Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Yr wyfchnos o'r blaen cynhaliwyd cyfarfod o'r Blaid Gymreig, pryd yr ail etholwyd Syr J. Herbert Roberts, Barwnig, yn gadeirydd. Dymunai Mr Eilis Davies a Mr Sidney Robinson, y rhai oeddynt wedi gweithredu fel Ysg- rifenyddion yn ystod y saith mlynedd diweddaf, gael ymddiswyddo. Penod- wyd Mr John Hinds yn Ysgrifennydd.
.FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Nos Sul, Chwefror 3ydd, daeth o'r diwedd y newydd trallodus fod Mrs M. A. Hughes, Peniel Terrace, priod y Cynghorydd Mr E. D. Hughes, wedi huno'n dawel yn yr Iesu, a hi yn 30aiu mlwydd oed. Gwraig ragorol oedd Mrs Hughes, a hyny ar lawer cyfrif. Hanai o ochr ei mham o hen deulu Bryngyf- eiliau, Capel Carig— teulu ac y mae hanes iddo ar gyfrif ei barchusrwydd a'i grefyddolder ac o ocbr ei thad o "hen deulu mwyaf parcbus y Llan, Nid rhy- fedd gan hynny ei bod yn bur fel y dur ac yn hollcl onest a ffyddlon ym mhob cylch ac y byddai'n troi ynddo. Rhaid oedd iddi gael gofaiu'n mlaenaf oil am y cartre, a byddai'r drws bob amset yn agored i groesawu pregethwyr y Gair ond gwnaeth lawer mewn cylchoedd eacgacb na hynny. Bu yn aelod defn- yddiol ar lawer o bwyllgorau megis y Prince of Wales," "Soldiers Com- forts," "Sewing Classes," &c., a thra parhaodd ei hiechyd Did oedd neb yn fwy ymroddol na hi. Yn y cylch eglwysig hefyd ymdrech- odd lawer yn arbenig gyda'r plant. Bu'n athrawes Ffvddlon arnvnt am flynyddoedd, a cbymerai ddyddordeb byw bob amser yn ei dosbarth. 'Rcedd hefyd ya hoft iawn o ganu a rhaid oedd estyn pob cynorthwy i berffeithio can- iadaeth y cysegr. Pan y byddai unrhyw symud;ad ar droed i gynorthwyo'r achos gellid dibynnu ar ei chydweithrediad calonog hi. Arferai fod yn ffyddlon i bob ymgymeriad, ac ni byddai unrhyw aberth yn ormod ganddi wneud er ei droi yn llwyddiant. Meddai ar brofiad crefyddol disglaer. Yn ei chystudd dywedai ei bod yn ymddiried yr oil i Iesu Grist. Ymbleserai mewn son am dano, a tbystiodd wrth ei phriod ei bod yn mynd, i b'le meddai yntau, It 0, at lesu Grist," meddai hithan yn hollol ddibetrus. Gyda phrudd hyfrydwch y bedydd- iwyd ai geneth fach anwyl Maggie Mary ar ddydd angladd ei mham, sef dydd Iau y 7fed, a hi eto ond prin wythnos oed. Daeth tyrfa fa.wr a pharohns i'r gladdedigaetb. GwasanaetLwyd wrthi y ty gan y Parehn R Jooea Williams ac R J Parry, Abermaw, aewrfch y bedd gan y Parcbn J B Roberts, ae R Jones Williams. Y dwthwn hwaaw rhodd- wyd i orffwys weddillion un o'r gwragedd mwyaf. unplyg a charedig ar a fagwyd erioed yn y fro.— Beth oedd marw iddi hi ? Rhoi ei phen ar fynwes Iesu Ac yn swn curiadau hon Aoghofio'i phoen a chysgu. Y mae cydymdr imlad ardal gyfan gyda Mr Hugbes a John Meirion y mab naw mlwydd oed. Anodd yw deall y drefn, ond Peidiwch holi heddyw Gwell clust feinio'u nghyd Am turmuron gwylaidd Yr anfarwol fyd.—R,J,W.
LISCARD.-
LISCARD. Gofidus gennym gofnodi marwoiaeth Samuel Morris Hughes, yr hyn a gymer- odd le Chwefror 18fed. Incorporated Accountant oedd Mr Hughes. Er pan ymaflodd yn ei waith ar ei gyfrifoldeb ei hun, oherwydd ei fod yn ddyn diwyd a darbodus, gwelid arwyddion ei fod yn chwanegu nerth ac yn llwyddo. Yn ddiweddar gwelwyd arwyddion fod ei iechyd yn rhoi ffordd. Methodd pob dyfais feddygolei adfer. Bu yn cyfyng- edig i'w orweddfa am bum wythnos daeth y diwedd. Yroedd yn fedrus yn ei swydd, ac yn annwyl a pharchuB gan gvlch eang o gydnabyddion. Teimlir ch withdod a hiraeth areiol gan gyfeill- ion a pherthynasau, yn enwedig gan ei briod a'i ddwy ferch fach sydd mewn galar. Ei briod yn ferch i'r Parch a Mrs Robert Hughes, River Street, Rhyl. Chwefror 20fed. yn y ty cyn cychwyn, gweinyddwyd gan y Parch J. Wadell, B.A., Presbyterian. Yna aed ar hyd y ffordd i Wrexham. Gweinyddwyd yno yn yr eglwys ac wrth y bedd gan y ParcbnHugh Evans, Rhyl, a John Roberts, Presbyterian, Wrexham. Cys- god Barnwr y gweddwon a Thad yr Amddifad fydd dros ei briod a'i blant bach. Gwna' hynny fyd oer yn fyd cynnes i'r amddifaid. Caffed yntau hun dawel byd ddydd y codi.
Advertising
Yn Awr jn 3 .rod. Yn A\vr ]in rod.. "y TRI IESU." LLYFR I BAWB. Dynoethir ynddo Gyfeiiiornadau Diwinyddol Pwysig: "Important Theological Errors Exposed. Profiad yr Awdur gyda'r Argraffiad Cyrata-f: « Pan yr anturiais gyntaf 1 ma's, i faes y byd, Nid ymddangosai'n ffafriol Oddiallan ar y pryd: Oxid llais o'm mewn a ddwedai Nac edrych ar y gwynt, Gwna frys i hau yr hadau Ceir medi felly'n gynt." A'r llais a ychwanegai Abertha, bydd yn hael, Gofala brisio'r Llyfryn Fel gallo pawb ei gael Gwrandewais ar ei archif-d I'r bobl hysbysiad roes Am Lyfr yn dangos ffeithiau Rhagorach am y Groes. Trwy hyn daeth im' archebion O'r Gogledd, ac o'r De, A siroedd Lloegr hefyd, O'r pentref, ac o'r dre Gwahoddwyd ef i'r 'Spyty Yn gwmni'r milwr claf, A thros y mor i'r cad faes,— Syn yw'r archebion gaf I'w cael gan yr Awdur- W. RICHARDS (PREGETHWR), DIGBETH INSTITUTE, BIRMINGHAM. Pris 3c. Gyda'r Post, 4c. Gelhr ei gael hefyd trwv y Llyfr- werthwyr. Yr Emynydd Aehlysurol, SEF Pump o Emynau Newyddion, cyf- addas iawn i'w defnyddio yn y sefyllfa ddifrifoi y mae ein gwlad a'r byd ynddi yn y cyfnod hwn. Cynwysant driarddeg o benillion a 76 o linellau. Wele un emya yn ngraifh- 0 boed i genhedloedd y ddaear: Adnabod ffrwyth pechod yn awr, Wrth weled ei draha arswydus A'i ddifrod ar fywyd mor fawr Ysbeiliodd ein bechgyn yn Iluoedd Ein haelwyd y'n wag hebddyntlhwy, 1 ba le'r edrychwn am gysur O ba le cawn falm at ein clwy'! Nid oes ond un man drwy y cydfyd Y tal i ni 'mofyn am hdd, leddfu archollion mor ddyfnion A'r rhai a achosodd y cledd Mae'r un man a'r balm gyda'r Iesu, Ei ras sydd ddigonol o hyd I gadw yn mhoethder pob brwydr Yr enaid crediniol yn glyd. Gellir eu cael oddiwrth yr Awdur: W. RICHARDS, Digbeth Institute, Birmingham. Pris Ceiniog. Gyda'r Post, 1ic. LLYFRAU GWERTHFAWR AR WERTH Am Brisiau Gostyngol. s. C. 1. Hanes yr Athrawiaeth Grist- ionogol gan Dr J. Hughes 1 3 2. Diwinyddiaeth Naturiol, gan Dr. Paley, yn Gym raeg, Rhagdraeth gan Dr. Hugh Jones (M.C.) 1 3 3. Cofiant y Parch _R. Hum- phreys, Dyffryn 1 3 4. Cofiant y Parch Griffith Williams, Talsarnau 1 3 5. A Grammar to the Welsh. Language, by Thomas Rowlands (4th Edition). 2 0 6. Yr Hynod Joan Jones, gan Rhuddenfab, Rhagdraeth gan Daniel Owen, Wydd- grug 0 9. 7. Dafydd Evans, Ffynon. henry, gan B. Thomas, Trydydd Argraffiad 0 9 8. Cofiant y Tri Brawd, gan y Parch 0 Madoc Rob- erts 0 6 Anfoner at- -) Rev. OWEN HUGHES, 101, Bruce Street, New Wortley, Leeds, Yorks.
CYFARFODYDD TALEiTHIOLI Y…
CYFARFODYDD TALEiTHIOL I Y GOGLEDD. Hysbys yw fod yr uchod yn nes- hau,-y naill i'w gynnal yn Rhyl, a'r Hall yn Towyn, Mai 5-8. Cwestiwn a ofynir yn ami yw, a gynhelir y cyfarfodydd eleni, ac os rhaid eu cynnal, a ellir lleihau y gynrychiolaeth, a hynny yn wyneb problem y bwydydd, costau teithio, &c. Mae'n debyg mai Cadeirwyr y Taleithiau fydd yn penderfynu y mater, ond 'rwy'n sicr na bydd ychydig o awgrymiadau yn an- fuddiol, a dyma hwy (a) Y cynrychiolwyr i'r cyfarfod- ydd eleni i gynnwys yri unig Arol ygwr pob cylchdaith, un Goruch- wyliwr, ac Ysgrifennydd a Thrys- orydd y gwahanol Drysorfeydd Felly (b) Gwneud i ffwrdd ag aelodau Pwyllgorau y Capeli, y Genhad- aeth Dramor, y Genhadaeih Gar- trefol, Dirwest,yr Ysgol Sul, Undeb Gwasanaeth Cymdeithasol, Preg- ethwyr Cynorthwyol, Addysg Ym- geiswyr, Blaenoriaid Rhestrau, &c. (c) Gellid felly orffen yr Eistedd- j iadau yn gynnar prydnawn dydd Mawrth, er hwyluso'r ffordd i'r cynrychiolwyr ddychwelyd yn ol y diwrnod hwnnw. (d) Gall yr Arolygwr ateb pob cwestiwn yn dal perthynas a'i gyd- lafurwr a'r gwaith yn gyff rediliol. A. M.
Mr E. T. JOHN, A.S., a Mr…
Mr E. T. JOHN, A.S., a Mr ELLIS W. DA VIES, A.S. At Olygydd y G.N." Syr,— Fel mae'n hysbys y mae rhai cannoedd o Gymry yn gweithio yn y ddinas fawr hon (Lerpwl) o wa hanol siroedd Cymru, a pheth digon naturiol yw i weithwyr o Arfon Meirion, a Dinbych weithio yn yr un gwaith, a Ilawer yn cyd-letya. Y mae hyn yn rhoddi mantais i ni wybod beth ydyw syniad a theim lad y rhannau hyn o'r wlad yn wyneb y cyflwr y mae Ewrob n- ddo heddyw. Yr ydym yn dilyn anerchiadau y ddau aelod yma o'r llwyfannau, ynghyd a'u hysgrifau a'u nodiad- au gwleidyddol, y rhai sydd wedi bod yn gymhelliad i ni gyfarfod ein gilydd i gael trafodaeth ar y priod. oldebi ni gael rhoi mynegiad o'r ffaith ein bod yn gwerthfawrogi ymdrech a gwasanaeth y ddau fon. eddwr yma i oleuo'r wlad ar eisef- yllfa adfydus, a chyfeirio ein cam rau at heddwch. Diolch fod gen nym ddau digon gwrol i draethu eu barn a'u hargyhoeddiad, er yn gwybod eu bod yn tynnu gwg yr uchelwyr. Nid heddwch cynamserol, fel y dywed rhai, yr ydym ni yn ei weled. yn areithiau Mr E. T. John. Can. fod y mae beth fydd canlyniadau heddyw, a'u heffaith yforu, a thrwy y gwelediad yna yn ihybuddio r wlad rhag yr hyn a all ddigwydd. Hefyd yr ydym yn dra diolchgar i Mr E. W. Davies am ei nodiadau gwleidyddol, y rhai sydd yn rhoi goleuni a gwybodaeth i ni ar bync- iau gwleidyddol a chymdeithasol, ar berthynas cyfalaf a llafur, etc. Da gennym fod pobl Eifion wedi anfon gwr i'n cynrychioli y mae Ty'r Cyffredin yn gweled cym hwyster ynddo i lunio a threfnu mesurau, a thrwy hynny gall fod o fudd mawr i'r wlad. Dyma ddau wr y dylem fel gwlad ddal eu breichiau i fyny am eu hymdrech o blaid heddwch, a thros hawliau gwlad yr Eisteddfodau, y Cymanfaoedd, a'r Ysgol Sul. Dang- hoswn ein bod nid yn unig yn siarad yn gefnogol iddynt, ond yn mynychu a chynnal cyfarfodydd i ddatgan hynny yn gyhoeddus. ')""r" -n: "f l"r- OJ"'a"  Dymunwn ar i'r dda? foneddwr dderbyn ein gwerthfawrogied o'u I hymdrechion. Dros y gwahanol rannau, E. OWEN, D. R. WILLIAMS, R. R. OWEN, Lerpwl. J. R, GRIFFITHS. Safle Gweinidogion Wesleaidd Cymretg ynglyn a Phryniant y Fasnach Feddwol. Mr Gol. Diolchaf am ofod i ateb llythyr diweddaf y Parch. T. Hughes. Er gwaethaf ei holl ymfflamych- iadau amherthynasol rhwng crom- fachau, a'i gwiblo di=ddiwedd, da gennyf ei fod yn dringo i lawr, ac wedi gorfod dadlenu gryn dipyn o'r gwir am y mudiad i brynu y Fas nach Feddwol. Cydnebydd yn ei lythyr diweddaf mai cynllun Mr Lloyd George ydyw y Prynu, a chydnebu eisioes mai y Temperance Legislation League ymgymerodd a'r gorchwyl o geisio ennill dir- westwyr i gefnogi y mudiad. Eddyf mai o bocedau rhywrai heblaw y diwygwyr (?) Cymreig dewr gyn- hullwyd i Landrindod y talwyd y tren a'r Hotel bills Ei anhawster yn awr ydyw profi fod y Gynhad ledd yn un gyhoeddus. Cydneb ydd mai tn, y docynau y ceid myn- ediad i'r Gynhadledd Gyhoeddus. Hyderaf y gwna un ebwch eto, a siawns na bydd iddo gydnabod fod fy nghyhuddiad olaf,—mai llech- wraidd oedd ei gweithrediadau. Treied unwaith eto. Deallaf i awdurdodau Cynhadledd Llandrin- dod ollwng yr Athro Levi i mewn o'r diwedd ar yr amod nad oedd i ofyn un cwestiwn, nac i gynnyg unrhyw benderfyniad, nac i ddweyd gair. Gwyr pawb, ysywaeth, fod yr Athro galluog yn drwm iawn ei glyw, ac y mae'n debyg i Mr Har- vey gael ei berswadio fod yn ddi- ogel ei ollwng i mewn ond gofalu rhoddi y gag arno. Protestiaf yn erbyn gwaith Mr Hughes yn awgrymu i mi ymosod yn bersonol arno. Er mor aiddgar ydyw o blaid prynu y Fasnach, ni awgrymais ei fod ef wedi ei brynu," ac ni ddywedais fod a wnelo ef na'i deulu gysylltiad a'r Fasnach mewn modd yn y byd; gwell gennyf barhau i goleddu am. genach syniad am dano. Yr hyn a bar ofid i mi ydyw, fod gwr o'i safle ef, a gweinidogion eraill wedi rhannu y Blaid Ddir- westol, mewn adeg y dylem ym ladd yn unol ac eofn i ymlid ein prif elyn. Yr wythnos hon hysbysir fod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio symud ymhellach gyda Phryniant y Fasnach yn ystod yr eisteddiad presennol. Amser a ddengys a glywir son am y cynllun byth mwy ac amser a ddengys fel y bu ij MrgHughes a'i gAd luddias Dirwestwyr Cymru i wahardd y ddiod yn yr argyfwng mwyaf yn hanes y Deyrnas. Tybed a yw yn rhy ddiweddar i apelio ato i ymuno mewn ymgyrch i ysgubo y ddiod o'n tir, a gwneud Prydain yn werth ymladd drosti. Os parha i geisio cyfiawnhau ei waith yn trefnu cynhadleddau ac annerch cyfarfodydd o blaid par- hau cario y Fasnach ymlaen dan aden y Llywodraeth, tra y mae ein bechgyn annwyl yn aberthu eu bywydau dros ei gwlad, dylai guddio ei wyneb mewn cywilydd. Yr Eiddoch, &c;, W. RICHARD ROBERTS. I