Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYLCHDAIIH BLAENAU FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAIIH BLAENAU FFESTINIOG. Cynhaliwyd cy far foci chwarterol y Gylchdaith uchod yn y Blaenau, Ebrill 6ed. Yn bresennol, Parch R. Jones Williams, a'r Mri Richard Jones ac Ed. Jones, Goruchwylwyr, ynghyd a chyn- rychiolaeth o' r eglwysi. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol. Hysbysodd Mr Richard Jones yr ohebiaeth fu rhyrsgcldo a'r Parch R. W. Jones, Lerpwl, pa un a ddywedai nad oedd symud yn cymeryd lie yno eleni. Yn wyneb hynny, gofynwyd yn un- frydol i'r Parch R. J. Williams aros am flwyddyn arall; i hyn yr atebwyd yn gadarnhaol. Mater Supply i'r Gylchdaith.- Pasiwyd ar ol cryn drafodaeth i roddi gwahoddiad i ddyn ieuanc i wasanaethu y Gylchdaith, sef Mr Rees T. Williams, -Caerfyrddin, yng ngoleuni y ceid Grant gan y Dalaith i gynorthwyo yr eglwysi. Mater "Bodefryà," Ffestiniog.—Goh- idwyd penderfynu dim ar hyn hyd nes gv eled betli a benderfynir yn gyffredinol yn y Cyfarfod Taleithiol gyda thai yn yr un amgylchiadau. Cyfrifon y Trust -Darllenwyd hwy gan Mr L. Humphreys Williams, ysg- rifennydd Capeli y Gylchdaith. Llongyfarchwyd Mr L. H. Williams gan yr Arolygwr a'r cyfarfod ar ei ddyrehafnd yn Food Controller" Cylch Ffestiniog. Cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Taleithiol. —Gyda'r Goruchwylwyr, etholwyd Mr Wm. W. Roberts yn gynrychiolydd ychwanegol. The Wesleyan Methodist After War Committee." Dewiswyd Mr Owen Jones yn ysgrifennydd y cyfrynv i'r Gylchdaith. Dirwest.-Pasiwyd yn wyneb prindar bwyd, pe dim ond y ffaith bwysig hon, apelio at y Llywodraeth gyfyngu ar y fasnaeh heb oedi. Y Genhadaeth Dramor. Cafwyd adroddiad gan Mr D. 0. Jones, yr Jig- rifennydd, o'r derbyniadau y flwyddyn ddiweddaf, ac am yr hyn a wariwyd mewn gwobrau gyda hyn. Y Casgliad Blynyddol.-Gwasgai yr Arolygwr am i'r cyrryw gaePei gyflwyne trosodd erbyn diwedd Ebrill. Croesawyd i'r cyfarfod am y waith gyntaf Mr Wm. Owen, Yr Efail, Maen- twrog, gan yr Arolygwr. Darllenwyd cyfriflen yr aelodau gan Mr Richard Jones, a gwasgwyd ar. fod cyfrif y plant yn Ebenezer yn cael eu cywiro, pa ua fyddai yn ychwanegiad pwysig at yr adroddiad. Y Rhai a Husasant yn ystod y chwarter.-Arwyddwyd cydymdeimlad a Mr Evan D. Hughes yn ei brofedig- aeth trwy farwolaeth Mrs Hugbes; hefyd a Mr a Mrs Owen, ar teuiu oil, Yr Efail, Maentwrog, hwythau yn eu profedigaeth trwy farwolaeth eu han- nwyl fab, Johnnie Owen, ar ol cystudd maith; ac at hyn a Mrs Jones, a'r teulu oil, Frongaled, Trawsfynydd, yn eu profedigaeth wedi colli yr hen frawd Griffith Jones, fu yn swyddog amlwg,— yn Oruchwyliwr y Gylchdaith am flyn- yddau meithion, yn flaenor gwerthfawr yn Trawsfynydd, ac yn Gristion amlwg! yn y Cyfarfod Taleithiol, ac yn buritan Wesleaidd dros fod popeth yn Gyfun- debol. Pasiwyd anfon cydymdeimlad y cyf- arfod a Mr David Hughes, Lord Street, yn ei waeledd, ac a Mr Robert Wm. Roberts, Maentwrog, yntau wedi cyfar fod a damw. ain yn y chwarel. Diolchwyd yn gynnes i'r boneddiges- au careuig am eu trefniadau gwerthfawr I a charedig iawn yn hulio bwrdd Uawn bob ck waiter, set Meistresi R. Jones Williams, D. Egwys Jones, Edward Jones, David Hughes, D. 0. Hughes, a Miss Griffiths.

I CYLCHDAITH ABERGELE. I

RHUTHYN.

ICYLCHDAITH TREORCI.

MYNYDD SEION, LERRWL. I