Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.LLANGOED.-I

TAMEIDIATJ GWLEIDYDDOL A I…

[No title]

CONGL YR AWEN.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONGL YR AWEN. AR FY NGWYLIAXJ YM MHENNAL Ym Mhennal bach y treuliais i Adionoi saib ty rsgwyliau Yr ardal dlos lie magwyd fi, Wrth draed yr hen tynyddau Ces rodio hyd y dawel fro, Tra'm hiraeth yn ei ddagrau, Yn tremio trwy ffeoestn'r co, Am wen y coll-wynebau. Nid ydoedi croesaw tad a mam I'm derbyn i eleni; Fe beidiodd serch y loyw fflam, Do, er fy siom a llosgi; Mae dau o'm brodyr gyda hwy, Yn erw Duw yn huno Ac ni chaf eu cyfeillach mwy, Hyd fore gwyn y Deffro. Wrth holi am gyfoedion cu, Angylion hoif fy mebyd, Fe dystiai'r cerrig beddau'n llu Eu bod hwy yn y gweryd Mudandod sydd ar lawer tant, Fa gynt yn taro gwynfyd- Yng nghymanfaoedd gwyliau'r plant, Dan haul ffurfafen bywyd. Daeth rhuthr cyfnewidiad syn } A'i genlii dros ei hanes Ond deil fy nghalon i er hyn I'w garu'n gynnes, gynnes Mae'r bryniau a'r mynyddoedd mawr Yn aros i'w gysgodi, A swyn grisialog hud a gwawr, Ar donau Afon Dyfi. Hawdd cofio'r adeg Ion yr awn, Yn ymdaith plant y pentte, Pan lenwid ein piserau'n llawn Gan bistyll y Felindre; Bum heibio'r pistyll ar fy hynt Gan oedi yc ei furmur, A chlywals g&n y dyddiau gynt Yn ei ddylifiad prysur. Er bod ym mbell o'm hannwyl fro, 'Rwy'n mynd yng nghwmni atgo, I hedd y pentre tlws am dro- Ar lawer hwyrnos eto Fy ymbilyw, pan ddaw i ben Fy oes, rhowch fi i huno Ym Mhennal bach, a ser y nen Yn gwylio'r llannerch honno. Penrhiwceiber. HUGH LEWIS.

[No title]

Advertising