Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Bwrdd y Golygydd. I

Soar, Aberdar.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Soar, Aberdar. I EISTEDDFOD Y NADOLIG. I Cynaliwyd yr wythfed Eisteddfod flynyddol yn yr eglwys uchod ddydd Nadolig. Llywyddwyd gan Mr R. R. Davies, M. E. (un o ddiaconiaid yr eglwys). Y beirniaid oeddynt Cerddoriaeth, Mr. John Rhys, Hopkinstown; bardd- oniaeth ac adroddiadau, Parch. Ben Vaughan, Cwmdar. Cyfeilvvyr, Mri. jW. M. Lewis, A.V.C.M., ac E. T. Edwards, A.L.C.M., Aberdar. Ar- weinydd y dydd oedd y Parch. T. Eli Evans, gweinidog yr eglwys. DYFARNIADAU. Adroddiad i blant dan 16, "Beth sy'n hardd (i) Nellie Roberts, Llwydcoed; 1(2) Maggie Thomas, Glynnedd. Unawd ar y berdoneg i blant dan 16. "By the Old Sundial (I) Cath- erine Teague, Penrhiwceibr; (2) Idris Owen, Aberpennar. Unawd ar y berdoneg i blant dan 13, "Regoletto": Hilda Bassett, Gad- lys, Aberdar. Unawd i blant dan 16, "Save me, 0 God (I) Claudia Jones, Penrhiw- ceibr; (2) Amy Jenkins, Penrhiw- ceibr. Dwy Delyneg-(a) "Tan yr Uchel- wydd (b) Y Gelynen dan yr eira Mr. Recs Rees (Teifi), Caerdydd. Unawd ar y crwth i blant dan 16, "A Little Story" (I) Gertrude Mul- vey, Aberpennar; (2) Myfanwy Wyn Williams, Aberdar. Unawd Bass, "Arm, arm, ye brave" Mr. D. Pennar Williams, Aberpennar. Unawd ar y berdoneg (agored), Paquarettes Miss Annie Mulvey, Aberpennar. Unawd Soprano, Llythyr fy Mam." Rhanwyd rhwng Miss Maggie Williams, Aberdar, a Miss Amy Jenkins, Penrhiwceibr. Englyn, "Y Cyfrinwr," rhanwyd rhwng Mri R. Rees (Teifi) a J. Davies (Gwinau Emlyn), Abercwmboi. Her adroddiad. Daeth pedwar i'r liwyfan o'r rhagbrawf. Goreu, Mr. James Rees, Hirwaun. Adroddodd "Arwerthiant y Caethwas." Wythawd, "Tanymarian": Parti Mr. Gwilym Evans. Her Unawd. "Gates of Eternal Dawn Mr John Williams, Aber- pennar. Cor, Jerusalem, fy nghartref gvviw Choristers, Aberaman, dan arweinyddiaeth Mr. Frank Leach. Gwnaeth y cadeirydd gyfeiriadau at yr hen Eisteddfodau, ac yr oedd yr hanes yn ddyddorol iawn. Carai ef weled yr araeth yn cael lie mwy am- lwg ar ragleni Eisteddfodau. Hefyd dylid rhoddi lie i'r ddrama yn yr hen wyl. Da oedd ganddo weled y bobl ieuainc yn cymeryd y ddrama i fyny. Cafwyd araeth fer hefyd gan yr ar- weinydd. Da ganddo weled cynifer o'r bobl ieuainc yn cystadlu yn ystod y dydd. Dim ond cael yr ieuainc i gymeryd dyddordeb yn yr Eisteddfod, nid oedd berygl iddi hi na'r hen Omeraeg farw. Cadeirydd y pwyllgor oedd Mr R. W. Gray, a'r ysgrifenyddion, Mri. Joseph 0 Rees a John Lewis. LLWYD. I

Advertising

Beirniadaeth.! .-.-.-)

Advertising

Dosbarthwyr y' Darian.'

Advertising