Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIADAU WYTHliOSOL.

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Unioni Cam Cymru. Ymddengys fel pe byddai Cymru o'r diwedd ar dderbyn cyfiawnder oddiar law Senedd Prydain. Ers dros chwarter canrif mae wedi bod yn galw am yr hawl i drefnu mat. erion ei thy ei hun gartref. Preg- ethodd Mr T. E Ellis a Mr Lloyd George efengyl Ymreolaeth i Gymru yn selog a brwdfrydig— ond yn ofer. Cuf gan ami i ddar- llenydd y Gwyliedydd Newydd am y gefnogaeth aiddgar a rodd- odd y diweddar annwyl Hugh Price Hughes yn y cyfarfod Wesle- aidd bythgofiadwy yng Nghonwy llynyddoedd lawer yn ol i ddadl Wesleaid Cymru y dylasent hwy eu hunain gael penderfynu drostynt eu hunain eu cwestiynau eu hun- ain. Dyna hanfod Ymreolaeth. Hawlia Llafur Cymru hynny heddyw-a mynnant ei gael. Gwel- ir cyfnewidiad mawr ym marn gyhoeddas gwladweinwyr Lloegr ar y cwestiwn. Mae hyd yn oed y Times," papur mwyaf dylanwad- ol y deyrnas, yn awr yn dod allan yn eofn i bleidio Ymreolaeth i Gymru. Yn wir a ymhellach na hynny, canys dywed mai trwy Fesur Eang o Ymreolaeth Genedl- aethol i Gymru, a'r Alban, a Lloegr, yn ogystal a'r I werddon, yn unig y gellir dod allan o'r dyrys. wch Gwyddelig. Dywed y Man- ¡ chester Guardian" fod y Llywod- raeth yn awr yn argyhoeddedig o hynny hefyd' a bod yn eu bryd ddwyn Mesur o Ymreolaeth Gyff- redinol ger bron y Senedd, ac y bydd y Mesur hwnnw yn seiliedig ar y Mesur Ymreolaeth i Gymru a ddygwyd ger bron y Senedd dro yn ol, yn bennaf drwy ymdrechion selog a diflino Mr E T. John, A.S. Cred j lawer mai ar ysgwyddau Mr John y syrthiodd man tell proffwyd Cenedlaethokieb Cymru a gafodd Mr Lloyd George pan fu farw Mr T. E. Ellis Gan nad sutam hynny, gall Dwyrain Dinbych ymfalchio yn y ffaith mai ei chynrychiolydd hi y\'r gwr sy'n debyg o waredu yr Ymercdraeth oddiwrth berygl yr Iwerddon ar ol i bawb arall fethu.

Advertising