Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GORE STREET, MANCEINION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GORE STREET, MANCEINION. Nos Lun, Chwef. 4, yny Gymdeitbas, cafwydanercbiad penigaoop gan Mr W. G. Jones ar Rbagluniaeth." Llywydd- wyd gan Mr John Williams. Cafwyd gwledd o'r fath oreu. Rhanodd Mr Jones y mater yn ddau, Cad vvriaeth Duw," a '"Llywodraeth Duw." Cawsom syniadau hynod o werthfawr ar y naill ben a'r Hall. Cymerwyd rhan yn yr ymddiddan gan y brodyr J. T. Ellis, Robert Jenkins, ac ysgrifennydd hyn o nodion. Yng Nghyfarfod Blynyddol yr Ym- ddiriedolwyr, Chwef. 10 a 11, buom ffortunus i sicrhau gwasanaeth werth- fawr y Parch E. Tegla Davies. Dailith- iodd nos Sadwrn ar y pwne "Llestri Pridd," o dan lywyddiaeth medrus Mr J. D. Owen, Openshaw,—gwr yn uchel iawn ei barch gan y gylchdaith yn gyff redinol yw y boneddwr yma, yn un o Oruchwylwyr y Gylchdaith, yn breg ethwr cynorthwyol, ac yn flaenor. Y mae yn weithiwr diwyd yn Winllan lesu Grist, ag at hvnny yn fasnachwr llwydd iannus- Gwnaeth sylwadau pwrpasol a doeth, a chyfannodd yn hael i'r drysorfa. Yr oedd y Darlithydd hefyd yn eihwyl- iau goreu, yn ddyddorol, yn hyawal, ac yn llefaru gyda dylanwad. Pregethodd Mr Davies ar hyd y Sabboth, achafwyd oedfaon da, a'r efengyl yn cael ei thradd- odi gyda newydd-deb, a nerth, ac yn dangos efrydiaeth jddwfn a manwl o'r materion a ddygwyd i'n sylw. Hyd erwn yr erys bendithion yr wyl eleni yn hir yn ein meddiant. Yn y Gymdeithas, nos Lun, Chwef. 12eg, o dan lywyddiaetb Mr Robert Jenkins cymerodd dadl le, Mr Simon Roberts yn dweyd y dylid troi y merch- ed allan o'i lleoedd ar derfyn y rhyfel er mwyn y bechgyn, a Miss Maggie Thomas yn ei wrthwynebu. Cafwyd anereh- iadau da i agor, a hwyl anarferol yn dilyn. Siaradwyd o blaid y merched gan y brodyr J. T. Ellis, a W. G. Jones hefyd Miss Maggie Jones, tra y cymer odd Mr John Williams a'ch gohebydd ochr y bechgyn. Y merched eniliodd y ddadl tr,w,y fwyafrif o un. Drwg gennym fel Cymdeithas ac fel Eglwys golli gwasanaeth ein harolygwr, Mr Felix, am ychydig wythnosaia oher wydd nychdod. Y mae yn cymeryd dyddordeb mawr yn ein cyfarfodydd, a 'does neb yn ffyddlonach. Da geanym glywod ei fod yn gwelia. I .1 PRYNES-

BALA.

J 'WEASTE.

I--LEIGH..

Advertising