Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

jbW YD Y BOBL,

LLYTHYRAU Y MZLWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYRAU Y MZLWYR. Pte. Llew. Chambers, 60890, (Att.) Office of D.A.G 3rd Echelon General Head Quarters, Mes. Ex. Force, 2il Chwefror, 1918 Annwyl Mr Jones, Mae'n amser maith er pan y ceis iais ysgrifennu gair at y- Gwylied- ydd," ond gallaf eich sicrhau mae nid diffyg gwerthfawrogiad o'ch papur sy'n achosi yr oediad. Mae yna lawer iawn o Gymry yn y rhanbarth yma o Mesopotamia, ac yn eu plith, ychydig o Wesleaid, ac 'ryda ni yn edrych ymlaen at gael y G.N." o wythnos i wythnos. Fel mae'n hysbys i lawer o'ch darllenwyr, mae gennym Gaplan Cymraeg yma, sef y Parch W. G. Hughes, ond mae'n ofidus gennym feddwl fod ei arhosiad yn ein plith yn brysur dyfod i'w therfyn. Oher- wydd amgylchiadau neilltuol y mae Mr Hughes yn bwriadu hwylio am yr Hen Wlad yn ystod y dydd iau nesaf. Cefais y fraint o fod yn bresennol yn ei oedfa Gymreig gyntaf yn Mesopotamia, ac nid fuan yr ang- hofiaf fy nheimladau wrth wrand- aw ar bregeth yn yr hen iaith un waith eto. Mae'n wir mae ychydig oedd yn bresennol yn yr oedfa gyn- taf, ond mae'n dda gennym allu dweyd fod yr achos'' Cymreig wedi cynhyddu yn rhagorol o dan weinidogaeth Mr Hughes. Y illae" yr un mor boblogaidd gyda'r Saeson a chyda'r Cymry, ac mae'n debyg mae'r prif reswm am ei boblogrwyddj y w, ei fod mor "di- lol," os caniatewch y dywediad. 'Rydym bob amser yn cael croesaw cynnes ganddo a phawb yn teimlo yn rhydd i fyned at y Caplan gyda'u helyntion. Nos Iau diweddaf, lonawr 31ain, cynhaliwyd Cyfarfod Ymadawol (a phob item" yn Gymraeg) o dan lywyddiaeth Gunner William, B.A. (Bangor). Adroddwyd gan Pte. Davies, Colwyn Bay, a chaf- wyd caneuon gan L/Cpl. Llew. Jones (Llysfaen),JPte. John Morris (Nantlle), a Gunner Davies (Lloc). Darllenodd L/Cpl. P. Ellis (Old- ham), lytkyr a dderbyniwyd oddi- wrth Pte. Sam Williams (Maen twrogi gynt o Coleg y Bala), yr hwn oedd yn analluog i fod yn bresennol yn y cyfarfod o h.r-r'ydd: afiechyd. Hefyd, siaradwyd gan Sergeant Richards (Caernarfon;, a Pte. J. Morris (Arweiaydd y Gan). Yn ystod y cyfarfod cyflwyawyd anrheg i'r Caplan ar rhan bechgyn Cymreig, fel prawf fechan o'r lie cynnes oedd Mr Hughes wedi canill yn ein serchiadau. Cydnab yddodd Mr Hughes yr anrheg a dywedodd mor hapus yr oedd ef wedi bod yn ein plith, ae mor ddrwg oedd ganddo orfod ein gadael. Terfynwyd cyfarfod hynod o Iwyddiannus trwy gyd.ganu Hen Wlad fy Nhadau." Wel, dyna ddigon am y gorffen nol. Beth am y dyfodol ? Deallaf mae Caplan Seisnig sydd yn dyfod yma fel olynydd i Mr Hughes. I Felly, os ydi'r achos Oymreig i I barhau bydd yn rhaid gwneud trefniadau newydd. Mae Pte. Sam I Williams (Maentwrog), yn garedig I wedi addaw gwneud ei oreu i ofalu am y Gwasanaeth Cymreig, ac mae'n ofynol arnom ninnau, y gweddill o'r Cymry, i. roi pob cynhorthwy iddo yn ei ymdrechion. Mae'r oedfaon Cymreig wedi profi'n fendith i lawer yn y gorffen- nol, ac nid oes rheswm paham na. ddylent barhau felly yn y dyfoddl. Mae'n debyg y gwel y Parch W. G. Hughes lawer o'ch darllenwyr cyn i chwi dderbyn hyn o lith, a cewch ganddo ef yr oil o'r manyl- ion am y rhan yma o'r byd. Felly nid oes angen i mi ymhelaethu. Mae'r Cymry yn y fan hon yn dal yn galonnog, 'rydym oil o'r un farn," nad oes yr un man yn debyg i gartref," ac edrychwn ymlaen at yr amser pan y fydd heddwch yn teyrnasu, a'r beehgyn sydd ar hyn o bryd wedi eu gwasgaru ar hyd a lied y byd yn troi eu hwynebau i gyfeiriad Hen wlad fy nhadau." Gyda cofion goreu atoch chwi a'r teulu, Yr eiddoch, yn bur, LLEW. CHAMBERS. I

APELIADAU AC HYSBYSIAUAU IESLMIDD.

Advertising