Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

America a Diota Prydain.

I GLYNDYFRDWY. ---I

NOCION WESLE^IDD, 1 I

 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig. ?r?'mr?%?i?.??t 'M)J? AtLiM. Syr, Y ddadl rhyngof fi ag Esgob Tyddewi yw-ai gwir ai gau y gos- odiad a wneir drachefn a thiachefn gan bleidwyr yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru fod gohiriad 4 dydd- iad dadgysylltiad' oherwydd y rhyfel wedi peri colled ariannol difrifol i'r Eglwys Ddadsefydledig. Dyna'r ddadl ar sail yr hon yr anfonodd Eglwyswyr Cymreig apel 'ad misericordiam' at Ymneill- tuwyr Cymreig, gan geisio newid darpariadau Ded-df yr Eglwys Gymreig fel ag i sicrhau telerau mwy haelionus fyth i'r Eglwys Ddadsefydledig. Nodais allan yn fy llythyrau blaenorol beth oedd y ffeithiau gwirioneddol ynglyn a'r mater—fod gohiriad, nid yn unig ymhell o fod yn peri coiled, ond wedi dod ag enillion sylweddol i'r Eglwys. Cyfeiriais yn benodol at ffynhonell yr elw hwn, a gwahodd- ais yr Esgob -i roddi ateb plaen Ydyw," neu Nag ydyw," i'r cwestiynau canlynol,— (1) Ayw yn ffaith ai nad yw fod yr Eglwys Ddadsefydliedig drwy y gohiriad am dair blynedd wedi enill tair blyn- edd o flwydd daliadau y buasai yn rhaid eu talu oni bai hynny o'r Commutation Fund' ? A yw yn ffaith ai nad yw fod y Clerigiwyr yn ystod y gohir- iad wedi derbyn eu hincwm llawn o'r degwm, yr hwn onibai am y gohiriad fuasai wedi pasted i feddiant y Cynghorau Sirol. A yw yn ffaith ai nad yw y bydd yn rhaid cyfrif y tair blynedd hyn wrth wneud cyfrifiad o fuddiant mewn bywyd (iife interests) y Clerigwyr i bwr- pas y Commutation,' er y byddant eisoes wedi cael talu am danynt ? Ae ai nid canlyniad hyn yw y bydd i'r Corff Cynrychioliadol dder- byn am y buddiannau hynny swm fydd o leiaf £ 220,000 yn yn fwy na gwerth gwirion- eddol y buddiannau bynny ? (2) A yw ynffai th ai nad yw fod graddfa'r Hog yn ol yr hwn y gellid buddsoddi y 'Com- mutation Fund' wedi ei amcangyfrif yn Neddf yr Eglwys Gymreig yn ol 3 £ y cant, ac fod y raddfa wedi codi yn awr i 5 y cant ? Ac a yw yn ffaith ai nad yw fod incwm yr Eglwys drwy hyn wedi cynhyddu [67.550 y flwyddyn ? (3) A yw yn ffaith ai nad yw fod codiad o £ 46,000 wedi ei wneud yng ngwerth blyn- yddol y degwm, ac fod y cynnydd blynyddol hwn yn cynrychioli swm mewn cyf- alaf o £ 598,000 ? Dyma atebiad yr Esgob:- "Mae y llythyr oddiwrth Mr Haydn Jones a ymddengvs yn eich colofnau y bore hwn yn am- herthynasol i'r pwnc a gyfodwyd