Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
ABERGELE.
ABERGELE. ■ ER COF ANNWYL Am Pte. Edward Hughes (Ted), R.W.F., a fu farw o glwyfau a gafodd yn Ffrainc, Ebrill lOfed, 1916. (t Er colli ein cyfeillion boff Yn yr Iorddonen gref, Mae'n felus meddwl-eto nghyd <■ Cawn gwrddyd yn y nef." Gymwyser ni drwy'r Ysbryd Glan A'i rasol ddoniau Ef, Nes delom fel twysennau llawn Yn addfed iawn i'r nef." Ei RIENI, ei FRODYR, a'i CHWIORYDD hiraethus- Ty Ucha, Abergele, Ebrill 4ydd, 1918.
SHILOH.
SHILOH. Drwg gennym am farwolaefch cyfaill ieuanc ar ol cystudd maith, sef Mr Dd. Jones mab, Mr a Mrs Wm. Jones, Glyn- awel. Bu yn nychu am tua thair blyn- edd, ac yn ystod y misoedd diweddaf yn gwanhau bob dydd. Bu farw dydd lau diweddaf, a ebladdwyd y LIun canlynol. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu'r cymwynas olaf i un oedd yn annwyl iawn i bawb a'i hadwaenai. Buychydig flynyddau yn cl am daithi New Zealand er mwyn iechyd. Cafodd ychydig leshad trwy hynny, ond y tair blynedd diweddaf bu gartref, a mawr fu gofal ei dad a'i fam obonno. Meddai a'r sirioldeb a wnai bawb yn hoff o'i gwmni. Yr oedd yn dyner galon, ac yn meddu ar 'egwyddor dda iawn. Tua'r diwedd dioddefodd. lawer iawnmewngwendid mawr. Cymerwyd rhan ddydd ei gladd- e jigaeth gan nifer o weinidogion- Wrth y ty gwasanaethwyd gan y Parchn H. R. Owen a Robert Lewis, yn y capel arweiniwyd y gwasanaeth gan weinidog Caersws, a chymerwyd rhan gan y Parchn W. T. Ellis, A- C. Pearce, Dd. Davies (M.C.), ac ar lan y bedd gan y Parchn W. T. EUisa J. Hopkin Morgan. Mae ein cydymdeimlad yn ddwfn iawn ar teulu annwyl yn" Gfynawel yn eu profedigaeth chwerw. Maent',aedi bod mewn llawer i storm drallolus. Yr oedd un mab adre' yn yr angladd o Ysbyty Southport, wedi colli ei goes yn TFfraine. Da gennym weld Joseph er hynny yn edrych mor dda. Nawdd y Goruchaf fvddo dros y-teulu yn eu galar dwys, ac a'u nertho ynjy dydd blin- GOH.
I...I.TANYFRON.;i
TANYFRON. ;i Drwg gennym gofnodi am farwolaeth y chwaer, Mrs Maggie Roberts, priod y brawd Edward J. Roberts o'r lie hwn. Bu farw Jifawrth 5, yn 27ain mlwydd oed, a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent Nerquis, Mawrth y 9fed. Gweinyddwyd gan y Parchn W. M. Jones, BA-, ac R. G. Huws. Yr oedd ein chwaei- yn un o'r rhai mwyaf ffydd- lon, a rhinweudol yn ein plith. Bu yn nychif yn hir yn y D'njfociedigaeth, ond dioddefodd yroil yn dawei a dirwgnach, a chredwn bod ei hehaid erbyn hyn wedi myned i'r wlad hono lie nadoes neb yn cwyno clai ydwyf. Heddweh i lwch ein hannwyl chwaer, a diddaned Duw ein hannwvl frawd sydd wedi ei adael yn unig i alaru ar ei hoi yw ein, dymuniad. G oil.
'"YSTUMIUENi :
YSTUMIUENi Bore Sadwrn, Mawrth 9fed, bnfarw y blaenor ffyddlon a'r Oris lion glbyw, diymhongar, Mr David Owen, Troedyr- benrhiw. Yr oedd yn frawd i'r diw- c'åùar Barch Rice Owen, a Mr Thomas Owen, Goginan. Nid oes yn aros ar ol ond un brawd, Mr James Owen, yr hwn sy'n America ers blynyddau, a dwy chwaer, un o honynt yn Lerpwl, a'r llall yn Portsmouth. Treuliodd rhan gyntaf o'i oes mewn. gwasanaeth yn ardal Goginan. Hanner can' mlynedd yn otymbriododd a Miss Mary Jenkins, Blaenllywernog, a daethant i fyw. i TrQed^b^nrhiw, lie ganed iddynt ddwy iereh un mab. Bu farw Sarah Ann era tair blynedd ar hugain y mae'r llall yn briod a Mr Ricbard, Howells, Bwyddog glofaol yn Blaengarw, Morgan- nwg, a'r mab, Mr David Lewis, ynfcaii; 1 yn briod ac yn byw yn Troedyrhcnrhiw. ipan yn ddyn ieuanc ymfudodd ein diweddar frawd i America, a bu yno am flynyddau, ond dychwelodd adref i dreulio gweddill ei oes. Colled fawr i eglwys Ygtumtueo yw symudiad Mr Owen o'n plith, er yn analluog i ddod i'r moddiannau, eto yr oedd ei ddyddordeb yn ddiymollwng a hynny yn amgylch- iadau yr achos. Holai am y cleifion, gohebai a'r milwyr, trefnai gyda'r am- gylchiadau, ac yr oedd yn fawr ei bryder rhag fod yr achos yn mynd yn ol mewn I dim. Bu yn athraw yn yr Y sgol Sul am flynyddau, yn drysorydd yr eglwys, yn flaenor, ac yn fawr ei ffyddlondeb a'i barch, a phan ddaetb y diwedd nid oedd arno ofn croesi. Y nos Wener olaf y bu fyw dywedodd, nid oes arnaf ofn marw os wyf am fynd yn awil Dydd Gwener, Mawrth 15fed, cladd- wyd ef ym mynwent Ystumtuenl Cym- erwyd rhan yn y wasanaeth gan y Parchn G. Bedford Roberts, Thomas Morris, Mri Richard Jones, Sychnant, Edward Jones, Ponterwyd, William Evans (M-C ), Ponterwyd. A nos Sul Mawrth 24ain, cynhaliwyd gwasanaeth coffaol yn Ystumtuen. Cysured yr Arglwydd ei weddw alarus a'i blant a'i wyrion yn eu galar. I GOH.
I LLANBEDR PONT STEPHAN.
I LLANBEDR PONT STEPHAN. Gorchwyl trist yw gorfod cofnodi marwolaeth Mr John Rees o'r dref bon. Yr oedd Mr Rees fel Apollos yn wr cadarn yn yr Ysgrytbyrau." Cymer- odd er yn ieuanc ddyddordeb mawr yng Ngair yr Arglwydd ac yfodd yn helaeth o'i ddyfroedd. Nid oedd yn fodlon ar dderbyn, ymhyfrydai hefyd mewn cyf rannu ei wybodaeth i eraill. Priodolid iddo gymeriad uchel fel athraw yn yr Ysgol Sul. Mewn eglwys lie mae prinder pregethwyr yn fawr, cawsom ei wasanaetb gwerthfawr araml nos Sul dr-vy ddarllen papur ar bwnc ysgryth- yrol. Cafodd y pregethwr fantais I hefyd ar ei farn addfed ar y bregeth. Nid oedd am wthio ei farn, ond da oedd gan y neb a'i adnabyddai gael ymddidd- an ag ef ar ol y bregeth. Os ceid gan Mr Rees i ddweyd ei bod yn bregeth dda nid oedd eisiau ofnL y bregeth honno wedyn- Er fod ynddo lawer o hiwmor ni chlywsom ef erioed yn siarad gwagedd son am bregeth a phregethwyr, gwasan- aeth y cysegr a Gair Duw fyddai bob amser. Rhybrin oedd ei amser i droi oddiwrthynt. Yr oedd fel marchnath awyr y9r" prynu yr amser. Danghoeodd ein heglwys ei gwerth- fawrogiad o'i waganaeth drwy bwrcasu flodeudorch wydr i osod ar ei fedd. Claddwyd ei weddillion marwol ym inynwent yr Eglwys dan y drefn new ydd. Gwasanaethwyd yr) yr angladd gan y Parch D/Lewis Jones, A T.S.C., Aberaeron D. Jones, A.T.S. (B.) Llan- bedr; ac E. Evans, A-T-S. (A.), Llan- bedr. Nodded Duw ei briod a'i fab yn eu trailed. I ■ GOH,
I .■YR WYDDG&IFGVI
I ■YR WYDDG&IFGV Cafodd eglwys Pendre golled fawr yn ddiweddar ym marwolaeth Mr Ellis Jones, New Street, yn 661in oed. Er iddo fod yn glaf am wythnosau parodd y nowydd am e; farwolacth nos EawrEh. .Mawrth y 16e, syndod i bawb o'i gydhabod. Yn ystod y flwyddyn ddiw- eddaf daeth Cataract ar ei: lygaid. YmddanghoSui yn llawen a, strioldrwy'r cyfan- Yn ddivreddaracli sylweldol wyd nad osdd ei galon yn. gwneud ei gwaith fel y dylai. Ni bu yn gorwedd end ycbydig o ddyddiau, ac ni feddyl- iodd neb o'i gyfeillien fod y diwedd mor agos. Brodor o'r Erryrus, Llanarmon yn Idl, ydoedd, a bu yn byw yng Nghaer am beth amser cyn ymsefydlu yn yr- Wyddgrug tua deugain mlynedd yn ol. Yn ystod y deugain mlynedd hyn ni chredwn i neb fod yn ffyddlonach i'r achos- Bu'n flaenor, ae yn athraw, ac mewn swyddi eraill ar hyd y daith. 1, Anaml y gwelwyd eile. yn wag yn yr Ysgol Sabothol ac, yn y cyfarfod gweddi a'r stiat; a pherchid ef yn fawr yn yr holl gysylltiadau hyn. Yr oedd drwy ras yn fab tangnefedd. Bodlon- oddi ddioddef llasver er mwyn heddweh a thangnefedd. Meddai ewyllys a meddwl a thymer gref, ond yr oedd yr oil wedi en tymeru a. gras- Gellid ym- duined unrhyw befch iddo gyda sicrwydd na chlywidgair am dano byth mwy. Ymdrechodd ymdrech deg, gorffonnodd yr yrfa, cadwodd y ffydd. Ac o hyn allan y rboddwyd coron cyfiawnder i'w chadw iddo. Y mae ein cydymdeim- lad yn fawr a'i ferched a'i feibion. Y mae dau o'r meibion yn Canada ac heb glywed eto am farwolaeth eu hannwyl dad. Daeth y trydydd, Capt. W. E. Jones, C.A.M.C., adref o Canada ychyd- ig o fisoedd yn ol a gwasanaetba fel meddyg yn y fyddin. Ar ol mynd i Canada, drwy ddygnwch a dyfalbar- had graddiodd yn B.A., M.B., yn Tor onto. Y mae ei ferch hynaf, Sister Mary Jones, yn Assistant Matron yn y Royal Infirmary, Liverpool. Y ferch arall ydyw Mrs Owen, Trefechan, Caerwys. Dydd Sadwrn, Mawrth y 23ain, daeth tyrfa barchus o'i gyd-aelodau ym Mbendre, a'i gyd drefwyr ynghyd i hebrwng ei weddillion i gllddfa gyhoedd. us yr Wyddgrug. Gwasanaethwyd gan y Parchn W. Morris Jones, ac R. T Roberts, Llanarmon. Heddwch i'w lwch.
I *DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Taenwyd tristweh mawr dros y dref I hon, ac yn enwdig eglwys Obenezer, pan ddaeth y newydd am farwolaeth ein brawd ieuanc Mr E. Arthur, Evans, Lerpwl, yn 33 oed, mab Mr a Mrs Griffith Evans, Edith Road, Liverpool, un o'r cymeriadau mwyaf hardd a char- edig a weisom. Y mae Mrs Evans yn tlnó blant yr eglwys hon a bu Mr Evans yma am flynyddoedd cyn mynd i Liverpool, fel y mae yn adnabyddus i lawer yn yr eglwys, felly y ddau fab hefyd, Byddem yn faich o'i gweled yn troi i fewn i Ebenezer bob amser, ond erbyn hyn dymay ddau wedi mynd. Dydd Llun y Pasg daethpwyd a'i weddillion o Liverpool i Dolgellau, Cychwynwyd o'r Station i'r Cemetry, yn cael ei flaenori gan y Parch E. J. Parry, Abermaw, yr hwn yn garedig a ddaeth, er newydd ddod allan o'r ysbyty, a holl swyddogion Ebenezer, a thyrfa fawr a, pharchus iawn. Er fod y rhybudd yn fyr, daethtorf fawr ynghyd. Cymerwyd rhan wrth y bedd yn effeitl-l- iol iawn gan y Parch E. J. Parry, a dywedodd bethau rbagorol am gymeriad hardd a phr; iferth ein cyfaill ieuanc annwyl. Cw-sg fy ngbyfaill hyd gan iad yr utgorn diweddaf. Mae eglwys Ebenezer yn cydymdeimlo yn fawr a'i dad a'i fam a'r teulu oil yn eu profedig- aeth fawr. I I- CYMRO.
[No title]
Yn Ilys trwyddedol Porthaethwy beth amser yn ol, gwooed cais gan Mr Thornton Jones, ar ran Corffor- aeth Bangor, am adnewyddiad trwydded y Gazelle Inn, Llandeg- fan. Ymddangosai Mr William George i wrthwynebu dv rah Gyng- or Eglwysi Rhyddion Bangor a'r blaid ddtrwestol Wedi gwran- dawiad maith methodd yr ynadon a chytuno, a chanlyniad hynny ydoedd y cahiateid y drvvydded. Peth od fod Coifiavaeth pangor yn gofyn am y drwydded. Sonnir lawer,-am genedlaetholi y fasnach, a chodi y "buddiant personoi" allan ohoni er mwyn medru clileu trwyddedau yn gyflyinach, Nid oes "buddiant personoi yn nhrwy- j ddecl y Gazelle Inn, eto mae CorH- j oraeth Bangor am gadw y drwydd 1 ed am y cred y daw elw oddiwrthi i arbed trethi. Peth marwol ber- yglus fydd troi cyHid diota i goffr- au cyhoeddus. j Yn llys ynadon Rhyl, y dydd o'r blaen, dywedodd y clerc ei fod wedi derbyn hysbysrwydd am y tro cyntaf yn ei fywyd y gallesiderlyn rhieni am beidio gwneud gais at y gwarcheidwaid am esgidiau i'w plant, os oedd y cyfryw blant yn dioddef oherwydd diffvg esgidiau. Dyv^edir fod y Beibl Coch, a berthynai i fam leuaa Gwynedd, wedi ei gyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol Gymreig.
Advertising
I RHIWMATIC. =- j ANHWYLDERAU YR ELWLCD. LJ >1. TRINIAETH RAD. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur; gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau era ill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono ac mae wedi iachau achosion dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd Ue'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog ac sydd yn fynych syrthio mor fyrr o'r honiadau rhyfeddol a wneir, fel y mae ffydd ynddynt wedi mynd ar goll. I brofi fod Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt—meddygin- iaeth onest am bris gonest-anfonir un blychiad Ilawn o 40 Tablet j Ddarllenwyr y Gwyliedydd Newydd fel sampl rhad ar dderbyniad y rhybudd hwn a 3c. mewn llythyrnodau i dalu'r cludiad, pacio, &c. Ar werth gan Fferyllwyr, am 1/3 y blwch o 40 Tablet, neu 0 blwch am 6/9. Am SsSmplflwch llawn, cyfeirier-Estora Ltd., 132, Charing Cross Road, London, W.C. 2. University College of Wales, ABERYSTWYTH (One of the Constituent Colleges of the University of Wales). OPENED 1872. President:-Sir JOHN WILLIAMS, Bart., M.D., D.Sc, G.C.V.O. Principal: T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict.).j THE Session begins in September. Lectures commence early in October. Entrance Scholarships and Exhibitions, open to both, rniale and female candidates above the age of 16, are offered for Com- petition at the commencement of the Ses- sion. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the Applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee-in Arts £12, in Science CI6. Sessional Registration Fee, C.I. Men Students reside in Registered Lodgings in the town, or- at the Men's Hostel—Warden Mr H. H. Paine, M.A., B.Sc. Wome-n Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women Warden Miss C. P. Tremain, B.A. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law De- partment, the Agricultural Department, the Department$ for the Training of Ele mentary.and Secondary School Teachers, and the Hostels, apply to- J. H. DAVIES, M.A., Registrar. Yr Epistol at y Philipiaid. ESBONIAD DIGURO. ESBONIAD diguro ar yr Epistol at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngoi, 1 "drwy' r post, 1/3. Y mae wedi ei rwymo mewn ilian, ac y mae ynddo 146 o du- I dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i' Parch. EDWIN JONES, Barniouth. INDIVIDUAL COMMUNION CUPS FOR LISTS OF Patent Ideal Outfits, AND Samples on Approval, Carriage Paid, write to the Makers- Townshends, Ltd., Birmindhm