Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"GwYiiyedydd Newyda' I AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebion a thaliadau am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, "UwyJJedydd Newydd Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6; pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn asnhosibl bron i ni gario ymiaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaetb, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyfeirio- Y Golygydd, Qwyliedydd Newydd Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn :— Carem i bob gohebiaeth fod mewn llaw erbyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amien gadawer hi yn agored, ac ysgtifenner Press News ar ei chongl. LLYFR NEWYDD. "Emynwyr Cymru" GAN y PARCH. EVAN IS&AC. Cynnwys y llyfr Ysgrilau Hanes yddol a Beirni-adol ar boll Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Ial, ac arei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr, Barn Llenorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darllenais -eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). 1* Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwHc a chredaf y bydd yn waith safonol. Costiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel llenor; yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gefnogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. .f Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hwn. Chwiliodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith gref a gldn, Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. Ceir yma frrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi e-i gyfleu mewn modd diddorol iawn. Cloriennir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagojol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darllenais eich ysgrifau gyda bl'as mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dywedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gwr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rhai a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyflym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n llenyddiaeth. Dengys yr ysgrifau ol rneddwl galluog, medr llenyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth dryfwyr o'r pwnc. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 3/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam.
NODIADAU WYTHNOSOL.I
NODIADAU WYTHNOSOL. I Hunan-Lywodraeth i Gymru a',r lwerddon. Mewn llythyr at Mr J. Hinds, A.S., ynglyn a galw cyfarfod o holl gynrychiolwyr Cymru yn y Senedd, ysgrifenna Mr E. T. John fel y can- lyn:— Credaf mewn gwirionedd fod Major David Davies wedi gwneud gwsanaeth rhagorol trwy ein gwahodd i gyd yn unol i ystyried buddiannau Cymru yn y cyfwng presennol. Yr wyf fy hun bob amser wpdi ffafrio ffurfiad Plaid Genedlaethol Gymreig wedi ei rhwymo trwy adduned, ond mater yn fwyaf neilltuol i'r etholiad cyff- redinol nesaf yw hynny, a dichon nad yw hwnnw mor agos ag y tybir yn gyffredin. Yr hyn y gyfrifaf fy hun sydd yn galw yn tiwch o lawer arnom yw y pwnc o hunan-lywodraeth gyffred- inol fel yr effeithir arno gan feth- iant tair Llywodraeth olynol i sicrhau dealldwriaeth ar y pwnc Gwyddelig. Y mae yn amlwg anesmwythder mawr a chynhyddol yn yr Iwerddon, ac ni wna dim y tro yno ond hunan-lywodraeth ar y liinellau mwyaf rhyddfrydig. Yr unig ffordd bosibl i roddi i'r Iwerdd- on hunan-lywodraeth a galluog Ulster i barhauyn ei chysylltiad ac yn deyrngaiol i awdurdod Prydain Fawr yn union ar yr un Ilinellau a Yorkshire, yw sicrhau federal devo- lution (sef hunan lywodraeth i ran nau ereill y Deyrnas Gyfunol) Cyflwynaf felly yn barchus i fy nghydaelodau ypriodoldeb 0 basio penderfyniad ar y llinellau canlyn. ol:- Fod y cyfarfod hwn o gynrychiol- wyr Cymru yn gofidio wrth sylwi ar gyflwr anfoddhaol yr Iwerddon ac anallu y Cyf-Eisteddfod-i ddod i unrhyw ddealldwriaeth, ac yn gwasgu ar y Llywodraeth y doeth ineb o ymgynghori a chynrychiol- wyr Scotland, Iwerddon, a Chymru gyda golwg ar ddarpariad mesur cytunol ar linellau federal devolu tion, yn rhoddi i bob un o'r tair gwlad lywodraeth lawn ar ei mat erion mewnol, gan adael i gynrych- iolwyr Lloegryn Nhy y Cyffredin yr un modd lywodraeth ddilyfeth air ar fusnes mewnol Lloegr. Sylwaf fod Dr Addison, Gwein- idog Atrefniad, wedi ethol Cyngor[ Ymgyngoriadol heb, mor bell ag y gwelaf fi, nnrhyw gynrychiolydd o eiddo Cymru a buddiannau Cym- reig. Y mae hyn yn hynod nodweddiadol o bob Llywodraeth, ac ni aliaf ddweyd fod yn ddrwg gennyf am y peth. Ychydig a enilla Cymru fel rheol oddiwrth un cynrychiolydd neu ddau ar bwyll- gorau mawr neu ddirprwyaethau. Annhraethol gwell cwrs a fuasai creu Cyngor Atrefniad i Gymru ar unwaith gan osod arno y ddyled- swydd o ystyried ymhob manyl rwydd holl gynhygion y Llywod- raeth ynglyn ag atrefniad mor bell ag y daliant berthynas a Chymru, ac yn ol pob tebyg byddant i gyd yn dal perthynas, mwy neu lai, a'r Dywysogaeth. Dengys y pender. fyniad canlynol y cwrs y buaswn, pe yn bresennol, yn ei gymeradwyo i fy nghydaelodau :— Fod y cyfarfod hwn o gynrychiol- wyr Cymru yn gwasgu ar y Llywodraeth ar iddi yn ddiymdroi ethol Cyngor Atrefniad i Gymru, i gynnwys holl gynrychioiwyr Sen- eddol y Dywysogaeth, gan ychwan- egu personau cyfaddas a feddant brofiad a gwybodaeth gelfol, ac fod holl gynhygion y lywodraeth er atrefniad, fyddont yn dal perth- ynas a Chymru i gael eu cyflwyno i'r cyfryw Cyngor er mwyn cael eu harchwilio yn fanol a'u hystyried. ————— —————
[No title]
Mr Lloyd George ya y City Temple. Bu Mr Lloyd George yn annerch Cyfarfod Blynyddol Cyngrhair Eglwysi Rhyddion Prydain, yn y City Temple, nos Fercher diweddaf. Y rhyfel oedd baich ei araith. Yng nghwrs ei sylwadau cyfeiriodd at ag weddyr ogl wysi tuag at y rhyfal. Rhoddodd aylw hefyd i'r beirniadu sydd yn y wlad ar ddiffyg eydymdeitiilad y Llywodraeth a'r cynnyg o Gyngrhair y Cenedloedd. Rhoddodd olwg oleu ar rai agweddau i'r rhyfel; er engraifft, dywedodd fod llai o newyn yn y wlad hon nag oedd pan dorodd y rhyfel allan, ac nad oedd rhagolwg am brinder. Y mae hwn yn newydd calonogol i bawb, ac yn arben 1 Dig felly ar ol olywed y bygythion yr wythnosau diweddaf Wrth gyfeirio at y ddiod, amddiffyn- I nodd bolisi'r Llywodraeth, a dywedodd fod llai o yfed o un ran o dair nag oedd yn y wlad bedair blynedd yn ol. Erbyn Iwadd 191T yr oedd y Uoihad yn 28 y cant, ac heddyw yr oedd y Llywodraeth wedi gorchymyn lleihau 50 y cant yn ychwanog. Dywedai mai un o oruohwylion mawr yr eglwysi oedd gofalut fod yr amcanion uohel yr aeth Prydain i ryfel er au mwyn yn cael ou cadw yn lan a phur. Wel, pwy na wad, yngoleu bygythiad Japan, a'r secret treaties sydd wedi eu cyhoeddi, fod gwir angen am hynny. Dadleuai Mr George y dylai gael pob cymorth yn ei waith anodd. Gwir- fe ddylai, megis ag y dylasai Mr Asquith gael, eto y mae i feirniadaeth ei lie hyd yn oed mewn oes fel hon. ♦» ♦
[No title]
Y Weinyddiaeth a'r Wasg. Bu trafodaeth fywiog yn Nhy y Oyffredin ar gwestiwn a godwyd gan Mr Austen Chamberlain a Mr Asquitb ynglyn a perthynas y Weinyddiaeth a'r wasg, sef fod cynnifer o wyr y wasg yn dal swyddl pwysig dan y Llywodraeth. Cyfeiriwyd yn arbennig at Arglwydd Rothermere, Arglwydd Beaverbrook, ac Arglwydd Nortbcliffe. Disgwylid am ddadl gyffrous, a gwyddid y byddai'r Prif Weinidog yn y Ty i egluro. Yr oedd amddiffyniad y Prif Weinidog yn cymeryd agwedd cy- ffredinol, a chyfiawnhaodd y penodiad- au wnaed ganddo, a chyfeiriodd at yr arferiad mewn gwledydd eraill. Yr oedd y sawl a benodwyd yn weirlidogion Propagandafel y gelwid hwy, wedi eu penodi oherwydd eu cymhwysterau arbennig i'r gwaith. Chwanegodd Mr Lloyd George nad oedd a wnelo ef o gwbl a'r ymosodiadau a wneid yn y wasg ar rai o brif swyddpgion y deyriias. Dywedodd Mr Lloyd George nad oedd diswyddied rhai dynion, ar un Haw, ac ymosodiadau y papurau ar y llaw arall ond cyd-darawiadau." Teimlad rhai miloedd o bobl, chwedl Mr Chamberlain, ydyw fod y cyd-dar- awiadau braidd yn hynod o liosog. Dywedodd Mr Lloyd George fod perebenogion papurau newydd yn dal swyddi ucgel yn llywodraethau'r Amer- ica, Ffrainc, a'r Eidal, ond nid ydym wedi arfer edrych ar wleidyddiaeth pob f un o'r gwledydd hyn fel patrwm i wleidyddiaeth Prydain. Credwn fod "E M.H. yn y "Gol- euad," yn symio y mater i fyny yn glir iawn. Dywed—" Y mae'r gwir wrth- wynebiad yn amlwg ddigon os cymerir y drafferth i feddwl. Y mae i'r papur newydd ddwy swyddogaath. Un ydyw darparu newyddion a'r Hall ydyw ceisio dylanwadu ar y farn gyhoeddus. Yng* lyn a'r flaenaf, y mae gwr a fo'n aelod o weinyddiaeth yn rhwym o ddyfod i wybod Ilawer o bethau nad yw potil ereill yn eu gwybod. Os yw hefyd yn berchennog papur newydd ac yn eyfar- wyddo ei bolisi, y mae'n gwbl amhosibl iddo gadw'r wybodaeth hohno allan 0'1 feddwl. Nid allai unrhyw ddyn wneu- thur hynny. Dywedir fod y parchea- ogion, wrth ymuno a'r Weinyddiaeth, yn peidio cyfarwyddo eu papurau. Yr wyf yn foddlon credu eu bod yn bwr* iadu ac yn ceisio peidio, ond yr wyf yn amheus iawn a ydyw'r peth yn bosibl. Cymer swyddogaeth arall papur newydd -ceisio dylanwadu ar y farn gyhoeddug. Nid wyf yn meddwl yr hoffai perchen- nog papur newydd a fuasai hefyd yn aelod o weinyddiaeth weled ei bapur yn ymosod ar ei adran neilltuol ef yn y weinyddiaeth. Byddai'n demtasiwn iddo, a dywedyd y lleiaf, ddéCnyddioei bapur neu ei bapurau i gefnogi ei syn- iadau ac i amddiffyn ei gynlluniau ei hun, ond nid ellid dywedyd fod gwasg a ddefnyddid felly yn an ddiduedd. A prun a wnai hynny ai psiiio.feddybiai'r wlad yn gyffredinol ei fod yn gwneud ac ni byddai hynny yn fantais nac yn nerth i'r weinyddiaeth y byddai'n aelod ohoni.
FFLINT.-
FFLINT. Bu y Pte. Willie Beavan, Coleshill, un o'n gwyr ieuaine ffyddlon, adref ar ymweliad. Y mae ar ddyohwelyd- nawdd y nef a fo drosto. Hefyd, bu y Pte. D. E. Davies, Pentre, adref ar ym- weliad o'r fyddin. Da gennym ei weled, Yr oedd efe yn un o'n bechgyn goreu. Y mae amryw o'n cyfeillion ffyddlon- af wedi bod yn cwyno: Mr W. E. Jones, Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, a Mr Thomas Lloyd, Pentre Farm. Bu y ddau frawd ymroddol yn cwyno'n dost am rai wythnosau, ond y mae'r ddaq erbyn hyn yn gwella, a disgwyliwn eu gweled eto yn eu cynefiu iechyd. Llaw- en hefyd oedd gennym weled Mra Minnie Hughes, (wyres yr hen flaenor ffyddlon, y diweddar Thomas Rhiwlach) wedi dychwelyd adref ar ol bod am gyfnod yn yr ysbyty o dan driniaeth law feddygol bwysig iawu, a phoenus. Hydarwn fod y gwellhad a gafodd yno yn un cwbl, ac yn un parbaus. Y Sul diweddaf eynhaliwyd Reboar- sal yma ar gyfer y Gymanfa Ganu. Ar- weiniwyd gan Mr Thomas Vois Jones: Port Sunlight. Y mae Mr Jones yn un o hen ysgoloiion Ysgol Sul Peniel. Y mae yn gerddor galluog ac yn ar- weinydd campus fel y tystiodd amryw o'r brodyr, gwnaeth ei waith yn ardd- erchog Siaradwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr John Bellis, Llywydd yr Ysgol Sul; Mri John Hughes, ac Edward Hughes, Bloc Farm. Cafwyd Rehear- sal gampus—addewid dda am Gymanfa rhagorol.
COED-Y-FFLINT.
COED-Y-FFLINT. Bu y brawd ieuanc Pte Robert Wil- liam Jones, Cartrefle, adref ar "leave," ar ol bod am rai wythnosau yn yr ysbyty. Y mae wedi gwella yn bar dtla. ac yn dychwelyd yr wythnos yma i'r Iwerddon.