Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

LLANFAIRCAEREINION. 'I

CYLCHDAITH LLANGOLLEN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH LLANGOLLEN. Cynhaliwyd y Cyfarfod Chwarterol y tro hwn yn Llangollen, nawn Iau, lonawr 3ydd,-y Parch Rhys Jones yn y gadair. Croesawyd Mr M. H. Roberts, Llangollen i'r cyfarfod am y tro cyntaf ar ol iddo ddod yn ol i fyw i'n plith. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r rhai canlyr)ol:-Miss Roberts, Rhewl, ar ol ei chwaer; Miss M. E. Hughes, Llangollen, mewn perthynas a'i brawd sydd yn Germani yn garchar- or rhyfel-Pte William Hughes, Glyn- dyfrdwy; John Williams, Llangollen, ar ol ei fab. Hefyd cydymdeimlwyd a meibion Mri M. H. Roberts, a C. H. Humphreys, Llangollen, y rbai sydd wedi bod trwy helyntion blin yn y fyddin. Darllenwyd a chadarnhawyd y cof- nodion diweddaf. Diolchwyd, ac ail-etholwyd Mr C. H. Humphreys yn Y sgrifennydd y Capeli; a Mr Robert Davies yn Y sgrifennydd y Cyfarfod ChwarteroL < Diolchwyd i Bregetbwyr Cycorth- wyol y Gylchdaith am eu gwasanaeth, a diolchwyd ac ail-etholwyd y ddau Circuit Stewards,—Mri J. W. Roberts ac E. R. Parry, Llangollen. Yn ol cais y Gynbadledd, ffurfiwyd yr After War Committee,"—dau frawd o Llangollen, ynghyd ac un o bob eglwys yn y Gylchdaith, ac fod Mr Robert Davies, Penrhiw, Glyndyfrdwy, i weithredu fel gohebydd. Pasiwyd fod y cyfarfod yn unfrydol (namyn un) yn protestio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn ceisio difreinio y Gwrchwynsbwyr Cydwybodol, ac anfonwyd copi o'r penderfyniad i'r Prif Weinidog, a Syr J Herbert Roberts. Gofynwyd i'r Parch Rhys Jones aros blwyddyn arail ar y Gylchdaith os bydd pethau yn parhau fel y maent. Hefyd cadarnhawyd gwahoddiad y Parch T. Gwiiym Roberts, Towyu, fel olynydd iddo. ROBERT DAVIES, YSG. I

IAMLWCH. I

CYLCHDAITH LLANASA. I

BETHEL, CAERGIBI. I

I- ABERYSTWYTH.I

SPRING VIEW. GER WIGAN.

MYNYDD SEION, TANYFRON.