Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

PONTARDAWE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONTARDAWE. Wedi pum mlynedd o wasanaeth der- byniol a llwyddiannus, nodedig, yn y Gylchdaith, daeth galwad ar y Parch H. Jones Davies i symud i'r Porth, Cylchdaith Ferndale. Ymawyddai pobl y Forth am < > ei gael, ond cyndyn oedd pobl Pontardawe i'w ollwng; ond y Porth a orfu, a daeth amser ymado a'r Bont. Penderfynodd y praidd Wesleaidd yn y lie mad oedd i gael mynd ar ei gythlwng. Yr oedd wedi bod yn weinidog rhy dda i lesu Grist yn yr ardal i hynny, ac ymun- odd pob enwad iroi"send off" anrhyd- eddus iddo ef a'i anwyliaid. Teimlentoll, wrth wneud hyn nad oeddynt ond yn cyd- nabod gwir deilyngdod a "pharchu yr hwn yr oedd parch yn ddyledus iddo." Y nos Lun cyn ei ymadawiad am y Rhondda, felly cynhaliwyd cwrdd ymad- ol iddo yn addoldy y Wesleaid, pryd yr oedd yno gynhulliad oedd yn llefaru llawer, o hufen crefyddwyr yr ardal. Lly- wyddwyd yn fedrus gan Mr Jenkin Davies, blaenor yn yr eglwys. Yr oedd ei dystiol- aeth i lwyddiant a chryfder gweinidogaeth Mr Davies yn y lie yn ddiamwys a chalon- nog. Yr oedd y cwrdd yn gyfuniad o'r adloniadol a'r adeiladol. Yn y rhan gyn- taf cafwyd adroGL iadau a chaneuon gan rai o brif dalentau yr ardal-rhai oedd wedi gwneud enw iddynt eu hunain ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Yna cyflwynwyd coilaid o nodau gwerthfawr i Mr Davies gan chwaer deilwng o'r eglwys, Mrs Gully, vt hon amlygai hiraeth yr eg- lwys o'i golli, a'i dymuniadau cywir iddo yn ei le newydd. Dywedai Gobeithlo y cawn eich cystal eto, ni allwn gael eich gwell." Siaradwyd ymhellach gan y gweinidog- ion a ganlyn Parchn D. Jenkins (Rhos); Llew. Boyer, Tanygraig; W. J. Rees, Alltwen L. G. Lewis (B.), D. G. Rees, Graig, a W. Seiriol Williams, Tabernacl, yr oil yn dwpn tystiolaeth i Mr Jones Davies fel cyfaiil cywir a brawd ffyddlon, hawdd cydweithio ac ef yn y winllan. Cydnabyddodd Mr Davies yr oil mewn itraith deimladwy, a'i Ilond o galOD, a tl!j wedai fod hiraeth arno adael yr eglwys, y brodyr yn y weinidogaeth, a'r ardalwyr, iddo gael pawb yn garedig iddo yn ystod ei arosiad yn y lie, a byddai atgofion an nwyl ganddo byth am ei ymdaith ym Mhontardawe. Gwnaeth gyfeillion yma trwy fod yn gyfeillgar a brawdol a phawb o bob en- wad, a mynodd cyfeillion o eglwys y Tabernacl ddangos hynny mewn rnodd sylweddol ond distaw a chyflwyno iddo rodd fechan yn sgil rhodd yr eglwys yn Horeb. Y golofn fo'n ei dywys yn y Porth ae yn gysgod iddo ef a'i briod hygar a'r plant. "NIDWESLA."

RHIW, GER PWLLHELI.

IHOREB, -CHURCH LANE, -MANCHESTER.

TREFFYNNON. I

I RHEWL.

ILLYTHYRAU Y MILWYR.

GWRECSAM.

I -OPENSHAW, MANCHESTER.

TREGARTH.-I

-_ - - -Y Rhyfel o Ddydd i…