Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

TIPYN 0 BOPETH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TIPYN 0 BOPETH. I Tywyllu yn enbyd y mae hi ynglyn a phapur. Y mae y new- yddiaduron y wlad oil bron yn codi eu pris eilwaith. Dyma fel y dywed perchenogion y Faner :— Yr ym dan orfod codi pris y Faner i ddwy geiniog y copi—trwy'r post, 2jc. Y rheswm yw. fod y Llywod- raeth yn gosod cyfyngiadau ar y cyfleriwad o bapur trwy y deyrnas, a hynny oblegid yr anhawsder i gael defnyddiau at wneud papur o wledydd tramor. Mae y Swydd. fa hon wedi ei chwtogi i hanner y cyflenwad blaenorol o bapur, tra y mae ei bris wedi myned i fyny dros/ chwe' gwaith mwy yr hyn oedd cyn y rhyfel; ac nid yw yn debyg ei fod eto wedi cyrraedd ei eithafnod. Nid yw y cam hwn o eiddo perchenogion y Faner ond yr hyn sydd wedi ei wneud, oherwydd yr un rhesymau, gan liaws o gy- hoeddwyr newyddiadurol eraill. Lleiheir maintioli y papyrau, a chynhyddir eu prisiau. Y mae yna deimlad cryf iawn wedi codi yn Canada yn erbyn y teitlau a'r urddau a wasgerir yn y Drefedigaeth, a rhoddir sylw man- wl i'r mater yn y Senedd yn fuan. Os gwaherddir hwy gan y Senedd, eithaf peth i'r rhai a'u carant fydd- ai dod drosodd i'r wlad hon. Y maeyma Lywodraeth sy'n medru eu creu a'u gwasgaru fel cawodau o beiswyn. Parheir, meddir, i fyned ymlaen gyda'r cynllun i sefydlu Swyddfa Iechyd. Yn sicr, dyma'r peth pwysicaf heddyw yng ngwleidiad- adaeth gartrefol Prydain. Nid pwnc y gellir ei ohirio hyd ddi- wedd y rhyfel mohono yn hytrach dylem frysio i'w setlo cyn delo heddwch, a gosod y peirianwaith i fyny erbyn y daw'r becbgyn adref o faes y tan. Mr W. J. Davies, Capel Betliania, Pentre, Fflinfc, a eiallodd fathodyn aur, a gwobr o bunt, mi gredaf, Arholiad Cyngor Dirwestol y Gogledd eieni. Dywedir fod cwmni newydd ei greu at weithio tair o chwarelau segur Arfon. Ni wn y manylion, ond gwn y bydd llu mawr o hqgiau'r glolyn ail anadlu awyr rydd mynydd a mor wrth glywed hyn o cbwedl felys. At dalu cyflogau ein seneddwyr a'n swyddogion gwleidyddol y^ flwyddyn nesaf, geilw y Cyfrifgyngor am £ 1,000, Ueihad o £ 3,495. Ty y Cyffredin, £ 279, 898, lleihad o £ 1,896 Swyddogion Ty yr Arglwyddi, £ 44,567, cynydd o £ 2,418. Daw cyflogaif Aelodau Seneddol i £ 211, 500. >*• Ar gyfer Gwasanaeth Ddirgelaidd (Secret Service) gelwir am £ 500,000 ar gyfer y flwyddyn 1918 19. Deallwn fod Mr Llewelyn Williams yn ffafrio symud i sicrhau Swyddfa i Gymru megis ag sydd gan yr Alban. Cred ef y byddai hynny yn gam tuagat hwyluso Ymreolaeth. Ni wrthodai Mr E. T. John na Major David Davies mo'u cefnogaeth i'r cais hwn, ond credant hwy y gellir cael rhagor. Hysbysir fod y Gynhadledd Wyddelig wedi dylod i benderfyniad ar bob pwynt, ac fod y cadeirydd—Syr Horace Plunkett-i dynnu allan adroddiad i'w gyflwyno i'r Gynhadledd dydd lau, Ebrill 4ydd.

Advertising

JERUSALEM, -WRECSAM. I

FFLINT. I

PENYGROES A'R CYLCH. I

Advertising

Y Rhjffel o Ddydd i Ddydd.