Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.LLANGOED.-I

TAMEIDIATJ GWLEIDYDDOL A I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TAMEIDIATJ GWLEIDYDDOL A I CHYMDEITHASOL, Dyma air golew gan"Sylwed- ydd" yn y "Genedl" Pwy sydd yn gyfrifol tybed, am gyhoeddi geir- iau hysterical Rudyard Kipling yn hysbysiadau'r Ech w yn Rhyfel? Dyma engraifft ohonynt:— We are fighting against eigh- teen hours a day forced labour under the tesh or at the point of the bayonet, with a dog's death and dog's burial at the end of it. Nid oes arnom angen udgorn pres Mr Kipling, apostol mawr y Jingoaid, i'n harwain. Telir am y ffwlbri yma o arian y wlad. Credaf fod y wlad yn ddig- on parod i dalu am bopeth sy'n help i ennill y rhyfel ac i sicrhau heddwch boddhaol. Ond nid, oes eisiau iddi fod yn foddion talu am beth fel hyn. • •• Cafwyd hysbysiad pwysig gan Arglwydd Rhondda ynghvlch y Bwidd Iechyd a fwriedir ei sefydlu cyn gynted ag y ceir caniatad y Senedd. Wrth annerch ehwe chant o gynrychiolwyr pwyllgorau ys- wiriol a chymdeithasau cymerad- wy mewn cynhadledd fawr a gyn helid yn Llundain, dywedodd Ar- glwydd Rhondda fod y rhwystrau wedi eu symud oddiar lwybr y'i Mesur, ac yn ol pob golwg fe'i cyflwynir gerbron Ty'r Cyffredin yn fuan wedi Gwyliau'r Pasg. Gwrthwynebid y Mesur gan rai o swyddogion y Llywodraeth am y tybient ei fod yn ymyrryd a'u gwaith a'u safleoedd hwy. Hyd yma mae dwsin neu ychwaneg o adrannau o'r Llywodraeth yn rhan- nol gyfrifol am drefniadau iechydol ein gwlad, ac amcan mawr Ar- glwydd Rhondda yw canoii'r gwaith a'i ymddiried i ofal un adran, sef Bwrdd Iechyd. Wedi hir ddadleu gorchfygwyd y rhwystrau y naill ar ol y llall. Torrwyd pen rhagfarn swyddogol, a chafwyd cyd ddeailtwriaeth yng- lyn ag egwyddor a holl fanylion y Mesur. Oherwydd hyn disgwylir y bydd ei yrfa drwy'r ddau Senedd- dy yn rhwydd o diberigl. Wrth draddodi ei anerchiad o'r gadair yn y Gynhadledd Lafur a gynhaliwyd yn Leicester yr wyth nos ddiweddaf, dywedodd Mr Philip Snowden fod llwyddiant y Blaid Lafur yn ystod y flwyddyn wedi bod yn gyfryw na welwyd ei gyffelyb mewn hanes. Wrth ddelio a'r rhyfel, dywedodd fod ffeithiau y sefyllfa yn dangos yn glir fod gwyddoniaeth wedi cyrraedd y fath effeithiolrwydd fel os ypery'r elyn- iaeth ar raddfa eang mai'r diwedd fydd dinistr llwyr y gwledydd gel yniaethus. Dywedodd ymhellaeh nad all y Llywodraeth bresennol, oherwydd ei fod wedi ymrwymo i gytundebau cyfrinachol, wneud heddwch, a bod yn rhaid iddi fyned. Nid yw'r anhawsterau sydd ar ffordd hynny yn anorchfygol. Bu- asai gwrthwynebiad aiddgar yn Nhy'r Cyffredin ac yn y wlad yn eu cymell i ymddiswyddo yn y cyfnod o wrthweithiad ar ol yr ymosodiad milwrol. Rhaid i'r Llywodraeth newydd gloddio drwy bob llwybr i gyfeiriad heddwch, gan fod yn rhaid atal y fhyfel. Yn bersonol," meddai ymbellach, ni fuaswn yn petruso cefnogi'r Llywodraeth i osod i fyny yr amcan yna yn unig, hyd yn oed pe bai pendefig o dra- ddodiad Toriaidd yn Brif Weinid- og."

[No title]

CONGL YR AWEN.I

[No title]

Advertising