Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Dywed y British Weekly' fod y Llywodraeth wedi bwrw dros y bwrdd fel peth amhosibl y bwriad o ddwyn mesur î brynu a iheoli y Fasnach Feddwol. Os yw hyn yn wir, diau fod o leiaf dri o bethau yn cyfrif am dano :—yr anhawster cyllidol, gwrthwynebiad bron un. frydol y wlad, a gwahaniaeth barn yn y Llywodraeth ei hun. Wei, gan fod curwgl bregus Pryniant wedi mynd yn chwilfriw, hyderwn y gwelir holl garedigion sobrwydd yn ddiymdroi yn plygu ar y rhwyf- au yng nghwch Gwaharddiad." Y mae ffirm Lever Bros,, y mas nachwyr sebon enwog, yn ystyried y posiblrwydd a'r priodoldeb o drefnu na bo diwrnod gwaith neb yn eu fiatrioedd yn fwy na ehwe' awr.
I Y Rhyfel" o Ddydd i Ddydd.…
I Y Rhyfel" o Ddydd i Ddydd. I Dydd Llun, Mawrth 18. Bu cryn ymladd o bobtu'r Meuse, ac ar y gorllewin llwyddodd yr ymosodwyr Ffrengig i dreiddio i mewn banner mill- tir i linell y gelyn, gan wneud cryn hafoc, a chymeryd 160 o garcharorion. Gwnaeth y Germaniaid ymosodiad cyff- elyb i'r dwyrain. Ourwyd hwy yn ol o'r safleoedd a gymerasant, a honid lod 200 o garcharorion wedi eu cymeryd. Dydd Mawrth. Y mae Prif Weinidogion y Cyngheir iail wedi anfon protest unedig allan yn erbyn y telerau heddwch a osodir gan Germani ar- Rwsia. DrwV gytundeb Brest, yr hwn na chydnabyddir gan y Cyngrheiriaid,dywedir fod bywyd cenedl- aethol Rwsia yn cael ei ddarostwng i'r dim, ac yn ymarferol caniateir i Germani feddianu tiriogaethau eang. Yn awr hysbysir yn swyddogol fod cyfarfod o'r Supreme War Council wedi cael ei gyn nal yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, a bod cynhadleddau gwleidyddol pwysig wedi cael eu cynnal. Yn bresennol yr oedd Prif Weinidog Prydain, Fhainc, ac Itali, yn ogystal a Phrif Weinidogion eraill yngbyda chyfarwyddwyr milwrol pwysjg. Dydd Mercher Ymosododd ehedwyr ar leoedd milwrol ym Mannheim ddydd Llun. Tarawyd y dociau ac amryw leoedd pwysig ereill. Ar hyd y llineilau Prydeinig a Ffren- gig ddoe yr oedd y cyflegrau trymion a'r gwyr traed yn lied brysur. Wrth anerch yn y Senedd, dywedodd Count Hertling, y Canghellor German- aidd, with ddarllen y cytundeb heddwch gyda Germani, nad oedd yn cynnwys telerau dianrhydeddus i Ewsia; nid oedd ychwaith yn goiygu iawn rhyfel gormesol. na meddianu tiriogaethau Rwsiaidd trwy orfodaeth. Gyda phythefnos eto hyd derfyn y flwyddyn ariannoi, y mae'r cyllid canedl- aethol eisoes uwchlaw yr amcanrif o £ 14,750,000- Y mae cyfanrif y flwydd- yn £ 653,359,658. Dydd Iau Dywedir yn yr adroddiad swyddogol o Berlin fod ad-drefniad y byddinoedd yng nghyffiniau Verdun gan y Cadfridog Von Gallwitz, a bod y Crown Prince yn gyfalu am y byddinoedd sydd i'r gogledd o'r Aisne ac yn Champagne. Y mae llong awyr perthynol i'r.gelyn wedi gollwng nifer o belennau rubber liawn o nwy mwstard hylifol ar safleoedd1 yr Americaniaid yn Lorraine. I Y mae'r Ffrancod wedi curo'n ol amryw ymosodiadau cryfion, ac mewn un ohonynt torwyd i fyny ddwy fataliwn r o'r Sturmtrapper. g Ofnir yn Moscow ar byn o bryd sym- udiad amgylchynol o eiddo'r milwyr ):1 Awstriaidd a Germanaidd, ac y mae'r Llywodraeth Bolshevicaidd yn barod i I symud eu prifddinas unwaith yn rhagor. l Y mae Trotsky, fel Gweinidog Rhyfel, wedi ymweled a Moscow gyda chynllun i amddiffyn y wlad. Dywedir yn yr adroddiad Germanaidd swyddogol eu bod wedi symud ymlaen yn Ukraine i'r gogledd o Odessa. Y mae'r cadoediad Rumanaidd wedi cael ei ymestyn i Mawrth 22. Y mae Cabinet newydd wedi cael ei ffurfio yn Bucharest. Nid oes dim swyddogol wedi ei dder- byn eto pa un a ydyw Llywodraeth y Netherlands wedi derbyn cynnyg y Cyngrheiriaid i gymeryd drosodd longau Holland. Yn ystod yr wythnos collwyd 11 o longau tros 1,600 o dunelli, 6 o dan hynny, a dau ogychod pysgota. DyddGwener. Adroddir heddyw am ruthr mawr a wnaed gan y Germaniaid yn Ffrainc ar ein safleoedd ni. Yng nghyntaf tanbel enwyd ein safleoedd yn enbyd, ac yna bu ymosodiad penderfynol gan y gwyr traed ar ffrynt o hanner can' milltir, o lannau yr afon Oise. gerllaw La Frere, i lannau yr afon Sensee yng nghymdog- aeth Croiselles. Parhaodd y rhuthr gyda chryn benderfyniad ar hyd y dydd. I-Awyddodd ylqlyn- i dorri trwy ein saf. leoedd blaen, ac yn wir trwy ein prif safleoedd mews rhai mannau. Rbuthr- ai y Germaniaid ymlaen yn fioteoedd mawr, a bernir y rhaid fod yr ymosodiad wedi bod yn un costus iawn. Mae'r ymladd yn parhau yn dra ffyrnig, a dy- wedir y gellir canfod cryn atgyfnerthion yn cael eu crynhoi a'u trefnu o'r tu ol i rengau y gelyn. Dywedodd Mr Bonar Law yn Nhy y Cyffredin fod y ruthr yn cael ei ddisgwyl, a bod pob darpariaeth posibl wedi ei wneud ar ei gyfer. Cyhoeddwyd Papur Gwyn ddoe gan y Bwrdd Llynghesol yn rhoi hysbysrwydd am tonnage' y llongau sydd wedi eu colli trwy y Submarines o gychwyn y rhyfel hyd Rhagfyr diweddaf. Tonnage gollwyd-Prydeinig 7,079,492 „ Tramor 4,748,080 Cyfanswm 11,827,572 Y mae yr ochr arall-yr enillion trwy adeiladu a meddiannu llongau y gelyn, fel y canlyn— Prydeinig 3,811,555 Tramor 5,383,720 Cyfanswm 9,195,275 Y mae y golled felly yn 2,632,297 o dunelli. Y mae yr America wedi moddiannu yr holl longau perthynol i Holland, a bwriada Prydain a'r Cyngrheiriaid eraill wneud yr un peth. Nid yw Holland, sydd wedi gofalu am fod yn amhleidiol er dechreu y rhyfel, yn fodlon i hyn, ond, megis y gwnaeth Bethman-Holl- weg ynglyn a Belgium, dadieuant ei fod yn angenrhaid milwrol. Wrth gwrs y mae y Cyngrheiriaid yn addaw taiu am y defnydd a wnant o'r llongau, eu gwylied yn ddyfal rhag ymosodiadau y Submarines, a rhoddir llongau new- yddion yn lie y rhai a gollir. Dydd Sadwrn Parhaodd y Germaniaid eu hymosod- iad ddoe yn erbyn y safleoedd Prydeinig rhwng yr afonydd Sensee a'r Oise. Gwnaeth y gelyn beth cynnydd mewn rhai lleoedd, ond costiodd yr hyn enill wyd bris enbyd iddynt. I'r de o St. Quentin treiddiodd minteoedd y gelyn i bentref Essigny. Hawlia'r Germaniaid iddynt gymeryd 16,000 o filwyr Pryd- einig yn garcbarorion, ynghyd a 200 o ynnau- Dywedir gan ohebwyr i oddeutu banner cant o Ddivisions' gymeryd rhan yn yr yn; jyrch hon, ac eu bod oil wedi eu dillaàu mewn gwisgoedd new yddion.. Yn y Reichstag ddoe cymerrdwywyd, wedi trafodaeth faith, yr amodau hedd- wch wnaed a Rwsia. Protestiodd y Sosialwyr yn erbyn yr amodau, a gwrthodasant bleidleisio am y Credit Rhyfel. Y mae Holland yn protestio yn gryf yn erbyn gwaith y Cyngrheiriaid ym meddiannu llongau'r Dutch. Dywedir fod rhwng ugain a phump ar hugain o longau'r Dutch ym mhorthladdoedd Prydain, a chymerir y rhai hyn dros- odd.
[No title]
Yn Nghyfarfod Chwarterol Anni- bynwyr Arfon, a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf ym Mhwllheli, caed ymdriniacth ddyddorol ar adroddiad Pwyllgor Addysg Cyng- or Sir Carnarfon, ac yn arbenmg felly ynglyn a'r *dirywlad,ym moes plant yr ysgolion. Dywedai Mr Pryddereh, o Ysgol Sir Penygroes, fod yna ddirywiad amlwg iawn wedi bod ym moesau y plant y blynyddocdd diweddar. Dywedai Mr Jones Morris,Cadeirydd y Cyng- or Sir, fod y dirywiad yn llawer amlycach yn yr ardaloedd lie y danghosid y darluniau byw." Apwyntiwyd pwyllgor i ystyried yr adroddiad. Hysbysir fod yna 27 o bersonau yn dioddef oddiwrth y frech wen ym mhen dwyreiniol Llundain. Yn niwedd 1917 yr oedd nifer yr hen bobl yn y wlad a dderbynias- ant y Penshiwn yn 948,582, ac o'r rhai hyn yr oedd 938,123 yn derbyn yr banner coron yr wythnos ychwanegol. 1
Advertising
RHIWMATIC. i. idJj ANHWYLDERAU YR ELWLCD. TRINIAETH RAD. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y Ilywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturioJ, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono ac mae wedi iachau achosion dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaethau hen ffasi wn a werthir am brisiau sydd allan <> gyrraedd pawb ond y cyfoethog ac sydd yn fynych syrthio mor fyrr o'r honiadau rhyfeddol a wneir, fel y mae ffydd ynddynt wedi mynd ar goll. I brofi fod Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt-meddygin- iaeth onest am bris gonest—anfonir un blychiad llawn o 40 Tablet i Ddarllenwyr y Gwyliedydd Newydd fel sampl rhad ar dderbyniad y rhybudd hwn a 3c. mewn llythyrnodau i dalu'r cludiad, pacio, &c. Ar werth gan Fferyllwyr, am 1/3 y blwch o 40 Tablet, neu 6 blwch am 6/9. Am samplflwch Ilawn, cyfeirier-Estora Ltd., 132, Charing Cross Road, London, W.C. 2. University College of Wales, ABERYSTWYTH (One of the Constituent Colleges of the University of Wales). OPENED 1872. President:—Sir JOHN WILLIAMS, Bart., M.D., D.Sc, G.C.V.O. Principal: T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict.).| THE Session begins in September. X Lectures commence early in October. Entrance Scholarships and Exhibitions, open to both male and female candidates above the age of 16, are offered for Com- petition at the commencement of the Ses- sion. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the Applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee-in Arts* £ 12, in Science {16. Sessional Registration Fee, {1. Men Students reside in Registered Lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Mr H. H. Paine, M.A., B.Sc. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women Warden Miss C. P. Tremain, B.A. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law De- partment, the Agricultural Department, the Departments for the Training of Ele mentary and Secondary School Teachers, and the Hostels, apply to- J. H. DAVIES, M.A., Registrar. Yr Epistol at y Philipiaid. ESBONIAD DIGURO. I ESBONIAD diguro ar yr Epistol at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngol, 1/ drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rwymo mewn llian, ac y mae ynddo 146 o du. dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i Parch. EDWIN JONES, Barmouth. INDIVIDUAL COMMUNION CUPS FOR LISTS OF Patent "Ideal" Outfits, AND Samples on Approval, Carriage Paid, write to the Makers- Townshends, Ltd., Birmingham
 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig.…
gennyf yn y llythyr y prgffesai ei ateb. Y pwnc hwnnw ydoedd ei fod wedi gwneud camgymeriad rhyfeddol drwy haeru, pe y dig- wyddai 'comutation,' y byddai y cyrmydd diweddar yng ngwerthy degwm yn perthyn yn gyfreithlon. yn ol darpariadau Deddf yr Eglwys Gymreig i Gorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru, ac nid i bersonau unigol sydd ganddynt fuddiannau sefydlog yn y degwm Mater o gyfraith, perffaith agored a syml, oedd yr hwn y cymerais amser i'w ymresymu. Wedi cym- ryd yn agos i fis o amser i fyfyrio, nid yw yn wynebu y mater nac yn ceisio ateb fy ymresymiad. Yn awr, y.mae wedi darganfod iddo wneud camgymeriad rhyfeddol, neu nid ydyw. Os yw wedi gwneud y darganfyddiad hwn, dylai yn agored gyfaddef ei gam- gymenad yn lie ysgrifennu llythyr hir ac amherthynasol. Os nad yw wedi gwneud y darganfyddiad hwn, gwell iddo ofyn irywun sydd yn deall Deddf yr Egl wys Gymreig ddweyd wrtho beth yw ei darpar iaethau. Nis gall boneddwr an rhydeddus sydd yn awyddus am ddim ond i'r gwirionedd gael ei wneud yn hysbys,' fforddio gadael i dros fis fyned heibio heb fynnu gwybod yn derfynol a oedd gosod iad ag y mae wedi rhoddi cylch- rediad eang iddo yn gamgymeriad ai peidio." Mae yr Esgob yn osgoi rhoddi yr atebiad plaen allasai ei roodi, a cheisia daflu llwch'i lygad y cy hoedd trwy rygnu ar ryw 'gam- gymeriad rhyfeddol' yr honna ddarfod i mi ei wneud. Gwadaf yn llwyr i mi wneud unrh:, w gam- gymeriad rhyfeddol o'r fath. Fe esgusoda'r Esgob fi am ddweyd nad oes angen fy nysgu beth yw darpariadau Deddf yr Eglwys Gymreig. Nid anrhydeddus yw gwrthod rhoddi atebion plaen penodol i gwestiynau plaen. Nid yw yr Esgob yn arddangos llawer o awydd am i'r ffeithiau fod yn hysbys, Dynwareda y Llynges Germanaidd—fe ddianc mewn cymylau o fwg. Anwybydda y cwestiynau oherwydd y gwyr yn eithaf da nas gall eu hateb ond mewn un ffordd. Ond byddai eu hateb yr unig ffordd y gellir eu hateb yn gyfaddefiad nad oes ganddo ddadl. Ac felly yn hytrach na bod yn agored a di gel, gwna yn unol a'r hen ddywediad—"No case, abuse plaintiff's attorney." j Ond y mae fy amcan wedi ei gyr- raedd yn awr gan fod y ffeithiau wedi eu gwneud yn hysbys. Mae yr Eglwys Ddadsefydledig wedi ennill yn ddirfawr drwy y gohiriad oherwydd y rhyfel. Gobeithiaf y bydd i fy nghydwladwyr wrthwn ebu yn gadarn unrhyw ymgais i newid telerau y ddeddf yng nghyf- eiriad darpariaeth ariannol ych- wanegol.. Mae y ddarpariaeth honno eisoes yn un hael-mor hael nes ymylu ar fod yn afradlonedd. H. HAYDN JONES, Ty'r Cyffredin, Mawrth 19, 1918. y