Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

SYMUDIAD BIN GWEINIDOGION.

IGWAHARDDIAD A PHRYNIANT.1--

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GWAHARDDIAD A PHRYN- IANT. Mr Gol., Oni allai pleidwyr selog Gwa- harddiad, a'r pleidwyr sy'n 'run mor selog dros Bryniant y Fasnach Feddwol-y ddwy blaid sy'n pleid- io yr hyn sy'n ymddangos i ni yn gwbl anymarferol ar hyn o bryd,— oni allent gytuno a'r egwyddor ac y mae pawb, i rhyw fesur, yn ddar- ostyngedig iddi ar hyn o bryd, sef, caniatau rations o ddiodydd i'r rhai ac y dywedir fod eu galwedigaeth- au yn ei gwneud yn angenrhaid iddynt. Dywedir ei bod felly i'r gweithwyr tdn a'r ffwrnes, ac i ddynion y llong-adeilfa. Caniatau hynny iddynt, ond gofalu mai rations o ddiod a gaiff hyd y nod y rhai hynny. Pe cytuna'r ddwy blaid uchod i ofyn i'r Llywodraeth am hyn, yn ystod y Rhyfel ac am chwe' mis ar ol hynny, nid wyf yn meddwl y gellid yn hawdd eu gwrthod, gan y cydnabyddir eisoes yr egwyddor gan y Llywodraeth ynglyn a'r bwydydd. Beth fyddai rhai o'r effeithiau? Ni fyddai'n bosibl i neb feddwi yn ystod y cyfnod hwn. Ni chawsai rhai miloedd o ddynion hi, sydd yn ei chael yn awr, oblegid na byddai dim yn eu galwedigaethau yn eu cyfreithloni, yng ngolwg y Llyw- odraeth, i'w chael hi. Byddai cael diod o gwbl yn amhosibl ar un- waith i holl ferched y Deyrnas— lawer o honynt yn awr yn gwario arian eu gwyr, sy'n y Rhyfel, i'r pwrpas o gael diod. Byddai llai o wastraffu ar ddefnyddiau ymborth y wlad. Diogelid cydweithrediad y gweithwyr hynny, ac y dywedir weithiau am danynt (hwyrach ar gam), fod yn rhaid iddynt gael diod neu ynte bydd iddynt streicio. Byddai gwneud elw ariannol en fawr, fel ar hyn o bryd, yn amhos ibl i noddwyr y Fasnach, a byddai gwell gobaith, a dweyd y lleiaf, am i'r wlad gael ei chadw rhag prinder a newyn. Wele'r ffigyrrau am elw tri chwmni o fragwyr cyn y rhyfel ac yn ystod y rhyfel 1913-14. 1917. ■ 1;c £ Allsopp I 68,100 ••• 239,700 Ind. Coope and Co. 94,200 204,700 Watney, Coomb, Reids 904,200 1,112,900 Yn ddiau, y gelyn a chwardd ac a ymgadarnhaln gyflym, tra yr ym ni yn dadleu a'n gilydd, a defnyddiau maeth a mêr y gen hedlaeth sy'n codi yn cacl ei was. traffu fel hyn ar allor Bachus! Pa hyd tybed ? Oni fyddai'n well i arweinwyr y pleidiau ddod at eu gilydd ar unwaith i ymgynghori ar y mater ? Rhoddais awgrym fel yr uchod yng Nghyfarfod Cyllidol Eglwys- bach, ond ni wnaed memor sylw o'r peth ond gwelaf yn awr fod Maine Ynadol Middlesborough yn awgrymu'r cynllun. Beth feddylia eich darllenwyr o honno ? Yr Eiddo.ch yn serchog, R. JONES WILLIAMS.

NODION 0 DDOLGELLAU.

Advertising

Safle Gweinidogion Wesleaidd…

I CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. I

Advertising

Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.'