Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYRAU Y M va R,
LLYTHYRAU Y M va R, Pte. W. C."Jones, 29837, SthBatt., R. W .F., "i A Section, Asher Barracks, Mesopotamia Ex. Force, 10/12/17. Annwyl Mr Jones, Y mae yn bleser o'r mwyaf gen- nyf gael ysgrifennu ychydig linell- au atoch, gan obeithio yn fawr eich bod yn mwynhau iechyd o'r sort ore. Yr wyf yn y wlad ddieithr yma ers blwyddyn bellach. Yr wyf yn teimlo fel y Salmydd fy mod yn gallu molianu yr Arglwydd hyd yn oed mewn gwlad ddieithr. Y mae y fiwyddyn yma yn un neilltuol ar lawer cyfrif: yr wyf wedi profi rhai pethau chwerw ar fy nhaith, ond er gwaetha'r anhawsterau cef ais nerth i ganu. Y mae yr bin wedi bod yn eithriadoi o boeth yn ystod misoedd yr haf, a gorfu i mi fyned i'r ysbyty eilwaith gan effaith y gwres; y mae tymor y gaeaf wedi dod bellach, a pheth dieithr lawn i ni oedd cael cawod o wlaw prydnawn ddoe. Yr ydym wedi cael gwared a'r Mosketoes a'r Sand Flies, y mae rhain yn greaduriaid bach, ond wedir peri llawer o boen i ni am fisoedd. Y mae'r Mosketo yn. greadur tipyn mwy, y mae hwn hefyd yn greadur plagus, yn neill tuol felly yn y nos, pan y byddwn yn ceisio myned i gysgu, ac onibae am y net' sydd gennym buaswn wedi myned yn wallgof ar lawer .tro. Cefais adegau hapus tra yr oedd= wn gyda'r Battalion ym misoedd yr haf. Credaf fod gennym un o'r Capleniaid mwyaf gweithgar sydd ar y maes, ac y mae pot;¡ un ohon om ddaeth i gysylitiad ag ef yn hoff iawn o honno. Yr oeddyrn yn cael tri gwasanaeth bob Sul: yr oedd yr oedfa gyntaf yn dechreu am chwech o'r gloch y bore, ac i fod yn barod i'r gwasanaeth yma yr oedd yn rhaid codi am 4 30 a.m.; yr oedd yn rhaid i bob un ymolchi, shavio, a glanhau ei" rifle mewn pryd i'r Parade yma, gan fod yr Officer yn inspectio, pob un yn fan. wl cyn myned i'r gwasanaeth, a phob un fyddai heb shavio byddai rhaid iddo ymddangos o fla'en y C,O." bore trannoeth. Yn dilyn gwasanaeth y bore yr oedd gwas- anaeth yr Ordinhad. Yr oedd gwasanaeth yr hwyr yn dechreu am hanner awr wedi saith, ac yr oedd y canu yn y wasanaeth yma yn fendigedig yr oedd yn parhau hyd naw o'r gloch. Dyma'r modd yr, oeddym yn treulio'r Sul. Sefydl wyd Cor yn y Battalion, ac yr ydym wedi cael nosweithiau difyr iawn wrth ganu y tonau a'r emyn- au ddysgwyd gennym yn ein heg- Iwysi gartref. Yr oeddym hefyd yn myned i wasanaethu mewn cyngherddau, ac yr oedd yn rhaid i'r Cor Cymreig ymddangos eil-. waith ar y llwyfan, ac weithiau fwy nag hynny yr oedd yn rhaid canu "Aberystwyth" yn mhob cyngherdd..Cawsom y fraint o fyned i'r ddinas enwog Bagdad, buom yno am wythnos yn ceisio cysuro y clwyfedigion yn y gwa- hanol glafdai trwy gynnal cyng- herddau daeth y diweddar a'r an- nwyl Sir General Maude i un o'r cyngherddau yno, a siaradodd yn uchel am y modd y canodd y Cor yn Gymraeg. Yr ydym wedi colli un o'r arweinwyr goreu ym mhers- on y diweddar Sir Stanley Maude. Cymerodd ddyddordeb yn ein cys- ylltiadau crefyddol, a dywedodd y Caplan yn ei anerchiad ddydd ei angladd, ei fod wedi bod yn gyn- orthwy mawr iddynt hwy yn eu gwaith yn mhob rhan o'r maes ac erys ei goffadwriaeth yn annwyl gan bawb. Yr wyf. ar hyn o biyc yn y Base, heb fod ymheil o Basrak, mewn Barracks enfawr. Y mae y cylch- yniadau yn newydd i mi, ond yr wyf yn dechreu cynefiino, ac y mae gennyfgyfeillion o'r sort ore. Y I mae yma ddau Gaplan Wesleaidd. Cynhelir tri gwasanaeth ar y Sul yma hefyd. Cytarfod y Brother- hood sydd yma am ddau o'r gloch, ac y mae yno nifer liosog yn bres- ennol bob Sul; rhoddir cyfle i bawb gymeryd rhan yn y cyfarfod yma yn ei dro. Rhoddir ancrchiad byr, gan un o'r aelodau bob Sul, a chenir unawdau gan rai o aelodau y Cor. Yr wyf yn teimlo fod y cyfarfodydd hyn yn troi yn lies i mi, ac y maent megis yn rhoddi bywvd ac yni newydd ynof y mae presenoldeb Duw i'w deimlo yn agos yn y cyfarfodydd. Brysied y dydd pan y cawn eto fod ymhlith ein hen gyfeiUion yn yn yr eglwys gartref. Diolch i'r Arglwydd am ei nawdd a'i amddi- ffyn trosof yn y gorfiennol; yr wyf am ei wasanaethu bellach hyd ddiwedd fy oes. Derbynied pawb 0'111 cyfeillion fy nghofion cynnes trwy gyfrwng y Gwyliedydd, gan ddymuno i bawb Flwyddyn New- ydd Dda yn mhob ystyr. Gan ddymuno rhan yn eieh gweddiau, Ydwyf, eich cywir, CHARLES JONES (Gynt o Llanelwy).
EARLESTOWN.
EARLESTOWN. Dathiiad Gwyl Dewi.-D,yma hen sefydliad yn y dref hon ers llawer iawn e flynydaoedd, sef cael Eisteddfod ond yn ystod y rhyfel erchyll yma rhaid bodloni ar rywbeth llai, sef cyfarfod cystadleuol, a hynny yn fwyaf arbennig i blant. Cafwyd. cystadleuaethau mewn datganu, adrodaiadnu, allythyrau. Yn absenoldeb Mr D: J. Price, Warrington, fel eadeirydd ,ac arweinydd, yr hwn a jgofiodd am danom mewn modd arall, gwnaed ei waith gan Mr Edward Rob erts; Lawrence Street (gynt o Dolwydd- elen). Beirniad yr adroddiadau a'r traethodau, y Parch J. Meirion Jones, Ashton. Beirniad cerddorol; Mr R. Williams, St Helens. Gyfeilydd, Miss Dellie Proffit, Gwasanaeth wyd3 ni fel cantorion gan Miss Duckworth, o'r dref hon, a Mr Will Roberts, Ashton. Caw- som gyfarfod rhagorol ymhob ystyr, a digon o fynd ar bopeth. Y Sabbath dilynol cawsom wasanaeth ein parchus w ainidog-y Parch. J. Meirion Jones. Yr ydym fel tri enwad yn ymuno ar adegau neilltuol fel hyn, ac y mae hyn yn sicr n gryfhaa yr undeb yn fwy na dim arall. R. H. J.
CARMEL, ABERCYNON.
CARMEL, ABERCYNON. Dyma air byr o hanes y rhan olaf o dymor ein Cymdeithas Ddiwylliadol. Y mae rhan olai y tymor eto wedi bod yn wir llwyddiannus. Ioriawr 2, cawsom ddarlith ardderch- og ar "Bunyan—y dyn a'i lyfz," gan y Parch T. Rowlands. 1. Iocawr 9, Cyfarfod Gweddi. lonawr 16, papur gan Mrs R. H. Pritchard ar Dorcas," ac hefyd papur gan Mrs Evans, Olettwr House, ar Y Ddinas Sanctaidd, lonawr 23, papar gan Mr T. 0. Wil- liams ar Adam Clarke." lonawr 30, papur gan Mr R. C. Lewis ar John Bryan." Chwefror 6, papur gan Mr Joseph Hughes ar Ddyn y Ddau Lyfr." Chwef. 13, papur gan Mr R. D. Jones ar "Daniel," ae hefyd gan Mr Ernest Edwards ar Timotheus." Chwef. 20, papur gan Master D. Wes- ley Evans ar Benjamin Franklyn," ac hefyd papur gan Master Ritchie Wil- liams ar y Beibl." Chwef. 27, papur gan Mrs Blodwen Davies ar Anhawsterau y Crefyddwr Ieuanc. D.J.
WEASTE.'I
WEASTE. Treuliwyd y Sul, Mawrth 3ydd, i ymdrin a'r Ysgol Sul. Cafwyd pregeth yn y bore gan Mr J. D. Owen, Open- shaw. Yn y prydnawn cafwyd Cyfar fod Ysgol lleol, dan lywyddiaeth Mr E. Jones, Llywydd yr Ysgol. Decbreu- wyd trwy fawl a gweddi gan Mr Kerfoot Williams; anerchiad pwrpasol gan y llywydd; cafwyd ton gan gor y plant, dan arweiniad Mr J. Aneurin Roberts adrodd Salm 121, gan Miss Dorothy Morris Solo gan Master T 0 Jones adrodd Salm 8, Master Arthur Roberts adrodd emyn, Miss Phillis Jones; anerchiad gan Mr J. Roberts, Oakley Street, yn Ilawn brwdfrydedd, ar yr Ysgol Sul a'i dylanwad yn y gorffennol a'r presennol; ton gan gor y plant; diweddwyd gan Mr Gwilym Jones. Am 6.30 yr hwyr, Mr 1. Mostyn Williams i bregethu, ond yn lie pregethu rhoddodd anerchiad oditiog ar yr Ysgol Sul. Yn ystod y cyfarfod hwn cafwyd unawdau gan Miss Polly Williams, a Mr J. Aneurin Roberts. Credir fod dyfodol disglair i Miss Polly- vVïlliams, fel cantores; ond am Mr Robetts, mae ef yn adnabyddus fel cerddor, a bob amser yn barod i roi ei wasanaeth i bob achos da. Cawsom Sabboth dedwydd. I Cymro.
I SOAR, NEW BROUGHTON. I
I SOAR, NEW BROUGHTON. I Cafwyd yn y lie uchod Gymdeithas yn ystod tymor y gaeaf yma dan ly- I wyddiaeth y Parch R. G. Huws, Tany- fron,—y cyfarfodydd trwy y tymor wedi bod yn llwyddiannus iawn. Nos Lun, Mawrth 11, cawsom gyfarfod amrywiaethol i'derfynu y tymor. Roedd y buddugwyr. fel y canlyn:- Maes Llafur, plant o dan 9 oed, Sydney Evans. Maes Llafur, plant rhwng 11 a 13 oed, D. Vincent Ellis. Cystadleuaeth Dadl, Mr Joshua Whitley a Thos. J. Whitley. Chalk Sketch ar y Blackboard, Tbos. J. Whitley a H. M. Hopwood. Ped- warawd, Parti Mr David Jones. Beirn- iaid: Adroddiadau, Mri T. G. Whitley a Penry Jones; Sketch, Miss E. A. Williams a Mr Wm. A. Williams; Canu, Mri Robt. Davies a D. O. Whit- ley. Cyfeiliwyd gan MriD. O. Whitley, a Stanley Davies. Llywydd y cyfarfod, Mr Luther Williams. Cymerwyd rhan mewn datganu gin y rhai canlynol.: -I Miss Hannaby, Broughton; Master ¡ Trevor Williams canu peniilion,- Miss Jennie Roberts Male Voice Quartette, Parti G.' Evans. Adroddwyd hefyd gan Miss Beatrice Jones a Miss Julia Martin. I 11 YSG.
IILLANGOLLEN.I
I LLANGOLLEN. Bu Cyngerdd Mawreddog yn y Neu- add Drefol dydd Gwyl Dewi er hudd Cronfa'r Milw, r Cymreig. Cadeiriwyd ac arweiniwyd jan y Parch Rhys Jones, Llywydd y Gy ndeithas Gymreig, o dan nawdd yr hon y cynhaliwyd y cyngerdd. Trwy rodd o eiddo Cymdeithas Cynni y dref, anfonodd yr Ysg. (Mr A. P. Morgan) y swm o C31 i gynorthwyo'r milwyy. • Nos Wener, Mawrth 8fed, bu'r Parch R. J. Patterson, LLB., yn annerch yn y dref ar ran Gwaharddiad y Fasnach Feddwol. Teneu ydoedd y cynhulliad ac ystyried poblogaeth Llangollen. Lfywyddwyd gan y Parch T. C. Anwyl, gweinidog y Wesleaid Seisnig. Pasiwyd penderfyniad unfrydol yn galw am waharddiad yn ystod y rhyfel a ehyfnod y diarfogi, Llongyfarohwn Luned Jones, merch hynaf y Parch Rhys Jones, ar ei gwaith yn ennill yr ail wobr am General,, Pro- gress yn Ysgol y Cyngor (Babanod). Bwrledir cael Jumble Sale yma nos Sadwrn, Ebrill 6ed. Trefnir ar ei chyfer gan Mrs S. R. Parry a Mrs E. D. Jones. A wnaiff rhai o'n hen gyf- eillion anfon rhywbeth inni ar ei chyfer? Apeliwn yn daer am help cyfeillion yr achos- I GOH. I
I .HANLEY.. I
HANLEY.. I Croesawn i'n plith y*~ehwaer ieuanc Miss Hilda Pugh, Machynlleth. Ed- rycha yn gartrefol gyda ni, ac mae'n ffyddlon iawn i foddianau'r cysegr. Eiddunwn iddi bob llwyddiant. .t Bu ein cyngherdd blynyddol eleni eto yn llwyddiant mawr. Cadeiriwyd gan Mr Edward Roberts, Mayer Street, a chaed cyngerdd da o'r dechreu i'r diwedd. Gwasanaethwyd gan Got Eg- lwys Annibynnol Seisnig Hope Street, o I J dan arweiniad Mr Parry, a chaed gan- ddvnt raglen goefch a da. Diolchwyd i'r Cor a'u harweinydd gan Mr Roberts (ein gweinidog), yn cael ei gefnogi gan Mr Thomas Griffiths (un o Oruchwyl- wyr y Gylchdaith). Disgwylir y ceir elw da oddiwrth y cyngerdd tuag at I drysorfa'r Trust. I Da oedd gennym weled yh ein cyn- ulleidfa y Sul diweddaf y Private George J. Salisbury, Halkyn, Cylchdaith Tra- ffynnon. Y mae ef ar hyn o bryd yn Ysbyty Milwrol Burslem, yn ceisio gwellhad o'r anffawd a'i cyfarfyddodd yn Ffrainc ychydig fisoedd yn ol. Da gennym ei fod yn gwella. Duw a'i fendithio yn y dyfodol, ac a daeno Ei aden amddiifynol drosto. Balch oeddym o weled Private R. W. Parry adref am leave" o Ffrainc. Edrycha yn dda. Brysied yn ol eto, ac i aros. Y mae angen am ei gynorthwy parod arnom fel eglwys.' GOR.
jPENTREDWR. -
PENTREDWR. t Cawsom gwmni'r brawd J. E. Jenkins yn y seiat nos Fawrth diweddaf. Yn Ffrainc y mae gyda'r Royal Engineers, ac er heb fod yn y linell gyntaf, eto bu mewn perigl lawer gwaith. Da oedd ei glywed yn siarad yn y seiat ac yn canmol gras Duw. Apeliai am weddiau'r eglwysi gartref ar ran y bechgyn, a chredai ef, fod llawer un ddigon difedd- wl o bethau ysbrydol wedi eu dwyn i feddwl yn yr heldrin hwn. ♦ Aeth Miss Annie Jones. merch Mr Robert Jones, Trysorydd yr Eglwys, i'r Royal Alexandria Hospital, Rhyl, yr wythnos ddiweddaf, i baratoi at fod yn weinyd'des. Cysgod yr Arglwydd a fo drosti. I GOH.
I RHEWL. -.,.
RHEWL. Gofidiwn fod Mr Peter Morris, mab ein blaenor ffyddlon Mr David Morris, Brynderwen, wedi ei glwyfo yn Ffrainc. Erys yn yr Ysbyty yn Ffrainc ar hyn o bryd, ond y mae yn gwella'n rhagoro). Ym Mhalestina y mae y brawd T. R. Jenkins, a gwelsom flodau o Fynydd Seion, o Jerusalem, wedi iddo eu danfon gartref. Cofiwn am yr holl fecbgyn glewion yn ein gweddiau.
I PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Yn ol awgrymiad Ysgrifennydd Cyng- hor Eglwysi Rhyddion Cymru am i'r Sul, Mawrth 3, fod yn Sul neilltuol ynglyn a/r Y sgol Sul, cafwyd anerchiad- au nos Sul gan Mri John Griffith a Jonathan Jones, Llys Ednyfed. Cafwyd anerchiadau rhagorol gan y ddau, a mawr hyderwn y bydd diwygiad ynglyn a gwaith yr Ysgol Sul, ac yn enwedig yn y rhai mewn oed yn rboddi eu presenol- deb. Nos Iau diwoddaf dirwynwyd gwaith y Gobeithlu trwy gael cyfarfod amryw- iaetbol i'r plant. Llywyddwyd gan Mr John Roberts, Canol Cae,-a beirniad wyd y canu a'r adrodd gan Tom Lloyd (Llwyd Eryri). Awd trwy rhaglen chwaethus a dyddorol, mewn canu, àd. rodddiadau, cystadleuaethau a dadleuon. Dydd Sul a Llun, Mawrth 17 a 18, cynhaliodd eglwys y Tabernacl eu cyf- arfod pregethu. Gwasanaethwyd gan y Areli O. Madoc Roberts a Mr W. Caenog Jones. Cafwyd pregethau rhag- orol a chynulliadau mawrion. Nos Sad wrn blaenorol traddododd Mr Caenog Jones ei ddarlith ar Y Fun a'i Llusern." Y cadeirydd penodedfg oedd Dr. Rees, Dehetfdir Cymru, mab. Mr a Mrs Thomas Rees, Cambrian View. Nid oedd yn alluog i fod yn bresennol, ond anfonodd rodd haelionus at yr achos, ac yn ychwanegol at hyn addawodd rodd flynyddol at y capel nes bydd y ddyled wedi ei chlirio. Cadeiriwyd y noson honno gan Mr Thomas Rees, tad y Dl. Diolchodd Mr Caenog Jones. i Dr. Rees, ac hefyd siaradodd y Parch J. R. Roberts. GOff. ( 11 I