Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

America a Diota Prydain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

America a Diota Prydain. Y mae Prydain, mae'n ymddang- os, yn fodlon i rwysg diota fynd rhagddo serch i ni oddef prinder cyllid, a bara ie, a serch lygru o hynny ein mi wyr ein hunain a'n cyngrheiriaid, ond y mae yr Ameri- ca yn benderfynol o ddwyn pressure arnom yn y mater hwn. Y mae Anti Saloon League y wlad honno wedi apwyntio cynrychiol wyr galluog a chyfrifol i ddod trosodd yma i astudio, a gweled trostynt eu hunain y modd yr ym yn difetha defnydd bara yng ngwneuthuriad gvvirod a bir. Y cynrychioiwyr ydyw Dr. James Cannon, Rfch- in ond, Cadeirydd National Leg islative Committee of the Anti-Sal oon League," a Dr. Moore, Is-gad eirydd y League. Mewn ymgom gyda un o wyr y wasg, dywedant, fod yn y "Taleithiau sychion'' "ddyddiau di-fara" er rn wyn cyn ilo, ond y. teiffilid yn anfoddog iawn tra yr oeddynt hwy no yn ccspi eu hunain yn y modd hwn fod Prydain yn difetha cym aint mewn gwneud diod Yr oedd yr anfoddogrwydd mor fawr fel y bygythid atal allforio yd os na roddid pen ar y gwaradwydd. Heblaw chwilio i achos y ddiod y mae y cynrychioiwyr wedi ei cenhadu hefyd i chwilio y gwersyll- oedd lie y ceir milwyr American aidd, ynglyn a'r cyfieusterau i anfoesoldeb, &c.|; bwriadant ym- weled a Lloegr, Ffrainc, ag Itaii Pan y dycfiwelant cyfLvynant eu hadroddiad i swyddfeydd y fyddin ar llynges. Paham yn eftw pob cysondeb na rydd Frydain ben ar y gwaradwydd yma ? Dywedai Mr Macpherson, ein His-Ysgrifennydd Rhyfel, nad aliem ymyrrid gyda mater anfoesoldeb yn Ffrainc rhag ofn digio yr awdurdodau yno—a hwythau yn gyngrheiriaid i ni. Lol, v rth. gwrs, ydyw hynny eto paham na roddwn ben ar wastraff y ddiod er mwyn sicrhau teimlad- au da cydrhyngom a'r America ? A yw yr America yn llai pwysig naj Ffrainc, ac yn arbennig felly pan y mae yr hyn a geisia mor resymol a glan. Dyvselodd Mr Lloyd George air yn y City Temple y dydd o'r blaen mae un o oruchwylion pennaf yr Eglwysi Cristionogol yn ystod y Rhyfel ydyw gofalu nad orchfygir y wlad gan feddwdod eithaf gwir, ond tybednad oes gan v wladwriaeth rwymedigaeth yn y mater hefyd ? Dygodd yr Eglwys pressure mawr ar y wladwriaeth ymhlaid gwahar- ddiad yn nechreu y rhyfel, ond y cwbl a gawsom oedd pwyllgor i ystyried y priodoldeb o brynu y Fasnach. A serch fod y dydd yn ddydd gofwy y genedl bu y pwyll gor hwnnw flwyddyn gron heb gy hoeddi adroddiad. Chwedl un o newyddiaduron y Trefedigaethau, laddwyd gwaharddiad o dan garn- au Stalking Horse Pryniant, ac erbyn hyn dywed y Llywodraeth wrthym nad oes y gobaith lleiaf flffi na ptrjniant na gwaharddiad. Mae twyll y darllawyr wedi ateb y diben yn gampus mae'r ddiod ym mynedrhagddi yn ardderchog, a'r genedl yn gwario mwy nag erioed, ie, yn "nydd cynideb," a'r oil i ddif ethá ei hun. etha ei hun. Gwelwn ymhellach gymaint o ddifrif ydyw yr America ar fater Prydain a'r ddiod yngoleu un o ddatganiadau diweddar Dr. Shel- don, yr areithydd, yr awdur a'r pregethwr Americanaidd poblog- aidd. Bu Dr. Sheldon ym Mhryd- ain dros amryw wythnosau yn cyn -1 orth yo yr ymgyrch ymhlaid gwaharddiad. Cyfrifir ei fod wedi annerch, tra y bu yma, o leiaf 100,000 o bobl. Y mae v Dr. erbyn hyn wedi dychwelyd adref, ac yn un o'i ddatganiadau cyhoeddus ar dychwelyd dywedodd, fod y cyf eillgarwch cydrhwng yr Unol Dal- eithiau a Phrydain Fawr yn un cywir a chryf, eto os na fyddai i Brydain, yn fuan, wneud rhywbeth gwir effeithiol i liniaru difrod pechadurus diota, y profid y cyf eillgarwch hwnnw yn enbyd. Pan y glament ym Mhrydain gwerthai y tafarnwyrftr a gwirod yn gw bl ddibetrus i'r milwyr American- aidd yr oedd eu holl fryd ar fudr- eliv ac ni roddant eiliad o ystyr- iaeth i ewyllys a theirnladau yr Unol Daleithiau. Nid oes arlliw meddwdod," ebai y Dr., yng ngwersylloedd yr America, ond gwelais ddynion mewn gwisgoedd milwrol yn cael eu lluchio allan o'r tafarndai yn yr oil o'r trefi a'r dinasoedd yr ymwelais a hwy yn Lloegr. Yn Lerpwl gwelais ddyn- ion mewn Khaki yncae! eu lluchio allan o'r tafarndai er mwyn gwneud lie i eraill fynd i mewn a phan a ein bechgyn ni drosodd nid aroddfffynir hwy, mewn unrhyw fodd, rhag yr aflwydd. Yr yi-n ni yn disgyblu ein bechgyn mewn gwersylloedd glan, heb ynddynt na diod nac anlladrwydd ac yn eu cludo drosodd hefyd mewn Hongau, glanoddiwrth y gwenwyn, ag y mae 28 o'n Taleithiau yn ei wahardd fel peth marwol i iechyd, a mossoldeb, a thwf goreu dyn a gwladwriaeth eto, heb ystyried ein cvfeiilgarwch na'n pryder mawr.f/ mae Llywodraeth Pryd ain, yn feiddgar, a diofal, yn gwerthu y gwenwyn hwn i'n meib- ion. Y mae yn beth anghyfreith- lon i neb yn yr Unol Daleithiau werthu diod i un mewn gwisg filwrol. Cyn i ni roi ychwaneg o'n meibion, tybed nad yw yn -,ed nad yxi7 vn briodol i ni ddweyd wrth Llywod- raethwyr Prydain fod rhaid iddynt hwythau drefnu yn gyffelyb. Diau yr a y rhyfel rhagddo, ond os na ddiwygia Prydain ni all y cyfeill garwch a fodola cydrhyngom bar- hau." Y mae'r geiriau hyn yn rhai dif- rifol aruthr, ond ni chymer rheol wyr Prydain nemor sylw ohonynt: troant atynt glust fyddar, gan fynd rhagddynt gerfydd eu trwyn. au yn nwylo'r darllawyr. Ei gweithred* orffwyllog ddiweddaf ydyw gwahardd i neb anfon copi o lyfr diweddaf Mr Arthur Mee dros odd ïrUnol Daleithiau. Dywedodd Mr L ioyd George yn ei araith yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngrhair yr Eglwysi Rhyddion, yn y City Temple, fod y Llywodraeth yn d's gwyl i'r Eglwysi ddwyn pob dylan- wad i wasgu arni ynglyn a phethau moesol. Wei, hwyrach fod hynny yn wir, ond mae'n amlwg ei bob wrth ei bodd yn ufuddhau, nid i'r Eghvysi, ond i'r darllawyr.

I GLYNDYFRDWY. ---I

NOCION WESLE^IDD, 1 I

 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig.…