Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.

COLOFN LLAFUR.

!| ! Tanchwa Eto.j

0 Dre'r Darian-Aberdar.

Difyrion y Nadolig ar Lanan…

Cymanfa Ddirwestol Penygraig…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymanfa Ddirwestol Peny- graig a'r Cylch. Cynhaliwyd yr uchod dydd Gwener, Rhag. 26ain, yn Nghapel Nazareth (M.), Trewilliam. Trefnwyd cyfarfod y boreu gan Mr Rd. Morgan (B.), Pen- boreu a'r prydnawn i'r plant yn fwyaf arbenig. Llywyddwyd yn y rhiwfer, ac arweiniwyd y canu gan Mr D. Hoskins, Pisgah. Holwyd y plant yn y ffydd ddirwestol gan y Parch. J. Ivor Jenkins, Nazareth (M.). Dechreuwyd y cyfarfod hwn trwy ddar- llen a gweddio gan Mr. T. Davies, Pis- gah, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. Noah Jones, Seion (W.). Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. D. G. Evans, Tabor (A.), Penygraig. Arweiniwyd y canu gan Mr. Rd. Morris, Saron (A.), Trewilliam. Holwyd y plant gan y Parch. E. Turner, Seion (W.). Adroddwyd pennod a, Air Duw gan Elvet Lewis, Seion, a chaf- wyd unawd swynol gan Katie Smith, Tabor (A.). Dechreuwyd y cyfarfod hwn trwy weddi gan Miss Rosina Davies, yr Efengyles anwog, a gor- phenwyd yn y ffordd arferol gan y llywydd. Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan y Parch. Ll. S. Davies, Trewilliam. Ar- weiniwyd y canu gan Mr. D. Hoskins. Cafwyd yn y cyfarfod hwn ddau anerch- iad gwir ragorol. Y cyntaf gan Miss Rosina Davies, a'r ail gan y Parch. Rowland Hughes (A.), Tylorstown. Yr oedd y plant yn canu yn swynol ar hyd y dydd, ac ar waethaf y tywydd wlaw- og a gwyntog, cafwyd cynulliadau gweddol iawn. Ni ddylid er dim llaesu dwylaw gyda'r gymanfa hon, oblegid v mae yn amlwg ei hod yn gwneud gwaith rhagorol o blaid sobrwydd yn y cylch poblog hwn. Nid yn fuan yr anghofir cyfarfod yr hwyr. Yr oedd Miss Davies yn siarad yn naturiol ac effeithiol dros ben, a'i geiriau yn myned at y galon. Rhoddodd i ni hefyd un o'i melus ganeuon, nes tynu dagrau o lygaid llaweroédd. Hefyd, yr oedd y Parch. Rowland Hughes ar ei uchelfanau. ac yn gwlawio tan a brwmstan ar benau noddwyr y fasnach feddwol. Profodd fod y fasnach fel masnach wedi ei syl- feini ar dwyll ac ar anonestrwydd. Byddai yn dda i'r wlad i gael clywed yr anerchiad hwn, oblegid y mae yn gyn- yrch meddwl ac ymchwiliad. Dechreu- wyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. R. Hughes, a therfynwyd gan y Parch. D. G. Evans. Llwyddiant eto i'r Gy- manfa.

ICrynhodebI

[Nodion Heolycyw.I

Advertising