Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

 1J.¡; ABiRYRON. I I

RHOSDDU, GWRECSAM. J

TANYFRON. I

SOAR, RHYL. ,I

0 WERSYLL CROESOSWALLT.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 WERSYLL CROESOSWALLT. I Yr wythnos o'r blaen bu y Parch W. R Roberts, o'r Dretnewydd, yn y gwer syll, a chafwyd ganddo air i bwrpas i'r milwyr, yn Gymraeg a Saesnaeg. Y mae ymweliadau ein gweinidogion a'r bechgyn yn peri iddynfc anghofio am ennyd mai milwyr ydynt, ac yn arwain eu meddyliau at bethau hyfrytaf car- tref. Wythnos yn ol cafwyd darlith ar y Tair Telyn gan y Parcb Idwal Jones, Rhos. Dyddorol a buddiol mewn gwer- syll milwrol ydoedd cael cipdrem hyfryd ar feirdd a barddoniaeth ein gwlad. Dyddorol bob amser yw cyfarfodydd I i gystadlu mewn canu ac adrodd, yn enwedig yn y gwersyll. Teimla y bech- gyn mor rydd a chartrefol, a bydd ansodd y cystadleuaethau mor ansicr ac amyw- iol fel y ceir weithiau gryn lawer o ddifrifwcb yn gymysgedig a gwir dalent, ond ynghanol y cwbl mwynheu natur- ioldeb ddiymffrost. Rhanwyd yn y cyfarfod hwn t2 mewn man wobrwyon a chafwyd noson ddifyr. Nawddogir y fasnach feddwol yn effeithiol yn y gwersyll, a daw pob gorchymyn i gwtogi gwerthiant ym- borth yn fantais i'r Wet Canteens dwy awr yn y dydd i werthu bwyd,.ond pob cyfleustra i werthu cwrw Er hynny, da gennyf ddweyd ein bod wedi cael prawf yn ddiweddpr fod cannoedd o'r bechgyn yn barod iawn i ardystio dirwest. Cychwynais ymgyrch i'r perwyl hwnnw yn y Wesleyan Insti- tute, ac y mae nifer yr ardystwyr gaf- wyd mewn pum' noson yn fwy na phed- war cant. Daeth swyddog milwrol un- waith i gwestiynd gwedciusrwydd fy ngwaith ond ni wnaeth nynny ond profi fod angen am dano. Dymunwyd arnaf hefyd dynnu i lawr hysbyslenni dir- weetol oddiar parwydydd yr Institute, Nodir y ffeithiau hyn i ddangos mor eiddigeddus y teimla pleidwyr y fasnach feddwol dros ei buddiannau, ac hefyd i ddangos mor werthfawr yw y cyfle i gymell liwyrymwrthodedd ymhlith y milwyr. Teimlaf yn ddiolchgar i'r Parch Isfryn Hughes, ac i Mr Davies Jones, Caer, am y dyddordeb a gynaerant gyda Crohfa y Milwyr Cymreig. Y mae y Fund yn gynorthwy mawr i sicrhau defnyddiau ysgrifennu, Testamentau, &c. i'r Cymry yn y gwersyll. I 5, Oak Street, Oswestry. E. WYNNE OWEN.

I , , LLANG'iNNOG..

f .RHYL.

[No title]

Advertising