Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Cymru a'r Fasnach .Feddwol.

; II I, I - Y Rhyfel o Ddydd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

II I, I Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Uun, Ebrill 3. Daeth gair o Tokio i hysbysu fod Count Zeranchi, y Prif Weinidog, wedi dweyd eu bod yn barod i gyn- orthwyo y Cyngrheiriaid ar un. 'rhyw foment pe y deuai galw am hynny, a bod y Llywodraeth yn benderfynol o gymeryd y camrau angenrheidiol i gyfarfod a'r sefyll- fa. r, Disgynnodd tanbelennau y gelyn ar eglwys ym Mharis ddydd Gwen- er. Lladdwyd 75 ac anafwyd 90. Dywedir yn yr adroddiadau Ffrengig diweddaraf, fod y frwydr wedi ail ddechreu gyda ffyrnig- rwydd, ond fod y gelyn wedi cael ei ga'dw'n ol, a rhai o'r catrodau wedi cael eu medi i lawr gan dan y gynnau Ffrengig. Y mae'r gwyr meirch Prydeinig wedi gwneud gwaith rhagorol. Y mae brwydro yn myned ym laen i'r gogledd o'r Sorame. I'r de o'r Somme llwyddodd y gelyn i wthio'n ol ein milwyr o'r pentref olaf. Cymerasom nifer o garchar- orion mewn gwrth ymosodiadau. Ofer fu pob ymgais o eiddo'r gelyn i ennill pentref Demiun, ar ol brwydro caled drwy'rprynhawn. Dydd Mawrth. Ar ol rhwystro'r Germaniaid yn eu hymgais i wahanu y byddin- oedd Cyngrheiriol ac ennill Amiens, y maecryn clawelwch ar y ffrynt, Y mae'r prif ddyddordeb y dyddiau hyn i'r de o'r Somme, lIe y mae'r Prydeiniaid a'r Ffrancod yn ymladd yn galed. Ychydig gyn nydd y mae'r gelyn yn ei wneud. Atgymerodd y gwyr meirch Pryd einig y goedwig rhwng Morenil a Hangard en Santerre. Anfonodd y gelyn fyddinoedd pwysig i'r gor- hewin o Hangard, ond torwyd min pob ymosodiad cyn iddynt ddcd i'r maes agored. I'r gogledd o'r Somme y mae ein milwyr wedi ennill ychydig. Curodd y Efran- cod ymosodiad yn ol i'r de o Mor- enil. Drwy ymgynhoriad a'r Arg- lwydd Wilson a Mr Baker (Ysgrif ennydd Rhyfel yr America) pender- fynwyd defnyddio rhai o'r milwyr Americanaidd yn yr ymdiech bres- ennol. Dywedir fod y Tyrciaid yn pwy- so ymlaen am Sebastobol i'r amcan o feddiannu'r lie. Y mae llynges Rwsia a adfeddianodd borthladd Odessa, yn y Mor Du, yn myned tuag yno. Y mae byddineedd Germanaidd yn bygwth trefi rhan ddwyreiniol Ukraine. Y mae Poltova ar dan fel canlyniad i'r Soviets ymosod arni. Parheir i ymlid y Tyrciaid ym Mesopotamia, ac y mae ein milwyr wedi cyrraedd lie sydd 73 o filltir- oedd hwnt i Bagdad. Dydd Mercher Yr oedd tawelwch yn bodoli ar y ffrynt Gorllewinol ar ol y brwydro ffyrnig fu am ddeuddeg diwrnod yn flaenorol. Cymerwyd hanner cant o garch- arorion gan y Prydeiniaid, ynghyd a thri ar ddeg o ynnau peirianno). Gorthrechwyd y Germaniaid mewn dau ymosodiad. I'r gogledd o'r Ancre cafodd safle Germanaidd ei meddiannu, a chymerwyd 73 yn garcharorion. Yn ystod deuddeg niwrnod o frwydro cafodd 339 o awyrennau Germanaidd eu dwyn i lawr gan yr awyrenwyr Prydeinig. Ym Mhalestma y mae ein mil- wyr wedi encilio i gyfeiriad Es Salt. Ni phwysodd einmilwyr lawer gyda'u hymosodiadau yn erbyn pentref Ammian, ar y ffordd haearn, ond y mae'r Tyrciaid wedi dangos gwrthwynebiad cyndyn. Yn ystod yr ymosodiad gwnaeth om hafoc ar bedair milltir o ffordd haearn, ac yn ystod yr wythnos cymerasom 700 b garcharorion a 4 o ynnau. Y mae ysgarmesoedd wedi bod i'r gorllewin o'r lorddon en. Y mae holl Georgia yng nghan- olbarth Caucasia, o dan arfau. Y mae'r Cadfridog Bayoff, arweinydd y milwyt yng nghyffiniau Moscow, yn addo byddin Rwsiaidd newydd o filiwn o fewn dau fis. Y mae Arlywydd Gweriniaeth Brazil, mewn cenadwri at y Brenin George, yn dweyd y bydd llynges y wlad yn dod i ddyfroedd Ewrope- aidd yn fuan. Dydd lau Er fod tawelwch yn parhau ar y ffrynt orllewinol, a'r tywydd wedi troi yn wlyb, y mae arwyddion fod y Germaniaid yn paratoi am ymosodiad arall. Edrydd Syr Douglas Haig am ymgais bender- fynol o eiddo'r Germaniaid am ymosodiad ar doriad y wawr yng nghyffiniau Fainpoux (i'r dwyrain o Arras), and fod yr ymosodiad wedi ei guro'n ol. Adfeddianodd y milwyr Prydeinig ddydd Mawrth bentref Ailette (wyth milltir i'r de o Arras), gan gymeryd 192 o garch- arorion a thri o wn-beiriannau. Edrydd y Ffrancod am brysurdeb gyda'r cyflegrau i'r gogledd o Mon- tidier, a bod ymosodiadau Ger manaidd yrg nghyffiniau Morenil wedi myned yn fethiant, a'n bod wedi llwyddo i'r de o Lassingy, gan gymeryd 60 o Germaniaid yn garcharorion. Hawlia'r Germaniaid fod ymos- odiad Prydeinig wedi ei guro'n ol yn Ayette, a bod ymosodiad gan fyddinoedd cryfiion 'Irhwng Mar- celeave a Luce Moulet (i'r de or- llewin o Amiens) wedi myned yn fethiant gyda cholledion raawr. Hawlia'r Germaniaid hefyd eu bod wedi meddiannu bryniau i'r de orllewin o Morenil. Yr oedd nifer y llongau a sudd- wyd yn ystod yr wythnos yn 13: saith o dan 1,600 o dunelli, a 6 tros hynny. Dydd Gwener. Mae'r frwydr fawr yn Ffrainc wedi ail-gychwyn ddoe, byddin- oedd crynon y Germaniaid yn ym- psod cydrhwng yr afonydd Somme a'r Arve i gyfeiriad Amiens. Gwrthgilwyd y gelyn dros y rhan fwyaf o'r ffrynt gan achosi difrod trymion arnynt, ond gwaethant beth cynnydd mewn dau bwynt. Y tir enillwyd gan wyr traed y gelyn ydoedd yn erbyn y Prydein- iaid yng nghymdogaeth Hamel a'r Vaire Wood, ac yn erbyn y Ffran. cod rhwng y Luce a'r Avre. Gwnaed yr ymosodiadau wedi paratoadau cylfegrol trwm. Dal- iodd linell dde a chanol y Prydein- iaid yn gadarn. Ar yr aswy yn agos i bentref Hamel y llwyddood y gelyn i orfodi ein milwyr encilio beth yn ol. Gwnaeth y gelyn ymosodiad penderfynol ar y llinellau Prydein- ig i'r gorllewin o Albert, ond gorthrechwyd hwy yn llwyr. Dychwelodd y Prif Weinidog ddoe o ymweliad a'r ffrynt Gor- llewinol gyda M. Clemenceau. Bu yn ymgynghori a phrif lywyddion. byddinoedd Prydain, Ffrainc, a'r America. Er Mawrth 31ain y mae gwlaw trwm a gwyntoedd ffyrnig wedi atal gweithrediadau y Fyddin Brydeinig ym Mesopotamia. Ifyny i ddydd Mawrth diweddaf cymer- wyd 5,214 o Dyrciaid ac 18 o Ger- maniaid yn garcharorion Dydd Sadwrn Er toriad y wawr bore Gwener gwnaeth y Germaniaid ymosod- iadau chwyrn i'r gogledd a'r de i Dernancourt, de orllewin i Albert, ac yn nghymdogaeth Moyenneville Ger Dernancourt a de-orllewin i Albert llwyddodd y gelyn i osod ei droed i lawr yn ein hamddiffyn- feydd. Adferwyd ein sefyllfa yn Albert gan wrth-ymosodiad. Tanbelenwyd yn drwm ein safle yng nghyffiniau Mesnil a Beau- mont Hamel, a bu gwyr traed y gelyn yn brysur ger Mesnil, ond ni throdd o unrhyw fantais iddynt. Dywedir fod rhwng 250,000 i 500,000 o wyr yn cymeryd rhan gan y Germaniaid yn yr ymdrechfa i dorri trwy linellau y Prydeiniaid a'r Ffrancod ddydd lau. Dioddef- odd y gelyn golledion trymion i ennill safieoedd dibwys. Dywedir fod paratoadau helaeth yn cael eu cario ymlaen gan yr Awstriaid ar gyfer ymosodiad ar Itali. Cymer yr ymosodiad Ie o'r Trentinu gynted ag y datmar yr eira. Oherwydd y crisis milwrol pres- ennol, mae Gweinidog y Gwasan- aeth Cenedlaethol wedi awdur- dodi gwneud ymchwiliad rhag blaen i ryddhad dynion yn A 1, B 1, C 1,)neu Grade 1 a 2, syddjheb fod yn gwasanaethu mewn diwyd- iannau hanfodol.

[No title]