Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

At Gadeirydd Talaith Gyntaf…

41Y Gwyliedydd Newydd."

I.-BWYD Y BOBL.

[No title]

IARTHOG. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARTHOG. j Damwain Alaethus.— Yn blygeiniol dydd Sadwrn, Mawrth 2il, daeth y newydd prudd fod Mr Thomas Jones Edwards, mab Mr a Mrs William Edwards, Garth Siding, Arthog, vvedi cyfarfod a dam wain angeuol yn War- rington. Y mae Mr William Edwards yn wr o radd dda ac uchel yn Eglwys y Wesleaid, Arthog, yn flaenor ffyddlon, ac yu swysldog defnyddiol. Ac yr oedd ei fab dysgedig a thalentog, yn cad w ei aelodaeth yn Arthog, er yn ttigiannu yng Nghaer. Collasom fachgen ieuanc ac addewid am ddyfodol ddisglair iddo. Un a naws grefyddol yn llenwi ei fywyd. Brawd ieuanc distaw, diwyll iedig, oedd Thomas Jones Edwards, un a berchid ac a anwylid gan ei gydnabod ymhob man. Prawf o hynny ydoedd, llond capel Artbog yn y gwasanaeth angladdol. Sylwodd ei weinidog—y Parch E J. Parry, fod y brawd ieuanc bebryDgid i'r gweryd oer gerllaw yn fachgen llednais, boueddigaidd, ac hawdd ei drin. Ynghanol llawer o nwyf ieuanc, yr oedd ynddo ufudd dod, a pharch, ac edmygedd tuag at ei athraw- on a i feistriaid yn y cylchoedd yr oedd yn troi ynddynt. Medda saith o fedal ion arian, ac oriawr arian, gan Bwyllgor Addysg Meirion, am ei bresenoldeb difwlch i'r ysgol ddyddiol am bum mlynedd. Eoillodd wobrwyon cylch- deithiol a thaleitbiol gyda'r Maes Llafur. Treuliodd dymor yn Ysgol Sir Dolgellau, a gwnaeth ddefnydd rhagorol o'i addysg yno, Yr oedd ysfa pregethu yn Tommy, a chredai llawer y gwnelai bregethwr rhagorol. Bu droion yn dechreu yr ysgol drwy roddi emyn, a darllen, ac adrodd Gweddi'r Arglwydd. Cafodd gynnyg gwaith i lanhau Eugines dan y Great Western Rail way Company a symudodd i Gaer. Bu yno am rai misoedd. Y chydig fisoedd yn ol safodd arholiad yn Swindon, a phasiodd i fynd yn Stoker,' ac nid oedd oud ychydig o ddyddiau er pan y dech- I reuodd ar ei waith yn sefydlog, a thra- yn dilyn ei oruchwyliaeth y. Warring ton, y colloddyn ddamweinioi ei fywyd. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Mercher diweddaf yn mynwent Eglwys Arthog, dan arwyddion o alar mawr. Cafwyd gwasanaeth yn y capel, cymer- wyd rhan yno gan y Parcha E. Jones Edwards (M.C.), J. Williams Davies (A.), acE. J. Parry. Arlan y bedd gan y P&rchn T. S. Ellis, Llanbedr, a E. J. Parry, a tbraddodwyd anercbiad bryd- ferth a chref gan Mr Griffith, Prif Athro Ysgol y Sir, Dolgellau, gan elfenuu cymeriad y brawd ieuanc Thomas Jonss Edwards. Yr oedd y dyrfa liosog yn fynegiad o barch ac edmygedd o'r bachgen ieuanc diwylliediga chrefyddolbwn, yn ogystal ae o'i cydymdeimlad dwfn a'r teuln yn eu galar a'i hiraeth ar ol bachgen mor annwyl a diymffroat. Nerthed yr Arglwydd y tad a'r fam a'r teulu oil yn nyd& eu cyfyngder boed iddynt ddweyd fel Job, "Uwchlaw a welaf, dysg Di fyfi." Tywyll iawn ydyw troion yr yrfa. Caffed y teulu annwyl hwn oleuni dwyf- ol ar ffordd y mynyddcedd duon. Anfonwyd flodaudorchaa prydferth gan gyfeiliion a pherthynasau, a daeth tri o fechgyn ieuanc yr holl ffordd o Gaer gan gludo un flodeudorch brydferth gyda hwy. • E J. P. I

RHIW, PWLLHELI.I

TIPYN 0 BOPETH.