Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

SYMUDIAD BIN GWEINIDOGION.

IGWAHARDDIAD A PHRYNIANT.1--

NODION 0 DDOLGELLAU.

Advertising

Safle Gweinidogion Wesleaidd…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Safle Gweinidogion Wesleaidd Cymreig ynglyn a Phryniant y Fasnach Feddwol. Mr Gol.,— 1 Da gennyf ddweyd nad oes angen imi gymryd llawer o'ch gofod y tro hwn, am y rheswm fod y Parch W. R. Roberts yn ei lytbyr olaf, fel yn ei lythyr blaen- orol, yn osgoi y pwnc sy mewn dadl rhyngom ar hyn o bryd. Ysgrifenna fel petai wedi llwyr anghofio beth ydyw hwnnw. Dyma ydyw :—Tua chwech wythnos yn ol, wedi iddo, fel Inquisi tor General, ofyn imi dii chwestiwn rhyfedd iawn, cyfeiriodd fy sylw at "sibrydion difrifol. Nid oedd yn sicr fy mod yn gwybod am danynt (" os na wyr," meddai). Ond yr oedd ef, wrth gwrs, yn gwybod, ac aeth ymlaen i ddweyd mai sibrydion" oeddynt ynghylch Cynhadleddau llechwraidd i newid Deddf Datgysylltiad a phasio Mesur Pryniant, a bod yr ysgelerderau hyn wedi eu "holrain" i Mr Lloyd George. Dywedais wrth ateb fod gen- nyf reswm da dros wrthod credu yn y stori cyn belled ag yr oedd a fynnai a Phryniant, ond gan ei fod ef yn credu ynddi dywedais y cymerwn ef ar ei air," a gofynnais am fanylion y stori neu ynte ei awdurdod dros ei lledaenu. Yn awr- 1. Gyda golwg ar yr hyn a ddywed yn rhan gyntaf ei lythyr diweddaf, os tybia imi wneuthur unrhyw gam ag ef wrth ddweyd fod y dyfyniad o'r Monthly Notes yn amherthynasol ac yn hollol gamarweiniol, gofynnaf iddo ar bob cyfrif gyhoeddi y paragraffau sy'n blaenori y dyfyniad, oblegid trwy hynny fe welir yn hollol eglur mai appeal Mr Lloyd George am gefnogiad i'w bolisi ydyw'r un y cyfeiria y dyfyniad ato, ac nad oes a fynno o gwbl a'r Cynhadleddau llechwraidd y ceisia'r sibrydion ddal Mr George yn gyfrifol am danynt. 2. Pwrpas ail ran y llythyr ydyw profi fod Mr George ya gyfrifol am bolisi Pryniant! Ond pwy feddylio-id am ddweyd dim yn wahanol. Yn enw synnwyr cyffredin gofynnaf i beth yr ymdrafferthodd Mr R. i ysgrifennu agos i hanner colofn i geisio profi'r hyn nad oes neb erioe 1, hyd y gwn, wedi ai ameu ? Y mai'r ffaith yn eithaf gwyb- yddus ers agos i dair blynedd. Cyfrifoldeb Mr Lloyd George am Gynhadleddau llechwraidd "—dyna'r stori sydd gan Mr R. i brofi ei geirwir- edd, a gwasgaf unwaith eto am iddo wneud hynny. Gall fynd ymlaen i ddweyd beth a fynno am danaf i yn bersonol, ond profed ei haeriad os gall. Nid wyf yn rhyfeddu dim nad ydyw hyd yn hyn wedi cael tal am y llathenni a ysgrifennodd i'r G.N. dan y pennawd uchod. (Gyda llaw, onid ydyw'n bryd iddo newid ei bennawd o dair llinell am un llai, oblegid y mae'r papur yn ddrud y dyddiau hyn, ac mae Safle Gweinid- ogion Wesleaidd," &c, wedi ei setlo ers tro). Ond os llwydda Mr Roberts i brofi (1) fod Cynhadledd Llandrindod (oedd wedi ei chynnal dri mis cyn iddo son am y "sibrydion '') yn Gynhad- ledd llechwraidd," a (2) mai Mr Lloyd George oedd yn gyfrifol am dani, pwy wyr na fydd i'r Cymdeithasau eyfoethog y sonia am danynt anfon tal iddo. So Try again. Yr Eiddoch, &c., Port Dinorwic. THOS. HUGHES. O.Y.—Priodol efallai ydyw chwanegu mai rhan o'r gwir yn unig a ddywed Mr Roberts am yr Athro Levi. oblegid wedi i'r Ysgrifennydd ddweyd wrth Mr Levi beth ydoedd busnes y Gyn- hadledd cafodd docyn i ddod iddi, a bu yno fel finnau yn dyst i'r ffaith nad oedd dim llechwraidd yng ngweithrediadau'r Gynhadledd honno o'r dechreu i'r diwedd.

I CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. I

Advertising

Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.'