Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

! BYD CREFYDDOL.

I COLOFN Y LLENOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I COLOFN Y LLENOR. Dyma fel yr ysgrifenna Ap Hefin am weithiau Gethin. Un o'r llyfrau a brisiaf fwyaf yw Gweithiau Gethin," a gefais yn rhodd gan y Parch H. O. Hughes pan oedd yn Aberdar; cyfrol chwe swllt pan gyhoeddwyd hi yn 1884. Anodd fuasai ei chael am unrhyw arian yn awr. Cyn- hwysa dros 400 o dudalennau mewn argraff man. Mae yn llawn o bethau diddorol, yn gofiant, awdlau, englynion, caneuon, ac ysgrifau, yn eu mysg hanes taith i Germany. Hen Gymro diddan ac amlochrog oedd Owen Gethin Jones, o Benmachno. Merch iddo ef oedd gwraig y diweddar Barch Edward Humphreys, yr hwn a ysg- rifennodd ei gofiant. Yr oedd Gethin yn enw mawr yn ein ty ni pan oeddwn i yn blentyn Ei waith ef ar y 'Cryd,' a'r 'Dant Colledig,' oedd y darnau cyntaf a ddysgais o'r Winllan.' Hwyrach y daw y rhai hynny i'r golofn hon rwydro; ond y tro hwn cewch damaid o'i ryddiaith" :— I Y Flordd i Foddio'r Byd. Dywed wrth y farn mai ei phlant hi yw y rhai tlysaf yn y byd. Dywed wrth y pregethwr y dylai gael ychwaneg am ei lafur. Dywed wrth y person mai yn yr Eglwys y dylai'r Ymneilltuwyr fod yn addoli. Dywed wrth y tafarnwr fod ei ddiod yn tra rhagori ar bob un arall. Dywed wrth y siopwr ei fod yn gwerthu nwyddau yn is na neb. Dywed wrth y Pab mai efe sy'n ei le. Dywed wrth wr a gwraig sydd heb blant mai eu ty hwy a'u dod refn yw y rhai glanaf yn yr holl wlad. Dywed wrth y ffarmwr fod trethi yn drymion. Dywed wrth y gwas a'r forwyn fod eu di wrnod yn rhy hir. Dywed wrth hen lane a ben ferch fod eu cathod a'u cwn bach clysion sydd ganddynt yn lfawer mwy cysurus na phlant. Dywed wrth y cerddor fod ei lais fel llais angel, ac fod yn resyn na bae'r holl gotau dan ei gyfar Wyddyd. • Dywed wrth y bardd ei fod wedi cael llawer o gam. Dywed wrth y telynor mai'r delyn sydd yn gwneud y byd yma gystal ag y mae. Dywed wrth dy deiliwr fod dy ddillad yn ffitio i'r dim. Dy w ed wrth y crydd fod yr esg- idiau yn esmwyth. Dywed wrth y goges fod ei bwyd- ydd yn fiasus. Dywed wrth y cor mai arnynt hwy y mae llygad a chlust y byd ymhob cyfarfod yn disgwyl. Dywed wrth John bach y daw'n ddyn nobl yn y man. Dywed wrth y-darluniwr ei fod yn euro natur. Dywed wrth y balch ei fod yn anrhydeddus. Dywed wrth yr hunanol ei fod yn anffaeledig. Dywed wrth y bugail ymha le y mae'r ddafad gyfrgolledig Dywed wrth y Tori fod ei scriw yn rhesymol. Dywed wrth y Whig mai efe a rwystrodd y byd lewygu. Dywed wrth y Radical y dylid troi y byd a'i wyneb yn isaf. Dywed wrth a doctor y gall wneud gwyrthiau. Dywed wrth y twrnai mai efe yw'r unig un cyfiawn. <

[No title]

I BWYD Y BOBL. ■

[No title]

- fLLOFFION DIKW&STOL. I i1…