Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw ps gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. FALFARDD.
Seiat Fawr Cyfarfod Taleith-I…
Seiat Fawr Cyfarfod Taleith- I iol Egrenont. Ynglyn a Chyiarfoi Cyllidol Talaith Wesleaidd Gyntai Goglecid Cymru cyn, haliwyd Seiat Fawr, nos Sadwrn diw- eddaf, yng Ngbapal y Methodistiaid Calfinaidd, Liscard Road, Seacombe Er fod y tywydd yn anffafriol, daeth tyrfa fawr ynghyd, a chafwyd Seiat ragorol. Seiniwyd nodau Ilawenydd, hyder, a thangnefedd yng nghanol swn y boen sy'n y byd/' ac yr oedd y ear.u'n fywiog a chalonnog. Dechreu- wyd trwy weddi gan y Parch R. T. Roberts, Llanarmon. Y LLYWYDD oedd Mr B. Lloyd Edwards, Llanfair Caereinion, gwr brwdfrydig ei ysbryd a gobeithiol ei feddwl. Neidiodd ar ei union i daro nodyn lion y Seiat- Llawenhewch." Owynai yn erbyn nodwedd prudd ein cyfarfodydd crefydd- Gl; ac apeiiai'n cryf am fwy o sirioldeb gwir a gweddus ynglyn a chrefydd, yn enwedig yn y rhagolwg ar ddychweliad ein bechgyn o enbydrwydd ac erchyll- terau maes y gyflafan. Bydd arnynt hwy yn arbennig eisieu eu cysuro u,'u sirioli ar ol dioddef cymaint; ac oni wneir y gwasanaeth hwn iddynt gan yr Eglwys, y perygl yw y gwneir hyn trwy gyfryngau amheus a niweidiol. Gwneler ffyrdd crefydd yn ffyrdd hyf- rydwda, a'i holl lwybrau yn heddwcb. Y mae llawer o'r becbgyn wedi ym- dynghedu. os arbedir hwy i ddyfod adref, y treuliant weddill eu hoes i gwhwfanu baner Tywysog Tangefedd. LLAWENYDD CRISTNOGOL (adn. 4). Y Parch R. LLOYD JONES, y Rhyl: —Rhoddir imi'r fraint o daro cy weirnod y cyfarfod hwn, a rhaid ei daro, nid yn y cywair Ileddf, ond yn y cywair lion,— Llawenhewch Mae'r cypgor hwn o eiddo'r Apostol i fod yn llawen wedi dyfod o'r lie anubebyeaf. Daeth o gell dywyU a diobaith carcharor mewn cadwynaui Cydnabyddir gan y mwyaf- rif mawr o esbonwyr, hen a diweddar, fod yr Epistol at y Philipiaid yn,un, o'r llythyrau a ysgrifennwyd gan Paul yn ystod ei gsrchariad olaf yn Rhufain. A chofiwn, na fuasai Paul byth yn eyngbori y Philipiaid i fod yn Ilawen heb iddo fod yn llawen ei hun. A dyma sydd yn hynod Paul yn Ilawenhau, ac yn eynghori eraill i fod yn If a wen mewn amgylchiad mor dywyll a phrudd heb obaith dyfod o'r hen garchar caeth yn fyw. Yn sicr, nid oes dim ond profiad o wir grefydd fedr gynyrchu llawenydd o dan y fath amgylchiad. Ond y mae crefydd Crist wedi galluogi ei pherchen- ogion i wneuthur pethau' rhyfedd hyd yn oed mewn carcharau cyn hyn. Er esiampl, Paul a Silas wedi eu llenwi a'r fath lawenydd mawr a chryf nes torri allan i orfoleddu ar banner nos yng ngharchar Philipi: ac mor ange/ddol oedd eu gorfoledd ties siglo seiliau'r hen garchar, taflu ei d 'dfyss-u'n agored, a tborri cadwynau'r carcharorion. John Bunyan, drachefn, yn breuddwydio yn hen garchar Bedford nes cyfansoddi'r Alegori anfarwol sydd yn Nhaith y Pererin. Ac felly Paul yr adeg ymte, mor ip-wr ei lawenydd nes y geilw ar y Philipiaid i lawenha-ki gfdag ef—" Llaw. hewefc." A ydyro .yn clywed swn ei adlais ar draws y canrifoedd yn y cyt. 1\r(Qd yma heno ?—" Llawenhewch. yn yk,Arg!wy,I,d yn wastadol., a thrachefo j meddaf, Llawenhewch/' YD awr, tueddir li i 'feddwl fod llaw- enydd sydd yn elfen mor arbennig ac amlwg yng nghrefydd Crist i raddau i helaeth yn abserinol o'n crefydd ni fel Cymry. Nid ydym mor siriol a llawen ag y dylem fod. Credaf fod llai o sir- ioldeb, a llawenydd, yng nghrefydd y Cymry nag sydd yng nghrefydd ein eymydogion y Saeson. Onid oes gormod o duedd ynom i ganu yn y cyw- air Ileddf ? Beth sydd imi yn y byd Ond gorthrymder mawr o hyd." Mae dyddiau galar imi'n hir, I Caethiwed Babel fawr." Ar y cyfan, y mae yna lai o'r siriol, y 11a we a a'r buddugoliaethus yn Emynau Williams Pantycelyn nag sydd yn Emynau Charles Wesley, er fod y ddau yn gynnyrch yr un Diwygiad crefyddol. Ar ei uehelfannau bron yn wastad, yn canu, yn orfoleddus, y mae Charles Wesley My Goi I am thine, What a comfort Divine, What a blessing 10 know I That my Jesus is minn In the Heavenly Lamb, Thrice happy I am, My heart it doth dance, At the sound of His name." Ac yn amser Diwygiad Moody a Sankey y fath ganu siriol a llawen fyddai'n cael mynegiad yn y goiriau melys. I am so glad that Jesus loves me." Oherwydd paham, credaf ein bod ni fel Cymry mewn mwy o angen nag odid i neb am gyngor yr Apostol i'r Philip- iaid-" Llawenhewch, etc. Ceisiaf ddweyd gair neu ddau ymhellach i ddangos pa fodd i adfer yr elfen wertnfawr o lawenydd yn ol i'n profiad. Dylem bwysleisio y gwiriohedd fod llawenydd yn elfen hanfodol yng nghref- ydd y Testament Newydd. Nid rhyw- beth damweiniol ydyw a allai fod neu a allai beidio a bod. Nid rhywbeth yn codi o dymheroedd naturiol rhai dynion yn fwy na'i gilydd ydyw. Ond cyfyd yn naturiol ac angenrheidiol o brofiad personol y dyn sydd wedi ei achub. Un peth angenrhl-idiol er cynyrchu ynom lawenydd mawr ydyw sylweddoli pwysigrwydd a gwerth y waredig- aeth sydd yn eiddo'r Cristion. Ni ddeuwn byth i sylweddoli gwerth am hrisiadwy y waredigaeth hon ond i'r graddau yr ydym yn argyhoeddedig o'r mawr ddrwg moosol ae ysbrydol yr ydym wedi ein gwaredu oddiwrtho. 0$ mai syniad arwynebol ac amheus sydd gennym am ddrwg a pherygl ofnadwy pechod, ni allwn roddi nemoro werth ar waredigaeth oddiwrtho, na llawenhau yn y mwynha.d 4oni. A gawsom ni olwg gywir ar ein pecbod, ar oi euog rwydd, a'i berygl arswydloa ? A ydym wedi ein dwyn i deimlo mai gwared- igaeth oddiwrth bechod yn ei euog- rwydd dwfn, yn ei arglwyddiaeth ormes- 11 ol, a'i ganlyniadau dinistriol, yw y I rhodd oreu a gwerthfawrocaf a allasai Duw bob gras byth ei rhoddi inui ? Heb inni fod yn argyhoeddedig o hyn, ni allwn fawr lawenhau yn y war- edigaeth rasol a roddwyd inni. ï Peth arall angenrheidiol er cynyrchu ynom lawenydd mawr ydyw ineddu sicrwydd fod gwaredigaeth rasol yr Efengyl yn eiddo personol inni. Gall wn feddwl am rai yn byw ar obeithio bod yn gadwedig. Ond nid ryw lawer o gysur sydd mewn gobeithio'n unig am hynny. Os am gael ein llenwi a llaw- I enydd Cristionogel-Ilawenydd an- nhraethadwy a gogoneddus, rhaid codi i dir llawer uwch na bodloni ar obeithio am fod ya gadwedig. Nid gobeithio anj yr hyn a aHasent fwynhau yn y presen nol yr oedd saint y Testament Newydd, ond gobeithio am yr hyn oedd allan o'n cyrraodd ar y pryd. Gobeithio am nefoedd ac nid gobeithio eu bod ar y ffordd tuag yno. Yr oeddynt yn holiol sicr o hynny ae fel y gwr o Ethiopia gynt, yn mynd ar hyd eu ffordd yn llawen. Nid gobeithio y caent drugar- edd achubol, ond gallu tystio'n bendant gyda PhauI: Eithr mi a gefais drug aredd." Nid gobeitbio eu bod yn blant i Dduw, ond gaUu datgan yn sier: Anwylyd, yr atvrhon, meibion i Dduw ydym. Ac heb inni gyrraedd y tir hwn o sicrwydd crefyddol, ni fedrwn m fwynhau graddau uehel o lawenydd Cristionogol. Tra y bydd amheuaeth yn llechu yn ein hymwybyddiaeth a ym mewn cymod a Duw, amhosibl mwyn- hauy gorfoledd sydd yn tarddu o'r cym- od hwnnw. Ac os am i'n llawennydd fod yn sef- ydlog a chynhyddol, rhaid edrych nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir." Ychydig iawn o achos llawen ydd ysbrydol sydd yn codi o'r pethau a welir. Rhaid edrych tuhwnt i I derfynau amser os am fwynhau llawen. ydd cryf a sefydlog. Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf ,o r holl ddynion ydym ni." Un o nodweddion neilltuol llawenydd y Cristion ydyw ei focfyn byw ae yn cyn- hyddu'n fynych er gwaethaf pethau a welir," trallodion a gorthrymderau amser. Mae'r Cristion yn gallu gorfol- eddu mewn gorthrymder o dan obaith gogoniant Duw. O'r anweledig a'r I tragwyddol y caiff ef fwyaf o achos llawenhau. Tra'n syllu trwy ffydd ar I y gogoniant a ddatguddir inni," y mae ei lawenydd a'i orfoledd yn cyr- raedd ei uchafbwynt. Nid oes derfyn ar fy ngobaith- Cyrraedd mae ymlaen o hyd Gyda'r Duwdod mae'n cydfedeg— Dyddiau'r ddau sy'n un ynghyd, Annherfynol Y dyw fy llawenydd mwy." ARAFWCH CRISTNOGOL: E1 GYN- NWYS, E1 GYLCH, El GYMORTH Y Parch TRYFAN JONES, Dinbych, —Dywedir nad oes air Cymraeg na Saesneg yn rhoddi 110."11 feddwl y gair a gyfieithir yma arafwch. Felly cawn gryn bump o eiriau gan esbonwyr yn gosod allan wahanol liwiau y gait. (1) Cymedroldeb (moderation) Nid cym edroldeb mewn bwyd a diod, eithr mewn syniadau a theimladau. Cadw rhag yr eithafion, canys "nid da rhy o ddim." Os yn rhy geidwadol ein syniadau, awn yn hen ffasiwn os yn rhy ryddfrydol, awn heb syniadau o gwbl. Os yn rhy oer, rhewi fydd ein hanes ac os yn rhy booth ilosgi wnawn. Ceir ambell un mor ddisymud a'r maen digychwyn yn Eryrus, a'r Hall mor anwadala rhed ynen wadi torri ei choes ar foel. Asgwrn cefn yr Eglwys, a phob cylch o gymdeithas, ydyw y dosbarth cymed- rol. (2) Goddefgarwch (forbearance). Peidio a bod yn rhy deimladwy (sensi- tive) i ddylanwadau o'r tuallan. Rhai fel planhtgion tai gwydr, yn gwywo dan yr awelon croesion ysgafnaf. Rhad dal y tywydd a chanu, Os rhaid goddef ar y daith dywydd garw, Cadw'm hysbryd yn Dy waith nes fy marw/' (3) Tiriondeb (gentleness). Cadw rhag ysbryd lu-alu'r pwyth ym- laddgar, peidio a churo a lion pan wna gwialen y tro. Goddef ac ymostwng i s'gerydd pan ddaw. Iesu Grist yn enuill y cenedloedd drwy dir- iondeb. Corsen ysig nis tyr, ac yn Ei enw ef y gobeithia'r cenedloedd. (4) Rhesymoldeb sweet reasonable. ness," chwedl Mathew Arnold. Peidio a gwasgu ein hawliau'n rhy bell Rhes- ymoldeb pur, melys, peraroglus; cadw rhag anghyfiawnder." Peidio a mynnu y "pound of flesh os gwna pwys o rywbeth arall y tro. (5) Ystwythder (yieldingness). Îldio' i'n gilydd. Nid mewn egwyddor, ond mewn opiniwn ac yn nhiriogaeth opiniynau, fel rheol, y mae ymladdfeydd eglwysig, ac nid ar dir egwyddorion. Nid ar dir llwyddiant yr achos, ond ar dir y modd i'w gyrraedd. Dyma lie yr oedd yr helynt rhwng Euodia a Syn- tyche. lidiodd Abraham i Lot. Ildiodd y brenin i'r goruchwyliwr yn y ddameg, ond gwrthododd ef ildio i'w gydwas. Mae Duw'n ildio i ninnau mewn maddeuant. Ildiwn ninnau i'n gilydd. Ei gylch Hysbys i bob dyn yn yr Eglwys ac yn y byd. Bob dydd yn ogystal ag ar y Sul. "Llewyrched felly eicb goleuni fel y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoadd." Eaillodd ambell firm enw da yn herwydd rhyw article a dry allan, ac mae'n bwysig iddi gadw'r enw. Mae Cristionogaetb wedi ennill enw da yn y byd trwy anfon allan gymeriadati rhagorol. Gofalwn gadw enw da y firm i bob dyn ei weled. Ei gymorth: Mae'r Ar. glwydd yn agos." Ceir yma ddau syniad seiyr ail ddyfodiad, ac agosrwydd pres- ennol Crist i'w bobl. Mae y na-ill a'r Hall yn wirionedd gwerthfawr i'r Eglwys ond gredaf mai agosrwydd. presennol Crist i'w bobl yw'r mwyaf ymarferol i ni heddyw: Mae dylanwad y syniad i fod yn gymorth i feithrin y gras- Y mae agosrwydd unrhyw berson, megis tad, mam, cyfaill, yn gym- orth i ni gyflawni llawer gorch- wyl a chadw rhag llawer pechod. Yn wir y mae atgofio am danynt wedi bod yn help lawer gwaith. Dyvvedir mai'r gair olaf a ddywedodd Victoria ydoedd "Albert." Bu fyw yng nghwmni ei phriod yn barhaus wedi iddo farw, fel y bu 6 gymorth iddi yn yr afon. Os yw hyn yn wirionedd mewn cysylitiad a meidrolion pa faint mwy yn ei berth- thynas a Duw r1 Pa faint mwy y nerth a ddaw oddiwrtho- Ef? Dywedodd Spurgeon nad oedd yn cofio iddo dreulio chwarter awr o'i fywyd heb yr ymdeim- lad o bresenoldeb Iesu Grist gydag ef. Dyma oedd nertb bywyd y dyn mawr hwnnw, a dyma nerth ein bywyd nin- nau. NA OFELWCH. Na ofelwch am ddim, eithr ym- hopeth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiad au chwi yn hysbys gerbron Duw. Y Parch; CHARLES JONES, Wrex- ham:—Cenadwri'r adnod yw Na phryderwch am ddim ond dwedwch bop- eth wrth Dduw." Cynhygia'r Apostol feddyginiaeth rhag pryder, a'r feddyg- iniaeth honno yw gweddi. Ni allwn anghofio, er hynny, fod yna fwy o bryderu, a llawn cymaint o weddio heddyw ag a fu erioed. Teimla nifer fawr nad yw eu "|[weddiau'n symud eu pryder. Eto rhaid gwrando ar genad- wri'r adnod oherwydd nid athronydd mewn cadair esmwyth, allan o gyff yrddiad a ffeithiau bywyd, sy'n ei dweyd hi, ond un o blant y ddrycin. Dyma ddyn a gefnodd ar popeth-ar gar- tref a chyfeillion, ar enw ac elw, ac a ddewisodd dlodi "a chaledi, gan grwydro mewn peryglon, gan groesi cefnfor a chyfandir mewn enbydrwydd ae am- arch, yn pledio achos amhoblogaidd; a phan ddywedodd yr adnod obeithiol hon yr oedd yn y carchar, beb wybod a aporai ei ddrws ar fywyd o ludded pell- ach, ai ar farwolaeth greulon y merthyr! Eto, clywch ef—" Na ofelwch am ddim eithr ymhob peth," etc,! Nid damcan- iaeth sydd yna, ond darganfyddiad o gyfrinach y bywyd dibryder. Dyna ddyn sy wedi medru peidio a" gofalu am ddim am ei fod wedi dysgu sut i weddio. Arweinia hyn ni at yr hyn y carem ei bwysleisio-Y weddi syn feddyginiaeth i bryder. Mae'n eglur ddigon mai nid pob math ar weddi a symuda bryder. Gwreiddia y weddi hon mewn bywyd sydd ar delerau cyfeillgar a Gwrandawr Gweddi-mewn bywyd sydd a'i weledigaeth o Dduw, dylet- swydd, ac anfarwoldeb yn glir, a/i wfudd-dod a'i ymddiriedaeth yn Nuw, yn llwyr a diymollwng. Gweddi plen- tyn ar ei Dad yw hi. Gwneir dau gamsyniad cyffrodin ynglyn a gweddi, Meddylir amdani fel cyfrwng i gael pethau gan Dduw y methir eu gael drwy unrhyw ffordd arall-rhyw signal of distress heb le iddi ond mewn argyf- yngau'n unig. Nr fydd gweddiwr fel byn byth yn moddwl blino Duw ond pan fo arno eisieu rhywbeth ganddo. Neu meddylir am we-ldi fel arferiad prydferth sy'n dylanwadu'n ddaiouus ar fywyd. Defnyddir hi nid am y gall ddylanwadu o gwbl ar Dduw, ond am y gwna les i ni. Drwy synio fel hyn yn unig am weddi cyfyngir ei hystyr a chollir ei grym. Gesyd Paul elfennau gweddi yn eu trefn briodol (1) Gweddi-yr elfen addoliadol-eymun- deb a Duw; (2) Yiiibil-dyn mewn cyfyngder yn ceisio ymwared; (3) Gyda diolchgarwch—yr agwedd meddwl priodol ïr weddi Iwyddiannus; (4) Deisyfiadau—yr hyn ya arbeanig y gofynnir amdano; (5) Gerbron Duw --N\d anfon peUebr i Dduw pellydoedef gweddio. i Paul, ond dweyd ei helynt wrth Ddaw oedd yn wastadol yn ei ymyl. Gwelir fod maes gweddi yn un eang iawn. Mae ynddi le i ddweyd popetb, is, ac i ofyn am bopoth i Dduw. Cadwed Ysbryd Duw ni rhag i unrhyw syniadau peiriannol am ei berthynas a'r cread gyfyngu dim ar ein rhyddid i weddio. 'Does dim yn rhy fach i'w osod ger ei fron Ef. Ond gofaler o hyd goGo mai'r elfen ganolog mewn gweddi ydyw eym,leithak--rhyw ryddid a chartrefol- rwydd hoff yn y Presenoldeb Dwyfof, -y plentyn yn byw yng nghwmni ei (Parhad ar tudalen 5). ..t.a B N & a M W.