Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
BWRDD YR ADOLYGYDD. -j
BWRDD YR ADOLYGYDD. -j (Gan y Parch R. W. Jones, 18, St. Edmond's Road, Bootle). Y BEIRNIAD. Mawrth, 1918 I Rhifyn rhagorol ydyw hwn, yn wir y goreu a ddarllenais yn ddi- weddar. Mae pob erthygl sydd ynddo'n wirioneddol dda, ond cef- ais ddyddordeb mawr a lies anar ferol drwy ddarilen dwy erthygl a cvnhwysa. Credaf fod y rhain yn eithriadol o gyfoethog ac yn apel. io'n rymus at y sawl a gymer y gradd lleiaf o ddyddordeb mewn diwinyddiaeth, ac yn awyddus i wybod beth yw osgo meddwLei oes ar bynciau diwinyddol a beiblaidd. Beth fai inni sylwi i ddechreu ar ysgrif feistrolgar yr Athro Miall Edwards. Ei destun ydyw Cref- ydd a Diwinyddiaeth H. G. Wells." Gwyddys yn ddiau mai nofelydd poblogaidd ydyw Mr Wells. Mae'n feddyliwr mawr a mentrus ddigon, ac ar delerau pur dda ag ef ei hun, ac oblegid hynny rneiddia ddatgan ei farn ar bob pwnc o bwys, yn cynnwys "y netolion, a'r daearol- y i tl ion, a than ddaearolion bethau." Medd ddull o drafod ei bwnc sy'n swynol ryfeddol i niferoedd o bobl y wlad—ysgrifenna gydag awdur- dod a hunan-hyder heb ronyn o I swildod, a thraetha ei farn yn oraclaidd gydaphendantrwydd an- ifaeledig. Dyma'n ddios sy'n myned gyda'r lliaws yn y dyddiau hyn, nid oes gan neb fawr o amyn- edd gyda'r siaradwr neu'r ysgriten- nydd sy'n petruso dweyd ei feddwl ac yn cymedroli ei frawddegau. Y gwr oraclaidd a'i piau hi'n ddi- gwestiwn, Hysbys yw i Mr Wells gyhoecldi'n d iiweddar lyfr dan y penawd .-God, the Invisible King," ac ynddo traetha ei farn ar faterion jdyfnaf a mwyaf sylfaenol bywyd' Gan nad beth a farno neb yn ei gylch, mae'n llyfr pwysig a theil- wng o ystyriaeth ofalus a diragfarn. Fel v dywed Mr Miall Edwards nid oherwydd ei fod yn gyfraniad syl- weddol a gwreiddiol at lenydd- iaeth crefydd, ond am y dengys beth yw osgo meddwl dosbarth Hiosog o botl yn y deyrnas hon. Eglur yw, yn ol y llyfr hWD, fod dyriion y byd" yn ymbellhau oddiwrth Gristionogaeth a'r Egl wys Gristionogol, a'u bod wedi laru ar fateroliaeth a seci w lari aeth di-dduw, ac yn ciiwilio am rhyw fath ar grefydd a dehongliad ys- brydol o ystyr a phwrpas bywyd. Perthyn i'r llyfr ragoriaeth lenydd- ol uwchlaw'r cyffredin, oblegid nid oes odid i neb ym Mhrydain hedd- yw sy'n fwy o feistr ar y grefft o Jenydda nag H. G. Wells: ac yn y gyfiol hon o'i eiddo, ceir ef ar ei oreu. Chwanega hyn yn ddirfawr at bwysigrwydd y llyfr. Da fuasai gennyf ddilyn Mr Miall Edwards yn ei grynhodeb o'i .gynnwys, a'i feirniadaeth manwl a miniog arno. Mae'n deg a diragfarn. Beichus ydyw y diwinyddion yn ami, ond nid felly- yr Athro Miall Edwards —heblaw ei fod yn athronydd a diwinydd lionor gwych, ac oblegid hynny gorchwyl pleserus ydyw darllen ei gyfroddiadau lIen. yddol. Erthygl gampus arall ydyw eiddo'r Ddr. Maurice Jones dan y penawd Y Byd Hellenistaidd tu ol i'r Testament Newydd." Cymer gryn ofod i drafod ei bwnc, ond ni fuaswn yn gwarafin iddo gymeryd chwaneg. Dengys fod Cristionog- aeth yn ddyledus i hanes a dat- blygiad am gyfran sylweddol o'i chynnwys, er fod yr hyn sydd yn sylfaenol iddi'n briodol iddi ei hun. Arferid synio'n wahanol hyd yn gymharol ddiweddar, a diau fod rhai yn para i lynu wrth y syniad fod y grefydd Gristionogol yn ei ffurf gyntefig yn newydd-beth holl ol, heb ddim tebyg iddi yn y byd y gwawriodd arno. Anwybyddir y ffaith i Paul ddatgan ei fod yn ddyledwr i'r Groegiaid ac i'r bar- bariaid," nid yn unig ei ddyled bersonol ei hun, ond hefyd dyled y grefydd a bregethai i'r byd pagan- aidd. Yn yr ysgrif dyry'r awdur amryddawn fraslun cyffredino) o'r byd yr ymddangosodd crefydd Crist ynddo yn ei agwedd foesol, crefyddol, a chymdeithasol. Cyn- orthwya'r disgrifiad pob darllen- ydd meddylgar i sylweddoli y modd yr oedd Duw yn ei Raglun- iaeth, wedi paratoi at ddyfodiad y Mab, ac hefyd rhoddir inni ryw syniad am ddyled yr Efengyl i'r byd paganaidd, a beth fu'r dylan- wadau a effeithiodd fwyaf arni. Wrth reswm mae'r Ddr. Maurice Jones yn feistr ar ei bwnc, ac heb os nac onibae, ceir ganddo gyfoeth o oleuni a gwybodaeth ar faterion na ddarllenais yn y Gymraeg odid i ddim arnynt. Pe na chynhwysai y rhifyn ond y ddwy erthygl a I nodais, buasai'n gaffaeliad amhris- I iadwy. Traetha'r Pr if a thro T. Rees yn I alluog ar "Ddiwinyddiaeth Wil- liams, Pantycelyn. Ceisia, a hynny yn dra llwyddiannus mi gredaf, olrain yn bennaf trwy em- ynau Williams rai o'r syniadau a gydblethai'n fwyaf by wiol a grym- us a. phronadau'r Diwygwyr Meth- odistaidd. Yng ngwrs ei drafod- I aeth dywed er i John Wesley I ogwyddo tuag at Arminiaeth, nid oedd hanner mor gaeth i'r gyfun drefn honno ag yr aeth y diwygwyr Cymreig i Galfiniaeth y Piwritan- iaid. Rhoddodd ef a'i ddilynwyr ffurf gy fun drefn ol fwy cvdnaws ag ysbryd y diwygiad i'w diwinydd- iaeth. Dileasai Galfiniaeth bob olion o nodweddion y diwygiad Cymreig oni buasai i Ernynau Williams agor iddynt' dragwyddol hoel. Dengys fod profiad cref- yddol y Diwygiwr wedi ei gario i fro oleuach a charedicach na Chalfiniaeth traddodiad. Po fwy- at," ebai'r Prifathro Rees, a ddar- lllenaf ar y Perganiedydd, rn wyaf oil y teimlaf nad digon o esboniad I arno yw ei ddosbarthu'n Gal fin a'i adael." Deil y Seneddwr W. Llewelyn Williams i ysgrifennu dan y pen awd "S llawer dydd." Dyma'r seithfed bennod, a'i theitl ydyw Wil Gelynen." Mae ei ddisgrifiad o Wil yn ddoniol anghyffredin, a dyry siamplau o'i ddywediadau pert a digrif, Teitl yr wythfed bennod ydyw" Ch warae Plaiit," ac od o tiibyg ydyw arfeiion plant ym mhob oes. Er y dyddiau y sonia'r Seneddwr am danynt mae'r byd wedi newid yn ddirfawr, ac yn parhau i newid o do i do; ond priodol y gellir gofyn a ydyw bywyd gwledig yng Nghymru heddyw cyn gyfoethoced ag ydoedd gynt. Hanes Edward Richard—tad y fugeilgerdd yng Nghymru,' sydd gan Mr.D. Emrys Evans. Difyr a darllenadwy iawn. Heblaw Y Beirniad daeth i law Yr Eurgrawn am fis Mawrth —rhifyn digon cyffredin, a'r Win- Han am yr un mis-rhifyn pur dda ar y cytan. Hefyd derbyniais Llais Rhyddid," Chwefror a Mawrth, 1918. Cynhwysa bregeth goeth a chref gan y Parch. W. O. Jones, B.A., ac ysgrif ddymunol odiaeth gan y Parch. W. A. Lewis. Eisteddfod Genedlaethol Birken- head sydd gan Mr Lewis tan sylw. Cefais gryn flas ar ddarllen ei syl- wadau byw a beirniadol. Bum innau yn yr Eisteddfod, a mwynhe- ais fy hun yn fawr. Gwerthfawr ryfeddol ydyw nodiadau'r Golyg- ydd dan y penawd "Trem Amgylch Ogykh," traetha ei farn yn gryf a ehroe w ar faterion y dydd.
[No title]
Y mae Llywodraeth Hungari yn ystyried y priodoldeb o osod holl olygwyr y papurau newyddion o dan reolaeth filwrol: y mae y broblem hon wedi ei setlo i fesur helaeth iawn mewn ffordd arall yn ein gwlad ni.
. CONGL YR A WEN. I
CONGL YR A WEN. I OHWILIO AM EI CHALON. Fe beicliodd rhuadau y gethern, Daetb gosteg ar uffern y ffos A gwyryf wrth lewyrch ei llusern, Yn crwydro yr erwau di-ros Mae natur yn cadw y llenni I lawr ar y difrod a wnaed, A'r wawr ar.y bannau yn oedi Datguddio cyfandir o waed. Ar enw na fyn ond ei furmur, Mae pwyslais cynhyrfus ei siom, A chystudd nosweithiau anghysur Ar wyneb y galon drom, drom Hwn ydyw ysbrydiaeth ei hymchwil Yng nghanol xhyferthwy a thoo, A fiiarn angherddolrwydd ei hymbil Sy'n liosgi ar noson fel hon. Yn sydyn fe fethodd ei lythyr A'i ehyrraedd o "rywle yn Ffrainc," A dye a yw'r holi a'r gwewyr Sy'n crynu ei gwefus di-gaine Bodlonai ar ddim ond ei weled, Yn fyw, neu yn farw—pa un ? Oes rhywun all adrodd ei dynged ? Oes rhywun gysura y fun? Ar hynny tarannai'r magnelau Nes siglo y bryniau fel dellt, A gweled ei fedd gafodd hirhau Yn n^olea angheuol y rnellt; I Yn Uesmair ei gofid, o rywle, Clyw fwynlais fel miwsig di-daw, Yn son am orfoledd y bore- Tqhwnt i gyiiafan a braw. Gwilym Dypi- GWANWYN. Pwy sy'n gollwng gwlitb yn genlii Arian dros y ddol ? Pwy sy'n galw rhamant glesni Gyda'i glyeh yn ol ? Pwy sy'n defi'ro'r blagur eynnar Ar ganghennau'r coed ? Y/elwyd Natur mor ddigymar Ae mor gain erioed ? Bu y Gaeaf drang yn oedi Ar y brya a'r cwm Ac fe gollwyd hud y perthi Gan y ilwydrew trwm; Crwydra'r Gwanwyn mwyn ei sisial, Heddyw'r erwau hyn; Ac fe chwas dd yn ol ei sandal- Elodeu bywydgwyn, Ei di draw at fedd fy machgen, Syrtbiodd YD y gad ? Plana arno gof-friallen, Hiraeth mam a thad A phob tro yr eli heibio Paid anghofio hyn Gwn fod Duw ei hun yn suo- Cwsg fy angel gwyn. Pwy sy'n cyffwrdd gyda'r plygain Awen adar nof ? Pan mae byd mor drist, mor bersain, Pan mae drylliog lef- .Cyffro rhyfel, a'i drychineb Eto ar ei gly w ? A oes rhywun ddyry ateb ? N ac oes, neb ond- Duw. GWILYM DYFI. IYFYR Y BAPvDD WRTH GAINC YE ADAR A'I G WAlTH," Berwi'm hysbryd a mT, y o asbri-wna'r adar Tra'n trydar eu cerddi, 'Mhob parthau ar y perthi, Hyd wyth yr hwyr, maent wrthi hi. Yr hedydd llwyd a gwyd i'r nen—fry'n hwylus Tan beledt heulwen, Daw ffrwd o fawl am fy mhen,—yn glwys 0 barthe baradwys i berth fy Eden. Torant yr awel a'u melus folawdam, Eu mirain gerddi a mel yn eu nodau Daw'r Eos a'r Gwcw i roi acw acenion, Mae'r Fwyalchen a'r Fronfraith yn fy synu au swynion, Yr Hedydd fach yntau a esgyn i'r wybren, Ac adsain ei delyn sydd yn y ffurfafen, A llu o rai eraill llawn ymdrecb ac awydd: Rhoi miwsig fel trydan yn groesaw i'r wawrddydd. At ol y gaeaf, y rhew, a'r od Mae'r adar yn gwau, a nyddu ou nythod. Rbai gyda gwair a gwellt a gwallc, A rhai gyda phlu a mwsog yr allt. Rbai a dail crin yn eu min o hyd, Eu hadail gynbydda mewn mangre glyd. A herio ystormydd a gwyntaedd y byd, Wna briwydd y Fran sydd ar draws ac ar hyd A phrysur a swil ar wipil y waen, Mae y Driw wrth ei gastell wrth fon y ddraen. A dyna fel maent, pob un yn ei ryw, Yn paratoi cartref tan ofal Duw. Newmarket. ARTHUR WILLIAMS.
SALEM, LLANDDULAS.
SALEM, LLANDDULAS. Chwefror 22, cynhaliwyd cyfarfod tarfynol y Gymdeithas am y tymor trwy i'r aeiodau fwynhau cwpaniaid o de gyda'u gilydd, a chyfarfod adloniadol yn dilya, dan arweiniad yr Is-lywydd. Cawsom unawd gan Miss Florrie Edwards, "Looking this way;" c tadlauaeth i'r chwiorysld Enwi merch- ed y Beibi." cydradd, Miss E. Williams a Miss H. Jackson; can gan Miss C. Davies, Geuffos, Unwaith eto yng Nghymru Annwyl; ymgom gan Meistd Thomas Williams a Willie Jones dat- ganiad o'r don Maesgwyn" gan y meibion. Wedi cyliwyno diolchiadau, caed unawd gan Miss D. Jones, Ty Moel, Y Mab Afradlon." Cawsom gyfarfodydd da yn ystod y tymor dan iywyddiaeth ein gweinidog, Parch E. Arthur Morris. Edrychwn ymlaen am gyfarfodydd cyffelyb y tymor nesaf. Y Sal cyntaf o Fawrth, yn ol apel Cyngor Undeb Eglwysi Ryddion Cymru, caed cyfarfodydd yn dal perthynas a'r Ysgol Sul. Y bore, cyfarfod i offrwm gweddiau o ddiolchgarwch am ei gwas anaeth yn y gorffennol, ac i erfyn am fendith yn y dyfodol i gyflawni ei gwaich yn effeithiol. Ysgol y prydnawn. Decbreuwyd cyfarfod y nos gan Mr Tbos. Hughes, llywydd presennol yr Ysgol, trwy ddarllen rhan o'r ysgrythyr ac arwain mewn gwedai, a Hywyddu y cyfarfod o hynny i'r terfvn. Siaradwyd gan Mr John Jones, Rock Cottage, ar hanes yr Ysgol yn Salem 50 a 60 mlyn- ed-cl yn ol. Cafodd hwyl dda yn adrodd mor ddyddorol fel y byddai yr hen bobl yn cael y fath flas a dyddordeb wrth fyfyrio yrysgrythyrau, a pheth cyffredin fyddai gweled rhai hen bobl yn dod i'r Ysgol am y tro cyntaf i ddysgu darllen. Diolch am wasanaeth yr Ysgol; eitbr- iad yw cael neb na all ddarilen heddyw yng Nghymraeg. Caed gair ymbeilach gan Mr R. Roberts a'r safle bresennol yr Ysgol." Y mae yn dalei thir yn dda yn ystod y 7 mlynedd diweddaf, eto mae lie i wella. Bydded i'r Sul,'a'i neges arbennig fod yn foddion deffroad i feddyl- garweh a goleuo i weled ein cyfrifoldeb a'n cyfleusterau i wasanaethu, yn enwedig ymysg aeiodau eglwysig canol- bed a'r dosbarth hynaf. Caed gair gan Mr Thomas Morris Jones a'r Parch E. Arthur Morris i derfynu. Nos lau dilynol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Caersalem (A.), dan nawdd Undeb Eglwysi Rhyddion Llanddulas. Caed cynrychiolaeth o'r gwahonol eglwysi i gymeryd rban. Arweiniwyd gan y Parch E. Arthur Morris..
I TALSARN.
TALSARN. Nos Lun cyfarfu Cyngrhair Eglwysi Rhyddion yr ardal, odan lywyddiaeth y Parch W. Williams. Penderfynwyd fod a-elodau y Cyngor ac eraill i ymwel- ed a'r eglwysi i draethu ar y testun, Dyledswydd yr eglwys at yr Ysgol Sul." Hefyd, trefnwyd cynhadledd i'w chynnal Ebrill 15fed, pryd y disgwylir y Parch D. Stanley Jones, Caernarfon, ao eraill, i annerch.
ICOED-Y-FFLINT.
COED-Y-FFLINT. Prydnawn a nos Sul, Mawrth 17eg, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol. Llywydd- wyd gan Mr E. J. Conway, arolygwr yr Ysgol Sul. Cafwyd adroddiadau o rannau o'r Ysgrythyrau gan y plant, a holl ddosbarthiadau yr Ysgol. Yroedd y cyfarfod yn un rhagorol, a theimlid fod daioni mawr wedi ei wneud trwy osod Y Gair ym meddyliau y plant. Teimlid cryn golled yn y cyfarfod oblegid absenoldeb y brawd Isaae Jones, sydd wedi bod yn cwyno ets tro bellach: da genym ei fod yn gweUa.