Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

BWYD Y BOBL. !

I - - ; LLOFFION DIRWSTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION DIRWSTOL. Wrth siarad y dydd o'r blaen yng Nghyfarfod Brawdoliaeth Ddirwestol Rbosllanerchrngog dywedodd y Parch E. K. Jones, Oefn Mawr, fod y swm werrid ar y ddiod yn y plwyf yn 60ain mil o bunnau yn y flwyddyn, swm cyf artal i werth holl addoldai y plwyf, a phe diddymid y fasnach hon, fe geid moddion i sicrhau gwelliantau wnai y Rhos yn baradwys ar y ddaear. Gofid- iau fod Prydain yn dal ei gafael yn y fasnach o hyd, a'i bod yn ddyfnach yn y camwedd hwn nag unrhyw genedl. Cymbarodd hi a Germani, Rwsia Ffrainc, America, a Canada, a'r hyn oedd y gwledydd hyn wedi ei wneud gyda'r fasnacb, tra yr oedd Prydain yn glynu wrtbL Tybiai oni bai rhwyg yn y gwersyll dirwestol y buasem wedi cael gwaharddiad yma. Heblaw yr uchod rhoddodd Mr Jones hefyd fraslun o raglen y blaid ddirwest- ol Gymreig:-I., Gwabarddiad llwyr yn ystod y rhyfel, a chwe' mis ar ol y rhyfel. 2. Y cyfyngiadau presennol ar y fasnach i barbau ar ol y rhyfel. 3. Gwell deddf i reoli'r fasnach. Cyfeir iodd at fesurau Syr Herbert Roberts, ac eiddo Mr Asquith, yn 1908. Mae eis- ieu peiriant gwell i setlo gwerth y trwy- ddedau ddiddymir. Yn awr fe delir iawn o drysorfa'r dosbarth, a chwynir nad oes arian i dalu'r iawn digonol. Mae ganddynt hawl i godi lo. o dreth, a buasai hynny yn ardal y Rhos a'r cylch yn swm cyfartal i dair mil o bun- nau, ond yr hyn wnant ydyw, codi ie. o dreth; a pbeth arall wnaed ganddynt ydoedd rhoddi y 2,000p oedd ganddynt mewn Haw yn y War Isoan. Effaith hyni gyd ydoedd oedi diddymu trwy ddedau. 4, Lleihad sylweddol yn nifer y tafarndai bob blwyddyn. 5. Dewis- iad lleol i Gymru. 6. Darpariaeth ar gyfer tai dirwestol. Wrth adrodd hanesdau gyfarfod dir westol a gynhaliwyd y dyddiau diwedd- af yn nbref Rhyl, y naill ymhlaid Pryniant ar Hall yn erbyn, dywed goh- ebydd y Faner, "Ni chymerwyd pleid- lais yng nghyfarfod Pryniant, ac y mae yn debyg mai hyn oedd ddoethaf dan yr amgylchiadau. Ond yr oedd pleidwyr Gwaharddiad yn fwy calonnog, a phas- iwyd yn erbyn Pryniant gydag unfryd- edd, heb neb yn tynnu'n groes. Yr oedd yr areithwyr yn dadleu eu hochr gyda phrawfiono ymgydnabyddiaeth a'r cwestiwn, ond y prynwyr yn slarad gydag amwysedd oedd yn gadael argraff arnom eu bod yn ymwybodol fod y gwynt yn lIedgrces iddynt. Ond yr oedd' gwrthwynebwyr y Pryniant yn traethu gyda hyfder mawr, a chyda chrediniaeth ddiysgog yn iawnder eu golygiadau, ac o ganlyniad yn effeitbiol i gario dylanwac1 ar y gwrandawyr.

BYD CREFYDDOL.

Advertising