Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"GwYiiyedydd Newydd' AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebion a thaliadau am y Gwyl iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, "Owyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6; pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yt anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyfeirio- V Golygydd, (livyliedydd Ne wydd, Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn :— Carem i bob gohebiaeth- fod mewn Haw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amlen gadawer hi yn agored, ac ysgtifenner Press News ar ei chongl. LLYFR NEWYDD. "Emynwyr Cymru" GAN Y PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr Ysgrifau *Hanes yddol a Beirniadol ar holt Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Ial, ac ar ei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr. Barn Llenorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darilenais eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc a chredaf y bydd yn waith safonol Cosiiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel lienor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gefnogl." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r llvfr hwn. Chwiliodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith. gref a glân. Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. "Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfleu mewn morld diddorol iawn. Clorienhir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagoiol ar y, gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darlienais eich ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dywedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gwr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rhai a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyflym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n llenydtiiaeth. Dengys yr ysgrifau ol meddwl galluog, medr llQnyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth drylwyr o'r pwn, Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digenol o Danysgrifwyr. PRIS 3/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam. I At Ein Dosbarthwyr a a Darllenwyr. Mae y Biliaii am y Chwar- ter yn terfynu Mawrth 31 yn y parseli yr wythnos hon. Diolchwn am daliadau pryd- Ion: y mae rhai lleoedd heb dalu ers dau, tri, ac hyd yn oed pedwar chwarter. Y mae yn amhosibl i ni gario ymlaen yn y ffordd hon, a bydd yn rhaid i ni yr wythnos nesaf atal anfon y parseli i'r holl leoedd yma. Du iawn yw y rhagolygon. Y mae y papur wedi codi ceiniog a dimau arall. Gwna hyn wahaniaeth i ni mewn blwyddyn o tua £50, ac eisoes prin yr ym yn clirio'n ffordd. rti wyddom yn iawn eto beth w wneud os oes gan rhai o'n cyfeillion ryw awgrym byddwn yn ddiolchgar am dano. Beth bynnag gall pawb helpu wrth dalu'n brydlon. I • 1
HODIADAU WITHNOSOL.
HODIADAU WITHNOSOL. Yr Eglwysi a'r Rhytel. Y mae y Parch Cernyw Williams, D.D., Corwen, un o weinidogion mwyaf pwyllog a chryfaf y Bed yddwyr, a Llywydd Cyngrhair Eg- l,wysi Rhyddion Gogledd Cymru, wedi anfon y llythyr hwn i Seren Cymru," a chredwn yr haedda le ymhob newyddiadur crefyddol yn y Dywysogaeth, Er dued yr awr, er garwed yr amgylchiadau, ac er rnaint ein han- awsterau, ie, ac i raddau oherwydd hynny ni ddylem golli yr ymarfer- iad o weddi, na cholli ein ffydd yn llwyddiantgweddi. Nid oes war- edigaeth yn dod trwy fyddin na llynges, drwy ddiplomyddiaeth na gwleidyddiaerh, o'r cyfeiriad hwn na'r cyfeiriad arall, ond edrvchwn i fyny, ac o hynny y daw i ni ddai- oni. Cri myrddiynau ydyw am i'r gyflafan fawr ddod i ben ac oni ddyiai yr Eglwys yn unol iawn weddio am hvn. Mae lliaws o famau nad oes cvvsg yn dod at eu hamrantau drwy gydol y nos, dis gwyliant yn awchus am guriad y llythyrgludydd yn y bore, disgwyl- iant ac ofnant yr un pryd. Yn sicr dylai fod gan yr Eglwys ryw gen adwri arbennig ar gyfer cyfnod fel hyn a byddai yn help i'r Llyw- odraeth i rywrai gadw y nod yn uchel, a cheisio ffordd o ym wared. Yn sicr, dylai yr awdordodau milwrol wylio pob cyfle, i chwilio am ryw lwybr yn arwain i hedd- wch cyn i'r holl deyrnasoedd fynd yn lludw. Dyna Japan yn gwylio ei chyfle i ychwanegu ei thiriog- aeth, er bod ganddi fwy na digon- eisoes. Ac os daw i R wsia, gallwn fod yn sicr na chaiff roesaw gan y genedl honno, gan mor amheus ydyw R wsia o amcaiiion Japan. Ond beth bynnag am y Llywodr aeth bydded i'r Eglwys weddio a gweithio ynghyfeiriad y,Iwawr. V Rhyfel a Rhaglumaeth. Geiriau yn cydredeg yn gwbl a'r geriuuchod o eiddo Dr. Cernyw Williams ydoedd geiriau Mr E. T. John, A S., y dydd o'r blaen mewn cyfarfod yn Rhosllanerchrugog. Dywedai Mr John Dymunwn yn sicr ddatgan ein cydymdeimlad dwfn a phawb sydd mewn pryder ynghylch diogelwch anwyliaid yn y frwydr enfawr ymleddir yn Ffrainc. Er mor ddifrifol ein coll- edion, y mae lie i gredu y gwrth- sefir yn llwyddiannus ruthrgyrch y gelyn. Ar rai ystyron y mae yn anodd defnyddio gormodiaith vng- lyn ag ai-ngylchiadau mor alaethus, ond clywir yn ami acen anobaith sydd yn gwbl baganaidd. Dywedir yn barhaus, os nad enillir buddug laeth filwrol llwyr a gorchrechol, na fydd unrhyw ddiogelwch pell ach i ryddid a ffyniant cenhedloedd. Yn hyn o athroniaeth y mae yh amlwg nad oes le i Raglun- iaeth o gwbl. 'A fyrhaodd braich yr Arglwydd.' A barnu wrth ddat- ganiadau llawer o arweinwyr Cymru—lien a lleyg—nid oes i'n cyffredin Dad lais o unrhyw fath ynglyn a dyfodol y ddynoliaeth. Ceir, ysywaeth, gryn sil Pr cyfryw ddamcaniaeth yn sefyllfa bresennol Ewrop a'r byd, ond y mae yn syn clywed cynnifer yn defnyddio yn barhaus iaith anghrediniaeth ym arferol." »» » 4»-
[No title]
V Llywodraeth ag Aafoesoldeb. Y mae'n debyg y myn y Llywod raeth ystaenio baner Prydain trwy gefnogi, yn swyddogol, anfoesol- deb. Gorchfygwyd hi yn llwyr gyda'i hymdrech warthus yn Ffrainc, ond wedi ei churo yno bwriada gario y maen halog i'r mur mewn ffordd arall: o dan glog Deddf Diffyniant y Deyrnas," gorchymynir fod unrhyw ferch a fo'n .dioddef oddiwrth y clefyd ffiaidd a gyfyd o anlladrwydd ac anniweirdeb, ac a esyd ei hun yn ffordd unrhyw filwr gydag amcan anfoesol yn agored i'w chymeryd i'r ddalfa a'i harchwilio gan fedd yg. Da gennym weled fod y wlad yn deffro eto, ac y gorfodir y Llyw- odraeth, sydd mor gyndyn a gwrth- nysig ar bynciau moesol, i gilio'n ol drachefn., Nid ywhyn ond ym drech i adsefydlu y Contagious Diseases Act," ag y mynnodd sel Ian Mrs Josephine Butler, ag eraill, eu dadwneud flynyddoedd lawer yn ol. Ceisiodd y Llywodraeth ad- sefydlu y deddfau yma ychydig amser yn ol, ond aeth cydwybod y wlad yn drech na hi. Ceisir carlo y pwynt annuwiol yn awr yng nghanol cythrwfl rhyfel. Paham na cheir yr un safon i'r dyn ac i'r ferch ? Os yw yn ddrwg i ferch andwyo milwr, tybed yn enw Duw a dynoiiaeth, nad yw hi yr un mor ddrwg i adyn o filwr andwyo merch ? Fel y dywed un gohebydd Cymreig Bydd llawer gwraig a merch rinweddol yn agored i ddod dan gwmwl du drwgdybiaeth, ac i fynd o dan oruchwyliaeth warad wyddus, er iddi fod cyn laned a'r haul. Fel y dengys dwy foneddiges fcnwog, mewn llythyr yny wasg, yr hyn a hawlia y Llywodraeth yw glendid a gofal i ddynion, ac aed y merched lie mynnont. Tybiasom fod cyfrifoldeb y Llywodraeth hon ynglyn a diota yn llawn digon tramgwyddus heb iddi ycnwanegu y gwarthrudd hwn eto. Araith y Count Czernin. Dydd Mawrth diweddaf, yng Nghyngor tref Venice, pan y mae rhu ofnadwy y magnelau yn fwy marwol nag y buont erioed, tradd- ododd y Cangheilor Awstriaidd- Count Czernin-araith wir bwysig ynglyn a heddwch. Fel arfer y mae araith y Canghellor yn gymedrol, ac wedi ei chyfeirio mewn rhan at Brydain a Ffrainc, ac mewn rhan at yr America. Credwnei fod yn glir bellach fod Awstria wedi blino ar.-y rhyfel, ac yn awyddus i ddod allan ohonno credwn hefyd ei bod, 1 fesur tra helaeth, yn fodlon talu y pris er mwyn dod allan. Ar fwy nag un achlysur, trwy y Count Czernin, y mae Awstria wedi ceisio agor ffordd o ymwared. Tybed nad un o gamgymeriadau mwyaf difrifol y Cyngrheiriaid oedd eu hanallu, neu eu hamharodrwydd i weled unrhyw wahaniaeth" cyd- rhwng araith Czernin a Hertling. Yr oedd y datganiad ar ol Cynhad- ledd Versailles yn cau y drws yn wyneb y naill araith fel y llall, heb yr ymgais leiaf i wahaniaethu cyd- rhyngddynt. Yn ei araith dydd Mawrth dywed y Count Czernin am ymdrech arall i geisio dod yn nes, a hynny ar drothwy y laddfa fawr yr ym yn awr yn ei channol.. 1 Fel yr ymdrechion eraill bu hon. eto yn aflwyddiannus. — It; ♦ mi. V
[No title]
f Anghen Qoleunh Rhaid wrt4 lawer mwy o oleuni- I nag a feiliiwn i fedru barnu yn briodol natur a theilyngdod yr ym. drech hon. Yn dra hynod, agor- wyd y drafodaeth, meddir, gan y Prifweinidog Ffrengig—M. Clem. enceau. Nid yw Clemenceau hyd yma wedi bod yn enwog am ei dueddion heddychol, eto hysbysir mai efe a agorodd y drws y tro yma. Ymholodd Clemenceau a mi," ebai Count Czernin, ar ba sei iau y byddwn yn barod i gych- wyn ymdriniaeth." Atebais, gyda chydsyniad Germani, fy mod yn barod i gyd drafod, a chyn belled ag y gwelwn, yr unig anhawster ynglyn a Ffrainc oedd tymer Ffrainc ynglyn ag Alsace Lorraine. Atebiad M. Clemenceau oedd nad ellid ymdrin o gwbl ar y seiliau hynny. Ni ellir, oddiwrth y geir- iau hyn, ddeall yn benodol beth oedd geiriau Czernin ynglyn a'r ddwy dywysogaeth: os na ddyw- edodd fwy nag a gyfleir yn y geiriau uchod-sef fod Alsace Lor. raine vn ddyrysbwnc yngiyn a heddwch gyda Ffrainc, prin y gellir cyfiawnhau M. Clemenceau am gau mor "ddisyfyd y drws y mynnodd efe ei hun ei agoryd. Yn hytrach, credwn y dylai datganiad mor gymedrol fod yn rheswm dros barhau y drafodaeth. Tra yn cyd nabod fod y mater yn un dyrus, ni ddywed Czernin ei fod y fath nad ellid cael trosto. Wrth gwrs, fel y dywedwyd, mae'n anodd llunio barn gywir heD ychwaneg o oleuni.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. Mae Mr E. D. Jones, un o Wesle- aid amlwg ein tref, wedi ei benodi yn Arolygydd drus Ogledd Cymru dan Adran Pensiynau Milwyr a Morwyr. Bu Mr Jones yn Ysgrifen- nydd Pwyllgor .Sir Ls dinbych dan Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol, ac efe ydoedd ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn HJ08., ac Eisteddfod Gwrecsam 1912.