Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Bwrdd y Golygydd. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Golygydd. I Y Beirdd Ni thybiais fod cynifer o honoch yn y wlad. Trosglwyddwyd i mi bentwr o'ch cynhyrchion oeddent yn y swyddfa yn "aros eu tro." Ni feiddiwn gyffwrdd a chymaint ag un o honynt. Anfonais. hwynt yn ofalus i Sgubor yr Hendre at Brynfab, hen Olygydd Barddoniaeth y "Darian." a diau y cewch ei farn am danynt yn eu tro. Anfoner pob math ar farddoniaeth iddo ef o hyn allan. W. Williams, Llanelli: Cawsom yn y swyddfa adroddiad Saesneg maith- chwe tudalen foolscap, o weithrediadau Llys Ysgar yn yr America. Ceir ynddo rai brawddegau na charem lychwino tudalennau'r "Darian" a hwynt. Credwn yn onest y gwnai yr adroddiad hwn fwy o ddrwg i'ch achos nag o les. Rhaid tawelu'r Ystorm DdiwirijrTdol bellach, y mae wedi rhuo yn ddigon hir. Wrth gwrs bydd colofnau'r "Darian" o hyd yn agored i chwi, neu i'm cyfaill W. Havard. os ewyllysiw ch anfon llithiau byrion, diddorol, ar faterion yn perthyn i'ch credo. D. Jones, Aberteifi: Cawsom ysgrif o'r eiddoch chwithau ar "Russelliaeth," wedi ei gadael allan o ddiffyg gofod yr wythno6 ddiweddaf. Credwn, er mwyn i ni gael dechreu'r gyrfa olygyddol a'r flwyddyn Aewydd mewn tawelwch gweddol, mai gwell fydd gadael hon o'r neilldu, yn arbennig gan y bydd ein gofod yn brin yr wythnos hon eto. Gadewch i ni gael eich gohebiaeth ar- ferol a byddwn ddiolchgar. Un 0 Goaen: Mae yr eiddoch chwith- au braidd yn faith. Hefyd, gwnai yn well/el pregeth nag fel ysgrif i -'ew;ydd- iadur. Gwallu's yw eich sillebiaeth. j Pan yn difynnu o awduron eraill, gofal- wch am gywirdeb. Yr ydych wedi gwneud bafog ar Can di bennill mwyn i'th oain," etc. Beth bynnag y mac pethau da yn eieh ysgrif, a chadwn hi; gallwn fod yn brin o ddefnyddiau pregeth rywbryd. 0. Ff. Oatis: Dyma ddwy ysgi-;f o'r eiddoch chwithau a'r papurau yn rhvdd- ion ac wedi cymysgu a'u gilydd. Y mae yr ysgrifau ar ddarnau man o am- lenni newyddiadur, papur "invalid stout," papur "lottery," a "registration form," etc., a'r oil o amryw liwiau. Mynnwn weld beth ellir wneud o hon- ynt. Karl: Mae eich ysgrif chwi yn hen yn dod i'n llaw a'i chynnwys yn hysbys. Drwg gennym am hyn oblegid ei bod yn ysgrif mor dda, a charetn gael pethau tebyg oddiwrthych yn y dyfodol. I Cwlad Myrddin: Nid ydych yn rhoi dyddiad cymaint ag un o'r pethau a gofnodwch, ond yn unig ei bod wedi I digwydd "ychydig amser yn ol," neu "ychydig Suliau yn ol. Byddwn ddiolchgar i chwithau am y newyddion diweddaraf. a'r dates os gwelwch fod j yn dda. J Glan Mellte: Protestia ef yn erbyn cais "Pencerdd Melltet" am gael enwau y cyfranwyr at dysteb wedi eu darllen yn y c-wrdd cyflwyno. Ofna y byddai hynny yn angharedig a rhai nas gallent roi ond ychydtg. Hyderwn yr ystyria'r "Pencerdd" y mater ymhellach. Carwr yr Ysgol Sul: Adolygiad ar es- boniad y Dr D. M. Phillips ar yr Epistol at yr Hebreaid. Y mae'r esboniad yn sicr o fod cystal ar y dywedir ei fod, ond y mae yr adolygiad yn rhy faith i'w gyhoeddi. Dyma hyn o hvsbysiad iddo'n rhad. Gweler rheol ar y mater hwn mewn lie arall. Brython: Gwell fydd rhoi llonydd i'r "Gole Coch" bellaeh. Ofnwn y cych- wvnai eich sylwadau ar yr Eisteddfod ystorm waeth na dim a fu er y diluw. Rhowch i ni rywbeth a llai o ddefnydd ffrwydriadau ynddo. J ffrwydi,iadau vnddo. W.G.: Desgrifiad o Berfformiad "Y Storm." A ddarfu i chwi sylw fod gen- nych dros ddwy ddalen gyfan heb gym- aint ag un atalnod llawn. y ewbl o'r dechreu i'r diwedd wedi ei linynnu gydag "ac" a hefyd." Arferwch ys- grifennu braddegau byrion. Yr ydym vn ofni anturio ei ailysgrifennu am mai desgrifiad o waith cerddorol ydyw. a gallem wneud lianas arno. Dafydd William Dafydd: Gwnawn rywbeth o'r ysgrif sydd ynia i chwi pan gawn hamdden i'w hail ysgrifennu. Y mae eich llaw-ysgrif yn hynod o dlos a chywrain, ond y mae coesau a ehynffon- nau y llythrennau yn bachu yn eu gil- ydd o'r naill linell i'r Hall nes y mae yn anodd ei ddarllen. Tybiodd yr hogen yma pan welodd yr ysgrif yn fy Haw mai patrwn 6 crochet work vd- oedd. Dylasech, i wneud chware teg a'ch llawysgrif. adael mwy o le rhwng y llinellau. Dalier Sylw: Mae gan y cysodwyr hawl i wrthod unrhyw law-ysgrif a roddir iddynt oni fydd yn ddealladwy heb lawer o drafferth. Felly, er mwyn hwylusdod carem i'n gohebwyr ysgrif- ennu yn ddealladwy. Arbeda hynny gost a thrafferth i ni, a dichon yr ar- beda ryesiwns, chwedl Sion Sana, yn y swyddfa yma. W. Havard Wedi c l irio'r bwrdd un- I waith dyma ysgrif faith o'r eiddoch chwithau i law. Gwelwch ein hateb i W. Willams a D. Jones. Xs gallwn fforddio hanner v "Darian" i'r Ystorm, neu ddaw hi byth yn fil flwyddiant ar- nom yn y "Darian." T. Hopkin Evans: Rhaid talfyrru yr eiddoch chwithau.

Soar, Aberdar.I

Advertising

Beirniadaeth.! .-.-.-)

Advertising

Dosbarthwyr y' Darian.'

Advertising