Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

HWNT AC YMA. I

Treforis..I

Penderyn.

Ferndale.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ferndale. I GAN 10 AN. I Cwmni Newydd y "Darian." Yn ol hysbysiad welais yn y "Darian" I ddiweddaf bydd y nodiadau yr wythnos hon yn myned i ofal Cwmni a Golygydd Newydd. Dymunaf i'r Cwmni, gan nad pwy ydynt, bob llwyddiant yn eu han- turiaeth. Addysg. Rhagfyr 17eg y cvnhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Workmen's Hall i an- rhegu ysgolheigion yr Ysgol Ganrol- radd gan y Cynghorwr Abel Jacob, Ferndale. Wedi sylwadau arweiniol galwodd ar Mr. G. Chi!ds, B.Hc., yr ysgolfeistr, i roddi adroddiad o weith- rediadau y flwyddyn. Sylwodd fod yn llawen ganddo fod yr adeilad eang wedi ei orlanw. Yr oedd yn dda ganddo ei i hysbysu fod yr ysgol y flwyddyn hon I wedi cadw ei safle. Nifer yr ysgolheig- ion yn ferched a bechgyn ydynt 265— ychydig o gynydd er y flwyddyn o'r blaen. Y mae llwyddiant arholiadol yr ysgolheigion yn galonogol. Itfrvj. Tri wedi pasio arholiad Matriculation Prif- Yagol Cymru; deg wedi pasio arholiad lleol i Rydychen yn y dosbarth henaf naw yn yr un arholiad yn y dosbarth ieuengaf. Enillodd David Evans, Fern- dale, a phedwar eraill, anrhydeddau. Enillodd Mr. William George Jenkins ysgoloriaeth o Y,30 y flwyddyn i Brif ysgol Caerdydd. Cafwyd anerchiad ) gan Mr. D. Lleufer Thomas, Prif Ynad j Pontypridd a'r Rhondda. Efe rannai | y gwobrwyon i ymgeiswyr llwyddianus. I Yr oedd ei anerchiad yn llawn o anog- aethau chalondid i athrawon, ysgolheig- ion, y Pwyllgor Addysg, a rhieni y plant. Siaradwyd yn mhellach gan y Parch. R. Hughes, C.D., Tylorstown, a T. W. Berry. Diolchwyd yn gynes i Mr. Thomas am ei anerchiad, ac i'r llywydd. Treuliwyd y gweddill o'r eyf- arfod i fwynhau canu yr ysgoleigion. Y mae clod mawr yn deilliaw Mri. Fred Williams, M.A., a G. T. Parry am eu dysgu i ganu mor rhagorol. Llwyddiant. I Pleser genym llongyfarch y chwaer ieuanc Miss Annie Davies, 21 Dyffryn Street, merch Mr. a Mrs. T. Davies, ar ei llwyddiant yn ennill tystysgrif Inter- mediate yn y gradd laf mewn chwareu ar y Jberdoneg. Nid yw eto onu deu- ddeg oed, a adlewyrcha hyn glod arni hi a'i hathrawes, Miss M. E. Davies, Brooklands, Porth. I Nadolig. I Bore Nadolig, am 7, cynhaliwyd eyfar- fod crefyddol dan nawdd Cymdeithas Diwylliadol Penuel (M.C.). Llywydd, Mr. John Edwards. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. John Evans, New Street. Darllenwyd papyr gan Mr. Jonah Howells, Union Street, ar Awr gyda'r Iesu." Cafwyd papyr cynwysfawr. Siaradwyd yn mhellach gan amryw. yr oil yn edmygu y papur a gawsid. Diweddwyd y cyfarfod gan y Parch. B. Watkins, Penuel. Cymanfa Ysgolion. I Rhagfyr 26 cynhaliodd Method Dosbarth Uchaf y Rhondda Fach eu Cymanfa Bwnc yn ol y drefn a ganlyn: Bethania, Mardy, am 9 y boreu, yr oedd eyfarfod neillduol i athrawon ac athraw- esau y Dosbarth. Darllenwyd papyr gan Mr. John Rees Jones, Ebenezer, Mardy, ar y gynadledd a gynhaliwyd yn Switzerland. Cafwyd papyr rhagorol, a cha sylw pellach yng nghyfarfod dau- fisol y dosbarth. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. John Lewis, Bethania. Ar- weiniwyd mewn gweddi gan Mr. David Burrell. Am hanner awr wedi deg yn Bethan- ia, Mardy. Llywydd, Mr. J. Timothy Davies, Penuel. Arholwr, Mr. John Lewis, Bethania. I ddechreu canwyd ton, ac adroddwyd 153 o adnoddau o "Hanes Moses" gan Miss Sarah Ann James. Dechreuwyd drwy weciui gan Mr. Thomas Jones, Carmel. Holwyd plant y dosbarth dan 13eg oed ar Hanes Moses. Cafwyd anerchiadau i'r plant gan y llywydd, Mri. Gomer Jones, Car- mel W. Thomas, Calfaria, Porth, a'r Parchn. W. E. Williams, B.A., Bethan- ia, a B. Watkins, Penuel. Am ddau yn Penuel, Ferndale. Llyw- ydd, Mr. Griffith Evans, Carmel. Ar- holwyr, Mr. Jonah Howell, Penuel, a'r Parch. W. E. Williams, B.A., Bethania. Arweiniwyd y canu gan Mr. John Thomas, Penuel. Canwyd ton i agor y eyfarfod. Adroddwyd 15 o adnoddau o Hanes Josuah gan Mr. Thos. R. Evans, I Ebenezer. Gweddiwyd gan Mr. Evan I Morgans, Bethania. Holwyd y dos- barth dros 13eg oed a than 21ain oed yn y bennod laf o Lyfr Josuah gan Mr. Jonah Howells. Holwyd dosbarth hen- af Ysgol Penuel yn y 5ed bennod o'r Epistol at yr Hebreaid gan y Parch. W. E. Williams, B.A., Mardy. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. D. Davies, Salem Newydd. Cyfarfod yr hwyr yn Penuel. Llyw- ydd, Mr. D. Burrell. Arholwr, Parch. B. Watkins, Penuel. Arweinydd y canu, Mr. Jonah Howells, Penuel. I Adroddwyd 15 adnodau gan Mr Osborne Hughes, Penuel. Dechreuwyd drwy weddi gan Mr. Edward Hughes. Hoi- i wyd y dosbarthiadau yn y 6ed bennod o'r Epistol at yr Hebreaid. Diwedd- wyd y cyfarfod gan y Parch. W. E. Williams, B.A. Er fod yr hni yn am- ffafriol i gynulliad lluosog, cafwyd Cy- i manfa o safon uchel, a llawer o ddull a hwyi.yr hen Gymanfaoedd.

IPontardulais.I

Eisteddfod Bodringallt.

-Treforis. I

Calfaria, Rhigos. I - i

[No title]

Advertising