyma fi yn cael fy hunan i lawr ar fryn tu allan iddi, a chael golwg gyffredinol arni, ac o fewn ychydig latheni imi dyma fryn arall anfarwol, sef Mynydd yr Olewydd, ac ar ei gopa mae adeil- adau a thyrrau, yn goffadwriaeth. Wrth droed yr Olewydd gwelir mangre beddrod yr lesu-" Y Bedd Gwag." Diolch am hynny, y mae wedi ei amgylchynu a mur uchel, gydag adeilad hardd H thwr, a'r rhan uchaf i'r twr wedi ei oreuro ac aur, a phan mae'r Tiaul yn gwenu arno mae ei ysblander yn ogonedd- us, ac yn deilwng o goffadwriaeth lie bu Awdwr Bywyd am drid- iau ym medd newydd Joseff. Wrth edrych ymhellaeh gwelir Gethse- mane, ac wrth edrych arni pwy all beidio coflo am y gweddio yn ddy- falach tra'r disgyblion yn cysgu; pwy allbeidio cofio am y chwys; pwy all beidfo cofio y bradychu y milwyr a'i lanternau; ac wrth gofio, ceisiais ganu, Wrth gofio ruddfanau yr ardd," ac yn awr yn wir yr oedd y galon yn toddi. Daeth cysgodion yr hwyr, a rhaid oedd darparu lie i orwedd tros y nos, ar ol diwrnod caled a thaith bell, a'r ffordd yn drom, a'r diwrnod yn wlyb iawn. Rhaid ceisio cysgu a'r dillad yn wlyb, a chysga.s yn swn clychau y Ddinas Sanctaidd, ond yn deffro yn ami a gwrandaw ar y gwahanol awrleisiau yn taro, Wel, nis gallaf ddisgrifio y dylan- wad yr oedd hyn yn gael arnaf. Trannoeth dyma ail gychwyn i daith, gan adael Jerusalem, ac yn falch o fod wedi cael myned drwy- ddi a chael cipolwg arni, ac yn dis- gwyl cael dod yn ol i gael hamdden i fyned o gwmpas. Dyma fi yn awr yn ymyl Ramah yn ysgrifennu hwn, a'r peth goreu yw tewi, gan syllu ar y Mor Marw," caf ham- dden i anfon gair eto. Nid yw hyn ond rhan fechan iawn o'r hanes, a'r rhyfeddod, a'r syndod; bydd gennyf lawer mwy i'w ddweyd pan ddof gartref, a chael ei ddweyd mewn rhyddid. Diolch lawer am y llythyrau cyson sydd yn dod oddiwrthych i gyd, Cefais lythyr gan y Parch. Wm. J. Roberts, ac yn falch iawn o honno. Ar hyn 'rwyf yn terfynu gan ddweyd fod D. M., a Lloyd gyda mi mewn iechyd iawn. Cofion atoch fel teulu, a phawb yn y Owm. Yr Eiddot, Dy frawd, ELLIS.

TALSARNAU.