Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Diwinyddiaeth Emynau Williams,…

Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GWRTHWYNEBYDD CYD- WYBODOL. Annwyl Mr. Gol.,— Diolch i R. 0. Pritchard am ei eiriau ciredig am fy llythyr ar y pwoc uchod. Erys fy mhrif osodiad, sef anghysendeb y G.O. pan yn dymuno pleidlais, heb ei gyffwrdd. Cura R.C.P. oddeutu'r berth gan ddywedyd fod y Llywodraeth wedi newid ei bolisi o dan ddylanwad militar- iaeth, acmai cyfleus yn hanes pob gwlad yw son am gyfiawnder a rhyddid ar adeg o ryfel. Hawdd gwneuthur gosojiadau fel hyn hob brofi dim. Dywed mai feilua aur yw polisi os ymddengys y term polisi tipyn yn chwerthinllyd,. bydded inni chwerthin am ei ben, ond rhaid ei ddefnyddio yn niffyg un gwell. Defnyddia R.C.P. ef gynnifer o woitbiau a minnau i'w bwr- pas ei hun. Beth yw polisi ond argy- hoeddiad wedi cymeryd ffurff;-barn mewn gweithrediad ? Cyfatebiaeth od," ebai, yw ,r un dynnaf cydrhwLg yr Wyddfa a'r Rhyfel. Ni fwriedais ddywedyd dim rhagor na bod y ddau'n ffaith. Plentyn amgylch- iadau yw'r naill a'r llall. Arferiaith yr Hea Destament yw dywedyd mai Duw greodd yr Wyddfa. I bob pwrpas, deddfau anian a'i ffurfiodd. Duw greodd y deddfau, ond y deddfau serch hynny greodd yr Wyddfa; Duw greodd ddyn, ond dyn serch hynny greodd y Rhyfel. Eto, dywed fod gennyf un heresi y dymuna bwysleisio ei geudeb, sef yr heresi fod holl ddeiliad y wladwriaeth i gefoogi polisi y wladwriaeth boed a fyddo." Bydded cyn garediced a chan- iatau imi ddywedyd mai prif bolisi'r wladwriaeth ddywedais, nid pob un. Osgo dyn tuag at bolisi neu symudiad mawr, tynghedfawr, a phellgyrhaoddol ei effeithiau, brawf beth yw dyn a beth