Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"GwYilydydd Newydd' AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebion a thaliadau am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheohvr, Owylledydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2; dau gopi am 3/7 tri copi am 4/IJ; pedwar, pump, a chwech yn oi 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wcdi eu cyfeirio- Y Oolygydd, II Owyliedydd Newydd Flint Mountain, Flint, ¡ Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw I i'r awgrymiadau hyn :— Carem i bob gohebiaeth fod mewn llaw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amlea gadawer hi yn agored, ac ysgiifenner Press News ar drchongl. LLYFR NEWYDD. "Emynwyr Cymru" GN y PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr Ysgrifau Hanes yddol a Beirniadol ar holl Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd lal, ac ar ei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr. Barn Lfenorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darllenais eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). I- Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc a chredaf y bydd yn waith safonol Costiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fei lienor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gef-nogi. Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. .1 Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hwn. Chwiliodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith gref a glân. Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen ernynwyr, wedi ei gyfleu mewn modd diddorol iawn. Cloriennir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagoiol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darllenais eich ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dywedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gwr. Credaf y bydd y llyfr o twerth i i rhai a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddodiacl heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyflym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n llenydciiaeth. Dengys yr ysgrifau ol meddwl galluog, medr llenyddol, barn aeddfed, a gwybodaetb drylwyr o'r pwnc. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digonol o Danysgrifwyr. FRIS 3/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam.
I fNODIADAU WYTBNOSOL. i
f NODIADAU WYTBNOSOL. i ¡ Y Mesur Addysg. Wele rai o brif bwyntiau Mesur1 Addysg newydd Mr Fisher. Presenoldeb yn yr ysgolion.— Rhaid i bob plentyn bresenoli ei hun mewn ysgol hyd yn 14eg oed,j a gellir, dan amodau neilltuol, estyn y cyfnod hyd yn 15eg. Bydd raid i Ibob plentyn dan 18eg oed bresenoli ei hun mewn Ysgolioni Parhaol" (Continuation Schools) yn y dydd, am 320 o oriau yn y! flwyddyn, os na bydd wedi derbyn addysg hyd nes yn 16eg oed. Cyflogi Plant.—Nis gellir cyflogi plant dan 12eg oed i wneud unrhyw fath. o waith. Ac nis gellir, chwai th gyflogi plant dros 12eg oed arddyddiau ysgol, oddi gerth wedi oriau yr ysgol, a chyn wyth o'r gloch yn yr hwyr. Ar ddyddiau pan na chynelir ysgol nis gellir eu cyflogi i weithio ond rhwng chwech yn1 y boreu ac wyth yn yr hwyr. Cwestiwn y Tal.—Nis gellir codi tal am addysg plant yn yr Ysgolion Elfennol na'r Ysgolion Parhaol. Iechyd Corfforol.-Gwneir dar- pariadau yn y mesur ar gyfer sefydlu ysgol mamaethol (Nursery School), ysgolion ar gyfer dyddiau igwyl, a gwersylloedd, meusydd ichwareu a dysgyblaeth gorff orol; a darperrir ysnhellaeh ar gyfer, archwiliadau meddygol ynglyn ag addysg uwchraddol. Dyledswyddau Gweinyddol.— Bydd Byrddau a Chyngorau I Addyg yn gyfrifol am ddarpar pob I math o addysg yn eu rhanbarthau hwy eu hunain. Diddymir y cy fyngiad ar eu gallu i warlo arian. Gosodir arnynt hwy y waith o weinyddu'r gyfraith parth cyflog- iad plant i waith ac hefyd, i roddi mewn grym y gyfraith o berthynas i greulondeb at blant. Cyllidol.-Dygir i fewn i'r mesur egwyddor bwysig o berthynas i'r cyllid. Yn ol ar egwyddor hon fe gyfrana'r Wladwriaeth o leiaf hanner yr hyn a werrir gan unrhyw awdurdod ar addysg. ————— 44,
[No title]
Hanes Pantycelyn. Y mae Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Callinaidd wedi rhoi yr oil o Rhifyn II., Cyfrol III., o'r Oylchgrawn Hanes i Pantycelyn," Dywed Ap Nathdn mai yr unig anffawd ydyw iddo ddod i law mor ddiweddar. Pe gwelsai oleu dydd yng nghynt buasai wedi arbed am beil ddarlithiwr rhag gwneud y fath gamosodiadau wrth draethu ar yr Emynydd. Difyr ydyw meddwl sut y teirnla ambell un a gymerodd yn ganiatsol fod y traddodiadau a gerddent o amgylch am Bantycelyn yn ffeithiau, ac yn wyneb y prinder ffeitniau a fynnai eu nyddu yn ei ddychymyg ei hun, pan eistedda i fyfyrio uwch ben y rhai a gasglodd Golygwyr y Rhifyn hwn. Dymchwelirllawer o hen dybiaethau, a dygir ffeithiau newyddson i'r golwg. Yn ddi dcladl bydd yn rhaid i ami un newid cryn lawer ar ei ddarlith cyn ei thraddodi eto. Ond daw gwerth y rhifyn i'r amlwg yn fwyaf ar- bennig, nid drwy y ffeithiau newyddion a gyhoedda, ond yn ei waith yn cyfarwyddo'r efrydydd a'r hanesydd 1 lygad y ffynnon. Ceir cofnodiad o'r prif ddigwydd- iadau a'r dyddiadau ym mywyd yr Emynydd, ynghyd a rhestr o'r llyfrau, pamffledau, a'r erthyglau a gyhoeddwyd o dro i dro ar ei hanes a'i waith gan y Parch M. H. Jones, B.A., Nodion ar Weithiauj Cyhooddedig Williams, gan y lienor dyfnddysg a'r llyfrbryf dyfal Mr J. H. Davies, M.A., Cwrtmawr, ac hefyd,—Nodion a Dyfyniadau o Lawysgrifau Williams, sydd yn Athrofa'r Bala, gan y Parch J. T. Alun Jones. Ni honna'r Golygwyr fod y rhifyn yn Gofiant i'r Emynydd, ond y maent drwy eu llafurwaith wedi gwneud cofiant teilwng yn bosibl. Ynfydrwydd yn neb mwyach fydd anturio traethu nac ysgrifennu ar fardd mwyaf y genedl heb ym gydnabyddu a'r awduron y cyfeirir atynt yn y gyfrol fechan hon. Cwbl gredwn y cyfarwydda'r Rhifyn hwn bob hanesydd at y prif ffeithiau, ar ol wedi cael y fath gyfarwyddid. Pwy a wyr na fydd yn foddion i danio ryw lenor at y gwaith mawr o roddi i ni gofiant teilwng o Bantycelyn? Dyledus ydym i Kilsby a Chynhafal am eu hymdrechion teg i wneudy gwaith ond eddyf pawb ond y barnol ddall fod angen am waith uwch a rhag- orach ei ffeithiau, ac yn rhoddi mwy o arbenigrwydd ar bersonol- oliaeth fawr ac awen gysegiedig y bardd a wnaeth enw hen amaethdy Pantycelyn yn air teuluaidd yng, Ngwalia.
TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL A CHYMDEITHASOL,
TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL A CHYMDEITHASOL, Dyma air gan Mr Ellis Davies, A.S Beth sydd wedidigwydd i Mr Henderson ? Mae ton ei areith- iau wedi newid, a'r awydd neu'r rediniaeth yn y posiblrwydd o heddwch wedi lleihau. A oes rhyw berthynas rhwng hynny a'r ffaith yr enwir ef fel un o'r rhai all fod yn y Weinyddiaeth nesaf ? i Mae cyfrifoldeb yn ami yn cymed- roli syniadau dynion cyhoeddus, ac yn anffodus, mae swyddi hefyd wedi newid llawer ar syniadau arweinwyr LIafur yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Cofiaf yn dda i aelod Llafur ddefnyddio iaith gref wrthyf am y Prif Weinidog am gefnogi Gorfodaeth Filwrol, ond mae heddyw yn aelod pwysig iawn yn y L lywodraeth. Mae an- wadalwch gwleidyddol aelodau Llafur yn lleihau eu dylanwad, ac yn rhwym o leihau eu gaUu yn yr etholiad. Dyna paham yr wyf yn mhell o fod yn sicr na cheir mwy. afrif Toriaidd y tro nesaf Mae mwyafrif Toriaidd o ddeugain yn Lloegr heddyw, ac hyd y gwelaf amcana Plaid Lafur ymosod, nid ar y seddau Toriaidd, ond ar y rhai Rhyddfrydig. „ Yn y ddadl ar y Swyddfa Dram or yn Nhy'r Cyffredin y dydd o'r blaen, cynygiwyd fod pwyllgor o aelodau'r Ty yn cael ei ffurfio i ofalu am ein polisi tramor. Gwrth wynebodd Mr Balfour hynny yn bendant, a dywedodd y peidiai ef a bod yn Ysgrifennydd Tramor pe penodid pwyllgor felly. Buasai dwyn gweithrediadau ein polisi tramor ymlaen yn gyhoeddus yn magu drwgdeimlad rhwng gwled- ydd a'i gilydd, ebe Mr Balfour. Wel, yr hen drefn a fagodd y te:m- ladau uffernol sydd yn bodoli rhwng cenhedloedd a'i gilydd heddyw yn Ewrob. Dyma brawf fod yr hen deulu aristocrataidd yn golygu cadw materion tramor yn eu dwvlo yn y dyfodol etc os godd- efir iddynt. Diwedd yr wythnos o'r blaen bu Mr Asquith yn annerch Cyngor yr Undeb Rhyddfrydig Cenedlaethol yn Derby. Yn ei araith siaradodd yn bennaf am ddyfodol Rhyddfryd- iaeth. Dywedodd mai deng mlynedd oedd ers pan etholwyd ef yn arweinydd y Blaid Rhyddfrydig. Nid oedd wedi ymddiswyddo (Oymeradwyaeth uchel). Nid oedd yn deall ei fod wedi ei droi o'i swydd, ac hyd nes y byddai ei gynheddfau naturiol yn ei adael- a byddai rhyw gyfaill caredig yn sicr o roddi rhybudd mewn pryd iddo am hynny-nid oedd yn bwr iadu ymddiswyddo. Wrth siarad ar bwnc y Rhyfel dywedodd Mr Asquith, cyn belled ac yr oedd meddiannu unrhyw dir- iogaeth yn myned yr oedd efe yn barod i roddi'r holl gwestiwn i farn llys rhyngwladwriaethol yn ddiamodol, ac nid oedd ganddo unrhyw amheuaeth nac ofn parth- ed y penderfyniad y deuid iddo. Defnyddiodd un frawddeg arall sydd yn debyg o gaelsylw go fawr. Am ddadgortioriad y byddinoedd^ dywedodd y gallai hynny ddyfod ynghynt nag yr oedd Uawer o bobt yn ei feddwl. Beth yw ystyr y frawddeg ? Yn y ddadl ar ail ddarlJeniad y Mesur Addysg talodd mwy nag un warogaeth i gyfundrefn Cymru. Dywedodd un aelod Seisnig mae'r Saeson oedd isaf yn eu cariad at addysg. Ychydig yn uwch yr oedd yr Ysgotiaid yn uwch na hynny drachefn, y Cymry; ac yn uwch na hwythau yn y peth hwn vr A I maen- iaid. Trwy Orchymyn y Cyngor yn ol Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, daw cyfres newydd yr etholwyr i rym Hydref laf, 1918, a bydd yn bwysig sylwi ar y dyddiadau canlynol Terfyn y tymor i gymhwyso am bleid- lais-Ebiill 15ad. Gyhoeidi y cyfresi cyntaf Mehefin 15ed. Y diwrnod olaf i wrthwynebu un- rhyw eaw-Mehefin 20. Y diwrnod olaf i hawlio pleidlais- Gorffennaf 5. Y diwrnod olaf i hawlio fel pleidleis", wyr abseonol-Gorff. 5. Cyhoeddi cyfres y gwrthwycebiadaa; -Gorff 8. Cyboeddi cyfres y sawl a hawlianfc bleidlais-Gorff, 13. Y diwrnod olaf i wrthwyneba y sawl, a hawliant-Gorff. 26. Cyhoeddir cyfres y gwrthwynebiaiaa i'r sawl bawliant bleidtais mor fuan ag sydd bosibl ar ol Gorff. 26 Cyhoeddi a gosod y gyfres mewa grym—Hydref laf. Dyma fel y dywed y Cymro :— Dywed tin o'i organau y bydd Ar- glwydd Rhondda yn y Cabinet ya fmaa. Dydd pobl y papurau newydd ydyw/