Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

,.-_-..a-_.- -'-- ,- - -'-...-Colofn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

,a- Colofn y Bobl Ieoalnc. I — — — Bobl ieuainc, dyma i chwithau: golofn. Carem wneuthur i chwi ddaioni. Tybed a wyddoch mai chwi vw dyrus bwnc yr oes i lawer? Sut i gael gafael ynoch chwi yw'r cwestiwn mawr. Ceisia pawb a phopeth eich 4enu chwi- I "Mae holl leisiau'r greadigaeth, Holl ddeniadau cnawd a byd," » yn apelio atoch. Ai ni ddylasai hyn iberi i chwi feddwl rhywbeth o honoch eich hunain? A gawn ninnau apelio atoch trwy'r "Darian" ar ran eich cenedl a'ch crefydd ac er eich mwyn eich hunain. Carem wneud hon yn golofn fuddiol a difyr, ac yr ydym am i chwi ein cvnorthwyo. Cymerwch feddiant o honi. Y mae dynion o fri wedi addaw ysgrifennu iddi, ond yr ydym am i chwithau ysgrifennu iddi hefyd. Fel anogaeth i chwi i ddechreu cymeryd diddordeb ynddi, rhoddwn gyfrol hardd, H Rhyddiaith Ben Bowen yn wobr am ysgrif oreu heb fod dros golofn o'r "Darian ar ryw fardd ieuanc ymadawedig. Yr ysgrifau i'w hanfon i Swyddfa'r (Darian," gyda ffugenwau yn unig, erbyn diwedd Ionawr. Ysgrifenner ar gongl yr amlen, "Cystadleuaeth y Bobl Ieuainc." Y mae'n sicr y bydd yn dda gan bawb o honom gael adgofion diddorol ei frawd am Ben Bowen yn y rhifyn hwn. Ccisied pobl ieuainc eraill gan- fod y llwybr tuag i fyny a welir mor amlwg yn y ffeithiau syml a gofnodir am dano. Y mae'r un llwybr o hyd yn agored, a'r llais yn dywedyd- "Dring i fyny yma." LLYFR DU BEN BOWEN. Gan ei Frawd, sef Myfyr Hefin. Gofynnwch i mi, Mr. Gol., am ychydig adgofion am fy niweddar frawd Ben Bowen i'w rhoi yng ngholofn y Bobl Ieuainc. Cyn dech- reu caniatewch i mi eich llongyfarch ar eich ymgymeriad a'r "Darian." Fy mrawd, pe'n fyw heddyw, fuasai un o'r rhai cyntaf i'ch llongyfarch. Wrth son am danoch chwi ac yntau, rhed fy meddwl yn ol at yr adeg yr oeddech yn y Coleg ym Mangor a Ben yn lowr yn Nhy'nybedw. Qwasa- naethech mewn eglwys ddigwyddai fod yn wag yn y Rhondda. Dadleuodd Ben yn daer ar i'r eglwys honno roddi galwad i chwi. Cewch weled ebai Ben fod iddo ddyfodol disglaer. Gwel rhai o'ch cyfeillion y wawr yn torri yn araf arnoch ers blynyddoedd. Hyderwn y daw yn ganolddydd arnoch yn eich cadair olygyddol, a'ch "Tarian" yn .amddiffynydd gwir rhag drygau y nos. Ie, adgofion am fy mrawd a garwn mor fawr, ond sut y mae dal gafael yn yr oil. Rhy luosog ydynt i'w crybwyll- "Adgofion anwyl bob yr un Mae'ch gweled i mi'n esmwythad." Gan fy mod wedi rhoi nifer o honynt yn ei gofiant, ac ychwaneg wedi hynny yn y "Cymru," a rhag i ffrwd fy nheimlad fy hudo ar led, cyfyngaf fy hun yn awr i adgofion am dano yn ei "Oriau Hamdden. Diddorol i lö- wyr ieuanc fy ngwlad fydd gwybod sut y treuliai Ben Bowen yr oriau hyn. Tymor y deg a'r deuddeg awr oedd hi, ac nid wyth awr fel y mae heddyw. Nid oes angen i mi ymhelaethu arno yn y lofa gyda'i lyfr Rhifyddeg, ei Destament bach, a'i garreg farddol, nac ychwaith am y modd y treuliai ddydd Llun Mabon. Digon yw dweyd y cysegrai y dydd hwn ar ei hyd i ddarllen a chyfansoddi barddoniaeth, os na ddigwyddai fod rhyw gyfarfod- ydd arbennig yn y lie. Gallwn enwi pryddestau cyfain a gyfansoddodd ar ddydd Llun Mabon. Croesawai doriad gwawr y dydd hwn bob mis. Y mae o'm blaen lyfr nodiadau am y cyfnod hwn. Cloriau du sydd íddo, ond wynned vw'r adgofion a ddeffry ei gynnwys ynnof. Nodir yma llyfrau a ddarllennai pan yn lowr bach, a cheir cipdrem ar ei ymdrech ddod o hyd i baham a pha fodd pethau. Soniodd lawer am allor goch Paham "Gwn am hafan lonydd Credo tad a mam, Gwn am forio i stormydd Yr ofnadwy B'am. i Gwn am boenus ameu Sugna i ffwrdd fy ngwaed; Colli weithiau'r goleu, Weithiau lwybrau'm traed." Hapus meddwl iddo ddod i wybod am doriad dydd Datguddiad hefyd— "Ond mi wn am oleu Llygad cariad ffydd, Ddawnsia ar y bannau Sy'n cofleidio'r dydd." Beth ddarllennodd Ben Bowen pan yn lowr? Daeth cais neu ddau ataf ar i mi enwi y llyfrau a ddarllennodd yng ngwahanol gyfnodau ei fywyd. Hwvrach y gellid gwneud hyn am mai y peth cyntaf a wnelai a llyfr newydd oedd dodi ei enw arno a'r dydd y'i prvnodd. Mynnai lyfr new- ydd bob Sadwrn tal. Casglasai lyfrgell go dda pan yn lowr. Ond yr wyf yn crwydro oddiwrth lyfr du'r- nodiadau. Ar v tudalen cvntaf ceir ei enw- "B. Bowen, 160 High Street, Tre- orchy, Cwm Rhondda, Pontpridd, yw iawn berchenog y Ilyfr hwn," a'r dyddiad "Ionawr 5, 1893. Yna Hanesion Ysgrythyrol," etc., gyda'r arwyddnod o lun Uaw, yr hon a ddeng- ys fod ganddo ef law gelfydd. Yna ceir enw a chyfeiriad ccfnder iddo- B. Rees, 3 Off Street, Vancouver, B.C., Canada." Yr oedd yn hoff o'r cefnder hwn, er nad oes air o'i hanes wedi cyrraedd Cymru ers blynydd- oedd. 0 gwmpas 15 ot-d oedd Ben Bowen yr adeg yma. Prynodd y llyfr j hwn, o bosibl, er mwyn ysgrifennu hanesion ysgrythyrol ynddo. Yr oedd dosbarth Beiblaidd i bobl ieuainc ym Moriah, Pentre, dan ofal Mr Griffith Jones (yn awr yn Senghenydd). Myn- ychai Ben Bowen y dosbarth hwn yn ff yddlon. Ysgrif ar Jacob yw'r gyntaf sydd yn y llyfr, a cheir nodiad iddo ei darllen nos Fercher, Chwefror isfed, 1893. Dilvnir hon gan ysgrif ar Abraham— ei hanes a'i gymeriad. Yna cawn ysgrif ar Wyrthiau Crist sydd yn dangos manylder mawr. Ar ol hon cawn bregeth ar Hebreaid xi. 3 (rhan). Cynwys hon, er ei bod yn fachgennaidd iawn lawer o bethau diddorol. Dilynir hi gan fraslin pre- geth arall ar y testun—"Pa faint gwell yw dyn na dafad." Dengys hon gynnydd amlwg. Wrth fynd rhagom ceir nodiadau ar rai o'r llyfrau diwinyddol a ddar- llennodd. Y mae rhai o'i nodiadau yn Gymraeg a'r lleill yn Saesneg. Ai difyniadau ydynt neu nodiadau o'i eiddo ef ei hun, nis gallaf ddweyd gyda sicrwydd. Cymerer un Saesneg, er engraifft:—"One of the purest impulses a young man can have in life is the desire to give his parents reason to be proud of him." Tybed nad eill pobl ieuainc y Darian heddyw gael ysbrydiaeth o'r arwvdd- air hwn. (I barhau.) I

I Glais Cwm Tawe.

Y Stori. I YStori.I

1-_-.......-! Can R. Tawe…

Advertising