Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

I Y Rhyfel" o Ddydd i Ddydd.…

[No title]

Advertising

 ¡ Deddf yr Eglwys Gymreig.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

gennyf yn y llythyr y prgffesai ei ateb. Y pwnc hwnnw ydoedd ei fod wedi gwneud camgymeriad rhyfeddol drwy haeru, pe y dig- wyddai 'comutation,' y byddai y cyrmydd diweddar yng ngwerthy degwm yn perthyn yn gyfreithlon. yn ol darpariadau Deddf yr Eglwys Gymreig i Gorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru, ac nid i bersonau unigol sydd ganddynt fuddiannau sefydlog yn y degwm Mater o gyfraith, perffaith agored a syml, oedd yr hwn y cymerais amser i'w ymresymu. Wedi cym- ryd yn agos i fis o amser i fyfyrio, nid yw yn wynebu y mater nac yn ceisio ateb fy ymresymiad. Yn awr, y.mae wedi darganfod iddo wneud camgymeriad rhyfeddol, neu nid ydyw. Os yw wedi gwneud y darganfyddiad hwn, dylai yn agored gyfaddef ei gam- gymenad yn lie ysgrifennu llythyr hir ac amherthynasol. Os nad yw wedi gwneud y darganfyddiad hwn, gwell iddo ofyn irywun sydd yn deall Deddf yr Egl wys Gymreig ddweyd wrtho beth yw ei darpar iaethau. Nis gall boneddwr an rhydeddus sydd yn awyddus am ddim ond i'r gwirionedd gael ei wneud yn hysbys,' fforddio gadael i dros fis fyned heibio heb fynnu gwybod yn derfynol a oedd gosod iad ag y mae wedi rhoddi cylch- rediad eang iddo yn gamgymeriad ai peidio." Mae yr Esgob yn osgoi rhoddi yr atebiad plaen allasai ei roodi, a cheisia daflu llwch'i lygad y cy hoedd trwy rygnu ar ryw 'gam- gymeriad rhyfeddol' yr honna ddarfod i mi ei wneud. Gwadaf yn llwyr i mi wneud unrh:, w gam- gymeriad rhyfeddol o'r fath. Fe esgusoda'r Esgob fi am ddweyd nad oes angen fy nysgu beth yw darpariadau Deddf yr Eglwys Gymreig. Nid anrhydeddus yw gwrthod rhoddi atebion plaen penodol i gwestiynau plaen. Nid yw yr Esgob yn arddangos llawer o awydd am i'r ffeithiau fod yn hysbys, Dynwareda y Llynges Germanaidd—fe ddianc mewn cymylau o fwg. Anwybydda y cwestiynau oherwydd y gwyr yn eithaf da nas gall eu hateb ond mewn un ffordd. Ond byddai eu hateb yr unig ffordd y gellir eu hateb yn gyfaddefiad nad oes ganddo ddadl. Ac felly yn hytrach na bod yn agored a di gel, gwna yn unol a'r hen ddywediad—"No case, abuse plaintiff's attorney." j Ond y mae fy amcan wedi ei gyr- raedd yn awr gan fod y ffeithiau wedi eu gwneud yn hysbys. Mae yr Eglwys Ddadsefydledig wedi ennill yn ddirfawr drwy y gohiriad oherwydd y rhyfel. Gobeithiaf y bydd i fy nghydwladwyr wrthwn ebu yn gadarn unrhyw ymgais i newid telerau y ddeddf yng nghyf- eiriad darpariaeth ariannol ych- wanegol.. Mae y ddarpariaeth honno eisoes yn un hael-mor hael nes ymylu ar fod yn afradlonedd. H. HAYDN JONES, Ty'r Cyffredin, Mawrth 19, 1918. y