Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Cymru a'r Fasnach .Feddwol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymru a'r Fasnach Feddwol. (Gan E. T. JOHN, A.S.) I Y mae yn amlwg fod cyfeillion goreu sobrwydd a dirwest yn parhau i gredu yng ngrym ac effeithiolrwydd egwyddor. Y deyrnged oreu i hunan aberth ein mllwyr ydyw ymwrthod yn Ilwyr a'r hyn sydd bob amser yn faen tramgwydd, yn rhwystr, ac yn fagl i gynifer—yn amharu iechyd, yn gwanhau corff, vn cyniylu'r deall, yn diorseddu'r ewyllys, yn pylu a weh a min cydwybod, ac yn per yglu uniondeb, annibyniaeth, ac efteithiolrwydcl ysbryd ac enaid. Nid ydyw eich milwriaeth yn erbyn gelyn eiddil a dirmygus, ond yn erbyn y cryf arfog-a all edrych yn ol ar fuddugoliaethau diri- wedi eu hennill ar draul rhai o'r cewri disgleiriaf eu cynheddfau- ar draul gwyr a gwragedd, ysyw aeth, yn orlawn o hynawsedd a natur dda. Nid gwehilion y ddyn- oliaeth yn unig, nac yn bennaf, sydd yn syrthio yn aberth i rwysg a dylanwad Bacchus Cyn amled y gresynir yn nirywiad a chwymp y gweithiwr medrus, cywrain, y lienor hyglod, y gwr cyhoeddus cyfrifol mewn byd ac eglwys. Er nad ydyw yn hawdd sylweddoh maint y gwastraff a'r golled arian nol geir ynglyn a'r fascach feddwol nid ydyw namyn man us y clorl an- nau o'i gymaru a'r dinistr deifiol effeithir yn barhaus ar ddeall ac ar, gymeriad cenhedlaeth—colled anaele o drysorau gwerthfawroc af cenedl, medr, ac athrylith, meddw.), purdeb buchedd a rhodiad ei phobl. Yr ydyrn yn briodol iawn yn gwrthdystio yn gryf yn erbyn gwastraffu ar ddiod ddefn- yddiau ein bara beunyddiol-ond nid yw ond dibwys o'i gymaru a'r anrhaith wneir ar gynheddfau uchaf ein bobl trwy'r ddiod a gyn- yrchir. Dyma, yn sicr, elyn pennaf -)Pr)-dain heddyw. Yn hyn oym- gyrch, Cymru yn stcr ddylai flaen- eei. Drwy ddiffrwythder ac eidd- llwch yr ydym wedi gadael i'r Alban arwain, ond gydag egni, ynni, a phenderfyniad diymwad, gallwn eto achub y blaen ar ein cefndryd gogleddol. Y maent I hwy yn edrych ymlaen at y fl wydd- yn 1921 fel dydd eu rhyddhad o gaethiwed haearnaidd y fasnach, pan y caniateir i'r werin bender- fynu rhifedi anhebgor tafarnau'r wlad. Y mae pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn y mater wedi gwel ed yn ddiweddar ddatganiad gol fanwi ac hirfaith o'r hyn ddylai fod, i'n tyb i, yn gwrs dirwestwyr Cymru. Er fy mod braidd yn ameu a fu Lloegr ar unrhyw adeg yn ystod y rhyfel yn barod i fabwys- iadu gwahaiddiad cyffredinol, credaf, ar y Haw arall, fod Cymru yn aeddfed i'r oruchwyliaeth. Ar yr un pryd, yr ydwyf bob amser wedi bod yn ffafriol i egwyddor dewisiad lIeol, ac yn gyson a hyn yna. yr wyf yn fodion, ar ol cau cau allan o bob pump o'r tafarnau, i adael i'r ardaloedd benderfynu a ydynt yn fodlon cau y cyfan a'r gweddill. I ddwyn cynllun o'r fdth i weithrediad cyflawn ymhob man y mae ymdrech a llafur lawer yn angenrheidiol. Dadleuir yn barhaus fod y dos- barth gweithiol yn elynol i unrhyw drefniadau o'r fath. Nid cyfeillion a chynrychiolwyr goreu y gweith- wyr sydd yn taeru pethau felly. Eto gwyddom nad ydyw pawb o'n cymydogion yn ddirwestwyr, ac y mae yn amlwg fod cau tafarnau yn fwy angyfleus iddynt hwy nag i ni, ac y mae yn cfrmoetb decldfu rhyw lawer o flaen aeddfediad y farn gyhoeddus. Am hynny, yr ydwyf yn tueddu yn gryf at yr egwyddor o ddewisiad lleol. Braidd y byddai yn gyfleus ymdrin yma heno a chwestiwn o dalu iawn. Yn ystod y rhyfel ni ddylai hyn yma fod yn elfenorhyw lawer o bwys, a dylid ei hystyried yn un o dreuliau y rhyfel, ac un o'r rhai mwyaf manteisiol a bendithiol. Yn adeg heddwch, dylid sicrhau y symiau angenrheidiol oddiwrth. y tafarnau a adewir yn agored. Os cauir y cyfan gallwn yn hawdd forddio'r gost. Fe allai y caniateir i mi egluro sefyllfa obeithiol pethau yn bresen- nol. Ceir Mesur Addysg o flaen y Senedd yr^barod, a bwriedir dwyn i fewn yn fuan Fesur Gweinidog Iechyd. Ynglyn a'r ddau fesur teimlir y dylid caniatau i Gymru drefnu ei materion ei hunan. Y mae ei haeddfedrwydd ynglyn ag addysg yn amlwg i bawb, ac y mae yr angen ynglyn ag iechyd yn boenus o ddifrifol. Gwelir, hefyd, fod y cyfan o'r pleidiau yn mhlith cynrychiolwyr Cymru wedi penderfynu y dyhd beilach sicrhau hunan-lywodraeth i Gymru mewn materion cartrefol. Yr hyn sydd yn nodedig iawn ydyw, fod arweinwyr y pleidiau yn Nhy y Cyffredin wredi. darganfod o'r diwedd mai yr unig ffordd i wastadu pethau yn yr Iwerddon ydyw, drwy ddwyn i fewn fesur o hunan-lywodraeth gyffredinol i'r Iwerddon, yr Alban, a Chymru, gan ryddhau Lloegr i ofalu am ei materion ei hun. A rhoddir ar ddeall i ni gan rai o gefnogwyr mwyaf aiddgar y Prifweinidog a'r Llywodraeth bresennol mai ar linellau Mesur Hunan-lywodraeth Cymru y gwelir gobaith am lwybr cyfleus a didramgwydd 6'u han awsderau fyrdd. Ein gwaith ni fel Cymry, felly, ydyw sicrhau yn ddiatreg Senedd i ni ein hunain, lie y gallwn roddi trefn ar y fasnach yn ol barn olen- edig y genedl. Dan ryw oruch- wyliaeth felly gwelir amgenach agwedd yn 'fuan iawn ar Gymru Lan-er hawddgared ei gwlad a'i gwerin heddyw.

; II I, I - Y Rhyfel o Ddydd…

[No title]