Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
PONTAHDOLAIS.|
PONTAHDOLAIS. Gyda hiraeth dwys a gofid calon y mae gennyf y gorchwylo gofnodi marw- olaetb Mr John Thomas, Ty Gwyn, yn y He uchod, yr hwn a fu farw Chwefror 15, ac a gladdwyd dydd Mercher can lynol yng nghladdfa y "Trinity," yn 82 mlwydd oed. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch Ed Morgau, Aber- tawe, ac amryw o weinidogion yr ardal. Daeth torf fawr i'r angladd i dalu y gymwynas olaf iddo. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel ac yn ffyddiog yn ei Waredwr. Y mae colled mawr i eglwys y Trinity ar ei 01, bu ei ysgwydd yn dyn dan yr arch am flynyddoedd maith- un o bileri cadarnaf yr eglwys oedd yr henj, frawd John Thomas. Gobeithio y cawn weled rhagor o'i fath eto yn y dyfodol. Heddwch i'w lwch. ■f Eto mae gennyf y gorchwyl prudd- aidd o gofnodi morwolaeth Mrs E. Marks, yr hon a fu farw yn 89 mlwydd eed, ac a gladdwyd ym mynwent y Trinity. Gallwn ddweyd am yr hen chwaer yma, Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Bu yn ffyddlon i'r achos hyd y diwedd rhoddodd lety i weinid- ogion, ac yr oedd bob amser yn garedig ac yn ewyllysgar i bob symuctiad da. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu trallod; ond gallant ymgysuro yn y ffaith o'i cholli ei bod wedi myned i well lie yr ochr draw. Bendith y nef- oedd fyddo ar y teulu tSyd. GOH. I
TRE'RDDOL.I
TRE'RDDOL. I Syfrdanwyd y gymydogaeth hon gan y newydd o farwolaeth sydyn ac annis gwyliadwy y diweddar frawd David Roberts, York House, Tre'rddol, yn blygeiniol dydd Mercher, y 13eg cyfisol. Teimlir colled yn barod ar ei ol yn yr eglwys lie 'toedd yn aelod ffyddlon a gweithgar; ac y mae y bwlch yn fawr yn yr Ysgol Sul trwy ei golli fel Arol- ygwr, 'eafodd ei alw adre" C_vn gorffen ei flwyddyn swyddogol. Yr oedd heCyd yn uia o ymdditiedolwyr y capel, ac yn oruchwyliwr y capel. Cadwodd ei dy yn agored am flynyddoedd lawer i gyn- nal yr Ysgol Sul yn y Goitre, cangen o Dre'rddol, pan yn byw yn Goitre Farm, ac ni pheidiodd ei letygarwch wedi iddo symud i'r Shop yn Nhre'rddol. Cym- erodd ei ran mewn croesawu y gwein- idogion a phregethwyr y Gair i'w dy hyd y diwedd. Gwelir felly fod amryw. fylchau wedi eu gwneud trwy ei sym udiad. Brawd syml, dirodres, a diabsen 03dd, ag erwyddion amlwg ers blynydd. oedd ei fod yn addfedu ar gyfer gwlad well. Yr Arglwydd a-gysuro ei weddw a'i blant sydd yn amddifad o dad. Cleddid ei weddillion dydd Mawrth, y 19eg, ym mynwent Llancynfelin. CYFAILL. I
ABERFFRAW. I
ABERFFRAW. I Diau y bydd yn ddrwg gan liaws cyfeillion Mr J. K. Williams, Tre- fri, ddeall i brofedigaeth lem ei gyfarfod yn ddiweddar, drwy golli yn yr angau un o'i blant bach sir- iol. Enw* yr enethig fach gollodd ydoedd Gwladys Mary Wood, nid oedd hi eto ond saith mlwydd oed. Nidyn fynych y gwelid ei phertiach o'i hoed, tueddai un i'w dewis allan o liaws, a gellid cymeryd ati ar unwaith. t, i mor ddeniadol er aiii o'r plant ar aelwyd Trefri, rhyw sut tybiai un mai Gwladys oedd yr heulwen. Yr oedd mor naturiol.a siriol a thywyniad haul a IrforeoFai. GaUai dynnu sgwrs a'rdieithr aryr aelwyd, >ac ysywaeth na wnai hi ef yn gartrefol ar un waith. Geneth fach gwir affection- ate ydoedd, ac nid yw syndod fod ei cholli yn ddymodanodd i'w dis grifio i'r teulu. Ni bu unrhyw amser gryf o gorff; ac onid yw yn rhyfedd y cerub bach o'r aelwyd yn fynych drig yn y corfi mwyaf bregus. Blinid hi er's amser gan wendid yn ei gwddf, a dyna'r an hwylderfu'n achos neu yn achlys ur i'w symud yn ddisyfyd i'r trigfan- nau gwynion. Bu farw Mawrth 5, a chladdwyd ei gweddillicn ym mynwent yr Aberffraw, Mawrth 8 9 angladd private ydoedd. Gwasarx- ang1add p/ivate ydoedd. GwaS8n-1 aethwyd gan y gweinidog, a chan yr offeiriad yn y fynwent. Dang- hoswya cydymdeimlad digymwys a Mr a Mrs Williams gan ein heg- lwys yn Aberffraw, yn yr hon y mae Mr Williams yn flaenor, ac yn un o'i chedyrn. Hefyd estynwyd y cyfryw i Mrs Willams, Tyddyn Hwrdd, yr hen foneddiges garedig sydd wedi cael byw i weled llawer cwmwl a heulwen yn ei theulu serchog, ond rriwy o heulwen nag o gwmwl. Diau y cyflea nifer eu meddwl am Gwladys fach drwy ddweyd- Pe bai tywallt dagrau'n tycio, Er cael eilwaith wel'd dy wedd, Ni chaet aros gallaf dystio Hanner munud yn dy fedd."
Safle Gweinidogion WesleaiddI…
Safle Gweinidogion Wesleaidd I Cymreig ynglyn a Phtyniant, I y Fasnach Feddwol. Mr Gol., Dim ond gair neu ddau y tro yma, i ddiolch i chwi am eich gofod i amddifyn fy hun, yngwyn- eb ymosodiad y Parch T. Hughes ar y mater uchod, a'r egwyddoi foesol y mae y prynwyr wedi geisio ei diystyru. Y cwbl a ddywedaf mewn atebiad i Mr Hughes yw nad oes neb mor ddall a'r sawl na fynn weled. Mae'r frwydr drosodd a chynllun y prynu wedi ei dafiu dros y bwrdd. Mae'n bosibl y gwyddai Mr Hughes cyn i'r papur- au gyhoeddi y newydd, o leiaf yr oedd Trysorydd y Gronfa yn bur brysur yr wythnos honno yn casglu yr addewidion i mewn, i dalu am ysbleddach Llandrindod. Deallaf mai'r bwriad yn awr ydyw tros- gl-W- Y ddo y gweddill i'r Bragwyr sydd wedi eu colledu mor ddifrifol oherwydd y Rhyfel, gan fod y cyn- llun i Sefydlu a Gwaddoli y Dafarn wedi syrtbio i'r gwellt. Hysbysir fod y rhai mwyaf rhesymol o'r Prynwyr am ddod i rwyfo o blaid Llwyr Waharddiad i Gymru, a mawrobeithiaf y bydd Cadeirydd yr Ail Dalaith yn eu mysg. Fyth yn bur, I W. RICHARD ROBERTS. I
CADEIRYDD NEWYDD Y DE.
CADEIRYDD NEWYDD Y DE. Goddefer i ni longyfarch y Parch Evan Isaac, Llywydd y Gymanfa, ar yr anrhydedd newydd, a'r arwydd ddymunol o ymddiriedaeth ei frodyr, a ddaeth i'w ran trwy gael ei ddewis ganddynt yn Gad eiryddTalaith y De. Llwyddiant iddo. GOH. I
TRYSORFA'R " GWYLIEDYDD NEWYDD.,,…
TRYSORFA'R GWYLIEDYDD NEWYDD. Diolchwn yn gynnes am y rhoddion isod i helpu y G.N. S, C. Mr J. T. Owen, Buallt 2 0 Mr E. Jenkins, Birmingham 10 3 ,Trwy fwyafrif o 1,614 y mae I Mwnwyr Gogledd Cymru wedi penderfynu gwrthwynebu ymgais y Llywodraeth i fynd ag ychwaneg o bobl o'r pyllau i'r fyddin. Yn Neheudir Cymru yr oedd y mwyaf- rif yn erbyn hynny yn 1,795. Yn Cumberland yr oedd y mwyafrif yn erbyn yn 730, ac yn Lancashire yr oedd yn 15,000, Yn Durham a Cumberland caed mwyafrif ym- hlaid y Llywodraeth, Y mae Mr Lloyd George wedi ei apwyntio* yn Chancellor for Wales of the Welsh Priory of the Order of St. John of Jerusalem." A oes ymhlith darllenwyr y Gwyl- iedydd ryw ddewin a fedr ein hys bysu pa ryw fusnes y mae hyn yn e olygu ?
Advertising
:t(£1;?; <Š 51:tr.PM b.i \II" 7 ) :<e 5 F )¡¡  .-V ) || Y LL'Y FF A 1| "YR EURGRAWN19 AM 1918. Pris 4 Ceiniog y mis. Dan olygiaeth y Parch Thos. Hughes. "Y WINLLAN" AM 1918. Pris Ceiniog a Dimau y mis. Dan olygiaeth y Parch D. Gwyn- fryn Jones. "Y DYDDIADUR" AM 1918. l Pocket Book 2/6 yr un. Dyddladur Llian 9c yr un. Dan oiygiaeth y Parch W. R. Roberts. Archeber ar unwaith. Y Maes Llafur. YN AWR YN BAROD. Esboniad y Parch. T. Isfryn Hughes ar Epistolau Paul at y PHILIPIAID, a PHILEMON. Pris DAU SWLLT. Pan yr ymuna Dosbarth neu yr Ysgol yn gyffredinol i archebu dwsin, ac anfon blaendal, rhoddir hwy yn ol 1/6 yr un. Gwyrthiau yr Arglwydd lesu Grist, Gan y Parch. J Maelor Hughes. Pris: PEDAIR CEINIOG. Os archebir. dwsin o'r uchod, gyda blaendal, rhoddir hwy am 4/ Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn 4yr Arholiadau. Pris: CEINIOG. Rhoddir 100 am 5/ a 50 am 3/- ond anfon tdl gyda'r archeb. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r BOOKROOM, BANGOR. DETHOLIAD 0 EMYNAU. YN AWR YN BAROD. Cynwysa dros 200 0 Emynau Detheledig, ac adranau ar gyfor y Cynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac yehydig Emynau Saesneg. CASCiLIAD DIGURO. Pris, Chwe Cheiniog, mewn Ilian ys- twyth. Trwy y Post, 7 ceiniog. Dwsin am 5/6, post free. Haner cant am 25/ carriage paid. Cant am 45/ carriage paid. Testamentau i'r Milwyr. Testament mewn Ilian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt cdges, mewn Ilian Khaki prydferth. Aiff i beced y wasgod. Prisiau, 10c yr un Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. j ■' :— + Rheolau y Trefn- yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlus, o'r Rheolau ddylai fod yn llaw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraiffad hw.-i. Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 [ am 6/6; 50 am 3/3 post free. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwymo Hanes Wesleyaeth Gymreig" am swllt. Cases llian destlus at rwymo Yr Eurgrawn a'r Winllan" It Ceir y cyfan drwy ein Dosbarthwyr Lleol I P YN DDIDRAUL S I Hyderwn gael Catalogue newydd ar ol.y Rhyfel. ill q I Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon i:- S ? P?d. O. M&DQO ROBERTS. g ,.)5 B k B' d' I 00 room, anÐor.. ? ??,?. ? ?. ??..???.. ?  Agraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan L. Davies, Swyddfa'r "Gwyliedydd New- ydd," Blaenau Ffestiniog.