Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
'(. , *ABERDYFI. I
'(. ABERDYFI. Cyfarfod terfynol y Gobeithlu—Cyn- haliwyd ef nos Fercher, Chwef. 13eg, o dan arweiniad y Parch W. P. Roberts, ein gweinidog. Yng ngwaith y plant yr oedd yn amlwg fod llafur diflino wedi ei gymeryd yn ystod y tymor gan y rhai oedd a'r gofal, sef y gweinidog a'i briod, Miss Jonas a Mrs J. Lewis, Boot Shop. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss May Rowlands. Cyfarfod Cystadleuol-Nos Wener, dydd Gwyl Dewi, cynhaliwyd yr uchod yn Ysgoldy'r Cynghor, o dan nawdd yr Ysgol Sul. Llywyddwyd gan y Parch W. R. Roberts, ac arweiniwyd gan Mr E. L. Rowlands (Dyfi) U.H. Beirniad y canu ydoedd Mr Pryce Williams, Towyn a'r adroddiadau, y Parch T. G. Roberts, Mr W. O. Ellis, Towyn, a Mr R. O. Richards, Aberdyfi. Cafwyd cyst- adleuaethau bron ar bob rhan o'r prog- ram, ac yr oedd yn gyfarfod llewyrchus iawn, a gwnaed elw sylweddol tuag at Gartrefi y Plant Amddifad Dr. Stephon son. Mae y clod am lewyrch y cyfarfod i'w briodoli i lafur diflino'r ysgrifennydd -Nlr T. Jones, Swn-y-don. Y trysor- ydd ydoedd Mr G. Davies. G oii.
ABERCYNON. I
ABERCYNON. Nos Iau, Chwef. 21ain, yng nghapal yr Annibynwyr Seisnig cynhaliwyd cyf- arfod llwyddianus dan nawdd y Gym- deithas Feiblau. Cymerwyd y gadair gan Ficer Abercynon, yr hwn sydd bob amser yn barod i gydweithredu gyda'r Ymneiiltuwyr mewn materion crefyddol anenwadol. Y prif siaradwyr oedd y Parchn Evan Isaac, Llywydd y Gyman- fa a Chadeirydd Talaith y De; a'r Canon Talbot Rice, Abertawe, Caed anerchiadau a hir gofir gan y ddau siaradwr. Teimlai Wesleaid y lie yn falch am y cynynhiolid hwy gan wr cyn deilynged. Caed ganddo anerch- iad gref a choeth, yn gosod i lawr hawl- iau y Gymdeithas i gael cefnogaefcb gyffredinol. Peth eitbriadol yn ddiameu ydyw gweld capel eang yn llawn i wrando ar areithiau ar y FeibI Gym- deithas ond dyna'r ffaith am y cyfar- fod uchod. Ychydig wythnosau yn flaenorol i'r uchod, caed cyfarfod cyhoeddus arall yng nghapel Bethania (A.). Amcan y cyfarfod oedd rhoi mynegiant i deimlad yr eglwysi ar gwestiynau moesol, cad wraeth y Sabboth, anlladrwydd, &c. Trefnwyd y cyfarfod gan bwyllgor o'r boll eglwysi yn Gymraeg a Saesneg Siaradwyd gan y Parchn John Hum phreys, Merthyr, a Gwilym Davies, M.A., Abergavenny. Gwyr pawb wyr rhywbeth am Debeudir Cymru, fod an foesoldeb yn uchel iawn ei ben yma, ac weithiau condemnir yr Eglwys o ddifat- erwch yn wyneb y sefyllfa. Teilynga arweinwyr crefydd yn Abercynen gan- inoliaeth am ea hymdrech i atal rhwl-sg pecbcd yn y lie, trwy gael siaradwyr galluog i ddinoethi yr ystrywiau ddefn- yddir i lithio plant a phobl ieuanc y genedl. Llawenydd i ni oedd clywed y gwr o Ferthyr a'i acen Gymreig cyn gliried, a'i sel dros fuddiannau uchaf y Genedl Gymreig yn eirias. CYMRO. I
PORTH. II
PORTH. I Y mae eisiau dau ffigwr bellach i nodi rhifres cyngherddau blynyddol mawreddog y Porth o'r dechreu hyd y flwyddyn hon. ac maent wedi dyfod ac elw da i mewn i gyllid yr eglwys bob blwyddyn, ac nid oedd yr unipleni yn I ail i'r un o honynt, yr oedd pob cornel i'r eapel yn llawn, a'r cantorion yn gwneud eu gwaith yn rhagorol iawn, gyda cbymeradwyaeth y gynulleidfa fawr. Y mae ffurf y cyngerdd wedi gwahaniaethu y ddwy flynedd diweddaf oddiwrth y rhai blaenorol—Organ Reci- ta's a datganwyr o fri oedd yn y rhai blaenorol, oDd y flwyddyn ddiweddaf cor o feibion, ac eieni cor o ferched o Bontypridd, o dan arweiniad Madam. Mills Reynolds, yn cael eu cynoithwyo l gaa Mr Glyndwr Thomas, Ynyshir, a Mr Eben Rogers, Caerdydd, fel adrodd- wr. Cadeiriwyd yn ddeheig gan T. Griffiths, Ysw., U.H., a chyfranodd yn hael at y drysorfa. Y mae yno weithio wedi bod i dynna. y fath dorf, ac mae pawb yn ddiolchgar i'w gilydd am ei rhan yn y gwaith. Ond y mae Mrs Pugh, Mrs Jones, a Mr Howell Pugh, yr ysgrifennydd, wedi gweithio ddydd a nosa am fisoedd at ei wneud yn Uwydd- iannus: derbyniwch ddiolch yr eglwys am eich llafur. I GOH. I
[__-MANCHESTER.-I
[__ MANCHESTER. I Dewi Sant, Hardman Street.—Cyn- baliwyd cylchwyl flynyddol yr eglwys ucbod nos Sadwrc a'r Sabboth, Mawrth 9 a'r 10. Yr up ddewiswyd in gwasan- aethu eleni ydoedd y Parch 0. Madoo Roberts, Bangor, a thraddododd dair. o bregethau melys, buddiol, ac adeiladol. Yr oedd y cynulliadau ar hyd yr Wyl yn lliosog, y gwrandawiad yn astud, a mynd rhagorol ar bopeth. Yr oedd rhyw freshness neulltuol yn y wein- idogaetb, oedd yn ennill calon y gwran- dawyr, ac erys y petbau da hyn yn destun ein myfyrdod a'n hymddiddanion at ein haelwydau, ac yn ein eyfeillachau am amser i ddod. Gwelodd y pregethwr er ei syndod, ddarfod iddo bregethu am awr a cbwarter yn odfa'r hwyr, a gwnaeth ymddiheuriad, ond nid oedd raid iddo, oblegid ni chaed arwydd fod neb yn anesmwytho nac yn blino. Beth bynnag arall sydd wedi gadael yr eglwys, y mae yr awch am wrando Efengyl iach us, a'r dyhead am dderbyn o'i hadnodd- au yn aros un feddiaut inni o hyd. Pwy feddyliodd am achwyn ar y diweddar Eglwysbach pan yr hoeliai glustiau a chalon llond capel o bobl wrth ei wefusau am dros awr a banner ar nos Lun y Pasg yn Nhreffynnon ? Yr hyn sydd yn bwysig heddyw ydyw, medru arlwyo yn deilwng a blasus ar gyfer cynulleidfaoedd, a llwyddodd Mr Rob- erts i wnaud hyn yn rhagorol. Brysied yma eto. Gwasanaeth gerddorol gafwyd yn y prydnawn, ac er i ni gael ein siomi gan rai o'r cantorion, Uanwyd y bylchau yn rhagorol, a ohafwyd gwasanaeth effeith- iol. Y rhai gymerodd ran ydoodd, Mr J, Aneirin Roberts, Weaste; Mast-t Iorwerth Griffiths, Moss Side; Misses Oeridwen Jones, Louie Williams, ae Enid Blackwell. Llywyddwyd gan yr Arolygwr, y Parch J. Felix, a chyfeil- iwyd gan Miss D. E. Jones. J. M. w. I
LEEDS. I
LEEDS. I Ar Ddydd Gwyl Dewi cynhaliwyd cyngherdd rhagorol yma. Yn cymeryd rhan: Soprano, Madame Hannah Walker, Manchester Tenor, Mr Frank Coupland, Leeds; Baritone, Mr J. Aneurin Roberts, Manchester; Crwth, Gr A. M. Skinner, H.A.C., Leels; Elocutionist, Miss Dilys H. Jones, Leeds. Yr oedd yr addoldy yn llawn a chafwyd cyngberdd campus. Yr oedd y cantorion Cymreig (Madame Walker a J. A. Roberts) mewn hwyliau goreu, a chanodd Madame Walker Cymru Fydd," a chanodd eraill er boddhad i bawb Aeth popeth ymlaen yn hwylus neilltuol, a disgwylir elw cymhedrol oddi wrth yr ymdrech. Y cadeirydd oedd y Parch Owen Jones, Horsforth, Cymro o waed eoch cyfa," a gwnaeth ei waith yn ganmoladwy iawn. O. G. W.
JERUSALEM, LLANELLI. I
JERUSALEM, LLANELLI. I Cynhaliwyd Gymdeithas Ddiwylliad- ol yma drwy y gaeaf bon, sydd wedi I bod yn adeiladol iawn. Mae yma l bapurau rhagorol wedi eu darllen, ar destunau sydd yn fuddiol i'r Gymdeithas gan y personau caol nol D. G. Harris, J. R. James, W. J. Jones, John Morris, J. Jones, T. J. Morris, I. Griffiths, larch W. J. Arter, ac eraill. Prif symudydd y Gymdeithas yw y brawd D. G. Harris, yr hwn sydd yn weitbgar iawn. Mae pob un o'r brodyr hyn yn gwneud eu rhan i wneud y symudiad yn Ilwyddiant. Cawsom hefyd ddrama nodedig gan barti o Pontardulais, sef Ar y Groes- ffordd." Gwnaethant eu gwaitb yr. ardderchog, a gwnaed elw sylweddol oddiwrthi. Yr ysgrifennydd oedd Mr D. G. Harris, yr hwn, yngbyd a'i gyd mar, a fa yn ddiwyd iawn. Bu y Strike oedd yn Llanelli ar y pryd yn rhwystr iddi i fod mor Ilwyddiannus ag y disg- wylid iddi fod. AELOD. I
LLANRHAEADR-YM-MOCBNANT,
LLANRHAEADR-YM-MOCBNANT, Nos Fercher, Ion. 30ain, yn y Gym- deithas Ddiwylliadol traddododd y Parch Tegla Davies ei drydedd anerch- iad ar Drefn yr Iackawdwriaeth- Dysgeidiaeth Paul am dani." Chwef. 13eg, ei bedwaredd anerchiad-" Dysg- eidiaeth yr Hebreaid am dani." Chwef. 20fed, ei burned anerchiad, sef" Dysgeid- iaeth loan am dani." Yn sicr cawsom wledd wrth wrandaw ar yr anercbiad- adau cyfoethog hyn, ac y mae y gwortli- fawrogiado'r anerchiadau hyn yn dodi'r golwg yn y ffyddlondeb mawr a ddang- osir i'r Gymdeithas. Chwef. 6ed, caf- wyd Adolygiad ar y ddau anerchiad. I agor yr ymddiddan anerchiad ail- Dysgeidiaeth lesu Grist am drefn yr Iachawdwriaath," Mr D. F. Jones, yn absenoldeb Mr J. H. Vaughan trydydd anerchiad, Dysgeidiaeth Paul am dani," Mr Richard Jones, a chafwyd amser rhagorol. Drwg iawn oedd gennym golli aelod ffyddlon a s-elog o'r Eglwys hon, sef Mr Aneurin Jones, mab Mr a Mrs D. F. Jones, School House, yntau wedi gorfod ymuno a'r fyddin. Y mae ar hyn o bryd yn South Farnborough, Hampshire. Llawenydd mawr oedd gennym weled Lieut. Elwyn Jones, a Private Clement Williams, gartref ar leave." Da gen- nym weled fod y brawd ieuanc Pte- Clement Williams yn dal i wella. Treuliwji^ y Sul diweddaf i ymdrin a'r Ysgol Sul. Cafwyd pregeth effeithiol yn y boreu gan y Parch Tegla Davies ynglyn a'r Ysgol Sul. Yn y prydnawn, dan lywyddiaeth Mr E. 0. Evans, cawsom anerchiadau pwrpasol gan Mri Edward Jones, E. D. Williams, W. H. Jones, a D. F. Jones. Yn yr hwyr pregethwyd gan Mr E. D. Wil- liams. Nos Iau, Chwef. 28ain, yng nghapel Seion, cynhaliwyd cyngherdd mawredd- og. Y llywydd penodedig ydoedd Lieut. Col., Syr Henry Webb, Bart., M.P.,ond oherwydd amgylchiadau neilltuol, bu yn amhosibl iddo allu bod yn bresannol. Yr oedd hyn yn siomedigaeth iddo. Yn ei absenoldeb llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr J. H. Profit, ac arweiniwyd yn fedrus gan y Parch Evan Roberts. Yr Artistes oeddynt; Tenor, Lieut. Seth Hughes,; Bass, Lance Cpl. Morgan Morgan (Morleisydd); "The Western Command Labour Centre Orchestal Band," arweinydd ydoedd Capt. Spokes. Cyfeiliwyd yn ddeheuig gan Mr E. O. Evans, Hendre," Yr oedd y capel wedi ei lenwi a chafwyd cyngherdd ardderchog. Ni fuasem wedi cael y fath- gyngherdd a hwn onibai am ymdrech y boneddwr selog a charedig Mr J. H. Profit. Cafodd Captain Spokes a'r cant- orion a'r milwyr oil groesaw cynnes ar ol cyrraedd y Llan. Yr oadd nifer o chwiorydd caredig wedi bod yn darparu yn helaeth ar eu cyfer yn yr Ysgoldy gerllaw, sef MrsE. O. Evans, Hendre; Mrs Jones, Henfache; Mrs Edwards, Tynymaes; a Mrs Davies, Trefeilior. Diolchwyd yn gynnes iddynt am eu caredigrwydd. Hefyd i Capt, Spokes a'r milwyr, a'r cantorion, hefyd Mrs E. O. Evans, am gyfeilio, a Mr J. H Profit a'r Parch Evan Roberts am eu gwasanaeth. Ar derfyn y cyngherdd pasiwyd pleidlais o gydymcleimiad a Syr Henry a Lady Webb yn eu profedigaeth a gawsanfe o golli eu hunig fab. Ysgrifennydd a thrys orydd y mudiad hwn oeddynt Mri J. H. Davies, Park St. ac Iorwerth B. Morris, Trewern. BERWYNFERCH. I
BEDLINOG. I
BEDLINOG. I Nos Sul, Mawrth 3ydd, cynhaliwyd I Cyfarfod Ysgol yn y drefn ganlynol Llywydd, Mr Isaac Davies.; chwareuydd, Mr Plenyed Edwards siaradwyr, Mri Richard Evans, a Pienydd Edwards adroddwyr, H. Henry Edwards, Jerry Jones, Annie Roberts, Cecie Tibbot, Mari Nannette Edwards, a Lizzie Coin wen Price; cantoresau, Margaret A. Edwards, Mary J. Edwards, Edith a Maggie Tibbot. Hefyd fe ganodd Cor y Plant amryw weithiau o dan arwein- iad Mrs Edward Pierce. Gwnaeth pawb eu gwaith yn rhagorol. Disgwyliwn ffrwyth iddo yn yr Ysgol Sul. Cael casgliad da ar y terfyn. I AELOD.
I NODION 0 DDOLGELLAU.
I NODION 0 DDOLGELLAU. Sabboth cyntaf o Fawrth cawsom fel eglwys ein breintio a gwasanaeth werthfawr Mr E. L. Rowlands, U.H., Aberdyfi, a chavvsom Sabboth rhagorol iawn,-yr hen Efengyl yn cael ei phre- ethu yn hynod o amserol a melus iaWJJ. Ymae llawer o flynyddoedd er pan fu Mr Rowlands yn Ebenezer, a llawer o'r gynulleidfa oedd yma yr adeg honno wedi myned tu draw i'r lien. Ein dym- uniad fel eglwys ydyw, brysied yma eto. I CYMRO.
I BETHESDA, BWLCHGWYN.
I BETHESDA, BWLCHGWYN. Llawenydd mawr gan lu o gyfeillion y Caplan Parch D. R. Rogers, M.A., oedd ei weld ar ymweliad a'i gartref ym Bwlchgwyn, ac yn edrych mor dda. Dychwelodd yn ol i Ffrainc Mawrth 8ed. Prysur iawn yw pobl iouainc Beth- esda o dan arweiniad ein parchus wein- idog yn paratoi ar gyfer Eisteddfod y Groglith." Mae y rhaglen yn un chwaethus iawn a disgwylir cyfarfod da. 'r Ail etbolwyd yn swyddogion yr eglwys: Goruchwylwyr yr Eglwys, Wm. Davies a David Belton Goruch- wylwyr y tloiion," Robert Owen a Aaron Price; Swyddogion y Genhadaeth Dramor, Misses A. A. Rogers a Annie Williams. Dewiswyd Miss Dora E. Rogers yn Ohebydd y Gylchgrawn." YSG.
CARNO.
CARNO. Yng nghapel y Wesleaid, Mawrth laf, Gwyl Dewi Sant "-cawsom y fraint o wrandaw ar y Parch E. Tegla Davies, yn traddodi ei ddarlith boblogaidd ar Traddodiadau Cymru," darlith ardderchog, Hawn o addysg a goleuni. Cawsom dywydd braf, a chyn- hulliad da,la phawb yn canmol. Dyma y tro cyntaf i Mr Davies, fod yn Nghar- no, ond credaf mae nid y tro olaf. Qym- erwyd y gadair gan Price Wilson Jones, Ysw., Drefnewydd. Er fod ami i storm yn chwythu droa ein beglwys fechan yn Ngharno, eto mae yma destynau i fod yn llawen. Ychydig amser yn ol, cafwyd awrlais hardd yn anrheg gan flaenor,—Mri D. Hamer, Tymawr, ag R. Morgan, Penlan. Bore Sabboth, Mawrth lOfed, pregeth- wyd gan y Parch J. Hopkin Morgan, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd ar ol y bregeth, pryd y defnyddiwyd am y tro cyntaf Cwpanau Cymun Unigol," rhoddgan dri brawd iouanc sydd ar hyn bryd' ymhell o gartref ond nid wedi anghofio yr eglwys fechan yn y fan hon,-Mri W. Morgan yn Lerpwl, Nicholas Ll. Morgan, Ipswich, a Wil- liam E. Hughes yn Ffrainc. Cyflwyn- wyd y rhodd i'r eglwys gan ein gweinid- og, a diolehodd yn gynnes i'r brodyr ieuanc am dani. Mae un brawd ieuane arall, Mr T. G. Jones, Pentrecanol, wedi rhoi hulyn du ar y pwlpud, gyda Ilian ar y ford i fynd gyda fo, fel arwydd o barch i'r rhai sydd yn cael eu galw oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Yr ydym yn dra diolchgar i'r brodyr oil am eu caredigrwydd. H. M.
COED-Y-FFLINT*
COED-Y-FFLINT* Mae'n dda gennym weled y chwaer Mrs James Jones, y Pant, wedi gwella ar ol bod yn cwyno am gryn amser. Y niae hi yn sicr yn un o'n ffyddloniaid: ni welir yr un modd-ion heb y chwaer hon yno, os bydd yn iach. Drwg iawn gennym glywed fod y cyfaill ieuane-Private Wilfred Davies, Brynteg, sydd gydar fyddin yng Nghanaan, yn wael, a'i fod yh yr ysby- ty. Bu Pte. Joseph Davies, un o'n bechgyn ieuanc ffyddlon, adref ar ym- weliad da oedd gennym oil ei weled. Y mae erbyn hyn wedi dychwelyd i Ffrainc. GOH.