Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

 1J.¡; ABiRYRON. I I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

 1J.¡; ABiRYRON. I I Nid ymddangosodd Methodistiaid Wesleaidd erioed i wen mantais yn Aberayron na wnaethant nos Fercher a dydd Iau, Mawrth 20fed a 21ain. Yr achlysur oedd ymweliad y Parch D. Tecwyn Evans, B.A., i bregetbu, ac i ddarlitbioar" Ann Griffiths." Ymwel- odd Tecwyn a'r dref hon gyntaf ym mis Hydref diweddaf, pryd y cafodd yr an rhydedd o gael ei wahodd i gymeryd rhan yn Sassiwn Gyffredinol y Method- istiaid Caifinaidd. Yr adeg honno cafodd tyrfa o bobl o lawer ardal fantais i.'w glywed yn traethu ar Williams, Pantycelyn, fel lienor a divinydd, ac hefyd yn pregethu. Gwaith hawdd oedd I trefriu argyfer ei ail-ymweliad. Roedd disgwyliad mawr am dano or pan gyhoeddwyd cifodi ddod. Y roson gyntaf cafwyd cyfarfod oedd yn ernes o gytarfodydd benditbiol. Cofir yn hir am y pregethau grymus, ac mae pob He i gredu yr erys eu dylanwad mewn bywydau mwy ymgysegredig i waith teyrnas yr Efengyl. Dechreuwyd y gwahanol odfeuon gan Mrs D. L. Jones, yr Henadur Johr. M. Howell, a'r Parch T. D. Thomas, Llannon. 'Roedd y Ddarlith odidog yn addysgiadol ac yn wledd ysprydol. Llanwyd capel eang Tabernacl (M.C.), gan gynulleidfa astud. Y cadeicydd oedd Mr J. R. Evans, gwr o waedoliaeth Wesleaidd, a'r hwn sydd bob amser yn barod iddangos ei gydym- deimlad ymarferol a'r enwad. Gwnaeth ymdrech arbennig i ddychwelyd o Llangrannog, lie yr oedd wedi' bod yn traddodi ei anerchiad fel cadeiryda Cyfarfod Misol y Methodistiaid yn Ne Aberteifi- Diolchwyd i'r darlithydd gan yr Henadur John M. Howell a'r Parch T. Cenech Davies, Cilcennin; ac i'r cadeirydd gan y darlithydd a'r Parch D. Lewis Jones. Mae aelodau yr Eglwys Wesleaidd wedi eu sirioli yn fawr drwy y cyfarfodydd bendithiol, a llwyddian nils yrahob ystyr. I Dduw y byddo'r gogoniant. D. L. J.

RHOSDDU, GWRECSAM. J

TANYFRON. I

SOAR, RHYL. ,I

0 WERSYLL CROESOSWALLT.I

I , , LLANG'iNNOG..

f .RHYL.

[No title]

Advertising