Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
CYLCHDAIIH BLAENAU FFESTINIOG.
CYLCHDAIIH BLAENAU FFESTINIOG. Cynhaliwyd cy far foci chwarterol y Gylchdaith uchod yn y Blaenau, Ebrill 6ed. Yn bresennol, Parch R. Jones Williams, a'r Mri Richard Jones ac Ed. Jones, Goruchwylwyr, ynghyd a chyn- rychiolaeth o' r eglwysi. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol. Hysbysodd Mr Richard Jones yr ohebiaeth fu rhyrsgcldo a'r Parch R. W. Jones, Lerpwl, pa un a ddywedai nad oedd symud yn cymeryd lie yno eleni. Yn wyneb hynny, gofynwyd yn un- frydol i'r Parch R. J. Williams aros am flwyddyn arall; i hyn yr atebwyd yn gadarnhaol. Mater Supply i'r Gylchdaith.- Pasiwyd ar ol cryn drafodaeth i roddi gwahoddiad i ddyn ieuanc i wasanaethu y Gylchdaith, sef Mr Rees T. Williams, -Caerfyrddin, yng ngoleuni y ceid Grant gan y Dalaith i gynorthwyo yr eglwysi. Mater "Bodefryà," Ffestiniog.—Goh- idwyd penderfynu dim ar hyn hyd nes gv eled betli a benderfynir yn gyffredinol yn y Cyfarfod Taleithiol gyda thai yn yr un amgylchiadau. Cyfrifon y Trust -Darllenwyd hwy gan Mr L. Humphreys Williams, ysg- rifennydd Capeli y Gylchdaith. Llongyfarchwyd Mr L. H. Williams gan yr Arolygwr a'r cyfarfod ar ei ddyrehafnd yn Food Controller" Cylch Ffestiniog. Cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Taleithiol. —Gyda'r Goruchwylwyr, etholwyd Mr Wm. W. Roberts yn gynrychiolydd ychwanegol. The Wesleyan Methodist After War Committee." Dewiswyd Mr Owen Jones yn ysgrifennydd y cyfrynv i'r Gylchdaith. Dirwest.-Pasiwyd yn wyneb prindar bwyd, pe dim ond y ffaith bwysig hon, apelio at y Llywodraeth gyfyngu ar y fasnaeh heb oedi. Y Genhadaeth Dramor. Cafwyd adroddiad gan Mr D. 0. Jones, yr Jig- rifennydd, o'r derbyniadau y flwyddyn ddiweddaf, ac am yr hyn a wariwyd mewn gwobrau gyda hyn. Y Casgliad Blynyddol.-Gwasgai yr Arolygwr am i'r cyrryw gaePei gyflwyne trosodd erbyn diwedd Ebrill. Croesawyd i'r cyfarfod am y waith gyntaf Mr Wm. Owen, Yr Efail, Maen- twrog, gan yr Arolygwr. Darllenwyd cyfriflen yr aelodau gan Mr Richard Jones, a gwasgwyd ar. fod cyfrif y plant yn Ebenezer yn cael eu cywiro, pa ua fyddai yn ychwanegiad pwysig at yr adroddiad. Y Rhai a Husasant yn ystod y chwarter.-Arwyddwyd cydymdeimlad a Mr Evan D. Hughes yn ei brofedig- aeth trwy farwolaeth Mrs Hugbes; hefyd a Mr a Mrs Owen, ar teuiu oil, Yr Efail, Maentwrog, hwythau yn eu profedigaeth trwy farwolaeth eu han- nwyl fab, Johnnie Owen, ar ol cystudd maith; ac at hyn a Mrs Jones, a'r teulu oil, Frongaled, Trawsfynydd, yn eu profedigaeth wedi colli yr hen frawd Griffith Jones, fu yn swyddog amlwg,— yn Oruchwyliwr y Gylchdaith am flyn- yddau meithion, yn flaenor gwerthfawr yn Trawsfynydd, ac yn Gristion amlwg! yn y Cyfarfod Taleithiol, ac yn buritan Wesleaidd dros fod popeth yn Gyfun- debol. Pasiwyd anfon cydymdeimlad y cyf- arfod a Mr David Hughes, Lord Street, yn ei waeledd, ac a Mr Robert Wm. Roberts, Maentwrog, yntau wedi cyfar fod a damw. ain yn y chwarel. Diolchwyd yn gynnes i'r boneddiges- au careuig am eu trefniadau gwerthfawr I a charedig iawn yn hulio bwrdd Uawn bob ck waiter, set Meistresi R. Jones Williams, D. Egwys Jones, Edward Jones, David Hughes, D. 0. Hughes, a Miss Griffiths.
I CYLCHDAITH ABERGELE. I
CYLCHDAITH ABERGELE. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Gyicbdaith, nos Fercher, Mawrth 27ain, yn Abergele. Yn bresennol, y Parchn E. A. Morris, a G. R. Owen y Goruch- wylwyr, Mri R. M. Hughes a T. M. t Jones, ynghyd a chjnrychiolaeth dda o krom yr Jaoii I Yn absennoldeb Mr J. EUis Williams, yr ysgrifennydd, pasiwyd y Parch G. R. I Owen i weithredu yn ei ie. Cyfrifon yr Aelodau. Llawenydd I oedd gennym weled fod cynnydd o 12 yn rhif yr aelodau yn ystod y flwyddyn, ac fod f cyfraniadau at y weiaidogaeth yn gyflawn o bob eglwys. Pleidlais o Gydymdeimlad.- Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad y cyfarfod a theuluoedd y diweddar Mrs Davies, Tea Mart, Abergele, a Mr Natbanael WTil Hams, Hyfrydle, Llysfaen, ac hefyd a Mr William Davies, Tynycaeau, Rhydy- foel, yn ei waeledd. Cyfrifon Trust y Capeli.- Darllenwyd hwy gan Mr Thos. Williams, Llysfaen, yr ysgrifennydd. Cyfrifon Dirwestol a'r Ysgol Sul.— Darllenwyd ihai'n gan yr ysgrifennydd, Mr Richard Roberts, Salem. Pleidlais o Blaid Llwyrwaharddiad yn ystod y Rbyfel a Thymor Diarfog- iad. —Pasiwyd pleidlais unfrydol o blaid hyn, a phenderfynwyd anfon copi o'r penderfyniad i'r Prif Weinidog ac i Syr J. Herbert Roberts, Bart., A.S. Pend- erfynwyd cael tiafodaeth ar Fater Dir- west a'r Ysgol Sul yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf. Trydydd Weinidog i'r Gylchdaith.— Pasiwyd i ohirio y mater hyd ar ol y Phyfel. Dyled Ty y Gylchdaith.-Pasiwyd fod Assessment" yn cael ei rhoddi ar bob eglwys i leihau y ddyled hon. Jubilee" Carkefi Plant Amddifad. —Pasiwyd Miss Nesta Rowlands, Aber- gele, yn ysgrifennydd i'r Gylchdaith ynglyn a'r symudiad hwn. Cyfrif o'r Milwyr.—Gwasgwyd ar fod cyfrif manwl yn cael ei wneud yn yr holl eglwysi rhag blaen. Cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Taleithiol. -Pasiwyd fod un o'r Goruchwylwyr ynghyd a'r Gweinidogion i fynd. Gwafeodd Gweinidogion.-Rhoddwyd gwabpddiad unfrydol i'r Parch E. A. Morris i aros am flwyddyn arall, ac hefyd cymeradwywyd y trefniadau p.res- ennol ynglyn a gweinidog Abergele. Mwynhawyd ar:y terfyn arlwy wedi ei baratoi gaIJgyfeillion Abegele.
RHUTHYN.
RHUTHYN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol yn Rhuthyn, dydd lata, Ebrill 4, dan lyw- yddiaeth y Parch D. M. Griffith. Daeth cynrychiolaeth weddol ynghyd. Cadarnhawyd y cofnodion, a derbyn- iwyd y cyfrifon ariannol. Addawodd y ddau Oruchwylwyr fyned i'r Cyfarfod Taleithiol. Pasiwyd i beidio etbol cynrychiolydd ychwanegol y tro hwn. Etholwyd After the War Commit- tee" i gynnwys dau o bob eglwys, a Mr Francis i fod yn Y sgrifennydd. Darllenwyd adroddiad y Trust gan Mr H. Hughes, ac ystyriwyd y cyfryw yn foddhaol iawn. Diolchwyd i Mr Hughes am ei wasanaefh werthfawr. Gohiriwyd trafodaeth ar ddaflenni yr Ysgol Sul a Dirwestol hyd y cyfarfod nesaf. Pasiwyd y pendarfyniadau can- lynol :-(I) Gwaharddiad y fasnach feddwol hyd 6 mis ar ol y rhyfel; (2), Restrictions y Control Board (3), After thefWar Temperance (4), Ministryof Health. y cyfryw i gael eu hanfon i'r Prif Weinidog. Pasiwyd penderfyniad i'w anfon i Bwyllgor y Capek ynglyn a capel Llan- dagla. Pasiwyd i gefnogi achos y Children's Heme" yn y gylchdaith,Miss Wil- liams, Beehive, Rhuthyn, yn ysgrifen- nyddes. Hysbyswyd fod Cronfa Cof golofn y diweddar Barch J. W. Davies, wedi cyrraedd dros C40, a bod y cyfryw yn cael ei cbau diwedd yr wythnos hOn. Pasiwyd yn mnfrydol i ofyn i'r Parch D. M. Griffiths aros yn y Gylchdaith flwyddyn araH. Diolcbodd Mr Griffiths i'r cyfarfod am eu pleidlais, ond fel y flwyddyn ddiweddaf teimlwyd mai doeth oedd gadael y mater yn Haw y Cyfundeb. •9 Pasiwyd gydymdeimlad a Mr L. Pswsii yn ei wuobM. Darparwyd te rhagorol gan Mr a Mrs Bonner, Caerfalien, a diolchwyd iddynt am eu caredigrwydd. Caed cyfarfod dymurfol. I GOH.
ICYLCHDAITH TREORCI.
I CYLCHDAITH TREORCI. Cynhaliwyd cyfarfod cfewarterol y Cylchdaith uchod, yn Y sgoldy Caersal- em, Ton,^Mawrth 30ain. Llywydd, y Parch E. D. Thomas, yn bresennol y Parch D C, Jones, a Mr Wm. Thomas, Goruchwyliwr, a chynrychiolaeth dda o bob eglwys. Cadarnbawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Yr oedd yr oil o'r eglwysi wedi neu ar wneud casgliad i gynorthwyo achos Corris. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch E. D. Thomas wedi colli ei fam, a'r Parch D. C. Jones wedi colli ei dad, ag a Mrs Pritchard, gweddw y diweddar Barch T. J. Pritchard. Hefyd pasiwyd i ddanfon gair at nifer o swyddogion ffyddlon sydd yn glaf yn ein plith. Darllenodd yr Arolygwr gyfrif y Gen- hadaeth Dramor-dros £ 4 o gynnydd ar y flwyddyn gynt. Hefyd cyfriflen y Capeli yn absenoldeb yr ysgrifennydd, Mr Abraham 0. Morgan. Talwyd £390 o ddyled yr Ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn, yn gadael eto yn ddyled £ 3,638. Mae hynny yn swm fawr ond bychan ydyw pan y cofir fod gwerth yr eiddo yn £ 9,700. Cafwyd adroddiad ysgrifeunydd yr Ysgol Sul, Mr T. D. Williams (yntau hefyd yn wbsennol) gan yr Arolygwr. Cynnydd o 92 yn nifer yr ysgolion a 207 yn Rhestrau'r Ieuengtyd. Adrodd- iad boddhaol iawn, tra mae swn mynd yn ol glywir ymhob man parthed yr sgol Sul. Cafwyd adroddiad yr Ysgrifennydd Dirwestol, a llongyfarchwyd yr ysgrifoa- nydd, Mr Thomas J. Owen, ar ei lwydd- iant yn sefydlu canghen o Gyngrhair y Llwyrymwrthodwyr ymhob eglwys- Y mae yna lwyddiant sylweddol yn niter yr ardystwyr yn y Gylchdaith. Cyn- hygiwyd y penderfyniadau ddaethant o'r Pwyllgor Cyfundebol parthed Gwaharddiad," a" Swyddfa Ieclayd. Gwrthedwyd pretestio yn erbyn yma- ddygiad y Llywodraeth tuag at y Gwrth- wynebwyr Oydwybodal. Cynhygiwyd gan Mr Thomas Lewis, Too, ac eiliwyd gan Mr Richard Hughes, Tonypandy, ein bod yn symud fel Cylchdaith i roddi carreg ar fedd yr annwyl Robertus. Pasiwyd yn unfryd- ol. Etholwyd Mr Richard Hughes, Ton- ypandy, yn Ysgrifennydd, a'r Parch E. D. Thomas yn Drysorydd. Cadarnhawyd y gwahodctiad rhodd- wyd i olynu, y Parch E. D. Thomas, ac enwyd brawd i'r Goruchwylwyr ohebu ag ef i ddod:i Benygraig. Etholwyd Mr John Morgan, Treorci, yn gynrychiolydd y Gylchdaith i'r Synod. Addawodd y Goruchwylwyr ag aelodau o'r Pwyllgor Taleithiol hefyd fyned. Chwith oedd gan y frawdoliaeth am absenoldeb Mr Richard Owen, Goruch- wyliwr henaf y Gylchdaith, oherwydd afiechyd. Y mae Mr Owen yn ardal Trerddol yn adnewyddu ei north. Dym- unwn iddo adferiad buan. GOH. I
MYNYDD SEION, LERRWL. I
MYNYDD SEION, LERRWL. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y gylchdaith ym Mynydd Seion, nos Sadwrn, Ebrill 6-y Parch Edward Davies yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn D. Tecwyn Evans, B.A., ac R. W Davies Mri John Jones (Devonshire Road) a Moses Hughes (Goruchwylwyr), a chynrychiolwyr, o wahanol eglwysi. Croesawyd Mri Iorwerth Williams, Egremont, a Meredith Jones, Birken- head, fel aelodau newydd o'r cyfarfod. Penderfynwyd fod y cyfarfod yn aw- grymu fod Pwyllgor Unedig y Ddwy Gylchdaith yn ceisio trefnu i gynnal Cylchwyl y Genhadaeth Darmor a C h y leh wyl y Genhadaeth Gartrefol ar yr un dyddiad yn y ddwy gylchdaith. Darllenydd cyfrifon Dirwestol gan y Parch R. W. Davies, a ,("augoiont ym- drseh iwyddiannus ynglyn a'r Abstain- ers' Leauge." Ar ol i idr l?lere,- Ar ol i Mr Meredith Jones ddaiilen cyfrifon ysgolion Sal y .gylchdaith, cafwyd trafodaeth helaeth ar y mater,, ac awgrymwyd. fod y pregethwyr yn gwneuthur apel o'r puipud o blaid y sef- ydliad unwaith neu ddwy bob chwar- ter. Darllenwyd cyfrifon Ymddiriedolwyr y gy Ichith gan Mr Jabez Jones, a barnwyd eu bod yn dra boddhaol. Etholwyd y rhai o ganlyn yn aelodau o Bwyllgor Unedig y Ddwy Gylchdaith —Mri Evan Davies, R. Elias, R. J. Langford Williams, Ja bez Jones, a Peter Hughes o Fynydd Seion; Edward Hughes, Robert Jones, a William Evans, o Birkenbead; John Morris, o Garston Hugh Griffiths a William Williams, o Egremont; R. M. Williams, o Widnes. Yn aelodau o'r Pwyllgor Dethol, etholwyd y ddau Oruchwylwyr; Mri Pryce Hughes (cynuilydd) ac Evan Davies, o Fynydd Seion; William Evans ac R. F. Carrington, o Birken- head Hugh Griffiths a Parry Williams, o Egremont; John Williams, o Gars- ton ac R. Griffith, o Widnes. Rhoes y Parch R. W. Davies adrodd- iad o'r hyn a wnaed yn y gylchdaith at y Genhadaeth Dramor, yn dangos cyn- nydd y llynedd o £ 13 10s., gan mwyaf trwy ymdrechion ardderchog y plant. Cymeradwywyd yr awgrymiadau a ganlyn o eiddo'r Pwyllgor Cylchdeith- iol:-(I) Fod y casglyddion yn casglu cynnwys y Blychau Cenhadol unwaith bob chwarter; (2) Fod trefnu., i'r plant gasglu'n gyffredinol ar hyd y flwyddyn, ac yn nechreu Rhagfyr yn yr eglwysi gartref; fod cynnal cyngherdd cylch- deithiol er budd y Genhadaeth ym mis Tachwedd, pob eglwys i wneuthur eu rhan yn y mudiad. Dymunir i'r swyddogion lleol wneuthur nodiad o'r awgrymiadau hyia. Hysbysodd y Goruchwylwyr eu bwr- iad o fynd i'r Cyfarfod Taleitbiol, ac yn gynrychiolwyr ckwanegol etholwyd Dr. Twiston Davies, Egremont, a Robert Jones, Birkenhead. Yn ol cyfrifon y Gylchdaith, gwelwyd fod rhif yr aelodau cyflawu yn 734— eynnydd o 14 ar y Awyddyn. Penderfynwyd mai budiol fyddai rhoddi adroddiad yn y cyfarfod chwar- terol bob blwyddyn o'r ymdrechion a wneft ynglyn a'r Genhadaeth Gartrefol. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch Dr. Hugh Jones, ar ran rhai yn yr Ail Dalaith, yn datgan dymuniad am i'r Gylchdaith vyddhau y Parch Thos. Hughes o'i ymrwymiad i ddod yma y tymor ar ol y nesaf. Penderfynodd y cyfarfod ryddhau Mr Hughes, ond gwnaed gwrthdystiad yn erbyn i rai o'r tu allan ymyryd a threfniadau'r Gylch- daith. Cadarnhawyd yn unfrydol y gwahodd- iad a roddwyd i'r Parch R. W. Davies i aros yn y Gylchdaith am y bedwaredd flwyddyn. Yn wyneb amgylchiadau eithriadol y cyfnod, rhoddwyd gwahoddiad unfrydol i'r Parchn Edward Davies a D. Tecwyn Etvans i aros yn y Gylchdaith am flwyddyn arall, ond ni allai'r naill na'r Hall weld eu ffordd yn glir i dderbyn y gwahoddiad. Etholwyd Mri R. E. Edwards, B.A., a D. W. Evans yn archwilwyr cyfrifon y Gylchdaith. Nid oedd y cyfarfod yn fodlon i dderbyn ymddiswyddiad Mr Wm Jones, Violet Street, fel Ysgrifennydd y Maes Lfafur, a phenderfynwyd gwasgu ar swyddog mor effeithiol barhau am flwyddyn arall. Pasiwyd pleictlais o gydymdeimlad a Mr John Williams, Garston, ar farw- olaeth ei annwyl briod a Mrs Jones, Mill Street, ar farwolaoth ei hannwyl phrio'd hithau; a Mr a Mrs Griffith Evans, Oakfield, ar golii eu hail fab yn y fyddin ac a Mr E F..Jones, a Miss Roberts, Birkenhead, yn eu gwaeledd. Terfynwyd trwy weddi gan Mr Lang- ford Williams. GOH.