Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

'LLOFFION DifiWkiSTOt.

Cyngor Cenedlaethol Eglwysi…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru, I Cyfarfu Pwyllgor Gweithiol y Oyngor yn yr Amwythig, Mawrth 8ed. Yr oedd yn bresennol Syr Beddoe Rees (yn y gadair), Parchn Thomas Hughes, H. M. Hughes, B.A., John Roberts, M.A., D. H. Williams, M.A., J. Lewis Evans, B. T. Evans, W. D. Rowlands, E. Un goed Thomas, Dr. Black Jones, Parehn Idris Davies, B.A., H. Cernyw Williams, D.D., D. Gwynfryn Jones, Prifatbro Wm. Edwards, D.D., Cynghorwr Rich. Jones, Parchn O. L. Roberts, David Powell, Gwilym Davies, M.A., J. H. Parry, Owen Owens, Jacob Jones, Evan Isaac, David Davies, Athro Joseph Jones, M.A., B.D., Rees Evans. Atbro D. Miall Edwards, M.A., E. W. Davies, G. Penar Griffiths, 0. D. Campbell, M. A., J. E. Powell, Yaw; U.H., Richard Watkins, Ysw; UII., H. D. Phillips, Ysw; Mrs Herbert Lewis, Parch A. C. Pearce. 1. Dechreuwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch H. M. Hughes. 2. Pasiwyd pleidlais 0 gydymdeimlac1 a Mrs Herbert ar farwolaeth ei mam. 3. Addysg Feiblaidd yn yr Ysgol- ion Dyddiol. Galwoad yr Ysgrifen nydd sylw'r Pwyllgor at lythyr oddiwrth Esgob Llanelwy ymddangosodd yn y MajaehesterGuairdian yn datgan ei barod- rwydd i gyfarfod nifer o gynrychiolwyr Eglwysi Ymneilltuol Cymru i ystyried y cwestiwn. Penderfynwyd fod 10 o aelodau'r Cyngor i gynrychioli'r Cynger hwn i gyfarfod a'r un nifer o gynrychiol- wyr yr Eglwys ac i ystyried a tbrafod y mater. Dewisiwyd i gynrychioli'r Cyngor hwn, Syr Beddoe Rees, Parchn Thos. Hughes, H. M. Hughes, John Roberts, D. H. Williams, D. Gwynfryn Jones, Prifathro Edwards, Meisfcri Wm. George, Richard Jones, a J. E. Powell, afl fod y Parch Ellis Jones, Bangor, fei un sydd wedi cymryd rhan flaenllaw yn y mater i gaelei wahodd i'r cyfarfod. 4. Cynhadledd Gristionogol Rhyng- wladwriaethol. Gan fod y gynhadledd hon, ereisio cael cynrychiolwyr o'r Amerig a gwledydd y Dwyrain yn cael ei gohirio hyd fis Medi, oedwyd pender- fynnu'r cweBfciwn a gynrychiolir y CYDg- or ynddi hyd y cyfarfod nasal. 5. Ymweliad a Ffrainc. Gan fod gwahoddiad i nifer o gynrychiolwyr o'r Cyngor i dalu ymweliad a maes y Rhyfel ac yn arbennig a'r Adran Gym reig o'r Fyddin penderfynwyd derbyn y gwahoddiad ac ymddiriod y gwaith o ddewis y cynrychiolwyr i'r Llywydd a'r Ysgrifennydd. 6. Y CyTitry yn I-lereford. Galwyd sylw y Pwyllgor at y ffaith fod nifer fawr o ferched o wahannol rannau o Gymru yn gweithio ar hyn o bryd yn y lie hwn, nad oes unrhyw achos Cymreig ynddo a'u bod mewn angen ymgeledd. Datganodd|Mrs Herbert Lewis ei phar- odrwydd i gynnal chwaer i weithio yn eu plith am cbwe' mis. Derbyniwyd y cynnyg gyda diolchgarwch a llawen ydd a gofynwyd i'r Ysgriiennydd mewn cydymgynghoriad a rhai o'r Cymry yn y dref, i wneud pob trefniant angenrheid- iol ap gyfer y gwaith. 7. Perthyncis Cyngor Cymru a'r Fam Gymdeitkas yn Llundain. Darllennodd yr Y sgrifenydd ohebiaeth Dr. Meyer, a rhoddodd amlinelliad o'r cyrillun gynygir ar gyfer y dyfodol gan y swyddogion yn Llundain. Dewiswyd pwyUgor i ystyried yr boll gwestiwn a pherthynas y Fam Gymdeithas, Cyngor Cenedlaethol Cymru, Cyngreiriau a Chynghorau Lleol Cymru a'u gilydd a rhoddwyd awdurdod i'r Pwyllgor i weithredu. 8 Safle Ariannol 'yr EgZwys ar ol y Dadwaddoliad. Penderfynwyd gofyn i Mr H. Haydn Jones, A.S., baratoi datganiad byr ar y mater hwn erbyn y I cyfarfod neea-f, v Pw yllgor i'w ddos- ibarthu ymysg yi Eghvysi. 9. Adroddiad Is bwyllgor Cwesi- iynau CymdeithasoL (a) Cynnyg y Parch E. Ungoed Thomas, Fod y penderfyniad ar ddirwest basiwyd yn Llandrindod i gael ei ddirymu." Cyn- hygiwyd a phasiwyd y brevzous ques- tion. Yna rhoddodd y Parch Ungoed Thomas rybudd y byddai yn cynnyg yn y cyfarfod nesaf ddileu brawddeg olaf y penderfyniad ar daliad iawn teg o'r Drysorfa Genedlaethol." (b) Cadarnhawyd yr adroddia,d ar Fasnach ar y Sul," ac awdurdodwyd y Swyddogion i gyhoeddi hwn ynghyd a'r adroddiad Yr Eglwysi a'r Byd ar ol y Rbyfel." (c) Anfoesoldeb yn y Fyddin. Pasiwyd y penderfyniad canlynol i'w anfon i'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Rhyfel, Is-Ysgrifennydd Rhyfel, a phob Aelod Seneddol dros Gymru a Mynwy. "Fod Pwyllgor Gweithiol y Cyngor hwn, tra yn talu teyrnged galonnog o glod i fwyafrif mawr ein milwyr sydd yn byw i fyny a thraddodiadau uchaf y_ Genedl, yn dadgan ei gywilydd a'i ddigofaint at waith Awdurdodau Milwr- ol Prydain yn caniatau i Filwyr Pryd- einig fynychu Tai Drwg yn Ffrainc. Ei fod yn galw ar y Llywodraeth, a'r Awdurdodau Milwrol i wahardd milwyr Prydeinig o bob gradd i ymweled a thai gydnabyddir fel tai anllad, fel y mae yr Americaniaid eisoes wedi gwneud gyda'r cyfryw dai o fewn eu tiriogaeth hwy. Dymuna'r Pwyllgor ymhellach ddad- gan ei ddiolchgarwch i Mr W. F. Rod,. yr Aelod dros Sir Benfro, am alw sylw Ty'r Cyffredin at y gwarthrudd hwn, a'i anfoddlonrwydd dwfn at waith Is- Ysg.rifennydd Rhyfel yn ceisio cyfiawn-" hau aggri^d tai o'r fath ar gyfer ein< milwyr. 10. Undeb Ysgolion Sul Cymru,, Cynnyg y Parch Jacob Jones (a) Pasiwyd y penderfyniad canlyn- ol: Mai doeth yn syniad y Pwyllgor hwn fyddai sefydiu Undeb Ysgolion SuI., i Cymru." (b) Gan fod Pwyllgor yn cynrychiol- i'r pedwar enwad eisoes mewn bod i geisio trefnu Maes Llafur ar gyfer pob Enwad, ni phasiwyd y penderfyniad- canlynol: "Pod PwyUgor yn eynryoh- ioii r pedwar onv,.ad i gael ei ethol yn awr i ystyried y ewestiwn ac i oyfiwyno adroddiad llawn yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gweithiol." Penodwyd yr Athro Miall Edwards,, M.A., a'r Parch John Roberts, M.A., Ysgrifennydd, i geisio gicrhau cydweith- rediad rhwng y Pwyllgor Cydenwadol a'r Cyngor hwn.

[No title]