Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

HWNT AC YMA. I

Treforis..I

Penderyn.

Ferndale.I

IPontardulais.I

Eisteddfod Bodringallt.

-Treforis. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Treforis. I DIFYR NADOLIG. I Perfformiodd Gobeithlu Seion, dan arweiniad Mr. Henry Thomas, y gantawd boblogaidd, Baban Bethle- hem," o waith y Cynghorwr dawnus, Mr. David Griffiths, Aber Tawe. Cawd hwyl ar y gwaith, a gofynnir am berfformiad arall yn fuan. Y cadeirydd oedd Mr. D. Mathias. Gall yntau- wneud rhywbeth heblaw gwerthu nwyddau o'r siop. Cawd ami stori go ddoniol ganddo. Wele engraifft Yr oedd par ieuanc wedi priodi, ac er mwyn bod yn sicr o'i safle a'i awdurdod, rhoddodd y gwr ieuanc ei droed i lawr yn awdurdodol, a dywedodd, "Cofiwch nawr taw fi yw'r llywydd yma." "Eithaf da," ebai'r wraig ieuanc, "rwy'n foddlon i chwi fod yn llywydd ac yn is-lywydd, ond cofiwch chwithau taw fi vw trysorydd y cwmni." Bo Peep's Picnic" oedd y gan- tawd fach ddifyr fu'n diddori pobl Soar. Y Gobeithlu fu'n ei pherfformio o dan arweiniad Mr. Benjamin Rees. Gwnaethant eu gwaith yn odidog. Miss Rachel Anne Davies oedd yr organvddes, a Miss Rachel Bowen yn J arweinydd yr "action songs." Llyw- yddwyd yn fedrus iawn gan Mr. David Henry Edwards. Lie da gafwyd ym Methania, a cbor y plant dan arweiniad Mr. John Dennis yn canu Plant y Nefoedd." Ychvvanegodd y Mri. Bodycombe a James Watts, Madam Hall a Miss Francis at y wledd, a Mr. Fisher gyda'r offeryn. Llywyddwyd gan Mr. David Harris: Coeden Nadolig gafwyd yng Nghal- faria, a honno yn Ilawn teganau hudol i blant. Darparesid y goeden a'i llwyth gwerthfawr yn hollol gan Mr. David Harris, Crown Villa, a Mrs. Harris pan ddaeth yr amser a ddat- ganodd fod y goeden yn agored i gym- eryd o'r hyn oedd yn grogedig arni. Caed cwrdd cystadlu yn yr hwyr. Prif at-dyniad Treforis yn ystod Gwyliau'r Nadolig yw Eisteddfod y Tabernacl. Cynhelir hi yn flynyddol. Yr oedd hon yn fyedwaredd Eistedd- fod a deugain. Lied dda, Gymry Treforis Estynai yr Eisteddfod eleni dros dri niwrnod. Dywedai Dr. Christmas Williams, un o'r beirniaid cerdd, fod angen rhoddi mwy o sylw i Alawon Cymreig. Tvstiai mai miwsig Cymru oedd y ceinaf yn v byd, ac mai Cymry yn ddiameu oedd y canwyr goreu. Yr oedd "Dyfnallt" yn ei hwyl oreu fel arweinydd.

Calfaria, Rhigos. I - i

[No title]

Advertising